Internal Applicants Only - Head of Enterprise Architecture bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Senior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Pennaeth Pensaernïaeth Menter
Bydd Pennaeth Saernïaeth Prosesau Busnes yn gyfrifol am werthuso systemau digidol y Brifysgol a datblygu gweithrediadau busnes, sefydlu modelau saernïol (yn unol â chynlluniau busnes a systemau presennol), cynnal gwaith ymchwil a dadansoddi, ac argymell newidiadau i strwythurau technoleg gwybodaeth. Mae'r rôl yn sicrhau bod nodau ac amcanion strategol wedi'u halinio, ac yn cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol ar gynhyrchion a gwasanaethau, partneriaid a chyflenwyr, trefniadaeth, galluoedd, a mentrau allweddol ym maes busnes a TG.
Y prif bwyntiau cyfeirio i gyflawni'r rôl yw Strategaeth y Brifysgol, y Rhaglen Drawsnewid, y Cynllun Digidol, gweithrediadau busnes, llywodraethu data a phrosesau cysylltiedig sy'n cysylltu'r agweddau hyn ar y fenter â'i gilydd.
Mae Pennaeth Saernïaeth Prosesau Busnes yn datblygu golwg integredig o'r fenter gan ddefnyddio dull ailadroddadwy, fframwaith cydlynol, a thechnegau sy’n safonol eu defnydd yn y diwydiant. Mae'r rôl yn cynnwys llunio a rhoi atebion technoleg ar draws y fenter sy'n cyd-fynd â nodau ac amcanion y brifysgol.
Mae Pennaeth Saernïaeth Prosesau Busnes yn adrodd i'r Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth (CDIO) i alinio gwasanaethau technegol ag anghenion y busnes. Bwriedir i ddeiliad y swydd fod â’r cyfrifoldeb o oruchwylio swyddogaeth Saernïaeth Prosesau Busnes. Yn ogystal, mae Pennaeth Saernïaeth Prosesau Busnes yn gweithio gydag eraill ar bob lefel o'r sefydliad i ddadansoddi gorchmynion strategol gan uwch arweinwyr ac yn cefnogi rheolwyr i wneud y gorau o gynlluniau busnes.
Terfyn amser llawn ar agor
Amrediad cyflog Gradd 9 o £72,998 i £75,948 y flwyddyn (gan gynnwys yn ôl disgresiwn) ynghyd ag ychwanegiad cystadleuol i'r farchnad.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 31 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Prif Ddyletswyddau
Yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl saernïaeth Ddigidol TG yn cefnogi cenhadaeth y brifysgol o ragoriaeth wrth addysgu, mewn ymchwil ac yn ei chenhadaeth ddinesig
Gweithredu ar lefel strategol, gan ddatblygu, cynllunio, cyflawni a chynnal strategaeth saernïaeth prosesau busnes ar gyfer y sefydliad, gan sicrhau ei bod yn cyd-fynd â strategaethau'r Brifysgol a TG/Digidol. Sicrhau bod ymatebion saernïol yn cyd-fynd â safonau ac egwyddorion sefydledig, yn manteisio ar wasanaethau cyffredin, yn rheoli/lliniaru risg i’r busnes, ac yn gweithredu yn y paramedrau ariannol y cytunwyd arnynt.
Cynnig arweinyddiaeth strategol ac arweiniad arbenigol mewn Saernïaeth Prosesau Busnes, gan weithredu fel arbenigwr pwnc mewn datblygu fframwaith saernïol, dewis pecyn offer, a dylunio methodoleg, a bod yn atebol am lywodraethu a dylunio saernïol ym mhob rhan o’r sefydliad. Bod yn brif gynghorydd i Fwrdd y Gwasanaethau Proffesiynol a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Disgrifiad Swydd
Diffinio modelau saernïol busnes fel y maent ac fel y byddant, sy'n dangos gallu cynhyrchion, prosesau, gweithrediadau a systemau i ryngweithredu, gan wneud penderfyniadau annibynnol sy'n dylanwadu'n sylweddol ar wasanaethau a chanlyniadau ym mhob rhan o’r Brifysgol.
Rheolaeth Weithredol/Strategol
Bod yn berchen ar osod a chynnal a chadw'r safonau cyffredinol ac ansawdd y gwasanaeth ar gyfer Saernïaeth Prosesau Busnes yn y brifysgol, gan sicrhau cysondeb a rhagoriaeth ar draws yr holl weithgarwch. Paratoi a sicrhau dangosfyrddau i gyrff a rhanddeiliaid llywodraethu perthnasol.
Sicrhau bod dibyniaethau'n cael eu rheoli'n effeithiol, a lle bo'n briodol, eu huwchraddio a'u cydlynu ar draws y swyddogaeth Saernïaeth Prosesau Busnes. Datrys heriau saernïol cymhleth a digynsail, gan ddefnyddio crebwyll strategol a barn i asesu goblygiadau a sicrhau bod penderfyniadau effeithiol yn digwydd.
Diffinio prosesau strategol, craidd a chymorth ar draws ffiniau swyddogaethol a sefydliadol, ac sy’n mynegi prif swyddogaethau’r busnes, gan wahaniaethu rhwng gweithgarwch y mae cwsmeriaid yn ei weld, gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chyflenwyr, gweithgarwch sy’n ymwneud a gweithredu a gweithgarwch rheoli.
Arwain ar waith dadansoddi ymchwil, hwyluso gwaith cwmpasu a gosod blaenoriaethau ar gyfer gwella prosesau mawr neu gymhleth iawn a/neu wella systemau, gan gymhwyso dulliau modelu busnes i ddarparu systemau a gwasanaethau wedi’u safoni ac sy'n canolbwyntio ar gael canlyniadau. Yn adolygu ac yn gwerthuso syniadau, prosiectau a chyfleoedd i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, ac yn adnabod cyfleoedd i wella ac awtomeiddio gwasanaethau'n barhaus ar draws gwasanaethau TG y Brifysgol a'r brifysgol yn ehangach. Gwerthuso argymhellion opsiynau achosion busnes buddsoddi gan gynnig amcangyfrifon sy’n gywir eu cost.
Bod â dealltwriaeth eang a chyfredol o dueddiadau ac arloesi yn y diwydiant, gan asesu eu heffaith ar brosesau busnes, data a thechnoleg prifysgolion, er mwyn llywio penderfyniadau strategol sy’n ymwneud â phrosesau busnes.
Datrys heriau cymhleth a digynsail gyda rhagolwg strategol. Yn gwerthuso ac yn cyflwyno gwybodaeth i hwyluso’r gwaith o wneud penderfyniadau effeithiol ac amserol, gan ddefnyddio deunydd cyfathrebu clir a chryno.
Rheoli Cyllid ac Adnoddau
Adnabod a disgrifio endidau allanol sy'n berthnasol i Saernïaeth Prosesau Busnes fel cwsmeriaid, cyflenwyr a systemau, a'r adnoddau mewnol, y rheolaethau a'r personél a ddefnyddir i'w rheoli.
Datblygu Timau a chymell eraill:Annog cydweithio trawsadrannol i adnabod cyfleoedd strategol a chefnogi'r llif gwaith a'r cyfeiriad sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwasanaethau TG. Arwain a rheoli timau traws-swyddogaethol, rheoli’r ymagwedd mewn timau a meithrin perthnasoedd traws-swyddogaethol i gefnogi cyflawni amcanion sefydliadol.
Rheoli timau ymroddedig o staff sy'n adrodd yn uniongyrchol gan sicrhau eglurder y rôl a chysoni amcanion perfformiad ag amcanion Saernïaeth Prosesau Busnes, a hynny yn y proffesiwn TG yn y Brifysgol.
Cyfrannu at arwain a datblygu’r adran TG yn barhaus trwy gyfranogiad gweithredol a chydweithio â chydweithwyr yn yr Uwch-dîm Rheoli AD; cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaeth, polisi a chynlluniau.Cwblhau tasgau sy’n gysylltiedig fel arfer â chydweithwyr iau er mwyn bodloni gofynion gweithredol. Chyflawni dyletswyddau sy’n gysylltiedig â rôl uwch at ddibenion datblygu.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Datblygu a modelu rolau cyfathrebu effeithiol a sefydlu perthnasoedd gwaith da, gan arwain drwy esiampl i ddileu rhwystrau mewnol posibl, gwella colegoldeb a datblygu arferion gorau
Arwain a rheoli recriwtio, rheoli perfformiad ac arfarnu, gan sicrhau perfformiad staff effeithiol, ac annog a hwyluso hyfforddiant a datblygu pan fo angen.
Arwain aelodau’r tîm i ymdrin â materion sy’n ymwneud â lles a’u helpu i wneud hynny, gan uwchgyfeirio materion yn ôl yr angen at feysydd cymorth arbenigol.
Rheoli Risgiau a Chydymffurfio
Sicrhau y glynir at lywodraethu’r Brifysgol a pholisïau a gweithdrefnau caffael y Brifysgol. Gweithio gyda'r Swyddog Diogelu Data a chydweithwyr ym maes Llywodraethiant ar faterion sy’n ymwneud â llywodraethu gwybodaeth sy'n berthnasol i swyddogaeth Saernïaeth Prosesau Busnes.
Diffinio a chynnal y safonau a meincnodau ansawdd saernïaeth prosesau busnes a’r gwasanaethau cysylltiedig â hi ym mhob rhan o’r Brifysgol ac yn annibynnol.
Bydd Pennaeth Saernïaeth Prosesau Busnes yn mewnbynnu’n uniongyrchol i'r cylch llywodraethu sy'n cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion allweddol, cynllunio a rhoi mentrau neu raglenni strategol ar waith, a chyflawni gwerth i’r busnes
Sicrhau bod saernïaeth dechnegol yn cydymffurfio â safonau priodol (seiberddogelwch, corfforaethol, diwydiant, cenedlaethol a rhyngwladol).
Cydweithio ac ymgysylltu ag eraill
Cymryd rhan mewn rhwydweithiau cynllunio strategol ac arwain fforymau saernïaeth i gefnogi’r gwaith o gynllunio’n strategol ym mhob rhan o’r Brifysgol, gan gysylltu prosesau busnes â’r gwaith o gyflawni prosiectau a nodi effaith mentrau ar raddfa fawr.
Cychwyn gweithgorau traws-sefydliadol sy'n cynnwys rhanddeiliad niferus yn ôl yr angen er mwyn sicrhau bod agweddau cyson at saernïaeth mentergarwch yn cael eu datblygu a'u hymgorffori.
Cydweithio â Phenaethiaid Adrannau ym mhob rhan o’r Brifysgol i ddatblygu strategaethau cynllunio trawsdoriadol, cynlluniau technolegol a pholisïau sy’n ategu’r gwaith hwn, gan ddileu seilos cynllunio a hyrwyddo darpariaeth integredig, strategol.
Cysylltu â'r timau Cyfathrebu canolog i sicrhau bod manteision prosiectau ar seilwaith a chymwysiadau yn cael eu mynegi'n glir a'u rhoi ar waith ym mhob rhan o’r Brifysgol.
Ymgysylltu ag uwch-randdeiliaid, gan gynnwys Partneriaid Busnes, ym mhob rhan o’r Brifysgol i adnabod manteision strategol dewisiadau technolegol, a llunio cynllun technoleg trawsdoriadol sy’n sicrhau effeithlonrwydd ac yn cynyddu gwerth ymatebion presennol a phosibl.
Datblygu perthnasoedd â chyflenwyr a phartneriaid ar lefel weithredol yn y DU ac yn rhyngwladol, gan ddylanwadu ar ddatblygiadau er budd y Brifysgol.
Gweithio gyda phob rhan o dîm TG y Brifysgol, gan adnabod anghenion o ran gallu a phrosesau busnes, a throsi blaenoriaethau strategol o ran prosesau busnes yn elfennau y gellir eu cyflawni ac yn gynlluniau gweithredu.
Dyletswyddau Cyffredinol
Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich perfformiad yn y swydd.
Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
Dilyn polisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Meini Prawf Hanfodol
Gwybodaeth a Sgiliau
Yn gymwys i ganolbwyntio ar ymatebion yn seiliedig ar TOGAF, yn meddu ar allu sylweddol i ddadansoddi sefyllfaoedd a gwneud penderfyniadau, a’r gallu i fynegi cysyniadau technegol cymhleth yn glir mewn iaith bob dydd.
Dealltwriaeth eang o gymwysiadau TG, seilwaith, rheoli prosiectau a rheoli gwasanaethau ym mhob rhan o’r fenter, a dealltwriaeth dda o systemau busnes, prosesau ac anghenion seilwaith Addysg Uwch. Yn gallu rhoi sicrwydd busnes o gynlluniau a chynigion cyflenwyr.
Y gallu i adnabod problemau strwythurol yn y sefydliad, rhyngddibyniaethau swyddogaethol a gormodedd traws-seilo, a chymhwyso egwyddorion saernïol i ymatebion busnes.
Y gallu i archwilio technolegau a thueddiadau i adnabod y manteision o'u mabwysiadu yn y dyfodol yn ogystal â'u defnydd uniongyrchol.
Profiad o ddefnyddio cynrychioliadau sy'n seiliedig ar fodelau y gellir eu haddasu yn ôl yr angen i gasglu, crynhoi neu ddadgrynhoi gwybodaeth gymhleth a gwrthgyferbyniol am y busnes.
Y gallu i ddelweddu a chreu modelau lefel uchel y gellir eu defnyddio mewn gwaith dadansoddi yn y dyfodol i estyn ac aeddfedu saernïaeth y busnes.
Profiad helaeth o gynllunio a rhoi mentrau busnes a TG ar waith. Dyfeisio saernïaeth gynhwysfawr ar gyfer gwasanaethau a mentrau digidol ar raddfa fawr, sylweddol, sy'n cyflawni gwelliannau o ran capasiti, perfformiad ac argaeledd systemau sy'n sicrhau ein bod yn cyrraedd neu’n rhagori ar dargedau busnes.
Profiad o fodelu prosesau busnes gan ddefnyddio amrywiaeth o offer a thechnegau.
Gallu diamheuol i gyfathrebu â chynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol ar bob lefel, yn ogystal â symleiddio materion a chysyniadau cymhleth ar ffurf cyflwyniadau a dogfennau ysgrifenedig clir.
Meini Prawf Dymunol
1. Gradd neu brofiad cyfwerth / cymwysterau proffesiynol / cymhwyster rheoli prosiectau (e.e. Prince2, MSP, MoP).
2. Gwybodaeth am bortffolios newid digidol/TG trawsnewidiol, yn ddelfrydol yng nghyd-destun Addysg Uwch.
3. Profiad amlwg o arwain ym maes Addysg Uwch.
4. Cymwysterau Rheoli ychwanegol mewn ITIL, neu debyg, ynghyd â thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
5. Yn medru’r Gymraeg.