Internal Applicants Only - Head of Digital Portfolio bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Senior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Arweinydd Portffolio Digidol
Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am Arweinydd Portffolio Digidol i arwain gweithrediad ei chynllun digidol uchelgeisiol a fydd yn gwella’n sylweddol gallu ymchwil y brifysgol, effeithlonrwydd gweithredol, a darpariaeth addysgol.
Ni
Rydym am wneud Prifysgol Caerdydd yn sefydliad sy'n cael ei barchu ledled y byd. Ein gweledigaeth yw bod yn brifysgol sy'n arwain y byd, rhagorol o ran ymchwil ac yn addysgol ragorol, sy'n cael ei gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd, sy'n cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, y DU a'r byd. Bydd ein strategaeth uchelgeisiol i 2035 (Ein Dyfodol Gyda'n Gilydd) yn galluogi'r brifysgol i gyd-greu a rhannu gwybodaeth newydd, i ddarparu byd gwell i genedlaethau'r dyfodol. Ein nod yw graddio'n gyson yn y 100 prifysgol orau yn y byd a'r 20 uchaf yn y DU.
Cyfle
Bydd Arweinydd y Portffolio Digidol yn arwain y gwaith o gynllunio, datblygu a gweithredu strategol holl fentrau digidol y Brifysgol, gan gynnwys cynllun Digidol y Brifysgol sy'n anelu at wella galluoedd ymchwil, effeithlonrwydd gweithredol a chyflenwi addysgol y Brifysgol. Mae'r swydd hon yn hollbwysig er mwyn datblygu’r broses o fabwysiadu technolegau arloesol (gan gynnwys platfform data modern, awtomeiddio, a Deallusrwydd Artiffisial) a meithrin diwylliant o ragoriaeth ddigidol ledled y sefydliad. Bydd gan Arweinydd y Portffolio Digidol oruchwyliaeth dros y portffolio newid digidol gwerth miliynau o bunnoedd, gan gydweithio ag arweinwyr academaidd a gweinyddol i ganfod cyfleoedd arloesi digidol, symleiddio prosesau a sicrhau bod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil ac addysg yn yr oes ddigidol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol portffolio newid digidol y Brifysgol er mwyn cydlynu’r broses o weithredu’r arferion portffolio rheoli yn effeithiol ac yn effeithlon a rhoi cefnogaeth i'r rhanddeiliaid gan sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth amserol er mwyn iddynt roi arweiniad ar gyfeiriad strategol cyffredinol y newid.
Er mwyn gallu gwneud hyn, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud y canlynol:
- Rheoli ystod o raglenni a phrosiectau ym mhortffolio newid Materion Digidol gan sicrhau bod eu dilyniant yn unol â set o flaenoriaethau y cytunwyd arnynt a'u bod yn cyflawni'r nodau a'r amcanion strategol y cytunwyd arnynt.
- Perchnogi cynlluniau portffolio lefel uchel, gan ddogfennu manteision, risgiau, problemau, rhagdybiaethau a materion dibynnol y portffolio.
- Gweithio gydag uwch-randdeiliaid i hyrwyddo portffolio Materion Digidol, gan ddangos gwybodaeth gref am y maes er mwyn sicrhau hygrededd a datblygu dealltwriaeth, perchnogaeth a chyfranogiad, gan hwyluso’r adborth i strwythurau llywodraethu’r portffolio newid.
- Datblygu a chynnal fframwaith cyflawni a buddion y portffolio.
- Gweithio'n agos gyda Phartneriaid Busnes TG i sicrhau bod y portffolio newid yn gyson â chynlluniau strategol a chyflawni'r Brifysgol, ei Cholegau a'r Gwasanaethau Proffesiynol.
- Gweithio'n agos gyda Swyddfa Rheoli Rhaglenni (PMO) y Brifysgol i sicrhau bod proffiliau cost a budd portffolio newid Materion Digidol yn cael eu cynnal ac yn fanwl gywir a sicrhau bod Cyfathrebu’r Portffolio yn gydlynus ac yn briodol i gyd-destun ehangach y Brifysgol.
Gall Prifysgol Caerdydd gynnig llawer o fuddion deniadol i'w gweithwyr, gan gynnwys cyflog cystadleuol, 37 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn a chynllun pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig ar gael yn https://www.cardiff.ac.uk/jobs/what-we-can-offer.
Terfyn amser llawn ar agor
Cyflog: £72,998 - £74,458 y flwyddyn (Gradd 9). Disgwylir i benodiadau i Brifysgol Caerdydd fod ar waelod y raddfa oni bai mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 31 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
- Gweithredu ar lefel strategol, darparu arweinyddiaeth i bortffolio newid gwerth miliynau o bunnoedd, cefnogi'r Noddwyr Gweithredol a Chyflenwi wrth lywodraethu'r portffolio, gwireddu buddion trawsnewidiol i'r Brifysgol a gwneud penderfyniadau annibynnol sy'n dylanwadu'n sylweddol ar ddarparu gwasanaethau ledled y Brifysgol, gan sicrhau bod y portffolio newid yn gyson â blaenoriaethau a nodau tymor hir y Brifysgol.
- Sefydlu'r portffolio newid yn fap trywydd gweithgareddau newid, gan weithio'n agos â noddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod golwg gyfannol ledled y portffolios newid, a bod newid yn canolbwyntio ar gyflawni nodau ac amcanion strategol cysylltiedig y DPI strategol.
- Arwain mentrau cynllunio strategol hirdymor, gan gydweithio ar draws portffolios newid. gan gynnwys ymarferion blaenoriaethu portffolios fydd yn llunio cyfeiriad y Brifysgol yn y dyfodol ac yn sicrhau bod gweithgareddau portffolio newid yn gyson ag uchelgais y Brifysgol a’u bod yn cael effaith eang a thrawsnewidiol.
- Arwain ar baratoi a gweithredu cynlluniau rheoli cyfathrebu a rhanddeiliaid y portffolios newid, gan roi cyngor a chymorth proffesiynol arbenigol er mwyn i’r rhanddeiliaid allu deall a llywodraethu camau gweithredu, meithrin hygrededd a derbyn yr agenda newid.
- Rheoli ystod o raglenni a phrosiectau strategol bwysig o bob maint a chymhlethdod ledled y gwaith o newid y busnes, datblygu TG, caffael a datblygu er mwyn meithrin y galluoedd angenrheidiol yn y drefn gywir i sicrhau bod y buddion a ddymunir ar gyfer y portffolio yn cael eu cyflawni.
- Bod yn gyfrifol am osod a chynnal safonau cyffredinol a safon gwasanaeth y portffolio newid, gan sicrhau cysondeb a rhagoriaeth pob un o’r rhaglenni a’r prosiectau. Paratoi a sicrhau dangosfyrddau portffolio i gyrff a rhanddeiliaid llywodraethu perthnasol.
- Arwain y gwaith o lunio achosion busnes er mwyn buddsoddi yn y portffolios, gan sicrhau eu bod yn gyson ar draws y portffolio newid, yn gydlynus ac yn cefnogi portffolio cyffredinol buddion y newid.
- Sicrhau bod materion dibynnol yn cael eu rheoli'n effeithiol yn y portffolio newid a phan fo'n briodol, eu huwchraddio a'u cydlynu ledled y portffolios newid eraill. Datrys heriau cymhleth a digynsail sy'n effeithio ar y portffolio newid, gan ddefnyddio crebwyll strategol a barn i asesu goblygiadau a sicrhau bod penderfyniadau effeithiol yn digwydd.
- Sicrhau bod rhaglenni a phrosiectau yn cael eu cau a’u trosglwyddo’n effeithiol o'r portffolio i Fusnes fel Arfer.
- Sefydlu, monitro ac adolygu cyllid y portffolio newid gwerth miliynau o bunnoedd ar sail cost, gan gwblhau dadansoddiad yr effaith ariannol ar y portffolio mewn perthynas ag unrhyw newidiadau sylweddol.
- Sefydlu, datblygu a chynnal fframwaith buddion y portffolio newid gan amlygu rhagolygon y buddion a sicrhau bod y gwaith o gyfrif ddwywaith yn cael ei leihau, gan sefydlu’r rheolaethau a’r mecanweithiau tracio angenrheidiol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
- Rheoli timau ymroddedig o staff sy'n adrodd yn uniongyrchol gan sicrhau eglurder y rôl a chysoni amcanion y perfformiad ag amcanion y rhaglen/prosiect yn y portffolio y maent yn gysylltiedig â hwy.
- Cwblhau tasgau sy’n gysylltiedig fel arfer â chydweithwyr iau er mwyn bodloni gofynion gweithredol. Ymgymryd â dyletswyddau sy’n gysylltiedig â rôl uwch at ddibenion datblygu.
- Datblygu a modelu rolau cyfathrebu effeithiol a sefydlu perthnasoedd gwaith da, gan arwain drwy esiampl i ddileu rhwystrau mewnol posibl, gwella colegoldeb a datblygu arferion gorau
- Arwain a rheoli recriwtio, rheoli perfformiad ac arfarnu, gan sicrhau perfformiad staff effeithiol, ac annog a hwyluso hyfforddiant a datblygu pan fo angen.
- Cefnogi ac arwain aelodau’r tîm ar faterion lles, gan uwchgyfeirio’r rhain yn ôl yr angen at feysydd cymorth arbenigol.
- Sicrhau bod cyflawni’r portffolio newid yn sefydlu'r dull a'r prosesau portffolio angenrheidiol i reoli risgiau, datrys problemau a sicrhau bod gweithgarwch portffolio yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus a’i amseru'n briodol. Sicrhau y bydd gwersi sy’n cael eu dysgu yn sgil rhaglenni a phrosiectau’r portffolio yn cael eu canfod a'u cyfleu'n ehangach ledled yr holl weithgarwch newid.
- Sicrhau y glynir at lywodraethu’r Brifysgol a pholisïau a gweithdrefnau caffael y Brifysgol.
- Gweithio'n agos gyda Phartneriaid Busnes TG i sicrhau bod y portffolio newid yn gyson â chynlluniau strategol a chyflawni'r Brifysgol, ei Cholegau a'r Gwasanaethau Proffesiynol.
- Rheoli a deall y rhyngddibyniaeth rhwng y portffolio newid a thimau ledled y Brifysgol yn rhagweithiol, gan feithrin cydweithio, chwalu seilos a meithrin perthnasoedd traws-swyddogaethol effeithiol sy'n cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion y portffolio.
- Cymryd rhan weithredol mewn rhwydweithiau cynllunio strategol sy'n berthnasol i'r portffolio newid, gan gymryd rôl arweinyddiaeth wrth sefydlu ac arwain rhwydweithiau ledled y Brifysgol sy'n cefnogi’r gwaith o gyflawni newid.
- Datblygu perthnasoedd â chyflenwyr a phartneriaid ar lefel weithredol yn y DU ac yn rhyngwladol, gan ddylanwadu ar ddatblygiadau er budd y Brifysgol.
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd sy’n addas at y rôl ac a fydd yn gwella eich perfformiad.
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau.
- Glynu wrth bolisïau’r Brifysgol ynghylch Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u crybwyll uchod ond sy'n cyd-fynd â'r swydd.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Gradd neu brofiad cyfwerth / cymwysterau proffesiynol / cymhwyster rheoli prosiectau (e.e. Prince2, MSP, MoP).
- Y gallu diamheuol i arwain, rheoli a chyflawni'n llwyddiannus y gwaith o Drawsnewid Digidol ar raddfa fawr mewn sefydliad amlochrog mawr gan fuddsoddi’n sylweddol yn ddelfrydol ym maes Portffolio Newid.
- Profiad helaeth o reoli portffolio o raglenni a phrosiectau cymhleth niferus sydd â gwahanol feysydd cwmpas sydd wedi cyrraedd gwahanol gamau yn eu cylch bywyd, gan ddangos y gallu i gydlynu a rheoli'r portffolio yn unol ag amserlenni, cyllidebau ac adnoddau diffiniedig, blaenoriaethu ac amserlennu tasgau sy'n gwrthdaro â’i gilydd i gyflawni allbynnau yn unol â fframweithiau rheoli risgiau, materion a newid strwythuredig.
- Sgiliau arwain a mentora amlwg, gan wybod sut i feithrin a chynnal timau effeithiol ar draws meysydd adrodd uniongyrchol a chyd-destunau rheoli matrics.
- Sgiliau rheoli uwch-randdeiliaid rhagorol a’r gallu i gyfleu hyn ar bob lefel, gan ddangos technegau cyfathrebu gwahanol i gefnogi’r gwaith o gywain gwybodaeth a dangos y sensitifrwydd sydd ei angen i gydbwyso a datrys problemau, diffinio blaenoriaethau a sicrhau bod pobl eraill yn deall ac yn cytuno ar y Portffolio a'i amcanion.
- Profiad diamheuol o lunio modelau strategaeth a gweithredu drwy gymryd rhan yn weithredol ac arwain timau prosiect.
- Sgiliau dadansoddol cryf gyda phrofiad diamheuol o asesu ac optimeiddio prosesau digidol.
- Gwybodaeth o reoliadau caffael cyfredol a’r prosesau cysylltiedig.
- Gwybodaeth o barthau portffolios newid digidol/TG trawsnewidiol, yn ddelfrydol ym maes Addysg Uwch.
- Profiad amlwg o arwain ym maes Addysg Uwch.
- Cymwysterau Rheoli ychwanegol ym maes ITIL neu eu tebyg, ynghyd â thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Siaradwr Cymraeg.