Platzhalter Bild

Hybrid Internal Applicants Only - Digital Learning Manager bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid

£51,039.00  -  £55,755.00

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Rheolwr Dysgu Digidol


Mae Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Addysg Ddigidol ac arwain Gwasanaeth Dylunio Dysgu'r Academi Dysgu ac Addysgu.

Yn rhan o’r uwch-dîm Addysg Ddigidol, bydd deiliad y swydd arweiniol hon yn arwain yr arbenigedd Dylunio Dysgu ac yn gweithio â chydweithwyr o’r timau dysgu ac addysgu ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan ddarparu gwelliannau cynaliadwy i brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddwch yn cyfrannu at gyflawni agweddau dysgu ac addysgu a phrofiad myfyrwyr Strategaeth y Brifysgol, “Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd”.

Yn ogystal, bydd y rôl hon yn arwain a rheoli tîm o Ddylunwyr Dysgu, Arbenigwyr Addysg Ddigidol a Thechnolegwyr Dysgu sy'n darparu cefnogaeth Addysg Ddigidol a Dylunio Dysgu ar gyfer un o dri Choleg y Brifysgol.
Ymhlith yr uchod y bydd cyfrifoldebau dros:

Arwain yr arbenigedd Dylunio Dysgu o fewn y Tîm Addysg Ddigidol sy'n cefnogi ac yn tywys cydweithwyr academaidd wrth iddynt gynllunio, ail-gynllunio a datblygu modiwlau dysgu cyfunol ac ar-lein, a chyrsiau a rhaglenni byr. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar gefnogi blaenoriaethau strategol y Brifysgol a’r Colegau ac mae’n cyd-fynd â datblygiad rhaglenni newydd a gwaith adolygu ac ail-ddilysu rhaglenni presennol.

Ynghylch y rôl:
  • Gweithio'n agos gyda chydweithwyr o fewn y Tîm Addysg Ddigidol ac ar draws yr Academi Dysgu ac Addysgu, gan gynnwys y Tîm Datblygu Addysg a'r Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr, i arwain y gwaith o gyflwyno gwasanaeth Dylunio Dysgu, ac i gynllunio a chydlynu'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth hwn i fodloni blaenoriaethau strategol y Brifysgol.
  • Gweithio'n agos gyda Phartneriaid Coleg yr Academi Dysgu ac Addysgu ac arweinyddiaeth allweddol y Coleg i ddeall a chynllunio i gefnogi meysydd blaenoriaeth o fewn pob Coleg. Gall hyn gynnwys rhaglenni strategol bwysig gan gynnwys rhai sydd mewn perthynas â Dysgu Hyblyg Gydol Oes ac addysg drawswladol. 
  • Goruchwylio’r cynnig gwasanaeth Dylunio Dysgu i ddatblygu, mewn partneriaeth ag ysgolion academaidd, adnoddau ar-lein hygyrch, cynhwysol ac o ansawdd uchel ym maes dysgu a dylunio dysgu sydd wedi’i wella gan dechnoleg a diwallu anghenion staff academaidd a gwella profiad myfyrwyr.
  • Dylunio a gweithredu prosesau i gasglu adborth a gwerthuso effaith y gwasanaeth Dylunio Dysgu a chymorth Addysg Ddigidol ehangach gan weithio gyda chydweithwyr ar draws yr Academi Dysgu ac Addysgu i gyd-fynd â phrosesau gwerthuso ac adrodd presennol.
  • Sicrhau bod y cymorth a gynigir yn cyd-fynd â nodau a blaenoriaethau strategol ar lefel sefydliadol a/neu’r Coleg ac yn diwallu anghenion y gymuned academaidd, sy'n cwmpasu myfyrwyr, staff, a rhanddeiliaid eraill.
  • Sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir yn cael eu hategu gan ystyriaeth o egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, addysg gynhwysol ac arferion da.
  • Cydlynu a goruchwylio datblygiad y gwasanaeth Dylunio Dysgu, deall gofynion ac amserlenni datblygu rhaglenni ac addasu'r gwasanaeth yn ôl yr angen.
  • Fel arweinydd yr arbenigedd Dylunio Dysgu, dod â chymuned ymarfer ynghyd o fewn y Tîm Addysg Ddigidol, nodi a darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a gwybodaeth a rhannu arferion da.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros gyflwyno'r Gwasanaethau Dylunio Dysgu ac Addysg Ddigidol o fewn un Coleg, gan arwain y tîm a rheoli llif gwaith a gosod blaenoriaethau. Bydd hyn yn cynnwys rheoli adnoddau'n effeithiol, monitro cynnydd i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni mewn modd rhagweithiol ac amserol, a gwerthuso canlyniadau ac effaith.
Swydd benagored ac amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos). 

Cyflog: £51,039 - £ 55755 y flwyddyn (Gradd 7). Fel arfer, bydd y sawl a benodir yn dechrau ar waelod y raddfa.

Nodyn pwysig:  

Polisi’r brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i gefnogi'r cais.  Gofalwch fod y dystiolaeth y byddwch yn ei rhoi’n cyfateb i rif y meini prawf dan sylw uchod. Byddwn yn ystyried eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwyd o dan bob elfen.

Wrth atodi’r datganiad ategol wrth broffil eich cais, gofalwch eich bod yn rhoi cyfeirnod y swydd wag arno, e.e. Datganiad Ategol 20524BR.  

Dyddiad cau: Dydd Llun, 25 Awst 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
  • Arwain y Gwasanaeth Dylunio Dysgu a rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau Dylunio Dysgu ac Addysg Ddigidol i gydweithwyr a fydd ag effeithiau ar draws y sefydliad, gan gynghori ar effaith a gwerth Dylunio Dysgu o ran datblygiadau a chynlluniau strategol.
  • Nodi a gweithredu ar anghenion datblygu y tîm a’r Academi Dysgu ac Addysgu ym maes Dylunio Dysgu, gan addasu cynlluniau, adnoddau a blaenoriaethau lle bo angen i adlewyrchu newidiadau yn y llwyth gwaith ac anghenion cymorth strategol y Coleg.
  • Rheoli ac arwain tîm sy'n canolbwyntio ar y Coleg ym maes Addysg Ddigidol, gan sicrhau bod blaenoriaethau ac amcanion strategol yn cael eu gosod, eu cyfleu a'u hystyried, cynllunio, trefnu a dirprwyo gwaith, monitro cynnydd a pherfformiad ac ymyrryd yn ôl yr angen.
  • Sicrhau bod y Gwasanaethau Dylunio Dysgu ac Addysg Ddigidol yn cael eu darparu o fewn ffocws eich Coleg eich hun, gan addasu'r dull yn unol â newidiadau yn y llwyth gwaith a gofynion cwsmeriaid.
  • Gweithredu fel Partner Ysgol yr Academi Dysgu ac Addysgu ar gyfer un neu fwy o Ysgolion, gan ymgymryd â rôl arwain ac ymgysylltu strategol gan gysylltu Ysgolion â chymorth a gwasanaethau’r Academi Dysgu ac Addysgu.
  • Cyfrannu at gynllunio a rheoli strategol y Tîm Addysg Ddigidol o fewn yr Academi Dysgu ac Addysgu yn y tymor hir, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau Dysgu ac Addysgu ar lefel y Brifysgol a’r Coleg, ac yn eu cefnogi. Gweithio gydag uwch-dîm Addysg Ddigidol i sicrhau bod cysondeb a gwasanaethau teg yn cael eu darparu ar draws y tri Choleg.
  • Bod yn gyfrifol am ddadansoddi a datrys problemau'n annibynnol o fewn y Tîm Addysg Ddigidol a Dylunio Dysgu, lle mae'r problemau'n ymwneud ag amcanion penodol y swydd, defnyddio synnwyr cyffredin, creadigrwydd a gwybodaeth am y sector yn ehangach wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau a gwneud yn siŵr bod y gynulleidfa'n deall materion ac atebion cymhleth a chysyniadol.
  • Cyfrannu at ddatblygu mentrau'r Academi Dysgu ac Addysgu sydd â dylanwad ar draws y Brifysgol, gan gynnwys llunio a gwella'r Gwasanaeth Dylunio Dysgu a rheoli cyfranogiad eich tîm eich hun mewn mentrau. 
  • Rheoli perfformiad, cyfnod ymsefydlu a datblygiad eich tîm eich hun a chyfrannu at ddatblygiad y Tîm Addysg Ddigidol cyfan.
  • Arwain aelodau’r tîm i ymdrin â materion sy’n ymwneud â lles a’u helpu i wneud hynny, gan uwchgyfeirio materion yn ôl yr angen at feysydd cymorth arbenigol.
  • Cydweithio ag eraill er mwyn datblygu'r prosesau a'r gweithdrefnau a ddefnyddir o fewn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
  • Hyfforddi pobl eraill mewn meysydd sy'n ymwneud â gwaith y tîm
  • Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol sy'n briodol ac a fydd yn gwella perfformiad, gan fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf ac ymgysylltu'n weithredol mewn rhwydweithiau allweddol yn y sector i gefnogi a gwella‘r gymuned academaidd.
  • Meithrin perthynas waith gyda chysylltiadau pwysig i helpu i wella gwasanaethau, yn ogystal â datblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol gydag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol lle bo angen
  • Casglu a dadansoddi data ar gyfer gwneud penderfyniadau, nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data, a llunio adroddiadau fel y bo’n briodol.
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd arfer cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau
  • Cadw at bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

55,755

Gradd

Gradd 7

Isafswm y Cyflog

51,039

Categori Swyddi

Rheolaethol a Gweithredol

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Nodyn pwysig:  
Polisi’r brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i gefnogi'r cais.  Gofalwch fod y dystiolaeth y byddwch yn ei rhoi’n cyfateb i rif y meini prawf dan sylw uchod. Byddwn yn ystyried eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwyd o dan bob elfen.

Wrth atodi’r datganiad ategol wrth broffil eich cais, gofalwch eich bod yn rhoi cyfeirnod y swydd wag arno, e.e. Datganiad Ategol 20524BR.  

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Cymhwyster ôl-raddedig neu broffesiynol neu brofiad cyfatebol ym maes Dylunio Dysgu, Addysg Ddigidol a/neu wella Dysgu ac Addysgu gan gynnwys achrediad proffesiynol, fel Cymrodoriaeth/Uwch-gymrodoriaeth Advanced HE neu CMALT/Uwch CMALT
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Arweinydd effeithiol gyda sgiliau rheoli rhagorol a'r gallu diamheuol i arwain swyddogaeth arbenigol o fewn sefydliad cymhleth mawr.
  2. Profiad sylweddol o weithio ym maes Dylunio Dysgu a/neu Addysg Ddigidol ac â’r gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol arbenigol am brosesau gwella addysgol a’ch bod yn cael eich cydnabod yn awdurdod yn y maes.
  3. Profiad sylweddol o reoli tîm(au), yn cydbwyso sawl amcan a blaenoriaeth ac ymdrin â materion perfformiad a lles
  4. Profiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd i ddangos effaith neu welliant mesuradwy.
Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gwaith Tîm
  1. Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys i ddatblygu rhwydweithiau o fewn y Brifysgol a’r tu allan iddi er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau a gwelliannau tymor hir
  2. Y gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau uwch o fewn disgyblaeth arbenigol (e.e. Dylunio Dysgu/Addysg Ddigidol) a dangos effaith strategol
  3. Tystiolaeth o allu ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny, gan reoli disgwyliadau cwsmeriaid tra’n sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei gyflenwi
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Tystiolaeth o allu ymchwilio i broblemau eang, a'u datrys, drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; a gweithredu atebion ymarferol ac arloesol newydd lle nad oes rhai’n bodoli eisoes.
  2. Tystiolaeth o allu cynllunio gwaith adran dros amserlenni o flwyddyn a mwy, gan ymateb i newidiadau yn y llwyth gwaith a chyfeiriad strategol yr Academi Dysgu ac Addysgu a’r Brifysgol ehangach
Meini Prawf Dymunol
  1. Rhugl yn y Gymraeg.  
  2. Profiad o weithio ym maes addysg uwch.  
  3. Profiad o reoli newid, gan gynnwys dylanwadu ar newid mewn ymarfer a’i roi ar waith. 
Jetzt bewerben

Weitere Jobs