Hybrid Internal Applicants Only - Senior Bioinformatician bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Senior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Uwch-fiowybodegydd
Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd
Rydym yn chwilio am Uwch ddadansoddwr data i ymuno â thîm Labordy'r Athro Valentina Escott-Price yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn y rôl hanfodol hon, byddwch yn arwain ar gyflawni prosiect yr Hwb Cloddio Data Dynol. Nod y fenter strategol hon yw hyrwyddo ymchwil i ddementia trwy wyddor data arloesol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol wrth alluogi a hwyluso cloddio in silico ar ddata dynol y DU ar gyfer dilysu, cadarnhau ac atgynhyrchu damcaniaethau a rhagdybiaethau biolegol allweddol, yn ogystal â chanfyddiadau o ymchwil arbrofol foleciwlaidd, gellol a dynol/anifeiliaid ar draws yr UK DRI.
Mae Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI), a lansiwyd yn 2017, yn gawr ym maes arloesi gwyddonol wedi iddo gael buddsoddiad gwerth £300 miliwn na welwyd ei debyg ym maes ymchwil i ddementia - y mwyaf o'i fath yn hanes y DU. Diben yr UK DRI yw trawsnewid rhagolygon pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwroddirywiol, neu sydd mewn perygl ohonynt, a hynny drwy ymchwil.
Dan arweiniad y Cyngor Ymchwil Feddygol, mae'r UK DRI yn sefydliad o dros 1000 o ymchwilwyr a 62 o arweinwyr grŵp wedi'u dosbarthu ledled y DU dan arweinyddiaeth yr Athro Siddharthan Chandran. Cafodd y sefydliad sgôr "rhagorol" yn ei adolygiad pum mlynedd cyntaf yn 2022, gan sicrhau cyllid craidd pellach o £150 miliwn.
Mae’r Sefydliad, yn adeilad blaenllaw Hadyn Ellis ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o wyth Canolfan UK DRI. Yng Nghaerdydd, rydym ni'n adeiladu ar enw da rhyngwladol ym maes geneteg anhwylderau'r ymennydd gan gynnwys clefyd Alzheimer a chyflyrau seiciatrig, niwroimiwnedd a bioddadansoddi. Ymhlith ein cryfderau cyfredol mae darganfod a dadansoddi swyddogaethol genynnau sy'n sail i glefydau niwroddirywiol, yn benodol rolau imiwnedd a niwrolid, endocytosis, biofarcwyr ac atgyweirio DNA yng nghlefydau Alzheimer, Parkinson a Huntington.
Yn y swydd hon, byddwch yn:
• Cymryd cyfrifoldeb am osod prosiect a datrys problemau sy'n ymwneud â mynediad at ddata, prosesu a dadansoddi data
• Cynllunio a chyflawni prosiectau sy'n cael effaith ar yr adran/sefydliad/yn rhyngwladol, gan reoli gweithrediad timau prosiect
• Darparu cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesu a dadansoddi data i gydweithwyr mewnol ac allanol
Hoffem glywed gennych os oes gennych chi:
• PhD mewn mathemateg/cyfrifiadureg/biowybodeg (neu bwnc dadansoddol â chysylltiad agos) neu lefel gyfatebol o brofiad a amlygir gan nifer sylweddol o allbynnau perthnasol.
• Profiad sylweddol o weithio ar lwyfannau data mawr pell gydag amrywiol amgylcheddau cyfrifiadurol (HPC, cwmwl-seiliedig, Windows VM) a ddangosir mewn portffolio sefydledig a diamheuol o ymchwil a/neu brofiad perthnasol mewn diwydiant.
• Arbenigedd sylweddol a gwybodaeth broffesiynol ym maes prosesu a dadansoddi data mawr a phrofiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd mewn bioystadegau a dadansoddi biowybodeg data mawr
Ar hyn o bryd, mae trefniadau “gweithio cyfunol” ar waith yn achos y rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod gan y staff yr hyblygrwydd i weithio gartref yn rhannol ac yn rhannol ar gampws y Brifysgol, gan ddibynnu ar y gofynion busnes penodol. Bydd modd trafod y trefniadau hyn ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle ceir llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r swydd hon –
Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd (gweler yr adran ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu sgiliau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y gwaith. Rydym ni'n awyddus i'ch cefnogi a’ch datblygu ar ôl i chi ddechrau yn y swydd gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol er mwyn sicrhau eich bod yn gallu rhoi o’ch gorau:
1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Cefnogi’r hyfforddiant a’r datblygiad sy'n berthnasol i'ch swydd ac y gallai fod ei angen arnoch
4. Cynllun mentora
Cysylltwch â Valentina Escott-Price ([email protected]) am drafodaeth anffurfiol a chyfrinachol am y swydd.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol tan 31 Mai 2027. Mae ar gael i’w dechrau o 1 Awst 2025 ymlaen.
Cyflog: £51,039 - £55,755 y flwyddyn (Gradd 7) Ym Mhrifysgol Caerdydd, penodir fel arfer ar waelod y raddfa gyflog, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 25 Awst 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau diwylliant gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Er mwyn cefnogi ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Cyflwyno arbenigedd proffesiynol, rheoli prosiectau, dadansoddi estynedig, methodolegau newydd, addysgu lefel ôl-raddedig, hyfforddiant a chynllunio strategol mewn biowybodeg
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
• Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesu a dadansoddi data i gydweithwyr mewnol ac allanol fydd yn cael effaith ledled y sefydliad, gan roi cyngor ar effaith biowybodeg ar gynlluniau a datblygiadau strategol.
• Bod yn gyfrifol am ddatrys problemau'n gysylltiedig â mynediad, prosesu a dadansoddi data'n annibynnol pan fyddant yn ymwneud ag amcanion penodol y swydd, defnyddio synnwyr cyffredin a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu gorau a gwneud yn siŵr fod y gynulleidfa'n deall materion ac atebion cymhleth a chysyniadol.
• Cynllunio a chyflwyno prosiectau sy'n cael effaith ar yr adran/sefydliad/yn rhyngwladol, gan reoli gweithgarwch timau'r prosiect yn ôl yr angen, a chynllunio, trefnu a dirprwyo gwaith, monitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen.
• Ymchwilio a dadansoddi materion penodol yn ymwneud â mynediad a rheoli llwyfannau data mawr, creu adroddiadau ag argymhellion, gyda chefnogaeth datblygiadau ym maes ymchwil dadansoddi data mawr.
• Sicrhau bod darpariaeth biowybodeg a dadansoddi data mawr yn cael ei chyflwyno i'r sefydliad, gan newid y ddarpariaeth yn rhagweithiol yn unol â gofynion cydweithwyr a darparwyr data, a chyfrannu at ddatblygu safonau ar draws y sefydliad ym maes ymchwil dadansoddi data mawr.
• Sefydlu perthnasoedd gyda darparwyr data allweddol a storfeydd data yn y DU i sicrhau bod amcanion y rôl yn cael eu cyflawni, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol â phencadlys yr UK DRI a chyrff allanol yn ôl yr angen.
• Creu gweithgorau penodol o gydweithwyr ar draws yr UK DRI i gyflawni amcanion Hyb Data Dynol UK DRI.
• Datblygu a chyflwyno hyfforddiant ar fynediad a dadansoddi data mawr gan gymryd rôl arweinydd modiwl mewn o leiaf 2 adran hyfforddi y flwyddyn yn yr UK DRI.
• Ymgymryd ag amrywiol ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi Hwb Data Dynol yr UK DRI, y DRI a Chaerdydd a'r Adran.
• Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill o bob rhan o’r UK DRI a Phrifysgol Caerdydd.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
• Dilyn polisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth
Cyflawni dyletswyddau eraill yn achlysurol nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol pan fo’n berthnasol.
Yn rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon/ei hychwanegu at eich cais, gofalwch eich bod yn rhoi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen. Y cyfeirnod yn yr achos hwn yw 20549BR.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
1. Addysg at lefel PhD mewn mathemateg/cyfrifiadureg/biowybodeg (neu bwnc dadansoddol â chysylltiad agos) neu lefel gyfatebol o brofiad a amlygir gan nifer sylweddol o allbynnau perthnasol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Profiad sylweddol o weithio ar lwyfannau data mawr pell gydag amrywiol amgylcheddau cyfrifiadurol (HPC, cwmwl-seiliedig, Windows VM) a ddangosir mewn portffolio sefydledig a diamheuol o ymchwil a/neu brofiad perthnasol mewn diwydiant.
3. Y gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol arbenigol mewn prosesu a dadansoddi data mawr sy'n gysylltiedig ag iechyd fel awdurdod yn y maes a rhoi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr mewnol ac allanol.
4. Profiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd mewn bioystadegau a dadansoddi biowybodeg data mawr.
5. Y gallu i arwain ar gydlynu, cynllunio, cyflwyno a datblygu hyfforddiant staff a myfyrwyr PhD ac addysgu ac arwain ar Lefel Meistr mewn dadansoddi data Biowybodeg.
Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
6. Gallu dylanwadu ar benderfyniadau uwch o fewn y ddisgyblaeth arbenigol sy'n cael effaith strategol
7. Tystiolaeth o allu archwilio anghenion cydweithrediadau, addasu'r gwasanaeth, a gosod disgwyliadau cydweithwyr; gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau i gyfrannu at ddatblygiadau hirdymor.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
8. Tystiolaeth o allu ymchwilio i broblemau eang, a'u datrys, drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; ac adnabod a chynnig atebion ymarferol ac arloesol
9. Gwybodaeth amlwg am ddatblygiadau allweddol yn y ddisgyblaeth arbenigol.
10. Tystiolaeth o’r gallu i gynnal a chyflawni prosiectau penodol yn ogystal â goruchwylio timau prosiect tymor byr
Meini Prawf Dymunol
1. Profiad o weithio gyda llwyfan DNA-Nexus Bio-fanc y DU.
2. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.
3. Cymhwyster a/neu achrediad proffesiynol ym myd addysgu a dysgu.
4. Profiad o ddadansoddi data cofnodion iechyd genetig, genomig ac electronig.