Internal Applicants Only - Web Developer at Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid
- Office in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Datblygwr Gwe
Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am Ddatblygwr Gwe talentog a llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Datblygu deinamig. Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at ddarparu atebion digidol arloesol sy'n gwella profiad myfyrwyr a staff.
Yn rhan o dîm sefydledig, byddwch yn gyfrifol am ddylunio, datblygu, cyfannu, profi a dogfennu nodweddion pwrpasol ledled gwefan a mewnrwyd y Brifysgol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio ein platfformau digidol, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ein hatebion yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr ac yn cael effaith.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud:
Datblygu a chynnal nodweddion pen blaen gan ddefnyddio fframweithiau dylunio modern.
Cydweithio â rhanddeiliaid i ddeall gofynion a dylanwadu ar benderfyniadau technegol a dylunio
Cymryd rhan mewn prosesau datblygu ystwyth, gan gynnwys cyfarfodydd byr a chynllunio chwim dyddiol.
Defnyddio offer megis JIRA er mwyn rheoli prosiectau, Docker er mwyn datblygu’n lleol, a phrosesau CI/CD i'w rhoi ar waith.
Cymryd rhan mewn adolygiadau codio gan gymheiriaid i gynnal safonau uchel a rhannu gwybodaeth.
Rydyn ni’n chwilio am y canlynol:
Profiad diamheuol mewn fframweithiau datblygu a dylunio pen blaen.
Dealltwriaeth gref o dechnolegau gwe ac arferion gorau datblygu.
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid technegol ac annhechnegol.
Meddylfryd rhagweithiol a bod yn angerddol dros wella profiad defnyddwyr.
Pam dylech chi ymuno â ni?
Bod yn rhan o dîm cydweithredol a blaengar.
Dylanwadu ar ddatblygiad cynnyrch digidol a ddefnyddir ledled y Brifysgol.
Mwynhau model gweithio hybrid a hyblyg a chael cyfleoedd rheolaidd i gysylltu ar y safle.
Gweithio mewn cyd-destun sy'n gwerthfawrogi arloesi, cynhwysiant a thwf proffesiynol.
37 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
Dyma swydd amser llawn a phenagored.
Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad cau: Dydd Iau, 23 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r swydd yn rhan o wasanaeth TG y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n rhan o dîm proffesiynol sy’n cynnig gwasanaeth TG effeithlon ac effeithiol o safon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i holl staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Disgrifiad Swydd
• Cyfrannu at graidd arbenigedd y sefydliad, gan fod yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal systemau technegol cymhleth.
• Bod yn gyfrifol am reoli a datblygu nodweddion newydd yn Systemau Rheoli Cynnwys y Brifysgol, gan ddarparu profiadau digidol cadarn ledled y wefan a'r fewnrwyd.
• Bod yn gyfrifol am fanylebau a dylunio systemau mawr neu gymhleth. Datrys problemau'n annibynnol, os bydd y rhain yn ymwneud ag amcanion penodol y swydd.
• Cytuno ar safonau, dulliau ac offer dylunio priodol drwy ymgynghori ag uwch-reolwyr.
• Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei ddogfennu gan ddefnyddio safonau, dulliau ac offer priodol, gan gynnwys offer prototeipio pan fo’n briodol
• Bod yn ymwybodol o'r farchnad, asesu pecynnau meddalwedd o ran eu gallu i fodloni gofynion penodol yn gyfan gwbl neu’n rhannol a chynghori cydweithwyr a rheolwyr ar eu haddasrwydd technegol
• Cysylltu â chydweithwyr pan fo’n briodol mewn cysylltiad â dadansoddiadau cost a budd, dadansoddiadau o risg a chynlluniau datblygu.
• Cysylltu â chyflenwyr allanol a chyfrannu at y gwaith o asesu a dethol pecynnau meddalwedd addas i fodloni gofynion penodol yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
• Bod yn ymwybodol o ofynion gweithredol, yn enwedig o ran lefelau gwasanaeth, yr hyn sydd ar gael, amseroedd ymateb, diogelwch ac amseroedd atgyweirio.
• Cynnig gwybodaeth dechnegol, cyngor ac arweiniad arbenigol ar bob agwedd ar ddylunio a thechnoleg yn eich cylch gwaith.
• Ystyried costau technoleg mewn perthynas â chyllidebau a gynllunnir, cydgysylltu â darparwyr technoleg cyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau i sicrhau’r gwerth a’r buddsoddiad gorau.
• Sicrhau bod yr holl dasgau a gweithdrefnau’n cael eu cwblhau’n effeithiol ac yn effeithlon yn unol â’r safonau y cytunwyd arnynt. Cyflwyno ystadegau i’w defnyddio i fesur dangosyddion perfformiad allweddol (DPA).
• Derbyn, cofnodi a blaenoriaethu ceisiadau am gymorth yn unol â meini prawf y cytunwyd arnynt ac anghenion y sefydliad, gan uwchgyfeirio ceisiadau at y staff datblygu neu gyflenwyr pan fo’n briodol.
• Sicrhau bod problemau'n cael eu rheoli’n unol â safonau a phrosesau y cytunwyd arnynt a bod gweithdrefnau uwchgyfeirio yn cael eu dilyn, gan sicrhau yr ymdrinnir â phroblemau sylweddol ac arwyddocaol yn effeithiol.
• Gweithio o fewn timau matrics sy’n cynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad er mwyn cyflwyno datrysiadau technoleg arbennig i’r Brifysgol. Rhoi cyngor ac arweiniad pan fo angen.
• Cynllunio a chyflawni prosiectau llai, ymgynghori â Rheolwyr Prosiectau ac estyn cyngor iddynt er mwyn eu helpu i gynllunio, blaenoriaethu a phennu cerrig milltir, a hynny er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol i gwblhau gwaith mewn pryd.
• Meithrin perthnasoedd ag enwau cyswllt allweddol i sicrhau bod amcanion y swydd yn cael eu bodloni, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
• Creu gweithgorau penodol sy’n cynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol i gyflawni amcanion adrannol.
• Cadw at bolisïau'r Brifysgol ar iechyd a diogelwch yn ogystal â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y cyfrifoldebau canlynol hefyd yn berthnasol pan fydd gofyn rheoli ac arwain staff:
• Rheoli perfformiad, ymsefydlu a datblygiad yr aelodau hynny o’r staff y byddwch yn eu rheoli. Cefnogi ac arwain aelodau’r tîm o ran materion lles, gan uwchgyfeirio yn ôl yr angen at feysydd cymorth arbenigol.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
1. Gradd/NVQ 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Profiad amlwg o ysgrifennu côd cynaliadwy o safon ar gyfer rhaglenni gwe ar raddfa fawr.
3. Gwybodaeth weithredol o safonau hygyrchedd, defnyddioldeb, materion ar draws porwyr a’r gallu i ysgrifennu profion unedau ac integreiddio gan ddefnyddio fframweithiau prawf awtomataidd.
4. Profiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd a defnyddio offer i fonitro, archwilio ac adolygu perfformiad cefnogi gwasanaethau
5. Sgiliau rheoli perthnasoedd ardderchog a diamheuol ynghyd â phrofiad o reoli gofynion rhanddeiliaid
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
6. Y gallu amlwg i lywio datblygiadau drwy gymryd rhan mewn timau a grwpiau
7. Sgiliau trefnu a chyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol Y gallu i gofnodi atebion technegol a chymhleth ar ffurf fframwaith rhesymegol a chlir y gall pobl eraill ei ddeall yn hawdd.
8. Y gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau yn y tymor hir.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
9. Dealltwriaeth a phrofiad amlwg o dechnegau dadansoddi, cynnig atebion a chyflawni ym maes rheoli problemau, gwallau a gwybodaeth.
10. Tystiolaeth o’r gallu i ymgymryd â phrosiectau penodol a’u sicrhau, yn ogystal â goruchwylio timau prosiect tymor byr ac ymaddasu o dan bwysau wrth flaenoriaethu gwaith.
Meini Prawf Dymunol
1. Cymhwyster rheoli ITIL, neu gymhwyster tebyg
2. Y gallu i siarad Cymraeg neu’r parodrwydd i’w dysgu
3. Gwybodaeth o React, Vue neu TypeScript
4. Profiad o ddatblygiad sy'n cael ei yrru gan API