Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Psychology Assistant at Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid

£28,031.00  -  £31,236.00

Apply Now

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cynorthwyydd Seicoleg
Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc 
Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd


Canolfan ymchwil gwerth £10 miliwn sy'n ymroddedig i ddeall gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc yw Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.  Rydym ni am benodi Cynorthwyydd Seicoleg i weithio ar ffrwd waith y Ganolfan ‘Ymyriadau i Bobl Ifanc sydd â Risg Teuluol Uchel’ – yn benodol, i weithio ar hapdreial rheoledig sy'n ceisio atal iselder ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau sydd â symptomau iselder uwch.  Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm llwyddiannus sy'n recriwtio ac yn asesu cyfranogwyr ar gyfer y Ganolfan. 
Dylai fod gan ymgeiswyr radd Prifysgol (2.1 neu’n uwch) mewn Seicoleg neu bwnc cysylltiedig a bydd gofyn iddynt fod yn weddol hyblyg o ran oriau gwaith (gan y gall rhai asesiadau ddigwydd y tu allan i oriau gwaith arferol gyda'r nos yn ystod yr wythnos) a meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Byddai profiad mewn lleoliad iechyd meddwl a defnyddio cyfweliadau a holiaduron safonedig yn fantais.

Ein nod yw denu pobl arloesol a brwdfrydig, cryf eu cymhelliant, a fydd yn ysgogi syniadau newydd trwy ddulliau blaengar a chynhwysol.  Rydym yn ymrwymo i gyflogi pobl amrywiol eu cefndir, eu hagweddau, eu hunaniaeth a’u profiadau.  

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, ac mae ar gael o 1 Rhagfyr 2025 am dymor penodol tan 30 Tachwedd 2026. 

Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4). Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.

Lleolir y swydd hon rhwng Adeilad Hadyn Ellis ac Adeilad SBARC, campws Cathays. 

I wneud ymholiad anffurfiol cysylltwch â Laura Cook, Rheolwr Canolfan Wolfson ([email protected])

Ar hyn o bryd, mae trefniadau ‘gweithio cyfunol’ yn berthnasol i’r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod gan y staff yr hyblygrwydd i weithio gartref yn rhannol ac yn rhannol o gampws y Brifysgol, gan ddibynnu ar ofynion penodol y busnes. Bydd modd trafod y trefniadau hyn ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision gwych, gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol o 40 diwrnod (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol yn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma rywle cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r swydd hon – 
Mae’n rhaid ichi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd (gweler yr adran ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu sgiliau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y gwaith.  Rydym yn awyddus i'ch cefnogi a’ch datblygu ar ôl ichi ddechrau yn y swydd gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol er mwyn sicrhau eich bod yn gallu rhoi o’ch gorau:

1.    Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2.    Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3.    Cefnogi’r hyfforddiant a’r datblygiad sy'n berthnasol i'ch swydd ac y bydd ei angen arnoch o bosibl
4.    Cynllun mentora

Dyddiad cau; Dydd Gwener, 17 Hydref 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Diben y Swydd
Rhoi cymorth cynhwysfawr a phroffesiynol i Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc (yn benodol y ffrwd waith wyddonol o'r enw ‘Ymyraethau ymhlith y Glasoed sydd â Risg Deuluol Uchel’), rhoi cymorth i hapdreial rheoledig y ffrwd waith (treial SWELL).

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Prif Ddyletswyddau
  • Ymgyfarwyddo â dulliau asesu ymchwil a’u defnyddio’n fedrus (byddwn yn cynnig hyfforddiant).
  • Recriwtio rhieni sydd â hanes o anhwylder iselhaol difrifol a'u plant sydd yn eu harddegau i gymryd rhan mewn hapdreial rheoledig sy'n ceisio atal     iselder ymhlith y glasoed.
  • Asesu’r sawl fydd yn cymryd rhan (rhieni a phobl ifanc) yn bennaf drwy fideogynadledda ond hefyd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn ôl yr angen.
  • Efallai y bydd rhai asesiadau yn cael eu cynnal y tu allan i oriau gwaith arferol (gyda’r nos yn ystod yr wythnos).
  • Deall a chyfleu gwybodaeth prosiect y gallai fod angen esboniad neu ddehongliad g    ofalus ar ei gyfer.
  • Mewnbynnu a storio data yn y cronfeydd data perthnasol.
  • Creu perthnasoedd cynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a chysylltiadau allanol) i helpu i wella lefel y gwasanaeth y mae'r     tîm yn ei ddarparu ar gyfer ei gwsmeriaid.
  • Sicrhau bod targedau recriwtio cyfranogwyr yn cael eu cyrraedd, cynnal cyfrinachedd a safonau proffesiynol a gweithio fel aelod effeithiol o’r tîm yn     gyffredinol.
  •  Cymryd rhan yn y cyfarfodydd tîm rheolaidd drwy gyflwyno diweddariadau ar gynnydd (gan gynnwys, er enghraifft, niferoedd a gaiff eu recriwtio,     problemau a wynebir) a chyfrannu syniadau at y strategaeth recriwtio.
  • Cydlynu â thimau clinigol y GIG i hwyluso’r gwaith o recriwtio cleifion i'r astudiaeth.
  • Cyflawni tasgau gweinyddol megis casglu data, cofnodi a chynnal cofnodion a data yn ôl yr angen ar gyfer rhedeg y prosiect yn hyderus, gyda     goruchwyliaeth.
  • Cefnogi a hyfforddi eraill yn nhîm y prosiect yng ngweithdrefnau'r prosiect yn ôl y gofyn.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch,     materion ariannol a pholisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel y bo’n briodol.
  • Gweithio'n hyblyg fel rhan o dîm i gyflawni amcanion yr astudiaeth, gan addasu i weithdrefnau newydd, ymgymryd â thasgau newydd sy'n gyson â'r rôl, a     hwyluso datblygiad yr astudiaeth.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n gyson â gofynion y rôl.

Dyletswyddau Cyffredinol
  • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd
  • Cadw at bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol 
  • Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol.

Uchafswm y Cyflog

31,236

Gradd

Gradd 4

Isafswm y Cyflog

28,031

Categori Swyddi

Academaidd- Ymchwil, Iechyd, Meddygol & Deintyddol

Gwybodaeth Ychwanegol

PWYSIG: Tystiolaeth o Feini Prawf

Polisi’r Ysgol Meddygaeth yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.

Gofalwch mai cyfeirnod y swydd wag yw enw’r ddogfen hon wrth ei chyflwyno / ei hatodi wrth broffil eich cais. Yn yr achos hwn, y cyfeirnod yw 20750BR.

Os na fydd ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos ei fod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, ni fyddwn yn ymdrin â’i gais. Mae'r Ysgol Meddygaeth yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â’r dystiolaeth o fodloni meini prawf y swydd.

Llwybr Gyrfa

Technegol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol
 
Cymwysterau ac Addysg
  1. Gradd (2.1 neu uwch) mewn Seicoleg neu bwnc cysylltiedig, a/neu brofiad cyfatebol.
  2. Hyfedredd ym maes TG, gan gynnwys profiad o ddefnyddio E-bost, y Rhyngrwyd, Microsoft Office, SPSS (cofnodi a dadansoddi data) 

    Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  3. Gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol o'r egwyddorion ynghlwm wrth asesu pobl yn seicolegol yn ogystal ag ymwybyddiaeth o'r prif wahaniaethau rhwng salwch meddwl ac ymddygiad dynol nodweddiadol
  4. Profiad o weithio mewn swydd neu faes gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wneud gwelliannau i’r rhain fel y bo'n briodol.

    Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
  5. Y gallu i weithio'n dda gyda'ch tîm ac i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol, yn sensitif ac yn broffesiynol i ystod o staff ac aelodau o'r cyhoedd gyda lefelau amrywiol o ddealltwriaeth. 

    Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  6. Gallu gweithio ar eich menter eich hun a heb oruchwyliaeth o fewn terfynau amser caeth, gan gynllunio, trefnu a gosod blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun, a dangos cywirdeb a llygad craff am fanyldeb bob amser, gan gynnig atebion ymarferol. 
  7. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau gan ddefnyddio mentergarwch a chreadigrwydd ac i nodi a chynnig atebion ymarferol i ddatrys problemau lle mae amrywiaeth o ddewisiadau posibl ar gael

    Meini Prawf Dymunol
  1. Profiad o recriwtio cleifion i astudiaethau ymchwil a gweinyddu cyfweliadau a/neu holiaduron seicolegol.
  2. Meddu ar drwydded yrru ddilys lawn 
  3. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  4. Dealltwriaeth dda o gyfrinachedd a diogelwch data. 
  5. Profiad o weithio ym maes addysg uwch 
Apply Now

Other home office and work from home jobs