Internal Applicants Only - Public Involvement Officer, DECIPHer at Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Onsite
- Professional
- Office in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Cynnwys y Cyhoedd, DECIPHer
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Swyddog Cynnwys y Cyhoedd i weithio yng Nghanolfan Ymchwil y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu mewn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) sydd wedi'i lleoli yn yr ysgol.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo canolfan DECIPHer i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar ei phrosesau llywodraethu a’i rhaglenni ymchwil. Bydd y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau allweddol yn cwmpasu tri phrif faes:
- Ymchwil a Chymorth i Ganolfannau – rhoi hyfforddiant ac arweiniad i wneud yn siŵr bod cynnwys y cyhoedd yn elfen sy’n cael ei hintegreiddio ar draws pob agwedd ar ymchwil, strategaeth ac arferion canolfan DECIPHer.
- Partneriaethau a Rhwydweithio – meithrin rhwydweithiau a pherthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i wneud yn siŵr bod cydweithio a chynnwys y cyhoedd yn cael effaith ar ymchwil DECIPHer.
- Cymorth ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd – dylunio, arwain, cynorthwyo a chyflwyno cynnwys y cyhoedd mewn prosiectau ymchwil yn DECIPHer.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio rhai nosweithiau a phenwythnosau a bod yn barod i deithio ledled Cymru, yn ogystal â theithio i fannau eraill yn y DU o bryd i’w gilydd.
Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31st Mawrth 2028 ac mae ar gael yn syth.
Cyflog: £33,951 - £36,636 Gradd 5 y flwyddyn ((gyda gynyddrannau blynyddol hyd at cyflog terfynol ar frig y raddfa. Fel arfer, mae apwyntiadau newydd yn cael eu gwneud ar ddechrau'r raddfa gyflog.
Yn gyfrifol am Zoe Macdonald, Rheolwr Gweinyddol DECIPHer
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Zoe, [email protected]
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi ddatblygu eich gyrfa.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 11 Medi 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Disgrifiad Swydd
Cynorthwyo Ymchwilwyr/y Ganolfan
- Cynorthwyo tîm arwain y ganolfan a bwrdd y bartneriaeth i integreiddio cynnwys y cyhoedd yn strwythurau llywodraethu ac arferion canolfan DECIPHer.
- Cynorthwyo ymchwilwyr y ganolfan i ymgymryd â gweithgareddau cynnwys y cyhoedd i ddatblygu grantiau ymchwil newydd, yn ogystal â gweithio gyda thîm arwain y ganolfan i flaenoriaethu'r grantiau hyn yn unol â strategaethau'r ganolfan.
- Rhoi cyngor, arweiniad a chymorth i ymchwilwyr y ganolfan ar gynnwys y cyhoedd wrth ysgrifennu ceisiadau grant. Gwneud yn siŵr bod cynlluniau'n bodloni Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd a'u bod wedi'u costio'n ddigonol mewn ceisiadau am grantiau allanol.
- Datblygu, cyflwyno a chyfeirio at hyfforddiant i ymchwilwyr a staff DECIPHer eraill ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil fel eu bod yn cymryd rhan mewn modd ystyrlon.
- Gweithio gyda'r cydlynydd ymchwil i gofnodi gweithgareddau cynnwys y cyhoedd a chynnal cofnodion ariannol at ddibenion adrodd gan gydymffurfio â gofynion GDPR ym mhob achos.
- Gweithio gyda'r cydlynydd ymchwil i gynnal cofnodion cywir o weithgareddau sy’n cynnwys cyfraniadau cyhoeddus yn DECIPHer a defnyddio'r data hwn i wneud yn siŵr bod cyfranwyr yn cael eu paru ag astudiaethau priodol heb gymryd gormod o’u hamser.
- Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo gwaith cynnwys y cyhoedd megis drafftio testun ar gyfer adroddiadau chwarterol i arianwyr, ysgrifennu blogiau, cylchlythyrau a gwerthuso effaith cynnwys y cyhoedd.
- Gweithio gyda swyddog cyfathrebu DECIPHer i gynorthwyo cydweithwyr i ledaenu gwaith DECIPHer o ran cynnwys y cyhoedd, gan gynnwys casglu, dangos a rhannu enghreifftiau o arferion gorau o’i gweithgareddau cynnwys y cyhoedd.
- Datblygu a chyflwyno canllawiau/hyfforddiant yn unol â pholisïau'r brifysgol, er mwyn gwneud yn siŵr bod staff DECIPHer yn deall cyfrifoldebau unigol o ran gweithdrefnau diogelu ar gyfer pob gweithgaredd sy'n cynnwys plant neu oedolion agored i niwed. Bydd hyn yn cynnwys cael cysyniad, cynnal asesiadau risg, gwiriadau DBS, polisi gweithwyr unigol, yswiriant a gweithdrefnau cyswllt brys.
- Cadw llygad ar enghreifftiau o arferion gorau a chanllawiau ym maes cynnwys y cyhoedd o lenyddiaeth ymchwil/gan gyrff ariannu allweddol, a’u rhannu.
- Meithrin cysylltiadau â sefydliadau trydydd sector, arianwyr a phartneriaid perthnasol eraill i helpu i nodi cyfranwyr cyhoeddus ar gyfer meysydd gwaith sy'n canolbwyntio ar grwpiau dan anfantais a phoblogaethau oedolion.
- Sefydlu perthnasoedd gwaith â swyddogion ac arweinwyr cynnwys y cyhoedd o ganolfannau ymchwil eraill (gan gynnwys y rhai ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol) a chydag ariannwr y ganolfan (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru), er mwyn nodi meysydd ar gyfer cydweithio, lleihau dyblygu a rhannu adnoddau.
- Recriwtio a meithrin perthnasoedd cefnogol gyda phanel o bobl ifanc/cyfranwyr cyhoeddus sy'n oedolion fel eu bod yn gallu cymryd rhan mewn ymchwil a phrosesau llywodraethu DECIPHer.
- Cynllunio a chyflwyno neu gyfeirio at weithgareddau cynyddu capasiti ar gyfer cyfranwyr cyhoeddus i’w helpu i gymryd rhan mewn ymchwil yn barhaus.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddiogelu, iechyd, diogelwch a lles cyfranwyr cyhoeddus, datrys problemau yn ystod digwyddiadau a gynhelir ar benwythnosau a min nos, gofyn am gyngor ac uwchraddio materion lle bo angen.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Dyletswyddau Cyffredinol
- Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Gwasanaeth Proffesiynol DECIPHer i gynorthwyo gwaith y ganolfan yn ôl yr angen.
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd sy’n briodol ac a fydd yn gwella perfformiad.
- Gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau.
- Dilyn polisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo'r Ganolfan yn ôl yr angen.
- Cyflawni dyletswyddau eraill i gynorthwyo’r busnes craidd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl.
Cafodd Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ei sefydlu gyda chyllid gan Gydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC) yn un o bump o Ganolfannau Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd rhwng 2009 - 2019 ar y cyd â Phrifysgol Bryste a Phrifysgol Abertawe. Yn 2020, fe ddaeth yn un o Ganolfannau Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymorth ariannol tan 2025. Mae DECIPHer bellach wedi derbyn cyllid cynaliadwy gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i barhau ei waith rhwng 2025-2030.
Mae cymorth ariannol parhaus yn sicrhau y gallwn ni barhau i roi:
- llwyfan ar gyfer iechyd y cyhoedd amlddisgyblaethol rhyngwladol sy’n arwain y byd ymchwil i wneud gwelliannau
- awyrgylch rhyngwladol sy’n arwain y byd ar gyfer datblygu gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd ymchwil i wneud gwelliannau
- man amlwg yng Nghymru i weithio ar y cyd rhwng y byd academaidd, polisi, ymarfer a'r cyhoedd mewn ymchwil gwella iechyd y cyhoedd i wneud y defnydd gorau o ymchwil, ac effaith.
Mae DECIPHER ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (sbarc | spark) ochr yn ochr â nifer fawr o ganolfannau ymchwil gwyddorau cymdeithasol eraill. Mae wedi’i leoli yn bennaf yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ac mae'n gweithio ar draws y Brifysgol, gyda rhai ymchwilwyr wedi'u lleoli yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol yn ganolfan rhagoriaeth mewn ymchwil ac addysgu ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys cymdeithaseg, astudiaethau polisi, troseddeg, addysg a gwaith cymdeithasol.
Mae rhagor o fanylion am weithgareddau’r Ysgol ar ein hafan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/social-sciences
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Gradd/NVQ4 mewn disgyblaeth berthnasol neu aelodaeth/profiad proffesiynol cyfatebol.
- Profiad sylweddol o weithio mewn rôl ymgysylltu, cyfranogol neu gynnwys y cyhoedd gan gynnwys gweithio gyda phobl ifanc a/neu oedolion agored i niwed.
- Dealltwriaeth broffesiynol amlwg o'r llenyddiaeth gyfredol ar Gynnwys, Ymgysylltiad a Chyfranogiad y Cyhoedd a'r Gymuned (PCIEP) er mwyn rhoi cyngor, arweiniad a hyfforddiant.
- Tystiolaeth o’r gallu i sefydlu systemau, prosesau a gweithdrefnau swyddfa safonol, yn ogystal â’u hadolygu'n rhagweithiol, eu haddasu a’u gwella, yn unol â chynlluniau strategol.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn effeithiol ac yn broffesiynol ag ystod eang o bobl, gan addasu yn ôl yr angen.
- Tystiolaeth o allu mynd ati yn rhagweithiol i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon.
- Y gallu i ddatblygu perthnasoedd â sefydliadau allanol, unigolion perthnasol eraill a staff y ganolfan i gynorthwyo a hyrwyddo gwaith y Ganolfan ym maes cynnwys y cyhoedd.
- Tystiolaeth o'r gallu i recriwtio a chynorthwyo’r cyhoedd i gymryd rhan yn ogystal â’u cynnwys yn y broses o ddatblygu prosiectau a’u cyflwyno.
- Tystiolaeth o ragoriaeth ym meysydd cyflwyno, gweinyddu a threfnu prosiectau heb oruchwyliaeth i reoli eich amser yn effeithiol ar draws llu o ofynion, cynllunio a gosod blaenoriaethau, bodloni terfynau amser, gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm.
- Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau sylweddol drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; canfod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau drwy gynnig ystod o ganlyniadau posibl
- Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol
- Dealltwriaeth dda o ymchwil gwyddorau cymdeithasol neu iechyd, a dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth amlwg o faterion cyfoes a datblygiadau allweddol wrth wella iechyd y cyhoedd a lleihau anghydraddoldebau.
- Tystiolaeth o gynghori, datblygu a chynllunio gweithgareddau cynnwys y cyhoedd yn rhan o geisiadau am grantiau a dyfarniadau.
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad pellach
- Profiad o weithio ym myd addysg uwch
- Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.
Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.
Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: XXXXBR.
Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei ddatblygu os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.