Teaching Associate in Biogeochemistry at Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Onsite
- Professional
- Office in Cardiff
Hysbyseb
Mae Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ganolfan amlddisgyblaethol ddeinamig a llwyddiannus sy’n canolbwyntio ar ymchwil a dysgu yn nisgyblaethau daearyddiaeth a gwyddorau’r ddaear.
Gwahoddir ceisiadau am swydd tymor penodol Cydymaith Addysgu mewn Biogeocemeg i gyflenwi yn ystod absenoldeb ymchwil aelod o staff. Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu ar lefel MSc ac israddedig. Byddwch yn cyfrannu at y modiwlau Deall y Blaned Fyw, a Biogeocemeg a Gwyddor Ecosystemau. Rydym yn annog ymgeiswyr a all addysgu ac ysbrydoli dysgu sy'n cwmpasu prosesau cemegol sylfaenol, cylchoedd geocemegol a microbioleg. Yn ogystal, byddai disgwyl i chi gyfrannu at gyrsiau maes preswyl, teithiau diwrnod maes lleol, seminarau, gwaith tîm a goruchwylio gwaith prosiect ym maes biogeocemeg.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, ac mae ar gael o 1 Rhagfyr 2025 ac am dymor penodol o 6 mis.
Cyflog: £33,482 i £36,130 y flwyddyn (Gradd 5)
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â’r Athro Andrew C Kerr, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Ebost:[email protected]
I gael rhagor o fanylion am weithio ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â Claudia Peña drwy ebostio: [email protected]
Gwybodaeth am Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd: Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd - Prifysgol Caerdydd
Nodiadau Pwysig:
Dim ond trwy'r system ar-lein y derbynnir ceisiadau.
Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo hynny’n berthnasol. Yn rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol. Gofalwch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei rhoi’n cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi'u rhifo. Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth a roddwch o dan bob elfen.
Wrth atodi’r datganiad ategol i’ch cais, sicrhewch mai cyfeirnod y swydd wag yw enw’r ddogfen.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 18 Medi 2025
Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael y cydbwysedd rhwng byd y gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Prif Ddyletswyddau
- Cyflwyno addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn y maes. Mae hyn yn cynnwys paratoi deunydd addysgu, cyfleu’r pwnc ac annog deialog feirniadol i ddatblygu sgiliau meddwl yn rhesymegol; arsylwi ac ymateb i ymyriadau myfyrwyr; ateb cwestiynau y tu allan i amser dosbarth; ac ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl wrth gyflwyno'r cwrs.
- Cynnal asesiadau a bennwyd ymlaen llaw ar gyfer cyrsiau, gan gynnwys marcio a rhoi adborth ysgrifenedig/ar lafar; a chasglu a darparu asesiadau terfynol y myfyrwyr.
- Goruchwylio myfyrwyr prosiect israddedig ac, o bosibl, myfyrwyr MA.
- Cymryd rhan flaenllaw fel aelod o dîm addysgu.
- Gwerthuso cyrsiau, gan gynnwys hwyluso adborth gan fyfyrwyr; pwyso a mesur eich dulliau addysgu eich hun; a rhoi syniadau ar waith i wella eich perfformiad.
- Cyflawni dyletswyddau gweinyddol, megis cadw cofnod o bresenoldeb, mynd i gyfarfodydd a llunio adroddiadau.
- Ymgymryd â gwaith addysgu a’r gwaith gweinyddol yn ôl yr hyn sy’n cael ei ddyrannu gan Bennaeth yr Ysgol a phwyllgorau amrywiol. Mae'r gwaith hwn yn rhan o raglen glir a chadarn, a cheir cymorth a chefnogaeth.
- Cynllunio a blaenoriaethu eich gwaith dyddiol eich hun a blaengynllunio ar gyfer peth addysgu.
- Ymateb i’r ceisiadau sy’n codi yn ôl y galw, megis y rheini sy'n ymwneud ag addysgu, goruchwylio myfyrwyr a thasgau gweinyddol.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd heb eu henwi, ond sy’n cyd-fynd â’r rôl.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd gyntaf dda mewn disgyblaeth berthnasol, ynghyd â PhD neu brofiad cymhwysol/proffesiynol cyfatebol mewn maes perthnasol.
- Y gallu diamheuol i addysgu, yn ddelfrydol drwy feddu ar gymhwyster addysgu
- Arbenigedd cadarn a gallu i addysgu hyd at lefel gradd yn y meysydd canlynol:
- Microbioleg amgylcheddol
- Biogeocemeg
- Sgiliau rhyngbersonol effeithiol i gydgysylltu â myfyrwyr a staff.
- Sgiliau cyfathrebu diamheuol ar lafar ac yn ysgrifenedig,
- Tystiolaeth o fod â gwybodaeth amlwg ynghylch datblygiadau allweddol yn y ddisgyblaeth arbenigol
- Tystiolaeth o allu i weithio heb oruchwyliaeth, gan gadw at derfynau amser, a chynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun
- Gallu cynnig cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a bod yn diwtor personol iddynt
- Profiad yn y maes a'r gallu i addysgu ar deithiau maes diwrnod a phreswyl israddedig
- Bod yn gyfarwydd ag offer ystadegol, biogeocemegol ac ecolegol ar gyfer prosesu a dehongli data arbrofol