Platzhalter Bild

Hybrid Contracts Officer at Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid

£40,497.00  -  £45,413.00

Apply Now

Hysbyseb

Swyddog Contractau

Cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd trwy weithio mewn partneriaeth â’i chymuned academaidd i ymgysylltu ag arianwyr, noddwyr a chydweithredwyr ymchwil. Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth ym maes contractau drwy ddrafftio, adolygu, negodi a chwblhau ystod o gontractau ymchwil a chysylltiedig ag ymchwil. Gall contractau o’r fath gynnwyscytundebau ariannu, cytundebau cydweithio, cytundebau consortiwm, cytundebau fframwaith, cytundebau treialon clinigol, cytundebau efrydiaeth, cytundebau rhannu/prosesu data (y DU a rhyngwladol), cytundebau trosglwyddo deunydd a chytundebau 'dim datgelu'.

Bydd y rôl yn cynnwys adnabod, asesu a datrys materion contractiol sy'n ymwneud â chynnal ymchwil a chodi meysydd sy’n peri risg gydag uwch-reolwyr a rhanddeiliaid.

Wrth gynnig cymorth gyda chontractau ymchwil, bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod buddiannau a gofynion y Brifysgol a'i hymchwilwyr yn cael eu cydnabod a'u diogelu'n briodol, a bydd yn hwyluso’r gwaith o sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol.

Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn gyfnodol tan 20fed Mai 2026.

Cyflog: £40,497 - £45,413 y flwyddyn (Gradd 6)

Dyddiad hysbysebu: 18 Awst 2025

Dyddiad cau: 1 Medi 2025


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau

•    Adolygu, drafftio, negodi a chwblhau contractau ymchwil a chontractau sy'n ymwneud ag ymchwil gydag ystod eang o sefydliadau allanol; sicrhau bod buddiannau'r Brifysgol a'i hymchwilwyr yn cael eu diogelu drwy gytuno ar delerau sy'n hyrwyddo buddiannau ymchwil, elusennol ac academaidd y Brifysgol ac yn bodloni ei chyfrifoldebau rheoleiddio (mewnol ac allanol). 

•    Cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol ar y contractau sydd eu hangen i hybu perfformiad prosiectau ymchwil Prifysgol Caerdydd ac ar gynnwys y contractau hynny a’r gwaith o’u gweithredu.

•    Adolygu a dadansoddi ceisiadau am gontractau newydd, ac asesu risgiau sy’n ymwneud â nhw, i adnabod y camau angenrheidiol y mae gofyn eu cymryd ac i alluogi dilyniant effeithiol. Gall hyn gynnwys dewis a defnyddio templedi o gytundebau yn briodol neu gyfeirio materion mwy cymhleth at gydweithwyr uwch neu arbenigwyr eraill yn y gwasanaethau proffesiynol i gael cymorth.

•    Blaenoriaethu llwyth gwaith yn annibynnol, rheoli amser a defnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol i ddatblygu portffolio gwaith unigol a fydd yn amrywiol ac yn seiliedig ar derfynau amser. 

•    Sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith a chyfathrebu effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol, cydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol a chyda thrydydd partïon allanol er mwyn galluogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth contractau ymchwil proffesiynol.

•    Sicrhau bod contractau ymchwil yn cael eu drafftio'n bragmataidd i hwyluso cysylltiadau da rhwng cymuned academaidd y Brifysgol ac arianwyr/cydweithwyr ymchwil, wrth asesu, rheoli a lliniaru risgiau cynhenid.

•    Datblygu a darparu hyfforddiant a/neu arweiniad ar faterion contractiol sy'n berthnasol i gontractau ymchwil.

•    Datblygu neu gynorthwyo i ddatblygu contractau a chymalau enghreifftiol ar gyfer contractau ymchwil ac ymchwil. 

•    Cadw a chynnal cofnodion gweinyddol yn dda, ac ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol yn ôl yr angen er mwyn gallu rheoli contractau ymchwil yn effeithiol.

•    Sefydlu a chynnal dealltwriaeth dda o ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n berthnasol i ymchwil, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â diogelu data, meinweoedd dynol, Rheoli Cymorthdaliadau y DU, hawlfraint a thrwyddedu, Ymchwil Ddibynadwy, allforio a diogelwch, polisïau a gweithdrefnau ariannol a gweithdrefnau eraill y Brifysgol.

•    Cyfrannu at ddiwylliant o welliant parhaus, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu arferion gorau a phrosesau effeithlon i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau’n effeithiol.

Dyletswyddau Cyffredinol

•    Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau

•    Dilyn polisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

•    Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd
 

Uchafswm y Cyflog

45,413

Gradd

Gradd 6

Isafswm y Cyflog

40,497

Categori Swyddi

Gweinyddol / Clerigol

Gwybodaeth Ychwanegol

Y Gwasanaeth Ymchwil

Mae Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Roedd ein hymchwil sy'n arwain y byd yn y 5ed safle am ansawdd ymhlith prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 ac rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol i'n 30,000 o fyfyrwyr. Gyda chyllideb flynyddol o dros £500 miliwn a thua 6,000 o staff, mae Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell o'r 24 prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw yn y DU. Mae gan y Brifysgol 24 o ysgolion academaidd wedi'u grwpio'n dri choleg: Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Uchelgais y Brifysgol yw graddio'n gyson ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd. Mae Caerdydd hefyd yn datblygu ei System Arloesi drwy raglen fuddsoddi â ffocws mewn pobl a seilwaith.  Mae cyllid ymchwil a sicrhawyd o ffynonellau cystadleuol, allanol yn fwy na £100 miliwn y flwyddyn ac mae'r Brifysgol yn anelu at dyfu hyn ymhellach trwy ennill grantiau o ystod eang o ffynonellau cenedlaethol a byd-eang.

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cefnogi cymuned ymchwil y Brifysgol i gychwyn a chyflwyno gweithgareddau ymchwil ac arloesi. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, Vanessa Cuthill, rydym yn darparu gwasanaethau trwy dros 100 o staff arbenigol wedi'u trefnu mewn pum tîm arbenigol: Y Swyddfa Grantiau Ymchwil; Uniondeb Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg; Datblygu Ymchwil; Masnacheiddio Ymchwil ac Effaith; Strategaeth Ymchwil a Gweithrediadau ac Ymgysylltu a Phartneriaethau Busnes. Mae'r Adran yn gweithio'n agos gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o bob rhan o'r sefydliad.

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol 

Cymwysterau ac Addysg


1.    Cymhwyster gradd yn y gyfraith neu gymhwyster cyfreithiol perthnasol arall e.e. CPE, SQE, LPC, CILEX, BVC, GDL neu gymhwyster cyfwerth.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

2.    Dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion cyfraith contract a thelerau ac egwyddorion allweddol sy’n ymwneud a chontractau (e.e. perfformiad, cyfrinachedd, gwarantau, atebolrwydd ac indemniad, cyfraith lywodraethol ac awdurdodaeth) gyda thystiolaeth.

3.    Profiad perthnasol o gynghori cwsmeriaid mewnol ac allanol ar faterion masnachol contractiol a/neu eiddo deallusol, a gallu arddangos a chyfleu gwybodaeth broffesiynol yn glir yn y ddisgyblaeth arbenigol hon. 

4.    Gallu digamsyniol i ddrafftio, negodi a chynghori ar ystod o gontractau, gan gynnwys templedi a chynseiliau, a chytundebau pwrpasol mwy cymhleth, a hynny mewn modd cymwys ac annibynnol.

5.    Sgiliau trefnu rhagorol i reoli llwyth gwaith trwm ac amrywiol, gyda'r gallu digamsyniol i reoli eich gwaith eich hun, blaenoriaethu'n annibynnol a chwrdd â dyddiadau cau.

6.    Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys pecynnau Microsoft ac Adobe, a’r gallu i ddefnyddio meddalwedd gwahanol.

Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm

7.    Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a sgiliau cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda chryfder wrth gyfathrebu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn glir, yn gryno ac mewn modd proffesiynol i ystod eang o bobl gan gynnwys arbenigwyr nad ydynt yn gweithio ym myd y gyfraith.

8.    Gallu digamsyniol i archwilio ac asesu anghenion cleientiaid ac ymateb yn briodol ac yn fuddiol i gefnogi gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau

9.    Tystiolaeth o allu datrys problemau eang drwy ddefnyddio menter a bod yn greadigol i ganfod a chynnig atebion ymarferol a phriodol.

10.    Brwdfrydedd dros ddatblygiad proffesiynol parhaus a dysgu hunangyfeiriedig a thystiolaeth o'r gallu i drosi gwybodaeth ddamcaniaethol yn ymarfer gwaith o ddydd i ddydd.

Meini Prawf Dymunol 

1.    Dealltwriaeth dda o rai neu bob un o’r canlynol: cyfraith ac arfer eiddo deallusol, cyfreithiau diogelu data/preifatrwydd, cyfreithiau rheoli allforion y DU, cyfreithiau Rheoli Cymhorthdal y DU

2.    Profiad gyda chontractau masnachol a / neu ymchwil.

3.    Profiad o weithio mewn prifysgol neu sefydliad/amgylchedd ymchwil arall.

4.    Profiad yn rheoli prosiectau neu brofiad o ddarparu cymorth ar gontractau ar gyfer prosiectau mawr a/neu gymhleth. 

5.    Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
 
Apply Now

Other home office and work from home jobs