Hybrid Internal Applicants Only - Senior Project Manager at Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid
- Professional
- Office in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Uwch-reolwr Prosiect
Diben Prifysgol Caerdydd yw creu a rhannu gwybodaeth, ac addysgu er budd pawb. Ein gweledigaeth yw bod yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd, yn rhagorol o ran ymchwil ac addysg ac yn cael ein gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd. Yn cyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, y DU a'r byd.
Mae'r Brifysgol yn cychwyn ar raglen drawsnewid sylweddol er mwyn cyflawni Strategaeth y Brifysgol. Rydyn ni’n awyddus i Uwch-reolwr Prosiect ymuno â'n tîm, a hynny er mwyn cefnogi prosiectau trawsnewid amrywiol yn y Brifysgol.
Deiliadaeth: Llawn amser ac tymor penodol tan 31 fis Gorfennaf 2026.
Cyflog: £51,039 - £55,755 y flwyddyn (Gradd 7)
Dyddiad cau: 1 Medi 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu, monitro, rheoli a chwblhau prosiect neu gyfres o brosiectau yn llwyddiannus, i gefnogi strategaethau ac amcanion busnes penodol.
Mae'r penodiad penodol hwn wedi codi i gefnogi'r gwaith o gyflawni gwahanol brosiectau trawsnewid yn y brifysgol.
Gall yr aseiniad amrywio wrth i amser fynd rhagddo,ac efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd gyflwyno prosiectau eraill os oes angen.
Bydd disgwyl i Reolwr y Prosiect ysgwyddo cyfrifoldeb dros gyflwr y prosiect a gwneud yn siŵr bod y cynnydd oran cyflawni'r canlyniadau disgwyliedig yn cael ei reoli a'i fonitro, a body prosiect yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus yn y pendraw.
I allu gwneud hyn, bydd disgwyl i chi:
Ddiffinio cwmpas ac amcanion y prosiect a beth fydd yn cael ei gyflawni
Arwain y broseso gynllunio'r prosiect, ei roi ar waith, a’i gefnogi’n ymarferol.
Pennu, monitro, ac adolygu costau'r prosiect, fainto staff fydd eu hangen,y ffactorau sy'n dibynnu ar ei gilydd a risgiau'r prosiect
Monitro cynnydd y prosiect ac adrodd yn ôl i'r holl randdeiliaid pwysig
Gally rôl hefyd gynnwys rheoli llinell ac arwain staff ym maes deiliad y rôl.
Bydd rhaid i ddeiliad y swydd:
Baratoi'r dogfennau priodol ar gyfer cymeradwyo a dechrau'r prosiect a gwneud yn siŵr bod cwmpas, amcanion, manteision, adnoddau gofynnol ac amserlenni'r prosiect wedi'u diffinio'n glir abod modd eu cyflawni.
Llunio cynlluniau prosiect manwl drwy gydweithio â thîm cyflawni'r prosiect, rhanddeiliaid, grŵp llywio'r prosiect a rheolwr y rhaglen (lle bo'n briodol),o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.
Gwneud yn siŵr bod cynlluniau’r prosiect yn cael eu diweddaru, a’u bod yn adlewyrchu cynnydd y cynlluniau'n gywir. Rheoli'r gwaith o ychwanegu tasgau newydd drwy ddefnyddio prosesau priodol ar gyfer rheoli newid, gan wneud yn siŵr bod cynllunia u yn rhagweld datblygiadau'r dyfodol lle bo hynny'n bosibl.
Arwain ar gyflawni cynlluniau’r prosiect a gwneud yn siŵr bod amcanion yn cael eu gwireddu a chanlyniadau'n cael eu cyflawni'n brydlon yn unol â safonau y cytunwyd arnynt ac o fewn y gyllideb.
Pennu, cynllunio ac adolygu adnoddau’r prosiect yn rheolaidd, gan gynnwys adnoddau ariannol astaff,a chymryd camau pan mae llai o adnoddau na’r hyn y cytunwyd arnynt.
Monitro a llunio adroddiadau am gynnydd cyffredinol a mynd ati i gymryd camau cywiro, lle bo’n briodol, i wneud yn siŵr bod amcanion y prosiect yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
Rheoli disgwyliadau, methiannau a blaenoriaethau,a mynd ati i gynnal gweithgareddau ychwanegol os daw bylchau yn y prosiect i’r amlwg.
Rheoli’r broseso roi camau ar waith i liniaru ac osgoi risg,a rheoli camau a gymerir i ddatrys unrhyw anawsterau sy’n effeithio ar gyflawni’r prosiect.
Gwneud penderfyniadau, o fewn ffiniau priodol,ac amlygu’r ffiniau hynny lle bo angen; annog aelodau o dîm y prosiect i gymryd cyfrifoldeb yn yr un modd.
Tynnu sylw’r uwch-reolwyr at broblemau technolegol, sefydliadol neu gysylltiadol a allai effeithio ar gyflawni’r terfynau amser a chanlyniadau y cytunwyd arnynt nad oes modd i dîm y prosiect eu datrys o fewn eu cylch gorchwyl neu gyda’r adnoddau sydd ganddynt
Gwneud yn siŵr bod tasgau gweinyddol yn cael eu cyflawni ar gyfer y prosiect, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd grŵp llywio’r prosiect.
Pennu strategaeth cyfathrebu ar gyfer y prosiect drwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol..
Cynllunio profion priodol o fewn y prosiect i wneud yn siŵr bod yr holl weithgareddau’n cael eu cwblhau er mwyn paratoi ar gyfer pob cam unigol yn y prosiect.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwneud yn siŵr eich bod yn cydlynu’n effeithiol â thimau eraill, datrys gwrthdaro a rhoi cefnogaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau fel y bo'n briodol.
Gwneud yn siŵr bod adnoddau’n cael eu defnyddio'n effeithiol a chael y perfformiad gorau drwy egluro nodau, pennu amcanion a monitro cynnydd.
Arwain a threfnu’r prosiect yn effeithiol a rheoli a chydlynu gwaith tîm y prosiect er mwyn cyflawni amcanion penodol y prosiect.
Ysgwyddo cyfrifoldeb personol dros reoli cyfathrebu rhwng tîm y prosiect a rhanddeiliaid er mwyn rheoli terfynau amser, camau, newidiadau i’r prosiect a chynnydd, a rhoi’r newyddion diweddaraf i uwch-reolwyr yn ôl yr angen.
Paratoi adroddiadau’r prosiect i’w hadolygu gan Fwrdd y Rhaglen, diffinio cynnydd y prosiect, problemau ac atebion.
Hwyluso newid er gwell drwy weithio mewn partneriaeth â chwsmeriaid y Gwasanaethau Gwybodaeth (cyfarwyddiaethau ac ysgolion) a’r rhai sy’n gyfrifol am elfennau technolegol (e.e. perchnogion systemau, cynllunwyr mentrau, dadansoddwyr busnes, rheolwyr prosiect eraill a gweithwyr proffesiynol sy’n rhoi gwasanaethau i gwsmeriaid).
Rheoli’r broseso bontio rhwng cynnal y prosiect a’i gefnogi’n ymarferol.
Gwneud yn siŵr bod prosiectau’n dod i ben yn ffurfiol, yn cael eu hadolygu wedi hynny, a body gwersi a ddysgir yn cael eu cofnodi.
Datblygu a chynnal dogfennau priodol ar gyfer y prosiect fel y'i diffinnir gan y Swyddfa Rheoli Rhaglenni a/neu’r Uwch-berchennog Cyfrifol.
Rhoi cyngor ac arweiniad i reolwyr prosiect llai profiadol neu iau fel y bo’n briodol.
Unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n ofynnol gan Gyfarwyddwr y Broses Drawsnewid, neu unrhyw un arall o uwch-dîm rheoli'r Brifysgol nad ydyn nhw wedi'u cynnwys uchod, ond sy’n cyd-fynd â'r rôl.
Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoliadol oran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, polisïau, gweithdrefnau a chodau ariannol ac eraill y Brifysgol, fel sy’n briodol.
Cymryd gofal rhesymol dros eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phobl eraill a allai gael eu heffeithio gan yr hyn a wnewch neu ei hepgor yn y gwaith, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith1974, cyfarwyddebau'r CEa Pholisïau a Gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y Brifysgol, yn ogystal â chydymffurfi o â'r Brifysgol parthed unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol a osodir arni fel y cyflogwr.
Efallai y gofynnir i chi hefyd gyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl.
Bydd y cyfrifoldebau canlynol hefyd yn berthnasol pan mae angen rheoli ac arwain staff:
Bod yn bennaf gyfrifol am ddatblygiad, gofal bugeiliol a lles y staff sy’n cael eu rheoli gan ddeiliad y swydd. Bydd hyn yn cynnwys pennu amcanion, gwerthuso, adolygu perfformiad a hyfforddiant. Bod yn fan cyfeirio ar gyfer materion lles gan gynnwys ymdrin â materion lle nad oes gweithdrefnau neu ganllawiau penodol wedi’u pennu.
Gwneud yn siŵr bod y staff y mae deiliad y swydd yn gyfrifol amdanynt yn gweithredu o fewn asesiadau risg priodol a gweithdrefnau gweithredu ac yn cydymffurfio â holl weithdrefnau a pholisïau’r Brifysgol.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Meini Prawf Hanfodol
1. Gallu diamheuol i reoli prosiectau bobcam o’r ffordd, o’i ddechrau hyd at ei weithredu’n llwyddiannus.Mae hyn yn cynnwys rheoli cyllidebau, adnoddau ac amserlenni, yn ogystal â rhannu a gwerthuso canlyniadau'r prosiect.
2. Gallu meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid ar bob lefel abod yn bwyllog wrth gydbwyso a datrys tensiynau wrth weithio gydag ystod eang o gysylltiadau (mewnol ac allanol ar lefel uwch).
3 Gallu diamheuol i gyfathrebu ar bob lefel gyda chynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol, yn ogystal â symleiddio materion a chysyniadau cymhleth ar ffurf cyflwyniadau a dogfennau ysgrifenedig clir.
4 Gallu diamheuol i lywio datblygiadau drwy gymryd rhan mewn timau prosiect a’u harwain.
Cymwysterau (TG/Academaidd/Galwedigaethol)
5. Gradd ôl-raddedig neu brofiad cyfatebol / cymwysterau proffesiynol / cymhwyster rheoli prosiect (e.e. Prince2)
Profiad
6. Profiad o greu a rheoli cynlluniau ar gyfer prosiectau academaidd cymhleth, gan gynnwys cyllidebau ac adnoddau, blaenoriaethu a threfnu tasgau sy'n gwrthdaro er mwyn cyflawni allbynnau o fewn amserlenni tynn, rheoli risgiau a phroblemau,a rheoli newidiadau.
7 Profiad o ddod ag arbenigwyr academaidd a thimau rhaglenni busnes/prosiect ynghyd i hyrwyddo cysylltiadau gwaith effeithiol a gwneud yn siŵr bod pawb yn gweithio tuag at gyflawni’r un nod.
Meini Prawf Dymunol
8 Cymhwysedd cryf mewn defnyddio cyfrifiaduron bwrdd gwaith a rhaglenni meddalwedd TG cyffredin (yn arbennig Microsoft Office).
9 Cymhwyster rheoli ITIL, neu gymhwyster tebyg
10 Siarad Cymraeg