Platzhalter Bild

Hybrid Internal Applicants Only - Library Operations Manager at Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid

£33,482.00  -  £36,130.00

Apply Now

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Rheolwr Gweithrediadau Llyfrgell


Mae rôl Rheolwr Gweithrediadau'r Llyfrgell yn darparu rheolaeth weithredol o Lyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol i fyfyrwyr ym Mharc Cathays, gan sicrhau bod gwasanaethau rhagorol yn cael eu darparu ar y safle ac o bell.

Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys lleoli, ymsefydlu a hyfforddi staff, dyrannu llwyth gwaith, a gofal bugeiliol. Byddwch yn rheoli'r amgylchedd astudio, gan gynnwys darpariaeth TG, rheoli cylchrediad stoc, y ddesg ymholiadau corfforol a helpu gyda gwasanaethau ymholiadau o bell megis ein gwasanaeth Sgwrsio â Llyfrgelloedd.

Mae'r swydd ar gyfer unigolyn rhagweithiol, trefnus iawn, sy'n gallu cydbwyso blaenoriaethau lluosog. Mae'r gallu i ddatrys problemau a meithrin perthnasoedd â phartneriaid allweddol yn hanfodol. 

Bydd deiliad y rôl yn rheoli nifer o staff felly bydd angen y gallu i gefnogi, cymell a datblygu eraill. 

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon.

Patrwm gweithio:
Dydd Llun i ddydd Gwener – 7 awr y dydd

Cyflog: £33,482 – £36,130 y flwyddyn (Gradd 5)

Byddwch chi yn rhan o dîm sy’n sicrhau bod gwasanaethau llyfrgell yn: 
  • cael eu cynnig mewn modd cyfeillgar sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf, yn unol ag addewid y llyfrgell;
  • ymateb i anghenion newidiol staff a myfyrwyr y Brifysgol ynghyd â rhai Ymddiriedolaeth briodol y GIG;
  • cefnogi rhaglenni addysgu, dysgu ac ymchwil y Brifysgol;
  • cefnogi strategaeth 'Y Ffordd Ymlaen' y Brifysgol (www.caerdydd.ac.uk/cy/thewayforward).
Byddech chi yn glynu wrth werthoedd ac ymddygiadau Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol. (Gweler gwybodaeth ychwanegol.)

Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi gymryd camau ymlaen yn eich gyrfa.

Rydym am gyflogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd, cred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran yr unigolion. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dod o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Dyddiad cau: Dydd Iau, 28 Awst 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif ddyletswyddau:
  • Rheoli gweithrediadau'r safle llyfrgell, gan gynllunio, trefnu a dirprwyo gwaith, monitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen;
  • rheoli perfformiad, cyfnod ymsefydlu a datblygiad y tîm;
  • cefnogi ac arwain aelodau'r tîm o ran materion lles, gan gynyddu'r gefnogaeth yn ôl yr angen i feysydd cefnogaeth arbenigol;
  • gwneud yn siŵr bod gwasanaeth llyfrgell effeithiol yn cael ei gyflwyno ar y safle, gan addasu i newidiadau a gofynion cwsmeriaid;
  • cydweithio â phobl eraill i wneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sydd eisoes ar waith;
  • hyfforddi pobl eraill mewn meysydd sy'n ymwneud â gwaith y tîm;
  • datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas fydd yn gwella perfformiad;
  • meithrin perthynas waith gyda chysylltiadau pwysig i helpu i wella'r gwasanaeth, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas gydag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol lle bo angen;
  • casglu a dadansoddi data i lywio penderfyniadau'r tîm rheoli, gan adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a chreu adroddiadau fel y bo'n briodol
  • datrys ymholiadau defnyddwyr a gyfeirir gan staff y llyfrgell;
  • ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran;
  • rheoli sut y darperir gwasanaeth TG effeithiol mewn llyfrgelloedd, gan gynnwys goruchwylio, cynnal a chadw a chydweithio â’r staff technegol priodol;
  • arwain prosiectau arbennig a gweithgorau yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol neu gymryd rhan ynddynt;
  • cynrychioli Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol ar bwyllgorau perthnasol gan gynnwys paneli myfyrwyr/staff;
  • helpu defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau electronig, e.e. e-lyfrau, cyfnodolion electronig a chronfeydd data;
  • helpu i esbonio wrth ddefnyddwyr y llyfrgell sut mae defnyddio adnoddau a/neu gynorthwyo mewn gweithdai llythrennedd gwybodaeth;
  • cynorthwyo gyda rheoli a dyblygu casgliadau;
  • cefnogi defnyddwyr trwy’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein;
  • rheoli cyllidebau priodol;
  • gwneud cyflwyniadau i gydweithwyr a chymheiriaid pan fo angen;
  • recriwtio a dethol staff y gwasanaeth llyfrgell.
Bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu rhoi.

Dyletswyddau Cyffredinol
  • Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
  • Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiad y Gwasanaethau Proffesiynol a'r hyn sy'n cyfateb iddynt yn lleol (pan fo hynny’n berthnasol).
  • Mynd ati i gyfrannu at wasanaeth cwsmeriaid rhagorol/ardderchog yn unol ag Addewid Gofal i Gwsmeriaid Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol a’r Wobr Rhagoriaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
  • Glynu wrth bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol.
  • Sicrhau y cedwir at Reoliadau Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill yn achlysurol sydd ddim wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn mwy nag un llyfrgell yn ystod eich cyflogaeth.
 

Uchafswm y Cyflog

36,130

Gradd

Gradd 5

Isafswm y Cyflog

33,482

Categori Swyddi

Rheolaethol a Gweithredol, Gwasanaethau Llyfrgelloed

Gwybodaeth Ychwanegol

Ein gwerthoedd
Mae pob un o’n gwerthoedd yn diffinio’r ymddygiad a ddisgwylir gan ein staff a’n rheolwyr llinell:

Cydweithio
  • Rwy’n ymwybodol o fy ymddygiad fy hun a sut mae'n effeithio ar bobl eraill
  • Rwy’n gweithio gyda phobl eraill ac yn rhannu gwybodaeth berthnasol er mwyn cyflawni amcanion
  • Rwy’n ystyried y manteision ehangach i’n cwsmeriaid
  • Rwy’n rhannu problemau ac yn chwilio am atebion sy’n gweithio i bawb
Cysondeb a rhagoriaeth
  • Rwy’n rhoi gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid allanol a mewnol
  • Rwy’n awgrymu meysydd i’w gwella lle gallai prosesau fod yn well
  • Nid ydw i’n gweithredu heb ystyried anghenion fy nghydweithwyr a’r cwsmeriaid
  • Nid ydw i’n osgoi tasgau anodd fyddai’n rhoi’r gwerth gorau i’m cwsmeriaid
Dysgu
  • Rwy’n dangos ymrwymiad i’m datblygiad fy hun, gan gynnwys technoleg newydd
  • Rwy’n cydnabod camgymeriadau, yn chwilio am atebion ac yn dysgu o’r broses honno
  • Rwy’n gweithio’n greadigol i ddadansoddi problemau a datblygu atebion arloesol ac ymarferol
Effeithlonrwydd
  • Rwy’n cynllunio fy llwyth gwaith i wneud yn siŵr bod gweithgareddau ystyrlon yn cael eu blaenoriaethu
  • Rwy’n defnyddio’r adnoddau sydd ar gael, gan gynnwys pobl, gwybodaeth, data, technoleg, rhwydweithiau a chyllidebau mewn modd effeithiol
  • Rwy’n gweld cyfleoedd mewn newidiadau, ac rwy’n agored i syniadau newydd
Cynhwysiant
  • Rwy’n parchu safbwyntiau a barn pobl eraill
  • Rwy’n dangos ymrwymiad i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau
  • Rwy’n cefnogi cydweithwyr ac yn ystyried ac yn addasu fy agwedd
  • Rwy’n cynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd ac yn cefnogi pobl eraill i wneud yr un peth
  • Nid ydw i’n amharchu barn pobl eraill nac yn eu hanwybyddu
  • Nid ydw i’n methu ystyried effeithiau fy iaith a’m hymddygiad ar bobl eraill bob amser
  • Nid ydw i’n anwybyddu gwerth prifysgol amrywiol
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol yn un o naw o adrannau o fewn Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Caerdydd.

Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol yn rhan o Adran Gwasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr y Brifysgol.

Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol yn cynnwys nifer o lyfrgelloedd ledled Prifysgol Caerdydd, gan ddarparu mynediad i 1.1 miliwn o lyfrau printiedig, mynediad i fwy nag 1.5 miliwn o lyfrau, cyfnodolion ac adnoddau ar-lein, ac ystod eang o lyfrau ac archifau prin a hanesyddol.Mae pob llyfrgell yn cydweithredu'n agos â'u hysgolion academaidd i sicrhau bod y gwasanaethau y maent yn eu cynnig yn parhau i fodloni anghenion pob grŵp addysgu, dysgu ac ymchwil. Mae gwasanaeth llyfrgell y Brifysgol hefyd yn darparu gwasanaethau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a phartneriaeth gwasanaeth llyfrgell GIG Cymru.

Yn ogystal â bod yn gartref i lyfrau a chyfnodolion printiedig ac electronig, mae'r llyfrgelloedd hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau i alluogi ymchwil arbenigol, gan gynnwys tîm adolygwyr rheolaidd SURE a chasgliadau ymchwil unigryw megis Casgliadau ac Archifau Arbennig, y Ganolfan Ddogfennaeth Ewropeaidd, a chyfleusterau archif eraill.

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol yn ymrwymo i wasanaeth cwsmeriaid gwych. Dyfarnwyd 'nod barcud' safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid ® Llywodraeth y DU i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, sy’n cydnabod bod gwasanaeth cwsmeriaid wrth wraidd ein gwasanaethau.  Rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n gyfeillgar, yn cynorthwyo ac yn ymateb i anghenion ein cwsmeriaid gan wneud popeth sy'n rhesymol bosibl i sicrhau dibynadwyedd ein gwasanaethau.
 

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut yr ydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny trwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar ei pherthnasedd i'r rôl.

Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW - XXXXBR - TEITL SWYDD] a'i rhoi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio.

Yn ogystal, nodwch mai dyma'r meini prawf yr asesir ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unol â hwy mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau) lle bo’n berthnasol.

Meini Prawf Hanfodol
  1. NVQ 3/cymwysterau Safon Uwch neu brofiad perthnasol cyfatebol.
  2. Profiad helaeth o weithio mewn gwasanaeth llyfrgell neu wybodaeth.
  3. Profiad helaeth o fod yn rheolwr llinell ar weithwyr eraill a datblygu staff gan gynnwys perfformiad a materion lles.
  4. Tystiolaeth y gellir ei dangos o ddefnyddio rhaglenni TG fel Microsoft Office, e-bost a'r rhyngrwyd, gan gynnwys gwybodaeth am System Reoli Llyfrgell e.e. ALMA.
  5. Gallu sefydlu prosesau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol
  6. Gallu cyfleu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl.
  7. Tystiolaeth o allu ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf.
  8. Tystiolaeth o allu datrys problemau eang drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; ac adnabod a chynnig atebion a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl.
  9. Tystiolaeth o allu cynllunio gwaith tîm, gan ymateb i newidiadau o ran llwyth gwaith a blaenoriaeth.
  10. Ymrwymiad amlwg i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus, gyda pharodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi, gan gynnwys TG.
Meini Prawf Dymunol
  1. Cymhwyster llyfrgell proffesiynol neu dystiolaeth o weithio tuag at ennill cymhwyster/llyfrgellydd siartredig CILIP.
  2. Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith.
  3. Profiad o weithio ym myd Addysg Uwch.
  4. Cyfarwydd ag adnoddau gwybodaeth electronig a thechnolegau symudol.
  5. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Apply Now

Other home office and work from home jobs