Hybrid Internal Applicants Only - Research and Public Engagement Officer at Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid
- Junior
- Office in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Ymchwil ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl
Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd
Mae’r Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHII) yn chwilio am unigolyn angerddol ar gyfer swydd hybrid newydd, gan ddatblygu ymhellach bartneriaeth gydweithredol arobryn i ymgysylltu â’r cyhoedd, a ariennir gan brosiect Rare As One gan y Timothy Syndrome Alliance (TSA) a Menter Chan-Zuckerberg.
Mae gan y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHII) a TSA bartneriaeth gydweithredol ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd hynod lwyddiannus ers tro byd, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei dull agos o integreiddio a chydweithio. Bydd deiliad y swydd yn atebol i Dr Jack Underwood, ymchwilydd yn NMHII, gan weithio gydag ymddiriedolwyr elusen TSA. Bydd yn ceisio hyrwyddo amcanion grant Rare As One TSA-CZI.
Bydd y swydd hon yn cael ei chynnwys yn y tîm cyfathrebu llwyddiannus yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol (DPMCN) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r is-adran, yn Adeilad Hadyn Ellis, sef adeilad blaenllaw'r Brifysgol, yn cynnal amrywiaeth o endidau llwyddiannus ac arloesol gan gynnwys y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG), Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, yr Uned Trwsio’r Ymennydd a Therapiwteg Mewngreuanol (BRAIN), y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) a gwasanaeth iechyd meddwl Canopi.
Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm bach, gan weithio i wneud gwahaniaeth i fywydau unigolion sydd ag anhwylder genetig hynod brin. A chithau’n Swyddog Ymchwil ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd, byddwch yn datblygu ac yn goruchwylio gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar Syndrom Timothy ac anhwylderau sy'n gysylltiedig â CACNA1C. Bydd amcanion allweddol yn cynnwys cysylltu â'r gymuned ymchwil ryngwladol i gynnull a chydlynu ymdrechion ymchwil byd-eang, rhannu gwybodaeth, ysgogi cydweithio a rhoi hwb i waith ymchwil sy'n blaenoriaethu cleifion. Byddwch yn ymgysylltu â rhanddeiliaid rhyngwladol allweddol fel clinigwyr, ymchwilwyr, sefydliadau'r trydydd sector, y gymuned CACNA1C a'r cyhoedd ehangach, i godi proffil Syndrom Timothy ac anhwylderau sy'n gysylltiedig â CACNA1C. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am adolygu cyflwyniadau i Borth Ymchwil CACNA1C y TSA, sydd wrthi'n cael ei ddatblygu.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol sydd â sgiliau cyfathrebu eithriadol a all droi gwybodaeth gymhleth yn gynnwys o ansawdd uchel a deniadol ar gyfer cymunedau rhieni/gofalwyr. O ystyried y rhyngweithio a'r ymwneud â chlinigwyr ac ymchwilwyr, mae angen llythrennedd gwyddonol rhagorol.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod â chefndir cryf mewn ymchwil wyddonol neu gyfathrebu, digwyddiadau a/neu ymgysylltu. Bydd yn dangos profiad sylweddol o weithio mewn dau neu fwy o'r meysydd canlynol: y cyfryngau digidol a/neu gymdeithasol; datganiadau i'r cyfryngau; rheoli gwefannau; cynllunio digwyddiadau; cyfathrebu gwyddonol; ymchwil fiolegol neu glinigol; gwasanaethau clinigol neu ofal iechyd.
Bydd sgiliau trefnu a chyfathrebu amlwg deiliad y swydd yn ategu ei brofiad a’i ymagwedd arloesol. Dylai ddangos diddordeb brwd mewn clefydau genetig prin a/neu sianelopathïau, bod â gwybodaeth gyfoes am ddatblygiadau ym meysydd genomig a geneteg neu brofiad cyfatebol, a'r gallu i 'ddadgodio' y rhain er mwyn i gynulleidfa leyg eu deall.
I gael trafodaeth anffurfiol a chyfrinachol am y rôl, cysylltwch â Dr Jack Underwood, [email protected]
Swydd ran-amser yw hon (21 awr yr wythnos) sydd ar gael o 1 Medi 2025, ac am gyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2029. Cytunir ar batrwm gwaith wrth benodi.
Mae’r swydd hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn i chi allu sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Cyflog: £33,482 – £36,130 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5).
Mae unigolion sy’n cael eu penodi i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol, pro-rata (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle cewch lawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r swydd hon –
Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler yr adran ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu sgiliau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y gwaith. Rydym am eich cefnogi a’ch datblygu ar ôl i chi ddechrau yn y swydd drwy ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i sicrhau eich bod yn gallu rhoi o’ch gorau:
1. Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda'ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
3. Hyfforddiant sy’n berthnasol i’r gwaith a chyfleoedd i ddatblygu
4. Cynllun mentora
Dyddiad cau: Dydd Llun, 25 Awst 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
• Cymryd rhan mewn cyflawni prosiect Rare As One NMHII-TSA, sydd â'r amcanion canlynol:
○ Cryfhau galluoedd sefydliadol a gwyddonol
○ Casglu neu gryfhau rhwydwaith ymchwil cydweithredol, gan gynnwys ymchwilwyr sylfaenol sy'n canolbwyntio ar sianelopathi
○ Cynnull y gymuned clefydau, gan gynnwys trwy gynnal cynulliadau gwyddonol
○ Datblygu agenda ymchwil sy'n blaenoriaethu cleifion ag anhwylderau sy'n gysylltiedig â CACNA1C, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â blaenoriaethau a rennir rhwng ymchwilwyr a chleifion
○ Cymryd rhan weithredol yn y Rhwydwaith Rare As One, a chydweithio â'r sefydliadau eraill i feithrin partneriaeth gydweithio traws-glefydau a chefnogi datblygiad blaenoriaethau gwyddonol a phrosiectau ymchwil a rennir
• Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a gwneud yn siŵr bod materion cymhleth a chysyniadol yn eglur
• Gwneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sydd eisoes ar waith.
• Rhoi cymorth wrth ddatblygu cynlluniau cyfathrebu ar gyfer y bartneriaeth gydweithredol rhwng y TSA a’r NMHII, a llunio copi ysgrifenedig o ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd a dibenion, gan gynnwys gwefannau adrannol, cylchlythyrau, cyfathrebu digidol, a deunyddiau print.
• Cymryd agwedd ragweithiol tuag at gysylltiadau cyhoeddus, rhagweld digwyddiadau a chyhoeddiadau yn y cyfryngau sydd ar y gweill a nodi a pharatoi gweithgarwch newydd sy’n ymwneud â CACNA1C neu Syndrom Timothy, ymgysylltu â chydweithwyr yn nhîm Cyfathrebu'r Brifysgol ar ddatganiadau i'r cyfryngau fel y bo'n briodol.
• Cefnogi gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n ymwneud â CACNA1C neu Syndrom Timothy drwy fynd i bwyllgorau perthnasol a threfnu cyfarfodydd gyda'r staff academaidd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Cefnogi sut y caiff effaith ymchwil ei gyfathrebu. Gweithio gyda'r timau a'r unigolion a nodwyd trwy'r bartneriaeth gydweithredol rhwng NMHII a TSA i gyfleu eu llwyddiannau ymchwil neu brosiectau arbennig, a chodi ymwybyddiaeth o brosiectau sy'n gysylltiedig â CACNA1C. Rhoddir pwyslais ar gyfleu newyddion ymchwil mwyaf pwysig yr is-adran.
• Creu deunyddiau argraffedig yn fewnol a goruchwylio a chysylltu â dylunwyr allanol a chwmnïau argraffu o ran cynhyrchu deunydd argraffedig pan fo angen.
• Cefnogi a datblygu rhaglen amrywiol o gynadleddau a digwyddiadau gwyddonol gydag amrywiaeth o fformatau, cynulleidfaoedd a chanlyniadau disgwyliedig, gan gynnwys Cynadleddau Cymunedol blynyddol CACNA1C (wyneb yn wyneb ac ar-lein).
• Cysylltu â datblygwyr Porth Ymchwil CACNA1C a’i oruchwylio’n barhaus i sicrhau ei fod yn cael ei gynnal yn ddidrafferth ar ôl hyn.
• Adolygu papurau academaidd sydd newydd eu cyhoeddi a nodwyd gan y tîm ac sy'n ymwneud â Syndrom Timothy ac anhwylderau sy'n gysylltiedig â CACNA1C, craffu ar Borth Ymchwil CACNA1C a'i ddiweddaru lle bo'n berthnasol.
• Meithrin perthynas waith â phwyntiau cyswllt allweddol, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen
• Creu gweithgorau penodol o blith cydweithwyr yn y Brifysgol drwyddi draw i gyflawni amcanion prosiect CZI-TSA.
• Goruchwylio timau prosiect penodol yn achlysurol er mwyn cyflawni amcanion allweddol.
• Cyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd arfer cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau
• Cadw at bolisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth
• Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
Gwybodaeth ychwanegol
PWYSIG: Tystiolaeth o Feini Prawf
Mae'n bolisi gan yr Ysgol Meddygaeth ddefnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni’r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â’r meini prawf dymunol, pan fo hynny’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn ichi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.
Wrth gyflwyno'r ddogfen hon/ei hatodi i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn y teitl. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw 20376BR
Os na fydd ymgeiswyr yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos eu bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, ni fydd eu cais yn symud ymlaen. Mae'r Ysgol Meddygaeth yn croesawu derbyn CVs i ategu tystiolaeth o feini prawf y swydd.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
1. Gradd/NVQ 6, profiad cyfatebol neu aelodaeth o sefydliad proffesiynol priodol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. O leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio ar brosiectau gwyddonol mewn lleoliad academaidd, diwydiannol, nid-er-elw neu lywodraethol.
3. Profiad sylweddol y gellir ei ddangos o gyfathrebu cyhoeddus, mewn o leiaf ddau o'r meysydd canlynol:
• Cyfryngau digidol neu argraffedig
• Rheoli neu ddatblygu gwefannau
• Cynllunio neu gynnal digwyddiadau
• Cyfathrebu mewnol.
4. Y gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol am y ddisgyblaeth arbenigol er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol
5. Gallu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol, gan gynnwys gallu defnyddio Microsoft Office.
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
6. Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl.
7. Profiad diamheuol o wneud cyflwyniadau, arwain cyfarfodydd, rhwydweithio ac ymgysylltu'n bersonol ag ystod amrywiol o gynulleidfaoedd o rai gwyddonol i rai clinigol a chleifion/y cyhoedd.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
8. Tystiolaeth o allu datrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; ac adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl.
9. Tystiolaeth o allu gweithio heb oruchwyliaeth gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, a monitro cynnydd.
Arall
10. Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad pellach.
Meini Prawf Dymunol
11. Cymhwyster MSc neu PhD, gyda phrofiad ôl-raddedig mewn amgylchedd ymchwil neu wyddonol.
12. Profiad o weithio gyda chleifion neu ofalwyr (gan gynnwys profiad byw).
13. Dealltwriaeth dda o ddatblygiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU, a diddordeb ynddynt.
14. Profiad o weithio gyda phobl agored i niwed a dealltwriaeth o arfer gorau ym maes diogelu.
15. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.