Platzhalter Bild

Hybrid Finance and Office Manager at Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid

£33,482.00  -  £36,130.00

Apply Now

Hysbyseb

Cyllid a Rheolwr Swyddfa

Bydd rhaglen arloesol Media Cymru yn atgyfnerthu sector ffyniannus y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn datblygu hyb byd-eang ar gyfer arloesi ym maes y cyfryngau.  

Ers 2022, bydd Media Cymru yn gweithio gyda mwy na 100 o fusnesau bach a chanolig i ysgogi twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy drwy gynnal ystod o weithgareddau wedi'u targedu. Bydd hyn yn gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hyb byd-eang ar gyfer arloesi mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy a chynhwysol ym maes y cyfryngau. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n gwella gallu busnesau bach i arloesi, yn buddsoddi mewn seilwaith digidol, yn ymateb i’r technolegau sy’n dod i’r amlwg ac yn ymdrin ag anghenion sgiliau i’r dyfodol. 

Mae’r diwydiant yn arwain y gwaith sy’n cael ei wneud mewn sawl maes heriol, gan gynnwys meysydd cynaliadwyedd, cynhyrchu’n ddwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg. O ganlyniad, y rhanbarth fydd y lle i brofi cynnwys, dulliau gweithredu a fformatau newydd.

Byddwn yn sicrhau’r newid hwn drwy weithio gyda'r clwstwr i ddatblygu partneriaethau a chyfleusterau ymchwil a datblygu newydd. Bydd hyn yn creu cysylltiadau rhwng partneriaid rhanbarthol a chenedlaethol sy’n gweithio ym meysydd cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu cyfryngau, ym maes technoleg, mewn prifysgolion ac ym maes llywodraeth genedlaethol, datganoledig, rhanbarthol a lleol. Bydd hyn yn arwain at fformatau, arferion, cynnwys a thechnolegau digidol newydd ac arloesol yn sector y cyfryngau a ledled economi Cymru.

Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae Media Cymru yn dod â 22 o bartneriaid sy’n gweithio ym meysydd cynhyrchu cyfryngau, darlledu a thechnoleg, partneriaid sy’n gweithio mewn prifysgolion ac arweinwyr lleol ynghyd am y tro cyntaf. Mae’r rhaglen, sy’n werth £50 miliwn, yn cael ei hariannu gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymru Greadigol, y diwydiant a phartneriaid y Brifysgol. 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithgarwch a chyflawni dyddiol systemau, prosesau, monitro ac adrodd Media Cymru o ran cyllid a gweinyddu gan sicrhau gwasanaeth o safon uchel i bartneriaid a defnyddwyr rhaglen.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol hefyd am wneud yn siŵr bod swyddfa Media Cymru yn cael ei gweinyddu’n effeithlon drwy ymgymryd ag ystod o dasgau gweinyddol, ariannol a rheoliadol.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol hyd at 31 Rhagfyr 2026.

Cyflog: £33,482 – £36,130 y flwyddyn (Gradd 5)

Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn i ddethol pobl ar gyfer rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol ym Manyleb yr Unigolyn (a'r Meini Prawf Dymunol os yw'n berthnasol), gan ddefnyddio'r drefn/rhifo fel y maent yn ymddangos ar ffurf datganiad ategol. Cadwch fel 'Datganiad Name_XXXXXBR_Supporting' wrth lanlwytho eich atodiad fel y gellir ei adnabod yn hawdd.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 29 Gorffennaf 2025

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 12 Awst 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
 
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

  • Bod yn gyfrifol am weinyddu a rheoli rhaglen Media Cymru yn ariannol.
  • Sefydlu a chynnal prosesau gweinyddol ac ariannol y rhaglen.
  • Gosod amserlenni ar gyfer partneriaid a bod yn gyfrifol am gasglu a dilysu hawliadau partneriaid, a throsglwyddo taliadau i bartneriaid, yn amserol.
  • Paratoi hawliadau cyfunol y Brifysgol a phartneriaid a sicrhau eu bod yn cael eu prosesu erbyn y terfynau amser gofynnol, trwy sicrhau bod partneriaid yn cael yr wybodaeth, y cyfarwyddyd a'r gefnogaeth angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn bodloni'r terfynau amser hyn.
  • Monitro gwariant y prosiect yn erbyn y gyllideb.
  • Presenoldeb mewn cyfarfodydd prosiect sy’n cynnwys partneriaid, cyflwyno canllawiau gweinyddiaeth ac ariannol a sicrhau bod cynllun ariannol y prosiect yn cyd-fynd â’r trefniant.
  • Meithrin perthynas waith gyda chysylltiadau allweddol, gan greu cysylltiadau cyfathrebu priodol â phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn ôl y gofyn.
  • Bod yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod holl ddogfennau mewnol / gweithdrefnau a chyfarwyddiadau bwrdd gwaith yn addas i’r diben, yn gyfredol ac yn cael eu rhannu ar draws y tîm.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar weithdrefnau a phrosesau cyllid i’r tîm a’r cwsmeriaid, gan awgrymu’r camau gweithredu mwyaf priodol, a gwneud yn siŵr bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.
  • Darparu hyfforddiant ar gyfer y tîm ar systemau a phrosesau mewnol.
  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhwng y Brifysgol a phartneriaid prosiect ar faterion ariannol, meithrin perthynas gref gyda phartneriaid y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill.
  • Bod yn hollol gyfarwydd â rheolau ac amodau cyllido a chynghori prif ymchwilwyr a phartneriaid prosiect ar eu rhwymedigaethau.
  • Cynnig cyngor ar gymhwysedd holl wariant y prosiect, gan gynnwys gofynion ynghylch dogfennau ategol.
  • Cynorthwyo Uwch-dîm Rheoli Media Cymru i roi gwybodaeth reoli ac adrodd yn ôl y gofyn.
  • Cynorthwyo ymarferion caffael a gynhelir gan Gyfarwyddwr yr Economi Greadigol/Rheolwr Rhaglenni.
  • Gwneud yn siŵr bod gofod swyddfa Media Cymru yn cael ei reoli'n effeithiol.
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
  • Cadw at bolisïau'r brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydyn nhw’n rhan o’r uchod, ond sy’n cyd-fynd â’r swydd.

Uchafswm y Cyflog

36,130

Gradd

Gradd 5

Isafswm y Cyflog

33,482

Categori Swyddi

Busnes/Rheolaeth Strategol

Gwybodaeth Ychwanegol

Aelodau consortiwm Media Cymru yw: Sefydliad Alacrity, BBC, Boom Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Channel 4, Dragon DI, Ffilm Cymru Wales, Gorilla TV, Great Point Media, Nimble Dragon, Object Matrix, Rescape Innovation, Rondo Media, S4C, TownSq, Prifysgol De Cymru, Unquiet Media, Wales Interactive a Llywodraeth Cymru. 
 

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Arbenigedd/Cymhwysedd/Sgiliau
  1. Hyddysg iawn mewn arferion ariannol.
  2. Hyddysg iawn o ran sefydlu, cynnal a monitro prosesau ac arferion gweinyddol.
  3. Sgiliau TG gwych, gan gynnwys defnyddio pecyn Microsoft Office.
  4. Gallu diamheuol mewn datblygu systemau sy’n cefnogi ac yn galluogi arferion gweithio ystwyth ac o bell.
  5. Gallu diamheuol i drefnu a blaenoriaethu gwaith i amserlenni tynn.
  6. Sgiliau gweithio mewn tîm gwych, yn ogystal â’r gallu i weithio yn annibynnol.
  7. Profiad o ddefnyddio Pecyn Ariannol Oracle (gan gynnwys Oracle Projects neu becyn tebyg).
  8. Profiad o ddarparu cyngor i gydweithwyr a phartneriaid prosiect mewn ffordd glir a chryno, ac o ddehongli gwybodaeth ariannol gan y bobl hyn.
Cymwysterau
  1. Gradd berthnasol neu brofiad/cymwysterau proffesiynol cyfatebol.
Nodweddion Penodol

10. Sgiliau trefnu a chyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol.

Meini Prawf Dymunol 
  • Meddu ar gymhwyster Cyfrifyddu neu Weinyddu Proffesiynol cydnabyddedig, neu’n astudio tuag at ennill cymhwyster o’r fath.
  • Profiad o weinyddu ariannol mewn sefydliad Addysg Uwch neu sefydliad arall yn y sector cyhoeddus.
  • Dealltwriaeth o faterion llywodraethu ariannol allweddol, megis rheoliadau ariannol a gweithdrefnau mewn amgylchedd sector cyhoeddus.
Apply Now

Other home office and work from home jobs