Hybrid Internal Applicants Only - Senior Technical Assistant at Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid
- Junior
- Office in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Uwch Gynorthwyydd Technegol
Yr Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol
Yr Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol yw un o’r ysgolion Fferylliaeth gorau yn y DU. Ein hymchwil sy’n llywio ac yn cefnogi ein graddau, gan ganiatáu i fyfyrwyr ymchwilio i wahanol agweddau ar fferylliaeth.
Ein nod yw recriwtio rhywun brwdfrydig ac effeithiol sy’n gallu gweithio’n rhan o dîm. Bydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at wasanaethau technegol yr Ysgol er mwyn cefnogi profiad addysgol myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a'n cymuned ymchwil sy’n cael effaith.
Drwy weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr academaidd a thechnegwyr, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o baratoi ar gyfer dosbarthiadau ymarferol, gweithdai ac arholiadau. Byddwch yn cefnogi labordai ymchwil yr Ysgol, gan helpu i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn ateb y diben.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon.
Cyflog: £23,176 – £23,414 y flwyddyn (Gradd 2).
Nodwch nad ydyn yn rhagweld y byddwn yn penodi’n uwch na gradd 2.9, sef £23,176 y flwyddyn ar hyn o bryd.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 8 Awst 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Rhoi cymorth technegol cynhwysfawr i’r Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol a helpu i baratoi a chlirio yn dilyn sesiynau addysgu ymarferol a chefnogi gweithgarwch ymchwil. Byddwch yn helpu ym mhob gweithgaredd i sicrhau bod sesiynau addysgu yn cael eu cynnal yn ddidrafferth a darparu cymorth cyffredinol yn yr Ysgol pan fo angen.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys; gweithredu ffyrnau aerglos; casglu a dosbarthu hydoddyddion yn rheolaidd, trefnu archebion hydoddyddion; trefnu casgliadau gwastraff cemegol bob mis; defnyddio llungopïwyr ar gyfer tasgau bob dydd; rhew sych; nitrogen hylifol a nwy cywasgedig a danfoniadau mewnol; casglu a phrosesu Winchesters gwag; casglu a phrosesu gwastraff cemegol; prosesu a chael gwared ar wastraff clinigol; helpu i baratoi a glanhau dosbarthiadau ymarferol o bob disgyblaeth.
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
•Gwneud yn siŵr y caiff mannau addysgu a mannau cymunedol eu cynnal a'u cadw drwy lanhau a gofalu am yr ardal, y peiriannau a'r offer yn gyffredinol, a rheoli stoc gan sicrhau diogelwch digonol, cynnal lefelau digonol o stoc, a sicrhau bod y stoc yn cael ei ddosbarthu yn ôl yr angen.
•Gwneud yn siŵr bod mannau addysgu a mannau cymunedol yn cael eu paratoi er mwyn i bobl eraill eu defnyddio, a hynny drwy roi offer i staff a myfyrwyr a rhoi arweiniad ar sut i'w defnyddio, eu paratoi a’u clirio yn ôl yr angen.
•Helpu i osod offer, yn ogystal â phrofi offer i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n foddhaol (e.e. profion PAT).
•Ymdrin ag ymholiadau syml a chyffredinol gan gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn modd proffesiynol, gan ddilyn gweithdrefnau sydd ar waith, cyfeirio ymholiadau cymhleth at aelodau perthnasol o staff, a sicrhau bod yr holl ffeithiau perthnasol a'r holl wybodaeth angenrheidiol yn cael eu cofnodi a'u trosglwyddo at bobl eraill.
•Helpu i gynnal cofnodion cyffredinol, gan ddiweddaru cronfeydd data a dadansoddi data/gwybodaeth gyffredinol yn ôl yr angen.
•Gweithio ar eich liwt eich hun gan ddefnyddio gallu creadigol i gyflawni tasgau penodol, gan sicrhau y cedwir at ganllawiau a gweithdrefnau safonol, a gwybod pryd i gyfeirio problemau at bobl eraill.
•Cymryd rhan flaenllaw yng ngwaith y tîm, gan osod esiampl a dangos ymagwedd hyblyg at gyflawni canlyniadau'r tîm.
Dyletswyddau Cyffredinol (safonol)
∙ Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei chymhwyso wrth gyflawni pob dyletswydd.
∙ Dilyn polisïau Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol.
∙ Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond a fydd yn cyd-fynd â'r rôl.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- Rhifedd a Llythrennedd Sylfaenol (er enghraifft NVQ 1/TGAU lefel D-G)
- Profiad o ddefnyddio a chynnal a chadw peiriannau ac offer priodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cymorth technegol
- Profiad o ddefnyddio pecynnau TG gan gynnwys MS Outlook, Excel a Word
- Y gallu i ymdrin â chwsmeriaid a gweithwyr eraill mewn modd proffesiynol
- Tystiolaeth o allu gweithio'n effeithiol yn aelod o dîm, gan roi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill y tîm lle bo angen
- Y gallu i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaethau yn brydlon, yn effeithiol ac yn gwrtais
- Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithio'n annibynnol o fewn gweithdrefnau/arferion penodol
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad pellach
- NVQ 2 neu TGAU A-C neu gymhwyster cyfatebol
- Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
- Rhuglder yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig