Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Placements Administrator bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid

25.249,00 £  -  26.093,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Gweinyddwr Lleoliadau Gwaith


Mae Dyfodol Myfyrwyr, sy'n rhan o is-adran Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn adran brysur sy'n gweithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr a chyflogwyr i gynnig gwasanaeth sy’n gwella cyflogadwyedd myfyrwyr a’r hyn y maen nhw’n ei gyflawni ar ôl graddio. 

Byddwch yn gweithio i’r Tîm Dyfodol Myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd ac yn canolbwyntio ar gefnogi’r Tîm Lleoliadau Gwaith i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu ymgymryd â lleoliadau gwaith a phrosiectau perthnasol o safon uchel wrth astudio gyda ni.  Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm bach, gan gyflawni ystod o dasgau gweinyddol sy'n cyfrannu at y gwaith o hyrwyddo, trefnu a chynnig cyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gwaith a phrosiectau yn yr Ysgol. Byddwch yn cael cyfleoedd i hyrwyddo a chefnogi profiad gwaith, a bydd gofyn i chi ddefnyddio systemau rheoli gwybodaeth i gasglu data a chadw golwg ar gynnydd.

Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ymuno â Dyfodol Myfyrwyr, wrth i'r galw am gyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gwaith a phrosiectau yn yr Ysgol Busnes gynyddu. Yn ogystal â chael gweithio gyda thîm profiadol sydd ag enw da, byddwch yn cael digon o gymorth wrth fwynhau ymreolaeth i reoli eich llwyth gwaith, gwella ein darpariaeth a bod yn arloesol yn y gwaith.

Mae’r swydd hon yn eich galluogi i weithio’n hyblyg – bydd cyfleoedd i weithio gartref ac yn y swyddfa, ond efallai y bydd disgwyl i chi ddod i’r swyddfa’n amlach yn ystod cyfnodau prysur. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd gofyn i chi weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau. 

Os hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol i gael gwybod rhagor am y swydd hon, cysylltwch ag Alex Hicks (Rheolwr Lleoliadau Gwaith) drwy e-bostio [email protected].

Cyflog: £25,249 - £26,093 y flwyddyn (Gradd 3)

Swydd barhaol a llawnamser yw hon (35 awr yr wythnos).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ar 1 Ionawr 2026.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio ynddo, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 30 Medi 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol.  Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
  • Ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn ffordd broffesiynol, gan gynnwys cyfarfod a chyfarch ag ymwelwyr ac ymdrin ag ymholiadau cyffredinol drwy e-bost
  • Gweithio ar y cyd ac yn rhagweithiol gyda'r Rheolwr Lleoliadau Gwaith a'r Swyddogion Lleoliadau Gwaith, gan eu helpu i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol, gan gynnwys mynd i gyfarfodydd tîm
  • Cefnogi’r gwaith o farchnata lleoliadau gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol, ar hysbysfyrddau swyddi a thrwy negeseuon e-bost, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â lleoliadau gwaith
  • Gwneud yn siŵr bod lleoliadau gwaith a phrosiectau’n cael eu rheoli’n briodol, gan gofnodi gweithgarwch ar systemau rheoli gwybodaeth perthnasol a dadansoddi data i nodi tueddiadau a phatrymau
  • Cydweithio ag eraill i argymell ffyrdd o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig
  • Meithrin perthynas waith ag enwau cyswllt allweddol i helpu i wella’r gwasanaeth
Dyletswyddau Penodol
  • Llunio dogfennau, gan sicrhau bod llyfrynnau a deunyddiau eraill ar gael ar gyfer gweithdai a digwyddiadau a goruchwylio unrhyw drefniadau logistaidd lle bo angen
  • Bod yn gyfrifol am fonitro ac ymateb i e-byst ym mewnflwch y Tîm Lleoliadau Gwaith a’u huwchgyfeirio at y tîm lle bo angen
  • Lanlwytho manylion lleoliadau gwaith a phrosiectau i TargetConnect a helpu’r tîm i’w monitro
  • Helpu i ddiweddaru'r fewnrwyd a Dysgu Canolog pan fo angen
  • Rhoi cymorth i gyflawni dyletswyddau cyffredinol ym maes cyllid, gan gynnwys creu archebion prynu a thalu hyrwyddwyr lleoliadau gwaith
  • Cefnogi a mynd i Ddiwrnodau Agored a Ffeiriau Gyrfaoedd y Brifysgol pan fo angen
  • Helpu’r Tîm Dyfodol Myfyrwyr ehangach i gyflawni tasgau gweinyddol ad-hoc yn ystod cyfnodau prysur
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau
  • Dilyn polisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

26,093

Gradd

Gradd 3

Isafswm y Cyflog

25,249

Categori Swyddi

Addysgu, Technegol, Gweinyddol / Clerigol

Llwybr Gyrfa

Cymorth Gweinyddol

Manyleb Unigolyn

Nodyn pwysig:

Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.
  • Fel rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo.
  • Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen.
Wrth atodi’r datganiad i ategu eich cais i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 20700BR.

Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
  1. NVQ Lefel 2/cymwysterau TGAU (graddau A-C), neu gymwysterau cyfatebol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad o weithio mewn gweithle gweinyddol neu swyddfa
  2. Y gallu i ddefnyddio pecynnau TG a ddefnyddir yn aml mewn swyddfeydd (e.e. Microsoft Office)
  3. Y gallu i sefydlu a chynnal systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
  1. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn broffesiynol ag ystod eang o bobl
  2. Y gallu i fod yn aelod effeithiol o dîm, gan roi cyngor a chyfarwyddyd i aelodau eraill y tîm pan fo angen
  3. Gallu diamheuol i ymdrin â cheisiadau a uwchgyfeiriwyd am wybodaeth neu wasanaeth, gan ddatrys problemau cwsmeriaid lle bo'n briodol
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith eich hun o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
  2. Y gallu i gymryd y cam cyntaf wrth ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau er mwyn cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion safonol
Arall
  1. Parodrwydd i hyfforddi a datblygu ymhellach
Meini Prawf Dymunol
  1. Cymwysterau Safon Uwch, neu gymwysterau cyfatebol
  2. Profiad o weithio ym maes addysg uwch
  3. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Jetzt bewerben

Weitere Jobs