Internal Applicants Only - Research Support Officer bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Junior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Cymorth Ymchwil
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil am benodi Swyddog Cefnogi Ymchwil i ddarparu cymorth cynhwysfawr a phroffesiynol i Dîm Cyflwyno Gwasanaethau Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS) yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) a'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (SHARE).
Bydd y Swyddog Cymorth Ymchwil yn aelod cymorth ymchwil gweinyddol craidd o Dîm Cyflwyno Gwasanaethau Coleg AHSS. Bydd eich amser yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) a'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (SHARE). Bydd gennych gyfrifoldeb am gwblhau ystod o dasgau gweinyddol ymchwil ac arloesi i fodloni gofynion gweithredol a gwasanaethau i gwsmeriaid. Byddwch yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol i gefnogi ein hacademyddion, ymchwilwyr ac aelodau eraill o'r tîm i gyflawni canlyniadau ymchwil rhagorol, gan ddarparu cyngor ac arweiniad lle bo angen i sicrhau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu i'ch cydweithwyr. Bydd gennych ddull gwasanaeth cwsmeriaid cadarnhaol o ymgymryd â dyletswyddau yn y rôl.
Byddwch yn gweithio mewn modd cydweithredol yn rhan o dîm Ymchwil ac Arloesi Coleg AHSS i ddarparu gwasanaeth gweithredol effeithiol i'r ysgolion academaidd sy’n rhan o’ch cylch gwaith, gan gymryd cyfrifoldeb am brosesau a gweithgareddau allweddol yn ôl yr angen.
Mae'r swydd yn amser llawn ac yn benagored
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4)
Mae'r rôl yn addas ar gyfer patrwm gweithio hybrid, gyda diwrnodau ar y campws wedi'u rhannu rhwng JOMEC yn Sgwâr Canolog a SHARE yn adeilad John Percival.
Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â Rheolwr Ymchwil JOMEC, Julie Jewell ([email protected]) neu Reolwr Ymchwil SHARE, Ann-Marie Morgan ([email protected]) i gael sgwrs anffurfiol am y rôl.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 19 Medi 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Er mwyn cefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
DIBEN Y SWYDD
Rhoi cymorth cynhwysfawr a phroffesiynol i’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) a'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (SHARE) yn rhan o Dîm Cyflwyno Gwasanaethau Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS). Byddwch yn rhoi cymorth, arweiniad a gwasanaeth gweinyddol mewn perthynas â grantiau ymchwil, contractau, cyllidebau ymchwil a moeseg. Byddwch yn rhan o dîm bach sy’n gwneud yn siŵr bod yr holl weithgareddau ymchwil yn cael eu cyflawni mewn modd proffesiynol, ac y bodlonir anghenion ein staff a’n harianwyr.
Byddwch yn aelod cymorth ymchwil gweinyddol craidd o Dîm Cyflwyno Gwasanaethau Coleg AHSS, a bydd eich amser yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) a'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (SHARE). Byddwch yn gyfrifol am gwblhau ystod o dasgau gweinyddol ymchwil ac arloesedd i fodloni gofynion gweithredol a gwasanaethau i gwsmeriaid. Byddwch yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo ein hacademyddion, ymchwilwyr ac aelodau eraill o'r tîm i gyflawni canlyniadau ymchwil rhagorol. Byddwch yn gwneud hyn drwy roi cyngor ac arweiniad lle bo angen i wneud yn siŵr bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu i'ch cydweithwyr. Byddwch yn ymgymryd â dyletswyddau’r rôl mewn modd cadarnhaol wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid.
Byddwch yn gweithio mewn modd cydweithredol yn rhan o dîm Ymchwil ac Arloesedd Coleg AHSS i ddarparu gwasanaeth gweithredol effeithiol i'r ysgolion academaidd sy’n rhan o’ch cylch gwaith, gan gymryd cyfrifoldeb am brosesau a gweithgareddau allweddol yn ôl yr angen.
Disgrifiad Swydd
Prif Ddyletswyddau
- Helpu i roi cymorth ymchwil ac arloesedd i'ch uned(au) sefydliadol, gan wneud yn siŵr bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu gan gydweithwyr yn eich maes cymorth.
- Rhoi cymorth ardderchog yn y meysydd cymorth ymchwil ac arloesedd canlynol:
- Datblygu ceisiadau am grantiau
- Costio a phrisio, a chyflwyno cynigion
- Cynorthwyo adolygiadau moesegol a chynnal gweithgareddau ymchwil.
- Rheoli cyllid / cynnal grantiau ymchwil cymeradwy
- Cyhoeddi a rheoli allbynnau ymchwil
- Cynorthwyo myfyrwyr sy’n gwneud graddau ymchwil-ddwys
- Cynorthwyo gwaith ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil gan gynnwys adolygiadau gan gymheiriaid o allbynnau, a chasglu data ar gyfer datganiadau amgylcheddol.
- Helpu i brosesu ymchwilwyr ac ysgolheigion gwadd i’r Ysgol berthnasol
- Cynorthwyo’r blaenoriaethau a nodwyd gan reolwyr ysgolion SHARE a JOMEC sy’n gysylltiedig ag ymchwil ac arloesedd. Byddwch yn gwneud hynny drwy drafod gydag arweinwyr yr ysgol a’ch rheolwr llinell e.e. gwneud yn siŵr bod cymorth o ansawdd uchel yn cael ei roi i bwyllgorau ymchwil a chynlluniau lleol (lle nad yw’r rhain yn mynd yn groes i arferion cyson gweithgarwch ymchwil ac arloesedd craidd).
- Chwarae eich rhan fel un o ddinasyddion gweithredol SHARE a JOMEC, gan gynnwys cyfrannu at weithgareddau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig ag ymchwil ac arloesedd lle nad yw’r rhain yn ymyrryd â rhoi cymorth ymchwil ac arloesedd, h.y. cynorthwyo diwrnodau agored a/neu hyfforddiant a chyfarfodydd yn yr uned sefydliadol, drwy drafod gydag arweinwyr yr uned sefydliadol a’ch rheolwr llinell
- Cydweithio â thimau eraill yn y Gwasanaeth Ymchwil (RSERV) drwy Grwpiau Cyflwyno Ymchwil.
- Cydweithio â gwasanaethau proffesiynol eraill - TG, Cyllid, ac ati - yn ogystal â gwasanaethau proffesiynol eraill yn yr Ysgol - i wneud yn siŵr bod dull Prifysgol gyfan o hwyluso ymchwil yn cael ei alluogi.
- Modelu ymddygiad cadarnhaol bob amser wrth ryngweithio â chydweithwyr a chadw at ddull hynod broffesiynol, trefnus a rhagweithiol o weithio.
- Bod yn ymwybodol o ymdrechion i adolygu unrhyw brosesau newydd a gwell ar draws y Gwasanaeth Ymchwil, a chyfrannu atynt, er budd ymchwilwyr academaidd yn SHARE, JOMEC ac AHSS.
- Gweithio mewn ffordd gydweithredol a cholegol gyda Thîm Ymchwil ac Arloesedd Coleg AHSS, gan hyrwyddo cysondeb o ran polisïau, gweithdrefnau a ffyrdd o weithio, a sicrhau gwasanaeth gwydn lle bo angen drwy gynorthwyo’r broses o ddarparu gwasanaethau mewn meysydd y tu allan i’ch uned(au) sefydliadol.
- Cyfathrebu'n effeithiol â'r academyddion a'r ymchwilwyr yn SHARE a JOMEC, gan eu helpu i lywio'r gweithgaredd y mae angen iddynt ymgymryd ag ef.
- Datblygu a chynnal gwybodaeth am arbenigeddau ymchwil staff academaidd yn yr Ysgolion rydych chi’n eu cynorthwyo.
- Cymryd cyfrifoldeb am faterion sy’n ymwneud â datrys problemau ym mhob agwedd o gylch gwaith y rôl, gyda chymorth eich rheolwr llinell.
- Cynorthwyo gweithgaredd ymchwil yr uned(au) sefydliadol megis trefnu cynadleddau, seminarau, siaradwyr gwadd a digwyddiadau eraill sy’n ymwneud ag ymchwil.
- Cynorthwyo i reoli gwybodaeth ymchwil ar wefan a mewnrwyd y Brifysgol, lle bo’n berthnasol, gan wneud yn siŵr y cynhelir cynnwys cywir, diddorol, a pherthnasol.
- Mewnbynnu a rheoli data craidd mewn systemau ymchwil sefydliadol (gan gynnwys ORCA, Converis a Worktribe) i oruchwylio data ar gyfer SHARE a JOMEC.
- Defnyddio swyddogaethau adrodd ac ymholi safonol mewn systemau allweddol i allu cynnig dealltwriaeth a rhagolygon i'r uned sefydliadol ynghylch pherfformiad ar draws ystod o ddangosyddion perfformiad ymchwil ac arloesedd.
- Rhoi cyngor ac arweiniad rheng flaen i academyddion ac ymchwilwyr ar ddefnyddio systemau a phrosesau ymchwil sefydliadol, gan wneud yn siŵr bod eich dealltwriaeth o’r systemau yn gyfredol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
- Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.
- Gwybodaeth arbenigol am weinyddu grantiau ymchwil cyn eu dyfarnu ac ar ôl hynny.
- Gwybodaeth ymarferol ragorol am brosesau a gweithdrefnau ariannol a phrofiad o ddefnyddio pecynnau meddalwedd ariannol fel Oracle,
- systemau cudd-wybodaeth busnes fel Business Objects, a systemau teithio fel SAP Concur.
- Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu’r iaith
Y Gwasanaeth Ymchwil
Mae Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Roedd ein hymchwil sy'n arwain y byd yn y 5ed safle am ansawdd ymhlith prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 ac rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol i'n 30,000 o fyfyrwyr. Gyda chyllideb flynyddol o dros £500 miliwn a thua 6,000 o staff, mae Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell o'r 24 prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw yn y DU. Mae gan y Brifysgol 24 o ysgolion academaidd wedi'u grwpio'n dri choleg: Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Uchelgais y Brifysgol yw graddio'n gyson ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd. Mae Caerdydd hefyd yn datblygu ei System Arloesi drwy raglen fuddsoddi â ffocws mewn pobl a seilwaith. Mae cyllid ymchwil a sicrhawyd o ffynonellau cystadleuol, allanol yn fwy na £100 miliwn y flwyddyn ac mae'r Brifysgol yn anelu at dyfu hyn ymhellach trwy ennill grantiau o ystod eang o ffynonellau cenedlaethol a byd-eang.
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cefnogi cymuned ymchwil y Brifysgol i gychwyn a chyflwyno gweithgareddau ymchwil ac arloesi. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, Vanessa Cuthill, rydym yn darparu gwasanaethau trwy dros 100 o staff arbenigol wedi'u trefnu mewn pum tîm arbenigol: Y Swyddfa Grantiau Ymchwil; Uniondeb Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg; Datblygu Ymchwil; Masnacheiddio Ymchwil ac Effaith; Strategaeth Ymchwil a Gweithrediadau ac Ymgysylltu a Phartneriaethau Busnes. Mae'r Adran yn gweithio'n agos gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o bob rhan o'r sefydliad.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Cynghori deiliaid grantiau ar agweddau ariannol dyfarniadau grantiau ymchwil ac adolygu gwariant ymchwil yn erbyn cyllidebau a ddiffiniwyd yn flaenorol, gan gydweithio'n agos ag adrannau canolog y Brifysgol.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
- Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol
- Gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoliadol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelwch data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch a chyllid, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel sy'n briodol
- Cymryd gofal rhesymol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun, gan gynnwys iechyd a diogelwch pobl eraill y gallai’r hyn y byddwch yn ei wneud neu’n methu â’i wneud yn y gwaith effeithio arnynt, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau'r CE a pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol ar iechyd, diogelwch a'r amgylchedd, yn ogystal â chydweithio â'r Brifysgol, sef y cyflogwr, i gyflawni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol sydd arni
Manyleb yr Unigolyn
Nodyn pwysig: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio'r fanyleb person fel offeryn allweddol ar gyfer rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn ogystal â, lle bo'n berthnasol, y dymunol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth rydych yn ei darparu yn cyfateb i'r meini prawf rhifedig a amlinellir isod. Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi'n ei darparu o dan bob elfen.
Wrth atodi'r datganiad ategol i'ch proffil cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei enwi gyda'r cyfeirnod gwag e.e. Datganiad Cefnogi ar gyfer 20685BR.
Meini Prawf Hanfodol
- Y gallu i gyfathrebu'n ysgrifenedig mewn modd clir, cryno, ac effeithiol i roi cyngor ac arweiniad manwl ar ymchwil, arloesedd a gweinyddiaeth ariannol.
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd TG da.
- Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wella’r rhain fel y bo’n briodol.
- Gwybodaeth arbenigol am ymchwil, arloesedd a gweinyddiaeth ariannol
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid, y gall eu dealltwriaeth o’r mater amrywio.
- Y gallu i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol, gan reoli ystod eang o gwestiynau a materion mewn modd sensitif a rhagweithiol.
- Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu eich gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cynnig gwasanaeth o safon.
- Y gallu i ddefnyddio eich crebwyll a’ch creadigrwydd i ddatrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan ddod o hyd i atebion ymarferol a’u cynnig.
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chyflwyno gwaith mewn pryd, gan gynllunio, gosod a monitro eich blaenoriaethau chi a rhai’r tîm.
- Tystiolaeth o’r gallu i ddadansoddi prosesau a gweithdrefnau, a chynghori ar welliannau a gweithredu o fewn eich maes cyfrifoldeb eich hun.