Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Outreach and Engagement Manager bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite

£41,064.00  -  £46,049.00

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Allgymorth a Recriwtio


Mae cyfle wedi codi yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth i fod yn Swyddog Allgymorth a Recriwtio ac ymuno â thîm allgymorth sefydledig. Mae'r swydd ran-amser hon yn cael ei hariannu gan gyfuniad o grantiau allgymorth, ymgysylltu ac ymchwil o bob rhan o'r Ysgol.

Mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn Ysgol gyfeillgar, hygyrch gydag ymrwymiad cryf i addysgu rhagoriaeth ac ymchwil o'r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth. Mae grwpiau ymchwil yn yr ysgol yn cynnwys seryddiaeth, offeryniaeth seryddiaeth, ffiseg disgyrchiant, delweddu'r ymennydd a mater cywasgedig a ffotoneg. Nod yr Ysgol yw cynyddu ymgysylltiad a chyfalaf gwyddoniaeth y cymunedau y mae'n ymgysylltu â nhw. Bydd yn gwneud hyn trwy ymgysylltu â chymunedau difreintiedig, sydd wedi’u tangynrychioli ac wedi'u heithrio'n hanesyddol, trwy weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu cydgysylltiedig ar draws yr Ysgol sydd wedi'u hymgorffori mewn gweithgareddau myfyrwyr. At hynny, mae'n anelu at wella dulliau addysgu ffiseg mewn ysgolion a cholegau trwy ddarparu cefnogaeth a mynediad i athrawon i ymchwil arloesol, a thrwy gynyddu gwelededd ymchwil yn yr Ysgol. O ran recriwtio, nod yr Ysgol yw gwella ei hadnoddau marchnata, a chynyddu mynediad i grwpiau difreintiedig ac sydd wedi’u tangynrychioli. Nod y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yw sefydlu'r DU fel y brif ganolfan ymchwil a gweithgynhyrchu byd-eang ar gyfer technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd. Trwy weithio gyda phartneriaid ledled y DU, bydd yn cynyddu cyrhaeddiad y gwaith ymchwil hwn ymhlith cynulleidfaoedd cyhoeddus ac yn y diwydiant.

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i ddylunio, cyflwyno a lledaenu gweithgarwch allgymorth, ymgysylltu a recriwtio sy'n berthnasol i amcanion strategaethau'r grwpiau uchod, gan sicrhau llinellau clir o adrodd a chyfathrebu. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi grwpiau ymchwil i wneud eu gwaith yn hygyrch, megis mynd i arddangosfeydd, cydlynu digwyddiadau ac ymweld ag ysgolion. Bydd gwerthusiad o weithgareddau yn cael ei adrodd i ystod o randdeiliaid, a bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at strategaethau allgymorth a recriwtio'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.

Mae'r tîm allgymorth ac ymgysylltu wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau mawr, gan weithio ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, fel Prosiect Mentora Ffiseg. Fel aelod o dîm bach, byddwch hefyd yn darparu cymorth cyffredinol i feysydd eraill o weithgareddau allgymorth, ymgysylltu a recriwtio'r Ysgol. Bydd y gweithgareddau yn ymwneud â chynllunio, cydlynu, datblygu, cyflwyno a gwerthuso, a byddant yn cynnwys allgymorth ffiseg a seryddiaeth gyffredinol yn ogystal â'r rhai sy'n gysylltiedig â'r ystod eang o ymchwil arloesol. Mae gennym berthynas agos â phartneriaid allanol, gan gynnwys y Sefydliad Ffiseg yng Nghymru, Science Made Simple ac Arsyllfa Las Cumbres. Bydd gofyn i chi weithio'n effeithiol gydag aelodau eraill o dîm allgymorth yr Ysgol a chysylltu â staff eraill yr Ysgol, y Brifysgol ac allanol yn ôl yr angen, yn ogystal â'r athrawon, y myfyrwyr a'r aelodau o'r cyhoedd rydych chi'n rhyngweithio â nhw.

Mae'r swydd ar gael ar unwaith ar gontract tymor penodol tan 31 Awst 2026, ar 0.6 cyfwerth ag amser llawn (21 awr per wythnos). Bydd gwaith yn digwydd i raddau helaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am i 5.00pm, ond mae modd bod yn hyblyg gyda’r amserlen benodol. Efallai y bydd angen rhywfaint o weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ar gyfer digwyddiadau achlysurol, ond rhoddir amser i ffwrdd yn lle hynny trwy gydlynu â’ch rheolwr llinell.

Cyflog: Gradd £41,064 - £46,049 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 6)

Cyfeirnod y swydd:  20679BR

Os oes gennych ymholiadau anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â: [email protected]

Os oes gennych ymholiadau anffurfiol ynglŷn â gweithio yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd, cysylltwch â [email protected]

PWYSIG: Tystiolaeth o Fodloni'r Meini Prawf

Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o fodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol lle bo'n berthnasol.

Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon neu ei hatodi i broffil eich cais, dylech sicrhau mai cyfeirnod y swydd yw enw’r ddogfen, sef 20679BR yn yr achos hwn. 


Dyddiad cau: Dydd Gwener, 19 Medi 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Mae Prifysgol Caerdydd a'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ein hamgylchedd cynhwysol yn croesawu ceisiadau gan bobl ddawnus o gefndiroedd amrywiol. Rydym ni’n croesawu ymgeiswyr benywaidd ac ymgeiswyr o grwpiau lleiafrif ethnig yn arbennig, gan eu bod heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein Hysgol. Mae gan yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth achrediad Ymarferydd Juno sy'n cydnabod arfer cyflogi da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod sy’n gweithio yn y gwyddorau. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynnal amgylchedd gweithio cadarnhaol lle gall pob aelod o staff ffynnu a chyflawni. Yn rhan o'r ymrwymiad hwn, mae’r Brifysgol wedi datblygu fframwaith hyblyg ac ymatebol o weithdrefnau i gynorthwyo'r staff i reoli eu gwaith a’u hymrwymiadau personol lle bynnag y bo modd. Croesewir ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gweithio'n rhan-amser neu'n amser llawn. 

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau i gyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Cewch ragor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau
  • Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau ymgysylltu ac allgymorth ym maes ffiseg a seryddiaeth i randdeiliaid mewnol ac allanol a fydd yn cael effeithiau ar draws y sefydliad, yn enwedig timau ymgysylltu, staff, myfyrwyr, partneriaid yn y diwydiant a chyrff ariannu. Bydd hyn yn gofyn i chi ddefnyddio barn a chreadigrwydd i awgrymu’r camau gweithredu mwyaf priodol, gan ofalu bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.
  • Bod yn gyfrifol am ddatrys problemau'n annibynnol o ran allgymorth ac ymgysylltu ym maes ffiseg a seryddiaeth, os yw'r problemau'n ymwneud ag amcanion penodol y swydd.
  • Ymchwilio a dadansoddi materion penodol gydag allgymorth ac ymgysylltu ym maes ffiseg a seryddiaeth, gan greu adroddiadau argymhellion, wedi'u cefnogi gan ddatblygiadau ym maes allgymorth ac addysg/ymgysylltu
  • Sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau sy'n ymwneud ag  allgymorth ac ymgysylltu ffiseg a seryddiaeth yn cael eu cyflwyno i'r sefydliad (staff, myfyrwyr) ac yn allanol (athrawon, ysgolion, y cyhoedd), gan newid y ddarpariaeth yn rhagweithiol yn unol â gofynion y gynulleidfa.
  • Meithrin perthnasoedd gwaith gyda chysylltiadau allweddol, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol gydag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen, gan gynnwys timau ymgysylltu, staff academaidd, Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, athrawon/ysgolion, cyrff yn y diwydiant, contractwyr allanol a chyrff ariannu.
  • Creu gweithgorau penodol o gydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion allgymorth ac ymgysylltu yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a'r grwpiau ymchwil
  • Paratoi a chyflwyno prosiectau ar raddfa fach, gan gydlynu a goruchwylio timau prosiect i’w creu yn ôl yr angen
  • Gwerthuso gweithgareddau ac adrodd ar ganlyniadau i'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a phartneriaid eraill, gan gynnwys cyfraniadau at REF ar y cyd â’r Pennaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd a’r Cyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu
  • Datblygu a chyflwyno hyfforddiant o ran allgymorth ac ymgysylltu ym maes ffiseg a seryddiaeth
  • Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran
  • Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y Brifysgol yn  yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Dyletswyddau Cyffredinol
  • Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd arfer cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau
  • Cadw at bolisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

46,049

Gradd

Gradd 6

Isafswm y Cyflog

41,064

Categori Swyddi

Rheolaethol a Gweithredol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r penodiad hwn yn amodol ar gael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer gweithgaredd a reoleiddir (plant)
 

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Gradd/NVQ 4 neu aelodaeth broffesiynol/profiad cyfatebol mewn pwnc sy'n gysylltiedig â STEM.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o weithio ym maes addysg/allgymorth ysgolion a/neu ymgysylltu â STEM
  2. Gallu dangos gwybodaeth broffesiynol o addysg/allgymorth neu ymgysylltu â STEM ar lefel ysgol, i roi cyngor ac arweiniad i randdeiliaid mewnol ac allanol.
  3. Profiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd

Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
  1. Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
  2. Tystiolaeth o allu ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn darparu gwasanaeth o safon
  3. Gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Tystiolaeth o allu datrys problemau eang drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan gynnwys y gallu i nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol
  2. Tystiolaeth o wybodaeth amlwg am ddatblygiadau allweddol mewn addysg a/neu ymgysylltu ym maes ffiseg a seryddiaeth
  3. Tystiolaeth o allu cynnal a chyflawni prosiectau penodol a goruchwylio timau prosiectau tymor byr

Meini Prawf Dymunol 
  1. Gradd israddedig mewn ffiseg neu seryddiaeth, neu brofiad o weithio gyda phrosiectau ymgysylltu mawr â ffiseg neu addysg
  2. Profiad o gyfathrebu, meithrin perthnasoedd a chreu rhwydweithiau gydag ystod eang o gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid
  3. Profiad o weithio mewn amgylchedd Addysg Uwch
  4. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Jetzt bewerben

Weitere Jobs