Internal Applicants Only - Information Officer - Student Connect bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Junior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Gwybodaeth Cyswllt Myfyrwyr
Mae Cyswllt Myfyrwyr yn chwilio am aelod brwdfrydig sydd â ffocws ar wasanaeth cwsmeriaid i ymuno â’r Tîm Cyswllt Myfyrwyr sy'n gweithio yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid gwych yn rhan fawr o’r rôl, sy’n ymwneud â chynnig cefnogaeth gyfeillgar, hygyrch a phroffesiynol i Cyswllt Myfyrwyr. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i Gymuned Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gan ddefnyddio platfformau fel y Porth Ymholiadau (E2S) a swyddogaethau eraill.
Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Brifysgol, bydd y rôl hefyd yn cynnwys casglu data a dadansoddi'r data hwnnw trwy gynhyrchu adroddiadau, fel y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus gan dynnu sylw at dueddiadau a phatrymau sylfaenol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth myfyrwyr, gan gynnwys grwpiau ffocws a gweithdai.
Cyflog - £28,031 - £31,236 y flwyddyn, pro rata am yr oriau sy’n cael eu gweithio (Gradd 4)
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo. Ceir llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr balch o’r Cyflog Byw.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 18 Medi 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
- Cynnig cyngor ac arweiniad ysgrifenedig manwl ar brosesau a gweithdrefnau'r brifysgol, yn bennaf i fyfyrwyr ond hefyd i gefnogi cwsmeriaid mewnol ac allanol eraill.
- Casglu a dadansoddi data sy’n ymwneud ag ymholiadau myfyrwyr fel bod modd gwneud penderfyniadau gwybodus, nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data, a pharatoi adroddiadau ac argymhellion ar gyfer y Pennaeth Ymholiadau Myfyrwyr.
- Cyfarwyddo a chyfeirio cydweithwyr ledled y brifysgol ar gynhyrchu cynnwys sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ar gyfer y Cwestiynau Cyffredin ar y System Rheoli Ymholiadau.
- Cydweithio â chydweithwyr yn y brifysgol i gynhyrchu cynnwys ar gyfer y system Rheoli Ymholiadau sy'n adlewyrchu gwasanaethau a chymorth yn gywir ac yn ateb ymholiadau cyffredinol a gweithrediadol.
- Adeiladu perthnasoedd cynhyrchiol gydag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a chysylltiadau allanol) i helpu i wella lefel y gwasanaeth y mae'r tîm Cyswllt Myfyrwyr yn ei gynnig i'w gwsmeriaid.
- Gweithio gydag eraill i wneud argymhellion i wella ein ffyrdd o weithio a chynnig gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran i gyflawni eu hamcanion, gan gynnwys cymryd cofnodion a gwaith gweinyddol ar gyfer y Grŵp Rhanddeiliaid Cyswllt Myfyrwyr.
- Cefnogi'r tîm gyda digwyddiadau hyrwyddo sy'n codi ymwybyddiaeth myfyrwyr o gyfleoedd yn ogystal â hwyluso a chyfrannu at grwpiau ffocws a gweithdai i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a chymorth.
- Hyrwyddo gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a chyflawni datblygiad personol a phroffesiynol priodol mewn modd sy'n addas i'r rôl ac a fydd yn gwella perfformiad personol a pherfformiad y tîm.
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
- Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiadau Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Caerdydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.
- Fel rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais.
- Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo.
- Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen.
Meini Prawf Hanfodol
- Y gallu i gyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno ac yn effeithiol i roi cyngor ac arweiniad manwl i fyfyrwyr, eu rhieni/gofalwyr a staff y brifysgol.
- Tystiolaeth o safon dda o sgiliau rhifedd a TG (MS Office, gan gynnwys Excel).
- Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wella’r rhain fel y bo’n briodol.
- Gwybodaeth neu brofiad arbenigol o gynnig gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid, y gall eu dealltwriaeth o’r mater amrywio.
- Y gallu i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol yn eich maes gwaith.
- Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.
- Gallu cymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan nodi a chynnig atebion ymarferol.
- Gallu gweithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, gan gynllunio, pennu a monitro eich blaenoriaethau chi a rhai'r tîm.
- Profiad o ddefnyddio system Rheoli Ymholiadau neu Reoli Achosion neu CRM.
- Profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd tebyg, e.e. Addysg Uwch.
- Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu’r iaith.