Internal Applicants Only - Senior Technician bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Uwch-dechnegydd
Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd
Rydym yn dymuno penodi Uwch-dechnegydd Gradd 4 i ymuno â thîm Beccano-Kelly yn yr Ysgol Meddygaeth/Sefydliad Ymchwil Dementia.
Yn y swydd hon, byddwch yn:
- Trin a thrafod anifeiliaid, yn cynnal llawdriniaethau ac yn gwaith cynnal a chadw.
- Ymhlith y technegau penodol y mae Ffotometreg, qPCR a blotio gorllewinol
- Nodweddu electroffisiolegol meinweoedd niwronau
Hoffem glywed gennych os ydych:
- Yn alluog ac yn meddu ar brofiad yn y technegau uchod sy'n hollbwysig i'r swydd.
- Yn weithiwr brwdfrydig sy'n gallu bodloni terfynau amser a rhoi cipolygon arloesol ar ddata sy’n dod i law. Mae angen gwybodaeth o glefyd Parkinson hefyd.
- Yn gallu gweithio'n effeithiol ar eich pen eich hun neu mewn grŵp.
Dementia yw her fwyaf y ganrif ym maes iechyd. Hyd yma, nid oes ffordd o'i atal na hyd yn oed ei arafu, ac mae angen brys i lenwi'r bwlch gwybodaeth yn ein dealltwriaeth sylfaenol o'r clefydau sy'n ei achosi. Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI) yw’r fenter fwyaf yn y DU sy'n ymchwilio i lenwi'r bwlch hwn.
Mae Sefydliad Ymchwil Dementia y DU yng Nghaerdydd yn un o 7 canolfan yn y DU sy'n dod â gwyddonwyr blaenllaw’r byd ynghyd i greu newid sylweddol yn ein dealltwriaeth wyddonol o ddementia, gan greu targedau newydd o ran datblygu cyffuriau, adfywio'r broses therapiwtig a helpu i drawsnewid gofal.
Mae swydd ar gael i uwch-dechnegydd anifeiliaid yng ngrŵp Dr. Dayne Beccano-Kelly yn y Sefydliad ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn rhoi cefnogaeth dechnegol gynhwysfawr at ddibenion cynnal a chadw anifeiliaid, arbrofion ffotometreg ac electroffisiolegol a phrofion biocemegol a moleciwlaidd i astudio clefyd Parkinson.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cymorth ymarferol o ddydd i ddydd o ran trin a thrafod anifeiliaid a bydd gofyn iddo gynnal arbrofion ffotometreg a phrofion Aml-Electrodau sy’n dechnegol gymhleth. Yn rhan o drin a thrafod a lles yr anifeiliaid, bydd yn rhaid i'r ymgeisydd hefyd gadarnhau genoteipiau a mynegiant proteinau drwy qPCR a blotio gorllewinol. Mae profiad ym mhob un o’r rhain yn hanfodol.
Buddsoddiad ar y cyd gwerth £290 miliwn rhwng y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU yw Sefydliad Ymchwil Dementia y DU. Gan ganolbwyntio ar yr angen am wyddoniaeth arloesol a chychwynnol i wella ein dealltwriaeth o sut mae mathau o ddementia yn datblygu, bydd ymchwil Sefydliad Ymchwil Dementia y DU yn sicrhau therapïau cyflymach newydd i gleifion. Cenhadaeth y Sefydliad yw dod o hyd i ffyrdd newydd o ganfod, trin ac atal mathau o ddementia yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd gwell o roi gofal i bobl â dementia.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Ar hyn o bryd, mae trefniadau ‘gweithio cyfunol’ yn berthnasol i’r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod gan y staff yr hyblygrwydd i weithio’n rhannol gartref ac yn rhannol ar gampws y Brifysgol, gan ddibynnu ar ofynion penodol y busnes. Bydd modd trafod y trefniadau hyn ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision gwych, gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol o 40 diwrnod (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol yn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma rywle cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r swydd hon –
Mae’n rhaid ichi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu sgiliau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y gwaith. Rydym eisiau eich cefnogi a’ch datblygu ar ôl ichi ddechrau yn y swydd gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol er mwyn sicrhau eich bod yn gallu rhoi o’ch gorau:
- Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
- Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
- Cefnogi’r hyfforddiant a’r datblygiad sy'n berthnasol i'ch swydd ac y bydd ei angen arnoch hwyrach
- Cynllun mentora
Am ymholiadau anffurfiol cysylltwch â Dr Dayne Beccano-Kelly ([email protected])
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) am gyfnod penodol rhwng 01.04.2026 a 31.12.2026 yw hon.
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4) Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Sul, 14 Medi 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn cefnogi ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco. Mae hyn yn golygu, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, y byddwn yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y cyhoeddwyd yr ymchwil ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad Swydd
Rhoi cymorth technegol cynhwysfawr i'r Gyfarwyddiaeth/Ysgol mewn swyddogaeth oruchwylio/arbenigol
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
- Gan ddilyn canllawiau sefydledig, hyfforddi myfyrwyr a staff technegol o ran gweithdrefnau technegol a’r defnydd o offer, yn benodol ym maes ffotometreg a phrofion Aml-Electrodau.
- Sefydlu systemau arbrofol a gosod cyfarpar ymchwil, gan helpu myfyrwyr ac aelodau o’r staff i ddefnyddio a gosod offer a chyfarpar yn ogystal â chynnal profion ac arbrofion
- Gweithredu, cynnal a chadw, gwasanaethu, addasu, profi ac atgyweirio offer a chyfarpar cymhleth, fel yr uchod, yn benodol offer ffotometreg a phrofion Aml-Electrodau.
- Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu, addasu a gosod offer a chyfarpar arbenigol
- Bod yn gyfrifol am lefelau stoc, diogelwch, cynnal a chadw a glendid deunyddiau, offer a chyfarpar yn yr ardal waith sy'n berthnasol i drin a thrafod anifeiliaid a'r holl gyfrifoldebau cysylltiedig.
- Cofnodi data a’i ddadansoddi’n fanwl, gan gynnwys bod yn gyfrifol am gynnal cronfeydd data
- Adolygu prosesau a gweithdrefnau technegol ar y cyd â rheolwyr llinell, gan gynnwys cynghori ar opsiynau o ran eu gwella
- Cefnogi'r adran i roi gweithdrefnau a systemau newydd ar waith
Dyletswyddau Cyffredinol
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd
- Glynu wrth bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol pan fo’n berthnasol.
Yn rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon/ei hychwanegu at eich cais, gofalwch eich bod yn rhoi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen. Y cyfeirnod yn yr achos hwn yw 20523BR
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- NVQ 3/Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol/profiad sy’n gysylltiedig â’r gwaith, yn benodol o ran trin a thrafod anifeiliaid a blotio gorllewinol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Profiad sylweddol o weithio yn y meysydd allweddol yn benodol trin a thrafod anifeiliaid, ffotometreg, recordiadau electroffisiolegol a phrofion moleciwlaidd megis qPCR a blotio gorllewinol.
- Meddu ar wybodaeth arbenigol a phrofiad o gynnal a chadw, gwasanaethu a defnyddio offer a chyfarpar priodol ym maes ffotometreg a pheiriannau qPCR.
- Y gallu i sefydlu ac adolygu prosesau a gweithdrefnau technegol safonol ac argymell gwelliannau fel y bo'n briodol
Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth
- Profiad o oruchwylio gwaith pobl eraill er mwyn ysgogi unigolion a sicrhau bod y tîm yn anelu at yr un nod
- Y gallu i hyfforddi staff technegol yng ngweithdrefnau labordai a defnyddio offer a chyfarpar, yn enwedig ffotometreg, qPCR a blotio gorllewinol.
- Tystiolaeth o'r gallu i archwilio arbrofion, a’u haddasu yn unol â hynny, er mwyn sicrhau bod gwaith labordai’n cael ei gyflawni.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
- Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; canfod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau pan fydd ystod o opsiynau posibl ar gael
- Y gallu diamheuol i weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun, gan gynllunio, trefnu a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun yn briodol, yn ogystal â chynllunio a rheoli prosiectau bach
Meini Prawf Dymunol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith
- Profiad o weithio ym maes addysg uwch
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar