Research Fellow bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Senior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ysgol y Biowyddorau
Mae’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn fuddsoddiad mawr mewn gwyddoniaeth drosiadol gan Brifysgol Caerdydd. Nod y Sefydliad yw trosi ymchwil sy'n arwain y byd ar ddealltwriaeth wyddonol o fecanweithiau clefydau yn ddulliau therapiwtig arloesol. Ein gweledigaeth yw chwarae rhan flaenllaw wrth ddarganfod meddyginiaethau newydd mewn meysydd gyda’r mwya o angen, gyda phwyslais arbennig ar niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser. Rydym yn creu cymuned fywiog o ymchwilwyr ar draws y sectorau academaidd a biotechnoleg sy’n ymwneud â rhaglenni ymchwil mawr sy’n adeiladu ar gryfderau unigryw Prifysgol Caerdydd ac yn gweithio ar y cyd â phrifysgolion a chwmnïau eraill ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn edrych i ddenu Biolegydd Celloedd Cancr profiadol i gefnogi datblygiad portffolio o brosiectau darganfod cyffuriau. Ariennir y prosiect gan Ganolfan Ymchwil Cancr Cymru ac mae’n llawn amser am 3 mlynedd. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad gyda datblygu cyffuriau cancr, bioleg gyfrifiadol, data proteomig a thrawsgrifio, gweithio gyda celloedd o gleifion ac anifeiliaid, dulliau bioleg celloedd cancr a gwerthuso targedau cancr fel rhan cynnar o’r broses o ddarganfod cyffuriau.
Bydd deiliad y rôl ac arweinydd y prosiect yn cydlynu gweithgareddau allanol a mewnol i sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei gerrig milltir a cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Bydd deiliad y swydd yn cydlynu gweithgareddau allanol, gan gynnwys rheoli gweithgareddau cefnogi bioleg gyda cwmniau allanol. Bydd y deiliad yn hollbwysig wrth ddewis, llunio a llywio’r prosiectau a bydd yn cyfrannu’n gryf at sicrhau grantiau allanol dilynol a buddsoddiad masnachol.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ei wybodaeth a’i brofiad o egwyddorion adnabod targedau a dilysu targedau i ddylunio a chyflwyno arbrofion a fydd yn cynhyrchu’r pecynnau data sy’n hanfodol i gefnogi ceisiadau am arian allanol h.y. grantiau neu cyllid masnachol.
Bydd y swydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd yn rhan o dîm darganfod cyffuriau amlddisgyblaethol. Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â [email protected].
Mae’r swydd hon yn un amser llawn (35 awr yr wythnos), ar gael o 1 Mai 2025 ac am gyfnod penodol tan 30 Ebrill 2028.
Mae cyfleoedd am secondiad ar gael - sylwer ar gyfer aelodau staff Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb yn y swydd hon ar sail secondiad, bydd angen cael caniatâd eich Rheolwr Llinell presennol cyn gwneud cais.
Cyflog: £51,039 - £55,755 y flwyddyn (Gradd 7).
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 29 Awst 2025
Dyddiad cau: Dydd Sul, 14 Medi 2025
Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad Swydd
Arwain neu weithio o fewn prosiectau ymchwil, i gyfrannu at gofnod ymchwil yr Ysgol drwy ymrwymo i gynnal gwaith ymchwil sy'n arwain at gyhoeddi gwaith ymchwil o safon uchel. Gwneud ymchwil ragorol ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Ymchwil
- Datblygu amcanion ymchwil yn annibynnol i cefnogi datblygiad cyfres o prosiectau ymchwil i ddarganfod cyffuriau newydd ar gyfer cancr yn y faes bywydeg celloedd cancr, rhedeg prosiectau neu datblygu gynigion ar gyfer ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys arian ymchwil, gan weithredu fel Prif Ymchwilydd yn ôl y gofyn. Datblygu rhwydweithiau ymchwil drwy gyflwyniadau seminar/cynadleddau cenedlaethol/rhyngwladol rheolaidd
- Cynhyrchu a mynd ar drywydd syniadau ymchwil annibynnol a gwreiddiol yn y maes ymchwil, a chefnogi gweithredu syniadau ymchwil newydd mewn meysydd perthnasol
- Rhannu canfyddiadau ymchwil drwy gynadleddau, cyfarfodydd, seminarau ymchwil a chyhoeddiadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n briodol ac yn effeithiol
- Datblygu a chreu rhwydweithiau’n fewnol ac yn allanol i’r Brifysgol, dylanwadu ar benderfyniadau, archwilio gofynion ymchwil yn y dyfodol a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil
- Goruchwylio a datblygu staff ymchwil eraill sy’n gweithio ar eu prosiectau ymchwil eu hunain
- Rhoi arweiniad i fyfyrwyr yn eu maes arbenigol eu hunain, gan gynnwys goruchwylio ac asesu prosiectau israddedig
- Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol.
- Ymgysylltu’n effeithiol â sefydliadau diwydiannol, masnachol a sector cyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ayyb, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o broffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau strategol gwerthfawr ac ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio ar draws amrywiaeth o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
- Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ar draws y Brifysgol a thu hwnt.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi eu cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig neu brofiad diwydiannol perthnasol
- Arbenigedd a phortffolio diamheuol o waith ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y meysydd ymchwil canlynol:
- Datblygu cyffuriau cancr
- Bywydeg celloedd cancr
- Methodoleg bywydeg cancr, yn cynnwys (ond heb cyfyngi i): Meithrin celloedd, PCR, qPCR, blotiau gorllewinol, ELISA, CRISPR, dilyniant RNA, cytometry llif, meicrosgopeg fflwyroleuol/ gwrthgyrff, histoleg/ meicrosgopeg staeniau, modelau tyfiant cancr yn anifeiliaid, sgrinio trwybwn uchel, datblygu arbrofion a dulliau biocemegol a bioffisegol, bywydeg cyfrifiadurol a biogwybodeg, Depmap, TCGA.
- Enw da cynyddol yn genedlaethol yn y maes academaidd
- Hanes diamheuol sylweddol o gyhoeddi mewn cyfnodolion cenedlaethol a/neu allbynnau ymchwil eraill.
- Gallu diamheuol i ymgeisio am neu ennill cyllid ymchwil cystadleuol ynghyd â datblygu phortffolio cryf o grantiau ymchwil
- Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
- Gallu diamheuol i arwain a datblygu tîm ymchwil
- Gallu diamheuol i ddenu myfyrwyr MA a PhD
- Gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol a gweithio mewn tîm yn y gwaith
- Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol.
- Tystiolaeth o gydweithio â diwydiant.
- Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth fanwl.
- Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol y gymuned Addysg Uwch.
- Tystiolaeth o allu cyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol.
- Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb am waith gweinyddol academaidd.