Internal Applicants Only Finance and Research Co-Ordinator, DECIPHer bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig- Cydlynydd Ymchwil a Chyllid, DECIPHer
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Cydlynydd Ymchwil a Chyllid i weithio yng Nghanolfan Ymchwil y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu mewn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) sydd wedi'i lleoli yn yr ysgol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sefydlu, cynnal a gwella prosesau a systemau cydlynu ymchwil, megis coladu, rheoli a dadansoddi data allbwn ar gyfer adroddiadau ac effaith.
Byddwch yn galluogi dulliau monitro a rhagfynegi ariannol effeithlon, effeithiol a chywir, yn costio ceisiadau am grantiau, yn cadw cofnodion allbwn, ac yn adrodd yn ôl i arianwyr ar gyfer portffolio mawr o brosiectau a rhaglenni ymchwil.
Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol, gan gydweithio'n agos â Phrif Ymchwilwyr, timau Gwasanaeth Proffesiynol a rhanddeiliaid allanol yn ôl yr angen.
Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31 Mawrth 2028 ac mae ar gael yn syth.
Cyflog: £33,482 - £36,130 Gradd 5 y flwyddyn ((gyda gynyddrannau blynyddol hyd at cyflog terfynol ar frig y raddfa. Fel arfer, mae apwyntiadau newydd yn cael eu gwneud ar ddechrau'r raddfa gyflog.
Yn gyfrifol am Sara Jones, Rheolwr y Ganolfan DECIPHer
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Sara, [email protected] ffôn 029 2087 9052
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
- Byddwch yn cymryd yr awenau ac yn gyfrifol am gasglu data yn DECIPHer, gan fynd ati i gofnodi holl allbynnau DECIPHer mewn modd rhagweithiol a chywir. Bydd hyn yn cynnwys ceisiadau am grantiau, dyfarniadau grantiau, cyhoeddiadau, y prosiectau y mae’r ganolfan yn eu mabwysiadu, a gweithgareddau staff/myfyrwyr eraill yn unol â gofynion arianwyr.
- Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar systemau, prosesau a gweithdrefnau cofnodi data i gwsmeriaid mewnol ac allanol. Byddwch yn defnyddio barn a chreadigrwydd i awgrymu’r camau gweithredu mwyaf priodol, gan sicrhau dealltwriaeth o faterion cymhleth a chysyniadol.
- Casglu a dadansoddi data i lywio penderfyniadau uwch-reolwyr, gan nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a pharatoi adroddiadau fel y bo’n briodol
- Sefydlu a chadeirio gweithgorau/timau prosiect yn ôl yr angen i gyflawni amcanion perfformiad allweddol strategol ar lefel y ganolfan.
- Gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Digwyddiadau DECIPHer er mwyn rhannu allbynnau ar gyfer y we, cylchlythyr a chyfryngau eraill fel bod DECIPHer yn cael cymaint o effaith â phosibl.
- Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr a Rheolwr y Ganolfan i reoli'r gwaith o gynhyrchu adroddiadau arianwyr a llyfrynnau, yn ogystal ag archwilio a dehongli data yn ôl yr angen i ddangos allbynnau .
- Gweithio gyda'r Swyddog Cynnwys y Cyhoedd i gofnodi gweithgareddau cynnwys y cyhoedd at ddibenion datblygu, adrodd a monitro ceisiadau.
- Hyrwyddo, cydlynu a chynorthwyo proses fabwysiadu ymchwil DECIPHer, gan gysylltu ag arweinwyr prosiect ac uwch-academyddion allweddol i gynnal cofnodion cywir.
- Cofrestru prosiectau ymchwil newydd gyda Phortffolio Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
- Cysylltu â thimau ysgolion a thimau canolog y brifysgol ynglŷn â chyfleoedd ariannu i'w rhannu o fewn DECIPHer.
- Rhoi cymorth proffesiynol i bwyllgorau gwyddonol, rheoli a chynghorol allweddol DECIPHer.
- Rhoi cyngor ac arweiniad cyffredinol ar brosesau’r Ganolfan a’r Brifysgol i staff canolfan DECIPHer yn absenoldeb rheolwyr y ganolfan, yn ôl yr angen.
- Gweithio gyda chydweithwyr gwasanaeth academaidd a phroffesiynol i gydlynu’r gwaith o baratoi cyllidebau ar gyfer ceisiadau am grantiau ymchwil. Rhoi cyngor ac arweiniad ar brosesau Prifysgol Caerdydd, terfynau amser a rheolau arianwyr, gan wneud argymhellion ar arferion gorau.
- Gweithio gyda Rheolwr y Ganolfan i optimeiddio prosesau a gweithdrefnau ariannu prosiectau DECIPHer i gwsmeriaid mewnol ac allanol. Defnyddio barn a chreadigrwydd i awgrymu’r camau gweithredu mwyaf priodol, gan sicrhau dealltwriaeth o faterion cymhleth a cysyniadol.
- Gyda chymorth a goruchwyliaeth rheolwyr y ganolfan, gwneud yn siŵr bod prosesau cydlynu a rheolaeth ariannol prosiectau yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac o fewn y gyllideb. Newid y dull cyflwyno mewn modd rhagweithiol yn unol â gofynion y cwsmer a’r arianwyr.
- Gweithio gydag uwch-staff allweddol yn DECIPHer i fonitro sut mae cyllideb y Ganolfan yn cael ei gwario, gan gyflwyno data ac adroddiadau cyllid yn ôl yr angen.
- Meithrin perthnasoedd gwaith gydag arianwyr, rhanddeiliaid allweddol a gweithwyr proffesiynol Prifysgol Caerdydd i fonitro a chysoni cyllidebau cymhleth.
- Gweithio gyda'r Rheolwr Gweinyddol i gydlynu prosesau cymeradwyo cyllid ar gyfer newidiadau cytundebol staff a phenodiadau sy'n gysylltiedig â phortffolio prosiectau ymchwil y ganolfan.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Dyletswyddau Cyffredinol
- Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Gwasanaeth Proffesiynol DECIPHer i gynorthwyo gwaith y ganolfan yn ôl yr angen.
- Gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau.
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd sy’n briodol ac a fydd yn gwella perfformiad.
- Glynu wrth bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo'r Ganolfan yn ôl yr angen.
- Cyflawni dyletswyddau eraill yn achlysurol nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Cafodd Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ei sefydlu gyda chyllid gan Gydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC) yn un o bump o Ganolfannau Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd rhwng 2009 - 2019 ar y cyd â Phrifysgol Bryste a Phrifysgol Abertawe. Yn 2020, fe ddaeth yn un o Ganolfannau Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymorth ariannol tan 2025. Mae DECIPHer bellach wedi derbyn cyllid cynaliadwy gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i barhau ei waith rhwng 2025-2030.
Mae cymorth ariannol parhaus yn sicrhau y gallwn ni barhau i roi:
- llwyfan ar gyfer iechyd y cyhoedd amlddisgyblaethol rhyngwladol sy’n arwain y byd ymchwil i wneud gwelliannau
- awyrgylch rhyngwladol sy’n arwain y byd ar gyfer datblygu gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd ymchwil i wneud gwelliannau
- man amlwg yng Nghymru i weithio ar y cyd rhwng y byd academaidd, polisi, ymarfer a'r cyhoedd mewn ymchwil gwella iechyd y cyhoedd i wneud y defnydd gorau o ymchwil, ac effaith.
Mae DECIPHer yn chwarae rhan sylweddol mewn cyfres o fuddsoddiadau pwysig wedi’u hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, a’r Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a chanolfan Behavioural Research-UK wedi’i hariannu gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). O fewn y pum mlynedd nesaf, bydd yn cydweithio â sefydliadau sydd wedi cael eu hariannu yn ddiweddar gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gynnwys y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio ac Uned Feiroleg Gymhwysol Cymru. Mae hefyd yn cynnal y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a rhaglen ymchwil ac addysgu mewn methodoleg a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer datblygu a gwerthuso ymyriadau. Bydd ein gwaith ymchwil o 2025 yn anelu at wella iechyd y cyhoedd, lleihau anghydraddoldebau, ac ysgogi arloesedd methodolegol wrth ddatblygu a gwerthuso ymyriadau gwella iechyd.
Mae DECIPHER ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (sbarc | spark) ochr yn ochr â nifer fawr o ganolfannau ymchwil gwyddorau cymdeithasol eraill. Mae wedi’i leoli yn bennaf yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ac mae'n gweithio ar draws y Brifysgol, gyda rhai ymchwilwyr wedi'u lleoli yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol yn ganolfan rhagoriaeth mewn ymchwil ac addysgu ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys cymdeithaseg, astudiaethau polisi, troseddeg, addysg a gwaith cymdeithasol.
Mae rhagor o fanylion am weithgareddau’r Ysgol ar ein hafan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/social-sciences
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Gradd/NVQ Lefel 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol
- Profiad sylweddol o weithio mewn adran cydlynu ymchwil ac ariannu prosiectau ym maes addysg uwch.
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth broffesiynol o ddatblygiadau o bwys ym meysydd ariannu ymchwil a rheoli data am allbynnau i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Y gallu i sefydlu systemau, gweithdrefnau a phrosesau swyddfa safonol, yn ogystal â’u hadolygu'n rhagweithiol, eu haddasu a’u gwella, yn unol â chynlluniau strategol.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn effeithiol ac yn broffesiynol ag ystod eang o bobl.
- Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r prosesau a’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn gwneud yn siŵr bod gwasanaeth o safon yn cael ei gyflwyno.
- Profiad o fentora, datblygu a goruchwylio pobl eraill.
- Y gallu i ddatblygu perthnasoedd o fewn ac ar draws sefydliadau allanol, ag unigolion perthnasol eraill a staff y ganolfan i gynorthwyo’r gwaith o gydlynu ymchwil.
- Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau cymhleth drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle gallai’r canlyniadau amrywio.
- Tystiolaeth o ragoriaeth ym meysydd cyflwyno, gweinyddu a threfnu prosiectau heb oruchwyliaeth i reoli eich amser yn effeithiol ar draws llu o ofynion, cynllunio a gosod blaenoriaethau, bodloni terfynau amser, gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm.
- Profiad o weithio mewn canolfan ymchwil.
- Dealltwriaeth dda o ymchwil gwyddorau cymdeithasol neu iechyd, a dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth amlwg o faterion cyfoes a datblygiadau allweddol wrth wella iechyd y cyhoedd a lleihau anghydraddoldebau.
- Tystiolaeth o gynghori, datblygu a chynllunio costau ar gyfer ceisiadau a dyfarniadau grant.
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad pellach
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.
Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.
Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: XXXXBR.
Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei ddatblygu os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.