Internal Applicants Only - Security Systems Officer at Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Onsite
- Professional
- Office in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Systemau Diogelwch
Prifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd â gweledigaeth feiddgar a strategol yng nghanol prifddinas hardd a ffyniannus yw Prifysgol Caerdydd. Ni yw'r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys, sydd â mwy na 7,000 o staff.
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau’r gwaith mwyaf a wnaed ers cenhedlaeth i uwchraddio’r campws, gan fuddsoddi £600m yn ein dyfodol. Rydym hefyd yn parhau i ddatblygu a gwella ein campws, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau.
Bydd y Swyddog Systemau Diogelwch yn adrodd i Reolwr y Systemau Diogelwch a bydd yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu cymorth gwell sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i'n tîm Diogelwch a'n rhanddeiliaid ledled y Brifysgol mewn perthynas â chynnal systemau. Ymhlith y systemau y mae angen eu cynnal mae teledu cylch cyfyng, rheoli mynediad electronig a systemau larymau tresmaswyr.
Mae’r cyfle newydd cyffrous hwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos profiad o weinyddu a chynnal systemau/meddalwedd technegol, a byddai'n rôl berffaith i rywun sydd â sgiliau cyfathrebu, TG, trefnu a datrys problemau rhagorol i sicrhau bod gwasanaeth rhagorol bob amser i gydweithwyr ac ystod amrywiol o gwsmeriaid.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon sydd ar gael ar unwaith.
Rôl ar y campws yw hon gan ei bod yn ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn ymatebol wrth roi cymorth hanfodol i gydweithwyr sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen yno. O'r herwydd, ni fydd gweithio gartref yn cael ei gynnig yn drefniant rheolaidd.
Cyflog: £28,031 y flwyddyn (Gradd 4), gyda 4 chynyddran flynyddol hyd at £31,236 y flwyddyn (cyflog terfynol ar frig y raddfa).
Mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n rhoi cyfleoedd i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys lwfans gwyliau blynyddol hael, cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol, a mwy.
PWYSIG: Mae Manyleb yr Unigolyn wedi’i rhannu’n ddwy adran: hanfodol a dymunol. Dangoswch yn glir sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol. Lle bo modd, dylech roi enghreifftiau o sut, pryd a ble rydych wedi defnyddio eich profiad, eich gwybodaeth, eich sgiliau penodol a’ch galluoedd yn unol â gofynion y swydd benodol hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu hyn yn llawn drwy ddatblygu datganiad i gefnogi eich cais, gan restru’r HOLL FEINI PRAWF a rhoi sylwadau wrth bob un sy’n nodi sut y gwnaethoch eu bodloni.
Rhaid cwblhau’r datganiad cyn dechrau gwneud eich cais ar-lein oherwydd bydd yn rhaid i chi ei lanlwytho. Pan fyddwch yn lanlwytho’r datganiad ategol, dylai “datganiad ategol” fod yn enw ar y ddogfen a dylai hefyd gynnwys cyfeirnod y swydd
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 14 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Darparu cefnogaeth ac arweiniad cynhwysfawr a phroffesiynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy'n ymwneud â'n gwahanol Systemau Diogelwch (e.e. rheoli mynediad electronig, allweddi/cloeon, larymau tresmaswyr, systemau teledu cylch cyfyng), i ddefnyddwyr ledled y Brifysgol a chynorthwyo'r Rheolwr Systemau Diogelwch i reoli contractau cynnal a chadw/cymorth allanol, a datrys diffygion wrth ymateb iddynt a chydlynu a chyflawni prosiectau wedi'u trefnu ymlaen llaw (e.e. gosodiadau newydd, uwchraddio).
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn roi’r cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Prif Ddyletswyddau
- Rhoi cyngor ac arweiniad manwl i gwsmeriaid mewnol ac allanol (staff, myfyrwyr neu’r cyhoedd) ynghylch prosesau a gweithdrefnau Systemau Diogelwch, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
- Cefnogi Rheolwr y Systemau Diogelwch i sicrhau bod contractau Systemau Diogelwch allanol yn cael eu cynnal yn effeithiol ac effeithlon a chydlynu a chyflawni prosiectau wedi'u trefnu ymlaen llaw (e.e. gosodiadau newydd, uwchraddio).
- Monitro systemau rheoli mynediad electronig a theledu cylch cyfyng i ddatrys materion yn annibynnol, gan gynnwys rhai technegol eu natur.
- Sicrhau mynd i’r afael â diffygion a gaiff eu nodi neu eu hadrodd ar frys, gan wneud yn siŵr bod y cwsmer a/neu'r rhai yr effeithir arnyn nhw yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac amseroedd trwsio tebygol. "Bydd y rôl yn gofyn i chi ymweld ag adeiladau'r brifysgol i helpu i nodi namau / eu brysbennu i'w datrys.
- Darparu cymorth rhagorol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i’r timau Derbyn Myfyrwyr ac Ymrestru mewn perthynas â chreu cardiau adnabod, ymholiadau am hawliau mynediad a materion cysylltiedig.
- Datblygu gweithdrefnau sy'n ymwneud â gweithredu Systemau Diogelwch a phrosesau gweithredol a gweinyddol y tîm.
- Diweddaru cronfeydd data (gan gynnwys trin data personol), gan weithredu yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol bob amser.
- Gweithio’n rhan o bartneriaeth â chydweithwyr o bob rhan o’r timau Ystadau a Chyfleusterau Campws i gyflawni a chynnal gwasanaeth 'un tîm', sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer y Brifysgol.
- Gweithio gydag eraill i wneud argymhellion ar gyfer gwella ein ffyrdd o weithio
- Creu perthynas gynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a chysylltiadau allanol) i helpu i wella’r gwasanaeth y mae'r tîm yn ei roi i’w gwsmeriaid
- Cyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol i helpu'r tîm a'r adran i gyflawni eu hamcanion
- Casglu a dadansoddi data (e.e. llwybr archwilio cardiau mynediad, tueddiadau o ran diffygion) fel bod modd gwneud penderfyniadau gwybodus, gan nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a chreu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer y tîm rheoli.
- Hyfforddi ac arwain cydweithwyr ledled y Brifysgol mewn perthynas â Systemau Diogelwch yn ôl yr angen.
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
- Cynnal gwerthoedd ac ymddygiad y Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb i’r rhain yn lleol.
Sylwer: Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad Datgelu a Gwahardd (DBS) sylfaenol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn bennaf, bydd y rôl yn cynnwys gweithio oriau gwaith arferol yn ystod y dydd ond efallai y bydd gofyn i chi weithio ar benwythnosau, gyda'r nos a/neu nosweithiau ar adegau sy'n addas i anghenion y Brifysgol yn ystod cyfnodau prysur.
Rôl ar y campws yw hon gan ei bod yn ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn ymatebol wrth roi cymorth hanfodol i gydweithwyr sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen yno. O'r herwydd, ni fydd gweithio gartref yn cael ei gynnig yn drefniant rheolaidd.
SUT Y BYDDWN YN EICH CEFNOGI I GYFLAWNI’R SWYDD HON
Rydym am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
- Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda’ch Rheolwr Llinell.
- Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
- Cymorth i ymgymryd â sesiynau hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell. Hwyrach mai trefniant anffurfiol fydd hyn neu’n brentisiaeth sy'n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ Gweinyddu Busnes.
- Cynllun mentora staff.
- Cymorth i ddysgu’r Gymraeg neu loywi eich sgiliau iaith.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Rydyn ni’n chwilio am rywun sy'n gallu bod yn rhan o dîm ac a fydd yn gweithio gyda chyd-weithwyr i gynnig gwasanaeth gwych i staff a myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau eich gyrfa, neu barhau â hi, ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gall y rôl hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol/cymorth blaenorol gyda diddordeb arbennig ym maes Systemau Diogelwch, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i fod yn llwyddiannus yn y rôl. Dylech fod yn frwdfrydig dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.
Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i chludo i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol), cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r swydd.
Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW-RHIF BR-TEITL Y SWYDD] a'i atodi wrth eich cais yn y system recriwtio yma.
Sylwer mai dyma'r meini prawf a ddefnyddir i asesu ymgeiswyr y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).
Meini Prawf Hanfodol
- Y gallu i gyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno, ac yn effeithiol i roi cyngor ac arweiniad manwl sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd rhagorol o ran TG.
- Profiad o weithio mewn swydd neu faes gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wella’r rhain fel y bo'n briodol
- Profiad o weinyddu a rheoli system dechnegol/meddalwedd.
- Gwybodaeth arbenigol am gymorth systemau a thystiolaeth o ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
- Y gallu i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol yn eich maes gwaith.
- Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei gynnig.
- Y gallu i gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan ddod o hyd i atebion ymarferol a’u cynnig.
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chyflwyno gwaith mewn pryd, gan gynllunio a monitro eich blaenoriaethau chi a’r tîm.
- Profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd tebyg, e.e. Addysg Uwch, Cymorth Diogelwch, Rheoli Cyfleusterau.
- Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu’r parodrwydd i’w dysgu.