Platzhalter Bild

Hybrid Clinical Research Fellow at Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, United Kingdom · Hybrid

£109,061.00  -  £109,061.00

Apply Now

Hysbyseb

Cymrawd Ymchwil Glinigol
Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd


Dyma gyfle cyffrous i fod yn aelod o dîm astudio a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal sy’n ceisio deall diogelwch, risgiau a chydbwysedd y niwed a’r manteision sy’n deillio o ofal i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Arweinir yr astudiaeth hon gan yr Athro Andrew Carson-Stevens, Athro Diogelwch Cleifion, Prifysgol Caerdydd.
 
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r Athro Andrew Carson-Stevens a chydweithwyr yn yr Ysgol Meddygaeth, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Chanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) Prifysgol Caerdydd, ein cyfranwyr cyhoeddus, ENRICH Cymru a Choleg Prifysgol Llundain.

Bydd y Cymrawd Ymchwil Glinigol yn gweithio gyda'r tîm astudio a bydd yn adolygu hysbysiadau diogelwch iechyd a lles ac yn dadansoddi'r adroddiadau hyn i nodi nodweddion yr hyn y mae gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn rhoi gwybod amdano. 

Dylai ymgeiswyr fod ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Chofrestr y Meddygon Teulu. Bydd angen gwiriad DBS arnynt cyn dechrau yn eu rôl. Rhaid i bob gweithiwr lynu wrth bolisïau diogelu'r Brifysgol ar gyfer plant ac oedolion a ystyrir eu bod mewn perygl (
https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0005/2911838/2021_Safeguarding_Policy___Procedure.pdf) 

Mae profiad o ymgymryd â gwaith ymchwil yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio'n agos yn rhan o dimau, gafael dda ar ddefnyddio technoleg (gliniaduron, Rhwydweithiau Preifat Rhithwir (VPNs) a Microsoft Excel) a brwdfrydedd i ddysgu am gysyniadau newydd fel dadansoddi data. 

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â’r Rheolwr Astudio, Dr Joy McFadzean, Darlithydd Clinigol Diogelwch Cleifion, Is-adran Meddygaeth Poblogaeth, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd: [email protected] i drefnu trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais. 

Bydd deiliad y rôl hon yn gweithio ym Mharc y Mynydd Bychan, Caerdydd.

Swydd ran-amser yw hon (15 awr yr wythnos, Dydd Llun a dydd Mawrth), ar gael o 1 Tachwedd 2025 am dymor penodol tan 31 Hydref 2026.

Cyflog: £109,061 y flwyddyn, pro rata (Pwynt GP00 ar Raddfa Gyflog Addysgwyr Meddygon Teulu).
Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.


Ar hyn o bryd, mae trefniadau ‘gweithio cyfunol’ yn berthnasol i’r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod gan y staff yr hyblygrwydd i weithio gartref yn rhannol ac yn rhannol o gampws y Brifysgol, gan ddibynnu ar ofynion penodol y busnes.  Oherwydd anghenion y busnes, bydd angen i chi weithio yn y swyddfa o bryd i’w gilydd ond, fel arall, bydd gennych yr hyblygrwydd i weithio o bell (ar yr amod bod y rheolwr llinell wedi cytuno i hynny).  Bydd modd trafod y trefniadau hyn ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol, pro-rata (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Dyddiad hysbysebu: 22 Awst 2025

Dyddiad cau: 21 Medi 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA). Mae hyn yn golygu, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, y byddwn yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y cyhoeddwyd yr ymchwil ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:  Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd 

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chreu diwylliant gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag eu rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Er mwyn galluogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.

Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Swyddogaeth
Gweithio’n rhan o brosiectau ymchwil, i gyfrannu at gofnod ymchwil yr Ysgol drwy ymrwymo i gynnal gwaith ymchwil sy'n arwain at gyhoeddi gwaith ymchwil o safon uchel. Bydd deiliad y swydd yn ymdrechu i wneud ymchwil o’r safon uchaf ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Ymchwil
  • Datblygu amcanion ymchwil yn annibynnol yn rhan o astudiaeth gofal yn y cartref. Datblygu rhwydweithiau ymchwil drwy gyflwyno’n rheolaidd mewn seminarau/cynadleddau cenedlaethol/rhyngwladol.
  • Cynnig a mynd ar drywydd syniadau annibynnol a gwreiddiol ar gyfer ymchwil yn y maes dan sylw a chynnig syniadau newydd ar gyfer ymchwil mewn meysydd cysylltiedig
  • Rhannu canfyddiadau ymchwil mewn cyhoeddiadau, seminarau ymchwil, cyfarfodydd a chynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol priodol ac effeithiol
  • Datblygu a chreu rhwydweithiau’n fewnol ac yn allanol i'r Brifysgol er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau, ymchwilio i ofynion ymchwil y dyfodol a rhannu syniadau ar gyfer ymchwil er budd prosiectau ymchwil.
  • Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol

Arall
  • Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar amrywiaeth o weithgareddau – bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol
  • Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau’r Ysgol er mwyn hyrwyddo’r Ysgol a’i gwaith i’r Brifysgol ehangach a’r byd y hwnt iddi
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

109,061

Gradd

GP00

Isafswm y Cyflog

109,061

Categori Swyddi

Academaidd- Ymchwil

Llwybr Gyrfa

Ymchwilydd Clinigol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
1.    Aelodaeth Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (MRCGP)
2.    Ar Gofrestr Meddygon Teulu ac wedi ail-ddilysu fel Meddyg Teulu ar hyn o bryd - mae angen cofrestru'n llawn gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

3. Arbenigedd sefydledig a phortffolio profedig o waith ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y meysydd ymchwil canlynol
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Diogelwch cleifion

4. Datblygu enw da cenedlaethol yn y maes academaidd hwn

5. Hanes profedig o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion cenedlaethol a/neu allbynnau ymchwil eraill

6. Gallu diamheuol i sicrhau cyllid cystadleuol ynghyd â phortffolio cryf o grantiau ymchwil

Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm

7. Y gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol a chydag argyhoeddiad

8. Gallu profedig i arwain a datblygu tîm ymchwil

Arall

9. Y gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith.

10. Llythrennedd TG a'r gallu i ddefnyddio meddalwedd fel Excel


Meini Prawf Dymunol

1. Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes pwnc cysylltiedig

2. Tystiolaeth o gydweithio â’r byd diwydiant

3. Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth fanwl.

4. Tystiolaeth o allu cyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil yr Ysgol
 
Apply Now

Other home office and work from home jobs