Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Student Cases & Engagement Administrator bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid

28.031,00 £  -  31.236,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb



Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Achosion Myfyrwyr a Gweinyddwr Ymgysylltu


Ymunwch â thîm Gwasanaethau Proffesiynol gwych yn yr ysgol busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd! 

Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio yn Ysgol Busnes Caerdydd. Rydym yn chwilio am weinyddwr profiadol sy'n rhoi sylw i fanylion i weithio o fewn y tîm achosion myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae'r tîm hwn yn darparu cefnogaeth weinyddol broffesiynol gynhwysfawr i addysgu ac i fyfyrwyr yn yr Ysgol Busnes ar gyfer rheoli achosion myfyrwyr ac ymgysylltu, gan gynnwys dilyn a datrys achosion o gamymddwyn academaidd, apeliadau academaidd, materion disgyblu myfyrwyr, cwynion myfyrwyr a cheisiadau Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) yn amserol.  

Gan weithio dan gyfarwyddyd y Swyddog Ymgysylltu ac Achosion Myfyrwyr, bydd y Gweinyddwr Achosion Myfyrwyr ac Ymgysylltu hefyd yn cynorthwyo gyda chydlynu a gweinyddu monitro ymgysylltiad myfyrwyr, yn ymdrin â cheisiadau myfyrwyr ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol ac yn cefnogi Pwyllgorau a Byrddau perthnasol yr Ysgol gan gynnwys Grwpiau Amgylchiadau Esgusodol yr Ysgol. 

Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn gwneud hynny’n bosibl, a hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd bywyd-gwaith.

MANYLEB YR UNIGOLYN 

Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio’n rhan o dîm ac a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i roi gwasanaeth gwych i’r staff a’r myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gall y rôl hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol blaenorol gyda diddordeb arbennig mewn swydd olygu, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i fod yn llwyddiannus yn y rôl. Dylech fod yn frwdfrydig dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r rôl.

Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW-RHIF BR-TEITL Y SWYDD] a'i roi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio.

Nodwch mai dyma'r meini prawf hefyd y bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hasesu yn eu herbyn mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026.

Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn  (Gradd 4).

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Diben y Swydd

-    Rhoi cefnogaeth weinyddol gynhwysfawr i addysgu ac i fyfyrwyr yn yr Ysgol, gyda chefnogaeth benodol ar gyfer rheoli achosion myfyrwyr ac ymgysylltu yn yr Ysgol, gan gynnwys dilyn a datrys achosion o gamymddwyn academaidd, apeliadau academaidd, materion disgyblu myfyrwyr, cwynion myfyrwyr a cheisiadau Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) yn amserol, a sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau a Gweithdrefnau’r Ysgol a’r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig.
-    Cefnogi cydgysylltu a gweinyddu ceisiadau ar gyfer monitro ymgysylltiad myfyrwyr a cheisiadau myfyrwyr ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol a Phwyllgorau a Byrddau perthnasol yr Ysgol gan gynnwys Grwpiau Amgylchiadau Esgusodol yr Ysgol.

Prif Ddyletswyddau 
•    Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau gweinyddol myfyrwyr (yn benodol, maes cymorth i fyfyrwyr) i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau a lle bo'n briodol, cyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth. 
•    Cydweithio â phobl eraill er mwyn gwneud argymhellion i ddatblygu'r prosesau a'r gweithdrefnau sydd eisoes ar waith. 
•    Sefydlu perthynas waith gyda phobl allweddol er mwyn gwella lefelau gwasanaeth, gan gyfathrebu’n briodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen. 
•    Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r Ysgol, megis: 
o    Cydlynu trefniadau amgylchiadau esgusodol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig; 
o    Cydlynu’r broses apelio ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. 
o    Cydlynu’r broses Ymarfer Annheg ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.     
o    Cydlynu'r broses disgyblu myfyrwyr a chwynion. 
o    Cydlynu'r broses Ymgysylltu a'r Ysgol a Chynnydd Academaidd ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. 
•    Casglu a dadansoddi data i lywio penderfyniadau, gan adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data (e.e. cynnydd myfyrwyr, presenoldeb, ymarfer annheg) a chreu adroddiadau fel y bo'n briodol. 
•    Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y Brifysgol ym maes amgylchiadau esgusodol, achosion myfyrwyr a monitro myfyrwyr yn ôl yr angen. 
•    Cydlynu'r prosesau, addasiadau a chefnogaeth angenrheidiol ar gyfer myfyrwyr ag anabledd. 
•    Gweithredu fel Ysgrifennydd neu ddarparu cefnogaeth i Bwyllgorau/Byrddau/cyfarfodydd Ysgol yn ôl yr angen, gan gynnwys: 
o    Trefnu cyfarfodydd, archebu ystafelloedd, cyhoeddi manylion i aelodau mewnol ac allanol. 
o    Paratoi agendâu a dogfennaeth safonol.     
o    Cynnal a diweddaru manylion aelodaeth fewnol ac allanol Pwyllgorau a Byrddau. 
o    Cofnodi cyfarfodydd a Byrddau, paratoi agenda, cofnodion a phapurau eraill i'w cymeradwyo a'u cylchredeg.  
 
Dyletswyddau Cyffredinol 

•    Dylai'r deiliad swydd allu dangos cydymffurfiaeth â gwerthoedd yr Ysgol, a ddatblygwyd ar y cyd â'i strategaeth Gwerth Cyhoeddus. 
•    Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd sy'n addas i'r rôl ac a fydd yn gwella eich perfformiad.  

Parhaodd y Disgrifiad Swydd mewn Gwybodaeth Ychwanegol

Uchafswm y Cyflog

31,236

Gradd

Gradd 4

Isafswm y Cyflog

28,031

Categori Swyddi

Gweinyddol / Clerigol

Gwybodaeth Ychwanegol

Disgrifiad Swydd – parhad

•    Cyfrannu at weithgareddau ehangach Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol.  
•    Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’r dyletswyddau.  
•    Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd a fydd yn gyson â'r rôl.

Ysgol Busnes Caerdydd
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ysgol fusnes a rheoli flaenllaw yn y DU, yn cynnal achrediadau AACSB ac AMBA ac yn y 1af safle 1af am ei Hamgylchedd Ymchwil a'i 2il ar Bŵer Ymchwil (REF2021). Mae gan yr Ysgol bwrpas Gwerth Cyhoeddus ac mae'n canolbwyntio ar gyd-greu addysg a gwybodaeth o ansawdd uchel, rhyngddisgyblaethol sy'n darparu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae gweithgareddau'r Ysgol yn gogwyddo tuag at bum Her Fawr: Gwaith gweddus, economïau teg a chynaliadwy, sefydliadau yn y dyfodol, llywodraethu da, ac arloesedd cyfrifol.

Llwybr Gyrfa

Cymorth Gweinyddol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol  

1.    Profiad sylweddol o weithio mewn swydd weinyddol neu amgylchedd swyddfa, lle ceir llawer o ryngweithio â defnyddwyr gwasanaeth a phwyslais ar wasanaeth i gwsmeriaid. 
2.    Gallu sicrhau gwybodaeth arbenigol mewn prosesau a rheoliadau gweinyddol yn ymwneud ag amgylchiadau esgusodol, achosion myfyrwyr a monitro. 
3.    Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a’u gwella fel y bo’n briodol. 
4.    Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol a chynnig cyngor ac arweiniad ar feysydd gwaith i ystod o gwsmeriaid sy’n amrywiol eu lefel o ddealltwriaeth. 
5.    Y gallu i roi cyngor i randdeiliaid allweddol ym maes eich gwaith a dylanwadu arnyn nhw. 
6.    Tystiolaeth o’r gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei roi. 
7.    Tystiolaeth o allu datrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau pan fydd ystod o opsiynau posibl ar gael. 
8.    Tystiolaeth o allu gweithio heb oruchwyliaeth, gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun.

Meini Prawf Dymunol  

 1.    Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd tebyg e.e. addysg uwch 
2.    Gwybodaeth arbenigol am amgylchiadau esgusodol, achosion myfyrwyr a monitro myfyrwyr. 
3.    Gallu defnyddio MS Access i lunio ymholiadau ac adroddiadau. 
4.    Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i’w dysgu.  
Jetzt bewerben

Weitere Jobs