Internal Applicants Only - Senior Marketing and Campaigns Officer bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Uwch Swyddog Marchnata ac Ymgyrchoedd
Yn aelod allweddol o’r tîm Marchnata ac Ymgyrchoedd, byddwch yn creu cynnwys o safon i gefnogi ymgyrchoedd recriwtio myfyrwyr y Brifysgol ac ar gyfer nifer o sianeli, gan gynnwys deunyddiau wedi’u hargraffu a deunyddiau digidol, i gynulleidfaoedd sy’n cynnwys darpar fyfyrwyr, athrawon a rhieni.
Byddwch hefyd yn rhan o waith dylunio ymgyrchoedd marchnata ar draws sawl sianel, gan gynnwys eu gwerthuso a goruchwylio enillion ar fuddsoddiad.
Mae’n bosibl y bydd y rôl hon yn amrywio dros amser yn sgil adolygiad sy’n mynd rhagddo ynghylch gweithgareddau marchnata a recriwtio myfyrwyr y Brifysgol.
Mae’r swydd hon ar gael am gyfnod penodol dros gyfnod mamolaeth tan 3 Medi 2026.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)
Mae'r rôl hon yn gymwys i gael ei gynnig ar sail gweithio cyfunol, sy'n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch hefyd ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn, ble bynnag y mae'r rôl a'r angen busnes yn caniatáu, gan gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 20 Tachwedd 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
- Creu cynnwys diddorol a chyffrous yn ymwneud ag ystod o bynciau i randdeiliaid allweddol i gefnogi ymwybyddiaeth brand ac ysgogi sgyrsiau - annog myfyrwyr i nodi Prifysgol Caerdydd yn ddewis cyntaf o ran Prifysgol.
- Datblygu a chynhyrchu deunyddiau marchnata a recriwtio, gan gynnwys copïau caled o lyfrynnau a phrosbectysau, e-gyfathrebiadau, cynnwys i’r wefan a chynnwys y gellir ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Cefnogi gwaith cynllunio a rheoli ymgyrchoedd marchnata integredig i gefnogi recriwtio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
- Gweithio â’r tîm Cyfathrebu Digidol i sicrhau bod cynnwys y we yn cyfrannu at ein nodau marchnata drwy gynnwys addas, tudalennau glanio a metrigau rhoi adborth.
- Chwarae rôl flaenllaw yng ngwaith hyrwyddo hunaniaeth brand a thôn llais y Brifysgol. Cefnogi gwaith datblygu ein prosbectysau a deunyddiau recriwtio eraill er mwyn sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth â’n harddull tŷ.
- Gweithio a’r Rheolwr Cysylltiadau â Chwsmeriaid a’r Rheolwr Marchnata ac Ymgyrchoedd i nodi a deall ein hamryw gynulleidfaoedd, eu hymddygiadau a chymhelliant, a datblygu negeseuon wedi’u teilwra i gyrraedd darpar fyfyrwyr o ansawdd uchel.
- Defnyddio ymchwil i'r farchnad a datblygiadau mewn arferion marchnata i ddylunio a gwerthuso negeseuon marchnata, a nodi a thargedu anghenion darpar ymgeiswyr. Defnyddio’r wybodaeth hon i arwain gwaith gwella a datblygu parhaus ein negeseuon a chynhyrchu cynnwys.
- Sefydlu perthynas waith dda â chysylltiadau allweddol ar draws timau’r adran a chydweithwyr, yn ogystal ag Undeb y Myfyrwyr a chymdeithasau allweddol.
- Arwain gweithgorau â chydweithwyr ledled y Brifysgol i gyflawni prosiectau cyfathrebu marchnata megis y broses glirio a Diwrnodau Agored.
- Darparu cyngor arbenigol i gydweithwyr mewnol ynghylch y gweithgareddau cyfathrebu a marchnata mwyaf priodol i gefnogi amcanion penodol o ran recriwtio myfyrwyr.
- Cadw golwg ar gyd-destun rheoliadol y Brifysgol, gan sicrhau bod deunyddiau’n cydymffurfio â gofynion GDPR a CMA.
- Gweithio’n hyblyg, weithiau y tu hwnt i oriau gwaith arferol, i gefnogi digwyddiadau megis Diwrnodau Agored a phroses glirio’r Brifysgol.
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
- Cadw at bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol lle bo'n berthnasol. Yn rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf Datganiad Ategol.
Wrth ei hatodi i broffil eich cais, cofiwch mai cyfeirnod y swydd wag yw enw’r ddogfen. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw 20984BR.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
1. Addysg hyd at lefel gradd, a phrofiad sylweddol o weithio mewn swydd farchnata neu gyfathrebu.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Profiad sylweddol o greu cynnwys creadigol ac arloesol, a goruchwylio ymgyrchoedd marchnata a/neu gyfathrebu.
3. Profiad o reoli llwythi gwaith yn unol â therfynau amser busnes a rheoli sy’n gwrthdaro yn flynyddol.
4. Profiad sylweddol o ysgrifennu a golygu copi. Llygad craff a phrofiad o greu cynnwys ar-lein ac all-lein.
5. Gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol arbenigol ym maes cyfathrebu a marchnata, a chael eich cydnabod fel awdurdod yn y maes.
6. Gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau allweddol am gyfathrebu a marchnata sy'n cael effaith strategol.
7. Tystiolaeth eich bod yn gallu ystyried anghenion cwsmeriaid, pennu eu disgwyliadau ac addasu'r gwasanaeth yn ôl yr angen.
8. Y gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau.
9. Tystiolaeth o’r gallu i gynnal a chyflawni prosiectau penodol a goruchwylio timau prosiect tymor byr.
Arall
10. Y gallu i gymryd agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith a, gyda rhybudd, y gallu i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol a gweithio ar benwythnosau o dro i dro. Sylwer hefyd, na fydd modd cymryd gwyliau blynyddol fel arfer ar ddiwrnodau agored i israddedigion ac ôl-raddedigion nac ar Ddiwrnod y Canlyniadau Safon Uwch ym mis Awst.
Meini Prawf Dymunol
11. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.
12. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.