Internal Applicants Only - Welsh-Medium Education Promotion Officer bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Hyrwyddo Addysg Gymraeg
Yr Academi Gymraeg
Swyddfa'r Is-Ganghellor
Y Rôl
Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a blaengar i ymuno ag Yr Academi Gymraeg fel Swyddog Hyrwyddo Addysg Gymraeg. Mae hon yn rôl gyffrous sy’n cynnig cyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygiad a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y Brifysgol.
Byddwch yn gweithio gyda staff a myfyrwyr i gynyddu’r defnydd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, gan annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwch hefyd yn arwain ar weithgareddau ymgysylltu ag ysgolion uwchradd, gan gydweithio â phartneriaid allanol megis CYDAG, Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Cardiff Ddwyieithog.
Prif Gyfrifoldebau
• Darparu cyngor proffesiynol ar brosesau recriwtio ac ymrestru myfyrwyr i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
• Adnabod a chefnogi myfyrwyr sy’n elwa o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
• Datblygu perthnasau gwaith ag adrannau’r Brifysgol a rhanddeiliaid allanol i hyrwyddo cyfleoedd cyfrwng Cymraeg.
• Cynnal a chyflwyno hyfforddiant a deunyddiau i gefnogi staff.
• Arwain grwpiau gwaith i fonitro cynnydd tuag at dargedau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
• Cydweithio â’r Is-Lywydd (Cymraeg) yn Undeb y Myfyrwyr i wella profiad myfyrwyr.
• Cefnogi mentrau strategol gyda’r Deon Cymraeg a staff perthnasol i gynyddu ymgysylltiad myfyrwyr.
Yr Hyn Rydym yn Chwilio Amdano
Hanfodol:
• Cymhwyster NVQ Lefel 4 neu brofiad cyfatebol.
• Cymraeg rhugl (llafar ac ysgrifenedig).
• Dealltwriaeth gadarn o addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch.
• Sgiliau cyfathrebu a datrys problemau ardderchog.
• Gallu gweithio’n annibynnol a rheoli blaenoriaethau’n effeithiol.
Dymunol:
• Profiad o weithio mewn addysg uwch a/neu addysg cyfrwng Cymraeg.
• Dealltwriaeth sylfaenol o newid ymddygiad, dwyieithrwydd a chynllunio ieithyddol.
Pam Ymuno â Ni?
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad myfyrwyr ac i gyfrannu at nodau strategol y Brifysgol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae'r swydd hon yn llawn-amser (35 awr yr wythnos) ac yn gontract tymor penodedig am 3 blynedd.
Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Mae dau brif elfen i’r gwaith:
i) Adnabod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ar bob lefel sydd eisoes wedi’u cofrestru ar raglenni israddedig sy’n cynnig opsiynau cyfrwng Cymraeg; cydweithio â myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a staff i fynd i’r afael â’r heriau sy’n rhwystro myfyrwyr rhag dewis modiwlau cyfrwng Cymraeg; hyrwyddo cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr; ac adrodd ar Mesur Llwyddiant Rhif 8 y Brifysgol (Sicrhau ein bod yn cyrraedd targedau’r Coleg Cymraeg ar gyfer canran y myfyrwyr o wahanol grwpiau ieithyddol sy’n cael eu trosi i wahanol lefelau credyd).
ii) Datblygu rhaglen o weithgareddau ymgysylltu ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, mewn partneriaeth ag adrannau perthnasol yn y Brifysgol ac â rhanddeiliaid allanol allweddol (e.e. CYDAG, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Caerdydd Ddwyieithog).
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
• Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol yng nghyswllt prosesau a gweithdrefnau recriwtio a chofrestru myfyrwyr ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol.
• Ymchwilio i faterion penodol yng nghyswllt adnabod a chefnogi myfyrwyr sydd angen cyngor a chymorth i astudio drwy’r Gymraeg;
• Cydweithio ag eraill i lunio argymhellion a strategaethau ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau hir dymor
• Meithrin perthynas waith gyda rhanddeiliaid allweddol a chreu cysylltiadau cyfathrebu addas gydag Ysgolion/Adrannau’r Brifysgol a rhanddeiliaid allanol sydd yn cefnogi ac yn datblygu gweithgarwch, cyfleoedd ac addysg cyfrwng Cymraeg
• Creu gweithgorau penodol sy'n cynnwys cydweithwyr ar draws y Brifysgol i fonitro data ac ymddygiad rhanddeiliaid, er mwyn cyrraedd targedau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
• Datblygu a chyflwyno hyfforddiant yng nghyswllt technegau ac adnoddau newid ymddygiad i gefnogi staff
• Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r Academi Gymraeg i ddatblygu cyfleoedd addas a chefnogol ar gyfer staff a myfyrwyr
• Cefnogi ac arwain staff eraill ar draws y Brifysgol i hyrwyddo addysg Gymraeg yn ôl y gofyn
• Cydweithio ag Is-Lywydd y Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr a chyfarfod yn gyson â myfyrwyr i ddeall profiadau ac ymddygiad myfyrwyr er mwyn eu cefnogi i fanteisio ar gyfleoedd ac addysg cyfrwng Cymraeg.
• Cydweithio â Deon y Gymraeg, y Swyddog Cangen a staff perthnasol i ddatblygu strategaethau i ddatblygu profiadau myfyrwyr a’u trosi i’r ddarpariaeth Gymraeg.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau
• Glynu wrth bolisïau’r Brifysgol mewn perthynas ag Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd sydd heb eu crybwyll uchod ond sy’n cyd-fynd â'r swydd
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
1. Gradd/NVQ 4 neu brofiad cyfatebol neu aelodaeth o sefydliad proffesiynol priodol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
3. Gallu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol
4. Dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg mewn addysg uwch ac ymwybyddiaeth o strategaethau i hyrwyddo’r Gymraeg
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
5. Y gallu i gyfleu gwybodaeth sy’n gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl.
6. Tystiolaeth o allu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
7. Tystiolaeth o allu datrys problemau eang drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle gallai’r canlyniadau amrywio
8. Tystiolaeth o wybodaeth amlwg o ddatblygiadau allweddol yn y maes addysg cyfrwng Cymraeg ac o gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg
9. Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, yn ogystal â monitro cynnydd.
Eraill
10. Parodrwydd i ymgymryd â rhagor o hyfforddiant a datblygiad
Meini Prawf Dymunol
11. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch a/neu o addysg cyfrwng Cymraeg
12. Dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion newid ymddygiad, seicoleg dwyieithrwydd a chynllunio iaith.