Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Lecturer in Professional Law bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite

51.753,00 £  -  56.535,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Darlithydd Cyfraith Broffesiynol (Addysgu ac Ysgolheictod) 

Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth


Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd yw’r adran yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sy’n cynnig y cwrs Diploma Graddedig yn y Gyfraith, y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr a Chwrs Hyfforddiant y Bar ar hyn o bryd – llwybrau ôl-raddedig i gymhwyster proffesiynol ar gyfer bargyfreithwyr a chyfreithwyr. Prifysgol Caerdydd yw'r unig brifysgol yng Ngrŵp Russell sy’n cynnig y cyrsiau hyn i gyd. Mae’r adran hefyd yn asesu cyfreithwyr ar ddyletswydd, cynrychiolwyr yng ngorsafoedd yr heddlu a thystion arbenigol yn genedlaethol. Mae’r cyrsiau, sy’n cael eu cyflwyno gan staff â’r cymwysterau angenrheidiol, wedi ennill eu plwyf ac yn uchel eu parch yn y proffesiwn, ac mae adborth myfyrwyr ar y cyrsiau bob amser yn rhagorol.

Mae'r Ysgol yn chwilio am ddarlithydd â chymwysterau priodol sy’n gallu cyfrannu at y gwaith o gyflwyno ei holl raglenni ond sy'n canolbwyntio ar gyrsiau’r adran.  Mae'r gallu i addysgu un neu fwy o bynciau galwedigaethol yn rhan o Gwrs Hyfforddiant y Bar a’r Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr yn hanfodol.

Swydd ran-amser (0.4 CALl, 14 awr yr wythnos) am gyfnod penodol o 12 mis ac mae ar gael ar unwaith.

Cyflog:  £51,753 hyd at £56,535 y flwyddyn, pro rata yn ôl nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio (Gradd 7)
Mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol.

Anfonwch unrhyw gwestiynau ynghylch y swydd hon at Jetsun Lebasci, Pennaeth Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd, drwy e-bostio [email protected].   
 
Gwefan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics 

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 14 Tachwedd 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

PRIF SWYDDOGAETH
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â llwyth addysgu llawn, gan gynnwys datblygu, cyflwyno, asesu a gwerthuso’r Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr (LLM), Cwrs Hyfforddiant y Bar (LLM) neu’r cwrs Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL) ac unrhyw gyrsiau olynol.  Gall fod angen i ddeiliad y swydd hefyd gefnogi rhaglenni datblygu proffesiynol eraill y mae’r adran yn eu cyflwyno ar gyfer y proffesiwn a chyfrannu at weithgareddau eraill Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, megis addysgu modiwlau addysg gyfreithiol glinigol a modiwlau sy’n rhan o raglenni eraill yr Ysgol.

Addysgu 
  • Cynllunio a chyflwyno rhaglenni addysgu a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu modiwlau, a hynny’n rhan o dîm y modiwl neu’n arweinydd ar gyfer y modiwl 
  • Cyfrannu’n annibynnol at y gwaith o ddatblygu modiwlau a’r cwricwlwm, gan gynnwys arwain modiwlau 
  • Ysbrydoli myfyrwyr a datblygu sgiliau asesu a rhoi adborth adeiladol 
  • Goruchwylio gwaith myfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr meistr 
  • Rheoli prosiectau sy’n ymwneud â’ch maes gwaith eich hun a chyfrannu at y gwaith o drefnu gweithgareddau allanol, megis lleoliadau gwaith, cystadlaethau, gweithgareddau allgyrsiol a digwyddiadau marchnata 
  • Rhoi gofal bugeiliol drwy fod yn diwtor personol a rhoi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin ymddiriedaeth 
  • Gwneud gwaith sy’n gysylltiedig ag arholiadau (gosod a marcio papurau a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr), gweinyddiaeth a gwaith pwyllgor 

Ysgolheictod 
  • Cyfrannu at ysgolheictod yn y maes gwaith drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill i rannu deilliannau ysgolheictod unigol 
  • Cymryd rhan mewn gweithgarwch ysgolheigaidd drwy ysgrifennu erthyglau ar gyfer cyfnodolion a/neu sicrhau allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes gwaith 
  • Cyfrannu at ysgolheictod drwy waith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt iddi 

Arall 
  • Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn codi proffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar weithgareddau amrywiol – bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol 
  • Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth yr Ysgol a gweithgareddau (e.e. diwrnodau agored, darlithoedd cyhoeddus a digwyddiadau eraill) i hyrwyddo’r Ysgol a’i gwaith i’r Brifysgol ehangach a’r byd y tu allan, gan gynnwys cyfrannu at ymgyngoriadau cyhoeddus, rhoi cyngor ar bolisi ac ati 
  • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd addas a fydd yn gwella eich perfformiad yn ddarlithydd 
  • Cydymffurfio a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoliadol sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch a materion ariannol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel y bo’n briodol 
  • Cymryd gofal rhesymol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun, gan gynnwys iechyd a diogelwch pobl eraill y gall yr hyn y byddwch yn ei wneud neu’n methu â’i wneud yn y gwaith effeithio arnynt, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, cyfarwyddebau'r UE a pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol ar ddiogelwch a’r amgylchedd, yn ogystal â chydweithio â'r Brifysgol, sef y cyflogwr, i gyflawni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol sydd ganddi 
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd 

Uchafswm y Cyflog

56,535

Gradd

Gradd 7

Isafswm y Cyflog

51,753

Categori Swyddi

Academaidd- Addysgu ac Ysgolheictod

Llwybr Gyrfa

Addysgu ac Ysgolheictod

Manyleb Unigolyn

NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: 
Polisi'r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol i lunio’r rhestr fer, a dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n dangos yn glir eu bod yn bodloni (neu'n rhannol fodloni) pob un o'r meini prawf hanfodol a gaiff eu gwahodd i gyfweliad. Yn ystod y broses ymgeisio, gofynnir i chi atodi datganiad ategol. Mae’n rhaid i'r datganiad hwn amlinellu sut rydych yn bodloni'r meini prawf isod. Rydym yn argymell ei fformatio drwy ddefnyddio pob maen prawf yn is-bennawd a nodi eich profiad/tystiolaeth berthnasol o dan bob is-bennawd. Mae'n hanfodol eich bod yn nodi rhif y swydd wag (e.e. 1234BR) yn rhan o enw’r ddogfen wrth gadw eich datganiad ategol. Gallai peidio â gwneud hynny olygu y bydd yn cael ei hepgor o'ch cais. 

Meini Prawf Hanfodol 

Cymwysterau ac Addysg
  1. Cymwysterau bargyfreithiwr, cyfreithiwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol 
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad 

2.       Y gallu i gynllunio, cyflwyno a datblygu’n barhaus y modiwlau sy’n berthnasol i gyrsiau galwedigaethol megis y Cwrs Ymarfer Cyfreithwyr, Cwrs Hyfforddiant y Bar, y cwrs Diploma Graddedig yn y Gyfraith neu unrhyw gyrsiau olynol  
3.       Y gallu i gynllunio, cyflwyno a datblygu’n barhaus fodiwlau sgiliau cyfreithiol, gan gynnwys y meini prawf asesu ar gyfer rhaglenni addysgu’r adran 
4.       Y gallu i ddangos profiad o ymarfer cyfreithiol a gwybodaeth arbenigol, gan gynnwys profiad a gwybodaeth gyfoes yn y maes pwnc 

Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm 

5.       Sgiliau cyfathrebu rhagorol (yn ysgrifenedig ac ar lafar) a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth yn eglur ac yn hyderus i eraill gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau 
6.      Y gallu i roi cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol a bod yn diwtor personol iddynt 
7.      Y gallu i fod yn arweinydd modiwl, cydlynu ag eraill a bod yn rhan o nifer o dimau er mwyn sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu a bod eu disgwyliadau’n cael eu bodloni 

Arall

8.     Y gallu i ymgymryd â gwaith gweinyddol academaidd    
9.     Gallu profedig i arloesi a gweithio heb oruchwyliaeth fanwl 


Meini Prawf Dymunol 
  1. Tystysgrif Ôl-raddedig Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol, neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol 
  2. Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol, gan gynnwys tystiolaeth o gydweithio â byd ymarfer/diwydiant 
  3. Y gallu i gyfathrebu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Jetzt bewerben

Weitere Jobs