Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Administrative & Finance Assistant bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid

25.249,00 £  -  26.093,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cynorthwyydd Gweinyddol /Cyllid
Swyddfa'r Is-Ganghellor


Mae Swyddfa'r Is-Ganghellor yn chwilio am Gynorthwyydd Cyllid a Gweinyddol i gynnig gwasanaeth cymorth cyllid a gweinyddol proffesiynol i'r Adran. 

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle ichi gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y Brifysgol, gan roi cyngor a chefnogaeth werthfawr i gydweithwyr mewn swyddfa sy’n uchel ei phroffil.

Mae'r swydd yn atebol i Gynorthwyydd Personol yr Is-Ganghellor a'r Swyddog Gweithredol.

Mae'r swydd hon yn un amser llawn (35 awr yr wythnos) ac mae’r swyddfa yn y Prif Adeilad, Campws Cathays.  

Cyflog: £25,249 - £26,093 y flwyddyn (Gradd 3).  Fel arfer, penodir ar bwynt cyntaf y raddfa gyflog ym Mhrifysgol Caerdydd, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy.  Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio lle mae llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.  

Mae'r tîm yn gweithio'n hyblyg yn ôl anghenion y busnes, gan weithio yn y swyddfa o ddydd Mawrth i ddydd Iau fel arfer, ac yn gweithio o gartref ar ddydd Llun a dydd Gwener.

Dyddiau cau: Dydd Llun, 10 Tachwedd 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Disgrifiad Swydd

Dyletswyddau sy'n ymwneud â chyllid

•    Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ariannol.

•    Gallu cynghori cydweithwyr a sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau a Gweithdrefnau Ariannol y Brifysgol a'r Polisi Teithio a Threuliau, gan roi gwybod am unrhyw anghysondebau i Gynorthwyydd Personol yr Is-Ganghellor.

•    I ddod yn gwbl gyfarwydd â system Oracle y Brifysgol.

•    I godi archebion prynu.

•    Cyflawni amrywiaeth o dasgau cysoni sy’n ymwneud ag archebion agored, anfonebau sydd wedi'u hoedi a chardiau prynu’r Brifysgol.

•    Cynnal cofnodion cyfredol o ymrwymiadau a gwariant cyllidebol, cynnal adroddiadau a llunio sylwadau ar wariant yn rhagweithiol er mwyn cynghori Cynorthwyydd Personol yr Is-Ganghellor a Phennaeth Swyddfa'r Is-Ganghellor.

•    Prosesu gofynion arlwyo a thacsis drwy ddefnyddio’r systemau archebu ar-lein yn ôl y gofyn. 

•    Cynnal rhestr eiddo o ddodrefn ac offer Swyddfa'r Is-Ganghellor.

•    Er mwyn sicrhau bod y cysoniadau a'r wybodaeth berthnasol yn cael eu cyflwyno i'r Adran Gyllid yn unol â thasgau diwedd y flwyddyn ariannol.

•    Bod yn gyfrifol am archebu cyflenwadau i’r swyddfa, gwirio danfoniadau a monitro lefelau stoc.

•    Trefnu’r broses flynyddol o Brofi Offer Cludadwy (PAT) y swyddfa.

•    Trefnu bod Coeden Nadolig y Prif Adeilad yn cael ei archebu, ei osod a’i dynnu bob blwyddyn.

Dyletswyddau Gweinyddol

•    Bod yn gyfrifol am ddyrannu, cofnodi a dosbarthu post, ar bapur ac yn electronig, i Swyddfa'r Is-Ganghellor

•    I sicrhau bod systemau monitro ar waith er mwyn ymateb i ymholiadau/ymgynghoriadau swyddogol

•    I gynnal cofnodion cronfeydd data, mynegeion ffeiliau a'r System Rheoli Dogfennau

•    Cydlynu'r archebion ar gyfer ystafelloedd cyfarfod a reolir gan Swyddfa'r Is-Ganghellor, a gwirio cynlluniau a chyflwr yr ystafelloedd hyn yn rheolaidd, gan gysylltu â’r Adran Ystadau a/neu’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn ôl yr angen.

•    Drafftio cydnabyddiaeth a gohebiaeth yn ôl yr angen

•    Cynnig cefnogaeth i aelodau Swyddfa'r Is-Ganghellor yn ôl yr angen i drefnu’u dyddiaduron, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd, ymweliadau a digwyddiadau, a chydlynu trefniadau arlwyo a lletygarwch sy’n gysylltiedig â’r rhain.

•    Cynnal a chadw'r systemau ffeilio gyda'r bwriad o’u gwella a’u mireinio'n barhaus.

•    Cyflenwi dros gydweithwyr pan fo angen, ac chyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys uchod ond a fydd yn gyson â'r rôl.
 

Uchafswm y Cyflog

26,093

Gradd

Gradd 3

Isafswm y Cyflog

25,249

Categori Swyddi

Gweinyddol / Clerigol

Gwybodaeth Ychwanegol

Nodyn pwysig:
  • Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.
  • Fel rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo.
  • Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen.
Wrth atodi’r datganiad i ategu eich cais i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 20848BR.

Llwybr Gyrfa

Cymorth Gweinyddol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Profiad a Chymwysterau
1.    Addysg hyd at Safon Uwch neu brofiad cyfatebol

Sgiliau Cyfathrebu a Rhyngbersonol
2.    Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gan gydnabod yr angen i sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gydag ystod eang o bobl yn effeithiol ac yn gwrtais.
3.    Tystiolaeth o sgiliau rhyngbersonol, gyda'r gallu i weithio gyda thimau gwahanol ac ynddynt
4.    Dull sy'n canolbwyntio ar y cwsmer gydag agwedd gymwynasgar a rhagweithiol. 

Sgiliau a gwybodaeth
5.    Tystiolaeth o sgiliau trefnu a gweinyddu rhagorol
6.    Gallu digamsyniol i weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun, heb gael eich goruchwylio’n ormodol, a chyda lefel uchel o fanwl gywirdeb
7.    Tystiolaeth o’r gallu i ddefnyddio disgresiwn mewn perthynas â gwybodaeth gyfrinachol
8.    Profiad o gynnig gwasanaeth cwsmeriaid effeithiol i staff a/neu'r cyhoedd
9.    Y gallu i ddeall a dod yn gyfarwydd â systemau sefydledig sy'n cael eu defnyddio ym mhob rhan o’r Brifysgol a'r Swyddfa.

Meini Prawf Dymunol
1.    Defnydd o OracleEBS a phrofiad o archebu, gosod archebion prynu a phrosesu anfonebau i'w talu ar system ariannol electronig y Brifysgol.
2.    Y gallu i siarad a/neu ddeall Cymraeg neu barodrwydd i gael cefnogaeth i’w ddysgu.

 
Jetzt bewerben

Weitere Jobs