Governance Advisor bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Dyma gyfle cyffrous i weithio mewn tîm egnïol sydd wrth galon y gwaith o lywodraethu’r Brifysgol. Mae’r cynghorydd llywodraethu yn rhan o'r tîm Llywodraethu Corfforaethol sy'n cefnogi Cyngor a Thîm Rheoli Gweithredol y Brifysgol, drwy eu galluogi i gwrdd â’u rhwymedigaethau llywodraethu corfforaethol. Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn cefnogi rhaglen waith i wella a moderneiddio fframwaith llywodraethu a strwythur pwyllgorau'r Brifysgol, a bydd cyfle gennych i chwarae rhan allweddol wrth fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen.
Byddwch yn aelod brwdfrydig o’r tîm ac yn gallu gweithio o dan bwysau mewn amgylchedd proffesiynol. Byddwch yn cynnig cyngor proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau llywodraethu, ac yn cefnogi’r gwaith o greu diwylliant o lywodraethu effeithiol yn y sefydliad. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn unigolyn gonest iawn. Byddwch yn unigolyn hyderus sy’n cyfathrebu'n glir, gan ennyn ymddiriedaeth a pharch.
Mae'r swydd yn cyfuno gweithio o gartref ac yn y swyddfa, a bydd disgwyl i chi dreulio o leiaf diwrnod yr wythnos yn y swyddfa ar y campws. Bydd i chi hefyd fynychu cyfarfodydd y Cyngor a'r pwyllgorau wyneb yn wyneb, a chynhelir rhai ohonynt y tu hwnt i oriau gwaith arferol.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol o 12 mis (dros gyfnod mamolaeth). Gellir hefyd gwneud y swydd hon fel secondiad.
Cyflo: £40,497 - £45,413 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad cau: Dydd Iau, 30 Hydref 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
• Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ynghylch prosesau a gweithdrefnau Codau Ymarfer llywodraethu, gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol, a gwneud yn siŵr bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall
• Cynnal gwybodaeth gyfredol am ofynion llywodraethu rheoleiddwyr allanol allweddol y Brifysgol er mwyn sicrhau bod cyngor ac arweiniad proffesiynol yn cael ei gynnig fydd yn cael dylanwad ar draws y sefydliad
• Datblygu, cynnal a chynghori ar y fframwaith llywodraethu (gan gynnwys y Siarter, y Statudau a'r Ordinhadau), gan adolygu'r cylch busnes blynyddol, cylch gorchwyl y pwyllgor a'r cynllun dirprwyo, gan sicrhau eu bod yn gyson ac yn addas at y diben, gan gynnwys ymchwilio i arfer gorau yn y maes hwn
• Ysgrifennu papurau, cynghori ar y gwaith o gynllunio cyfarfodydd a’u cynnal, rheoli'r gwaith o gynhyrchu agendâu, papurau a chofnodion; sicrhau bod camau gweithredu'n cael eu cofnodi a’u cyflawni yn unol â hynny
• Rheoli aelodau tîm cymorth gweinyddol y pwyllgor; cynllunio, trefnu a dirprwyo gwaith, monitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen; rheoli’r broses o ymsefydlu aelodau’r tîm, ynghyd â’u perfformiad a’u datblygiad
• Sicrhau bod cytundebau lefel gwasanaeth y tîm yn cael eu gweithredu, gan addasu'r rhain yn unol â newidiadau yn y llwyth gwaith a gofynion y cwsmer
• Bod yn gyfrifol am ddatrys problemau'n annibynnol ym maes Llywodraethiant os ydynt yn ymwneud ag amcanion penodol y swydd
• Ymchwilio i broblemau penodol a’u dadansoddi, gan greu adroddiadau gydag argymhellion, sy’n seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf
• Sefydlu perthnasoedd gwaith gydag unigolion cyswllt a rhanddeiliaid allweddol, (gan gynnwys aelodau'r Cyngor a'r Pwyllgorau, Swyddfa’r Is-ganghellor, rhwydweithiau pellach sy’n rhan o’r gymuned lywodraethu ehangach) gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol gydag Ysgolion, Adrannau a chyrff allanol y Brifysgol yn ôl yr angen
• Datblygu a threfnu neu gyflwyno hyfforddiant i aelodau annibynnol i gwmpasu’r broses ymsefydlu a datblygiad proffesiynol, gan alluogi aelodau i ddefnyddio’r systemau a’r prosesau diweddaraf
• Sefydlu gweithgorau penodol ymhlith cydweithwyr ledled y Brifysgol i gyflawni amcanion adrannol
• Paratoi a chyflawni prosiectau bach penodol, gan gydlynu a goruchwylio timau prosiectau sy'n cael eu creu yn ôl yr angen
• Cyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran
• Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y Brifysgol yn ôl yr angen
Dyletswyddau Cyffredinol
• Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd
• Cadw at bob un o bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch, yn ogystal â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
• Ymgymryd â hyfforddiant blynyddol yn ôl y gofyn
• Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r tîm Llywodraethu Corfforaethol, trwy'r Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol, yn cynghori'r corff llywodraethu a'i is-bwyllgorau ynghylch sut i arfer eu pwerau mewn modd priodol, gan sicrhau llywodraethu corfforaethol effeithiol. Mae'r tîm yn cynghori ar y gwaith o gymhwyso'r gofynion rheoleiddio mewnol ac allanol sy'n effeithio ar lywodraethu corfforaethol, ac yn cynnig gwasanaeth ysgrifenyddiaeth pwyllgorau i gorff llywodraethu'r Brifysgol a'i phrif bwyllgorau.
Er bod set graidd o weithgareddau sy'n gysylltiedig â phwyllgorau sy'n digwydd yn gylchol, mae gwaith ehangach y tîm Llywodraethu Corfforaethol yn ddiddorol ac yn amrywio drwy gydol y flwyddyn, gan adlewyrchu amgylchedd rheoleiddio allanol sy'n esblygu yn ogystal â newidiadau mewnol.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
1. Gradd/NVQ 4 berthnasol neu aelodaeth cyfatebol o sefydliad proffesiynol/profiad priodol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Profiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd llywodraethu i gorff a reoleiddir, gan gynnwys gwasanaethu pwyllgorau ffurfiol a chymryd cofnodion
3. Gallu dangos gwybodaeth broffesiynol am Godau Ymarfer, prosesau a gweithdrefnau llywodraethu er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol
4. Gwybodaeth sylfaenol am y berthynas rhwng y Brifysgol a'i rheoleiddwyr allweddol (Medr a'r Comisiwn Elusennau) o ran llywodraethu'r Brifysgol
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
5. Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
6. Tystiolaeth o allu ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn darparu gwasanaeth o safon
7. Gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau tymor hir
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
8. Tystiolaeth o allu datrys problemau eang drwy achub y blaen a bod yn greadigol, gan nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol
9. Tystiolaeth o allu cynllunio gwaith tîm dros gyfnodau estynedig, gan ymateb i newidiadau yn y llwyth gwaith ac mewn blaenoriaethau
10. Tystiolaeth o allu ymgymryd â phrosiectau penodol a'u cyflawni wrth reoli terfynau amser cystadleuol
Meini Prawf Dymunol
11. Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol
12. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
13. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.