Lecturer / Senior Lecturer bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Senior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Darlithydd / Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Mae Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg Prifysgol Caerdydd yn chwilio am optometryddion cryf eu cymhelliant a blaengar i ddarparu ymarfer clinigol o ansawdd uchel ac addysgu yn y clinig addysgu a thrin glawcoma.
Hoffem glywed gennych os ydych yn optometrydd sydd wedi cofrestru gyda GOC gyda Thystysgrif Uwch neu Ddiploma mewn Glawcoma yn ogystal ag angerdd am addysg gyda'r gallu i ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso ystod o fodiwlau a rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir.
Mae Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg yn falch o gael ei chydnabod yn rhyngwladol am ansawdd ei haddysgu a'i hymchwil.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu talent newydd i'n tîm i helpu i gefnogi'r datblygiad hwn yn ein proffesiwn.
Gallwn roi’r cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych.
Croesewir ymholiadau anffurfiol a gellir eu cyfeirio, yn y lle cyntaf, at yr Athro Barbara Ryan ([email protected])
Cynigir y swydd fel Ddarlithydd Gradd 7 neu Uwch-ddarlithydd Gradd 8 ar sail ran-amser (sef 4.5 awr yr wythnos). Cynigir rolau rhan-amser gyda'r prif nod o gynnig y cyfle i'r sawl a benodir i barhau i ymgymryd ag ymarfer clinigol y tu allan i'r Brifysgol.
Cynigir y swydd ar lefel Addysgu ac Ysgoloriaeth ac mae am gyfnod penodol tan 01/10/2026.
Wrth wneud cais am y swydd wag, nodwch y radd rydych yn gwneud cais amdani.
Cyflog:
£51,753 - £56,535 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 7) neu
£61,759 - £67,468 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 8)
Mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 20 Hydref 2025
Dyddiad cau: Dydd Llun, 3 Tachwedd 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn cefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Prif Swyddogaeth
Addysgu o ansawdd uchel ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig fel ei gilydd. Goruchwylio myfyrwyr a chyflawni dyletswyddau gweinyddol yn ôl yr angen. Ceisio cyflawni rhagoriaeth mewn ymarfer clinigol, addysgu ac addysgeg ac ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath.
Uwch-ddarlithydd (Gradd 8 yn unig)
- Arwain a datblygu’r addysgu clinigol a’r ddarpariaeth glinigol ar gyfer glawcoma yn yr Ysgol.
Addysgu (Gradd 7 ac 8)
- Cyfrannu at gynllunio a chyflwyno rhaglenni/cyrsiau addysgu ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, a chyfrannu at ddatblygu modiwlau fel rhan o dîm modiwl.
- Cyfrannu’n annibynnol at ddatblygu modiwlau a chyrsiau ac arwain modiwlau.
- Cyfrannu at werthuso rhaglenni ac ymchwil i asesu ansawdd ac effaith addysgu a dysgu, gyda blaenoriaeth ar gyflwyno profiad myfyriwr rhagorol trwy lais y myfyriwr.
- Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod, gan gynnwys gwaith sy’n gysylltiedig ag asesiadau, gosod a marcio asesiadau a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr yn brydlon, gwneud gwaith gweinyddol a chyfrannu at waith pwyllgor.
- Ysbrydoli israddedigion ac ôl-raddedigion gyda’u profiad dysgu a datblygu sgiliau ar gyfer dulliau asesu a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr.
- Goruchwylio a helpu i gydlynu gwaith myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys goruchwylio clinigau glawcoma WGOS4 a lleoliadau.
- Goruchwylio a helpu i gydlynu gwaith myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys goruchwylio clinigau, prosiectau myfyrwyr, lleoliadau a Dysgu wrth Ymarfer.
- Goruchwylio optometryddion ar Leoliadau ar gyfer Tystysgrifau Uwch mewn Glawcoma yn y clinigau glawcoma.
- Cynnal rhaglen werthuso ac ymchwil i asesu ansawdd ac effaith yr addysgu a dysgu a gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad rhyngwladol addysgu o'r fath.
- Cyfrannu at ysgolheictod drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill i rannu canlyniadau ysgolheictod unigol.* Rhoi gofal bugeiliol drwy fod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin ymddiriedaeth
- Cymryd rhan mewn gweithgarwch ysgolheictod drwy ysgrifennu erthyglau mewn cyfnodolion a/neu sicrhau allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes gwaith.
- Cyfrannu at ysgolheictod drwy waith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt.
Uwch-ddarlithydd (Gradd 8 yn unig)
- Ymgymryd â gwaith ymchwil addysgol, gwaith gwerthuso addysgeg a gweithgarwch ysgolheigaidd, ac arwain y gwaith hwn. Bydd hyn yn arwain at gyhoeddiadau mewn cyfnodolion ysgolheigaidd a phroffesiynol o safon uchel
- Cyfrannu at gynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill ar lefel genedlaethol a rhyngwladol i rannu canlyniadau eich ysgolheictod eich hun.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
*Cyfrannu at weinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt, yn ôl y gofyn gan Bennaeth yr Ysgol neu enwebai.
* Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol; sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o broffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol, i wella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
* Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich perfformiad fel Darlithydd.
* Mentora cydweithwyr llai profiadol a rhoi cyngor ar ddatblygiad personol.
* Gofalu eich bod yn cadw at ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Diogelu Data, Hawlfraint a Thrwyddedu, Diogelwch, Materion Ariannol, a pholisïau, gweithdrefnau, codau a safonau eraill y Brifysgol, fel y bo’n briodol.
* Cymryd gofal am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a phobl eraill y gallai’r hyn y byddwch yn ei wneud neu’n methu â’i wneud yn y gwaith effeithio arnynt, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau'r UE/DU, a Pholisïau a Gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y Brifysgol, yn ogystal â chydweithio â'r Brifysgol i gyflawni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol sydd ganddi fel cyflogwr.
*Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
* Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sydd heb eu cynnwys uchod ond sy'n cyd-fynd â'r swydd.
Arweinyddiaeth - Uwch Ddarlithydd (Gradd 8 yn unig)
* Rhoi arweiniad academaidd a chlinigol yn effeithiol ac yn effeithlon trwy reoli, arwain ac ysgogi staff i gynnig ymarfer ac addysgu clinigol o ansawdd uchel, a hynny mewn diwylliant o wella yn barhaus a chydweithio.
* Cyfrannu at gynllunio strategol mewn perthynas ag addysgu a chlinigau yn yr Ysgol a chyfrannu at brosesau cynllunio strategol ehangach yr Ysgol a’r Brifysgol.
*Ysgwyddo cyfrifoldebau gweinyddol gweithredol a’u harwain, fel sy'n ofynnol gan Bennaeth yr Ysgol neu enwebai, sy'n gysylltiedig â darpariaeth addysg yr ysgol.
* Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o broffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at ddarpariaeth addysgol yr ysgol i fyfyrwyr a gwella ei phroffil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Cynnig cyfleoedd i staff ddatblygu, a hynny er mwyn ceisio gwella sgiliau a gwybodaeth ym maes addysgu a dysgu addysgeg, asesu ac adborth.
Rheoli prosiectau ar ran yr ysgol, gan gynnwys trefnu gweithgareddau allanol.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
1. Wedi cofrestru gyda’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) a phrofiad perthnasol mewn ymarfer optometreg. Disgwylir i chi barhau i fod yn aelod o’r Cyngor Optegol Cyffredinol, ac er mwyn ymarfer fel Optometrydd mewn clinigau sy'n ymdrin â chleifion ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chleifion y GIG, a chofrestru gyda Bwrdd Iechyd perthnasol y GIG.
2. PhD/DPhil mewn maes pwnc yng Ngwyddorau’r Golwg neu brofiad clinigol perthnasol.
3. Tystysgrif Uwch mewn Glawcoma neu Ddiploma mewn Glawcoma neu gymhwyster tebyg
4. Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu a Dysgu Prifysgol a/neu gymhwyster cyfatebol neu barodrwydd i weithio tuag at un.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
5. Profiad sylweddol o ymarfer uwch mewn Glawcoma.
Gradd 8: Profiad sylweddol mewn ymarfer uwch mewn glawcoma gydag arweinyddiaeth genedlaethol mewn ymarfer clinigol glawcoma
6. Profiad sylweddol o oruchwyliaeth glinigol ac addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig, gan ddangos arloesedd.
Gradd 8: Profiad sylweddol o addysgu mewn ymarfer clinigol uwch.
7. Profiad sylweddol ac enw da cenedlaethol sy'n cynyddu o fewn maes academaidd/clinigol
Gradd 8: enw da sefydledig yn genedlaethol, ac enw da cynyddol yn rhyngwladol.
8. Y gallu i gyfrannu at gyflwyno a datblygu modiwlau'n barhaus ar draws rhaglenni addysgu'r Ysgol. Profiad o ddarparu a datblygu gofal Glawcoma uwch o ansawdd uchel
Gradd 8: profiad sylweddol o ddarparu a datblygu gofal Glawcoma uwch o ansawdd uchel.
Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm
9. Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill, gan ddefnyddio sgiliau lefel uchel ac amrywiaeth o gyfryngau
Gradd 8: cofnod diamheuol o arweinyddiaeth academaidd
10. Y gallu i roi cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol a bod yn diwtor personol iddynt. Y gallu i fod yn arweinydd modiwl gan gydlynu, gydag eraill, i sicrhau bod ansawdd y rhaglen a disgwyliadau myfyrwyr yn cael eu bodloni, a’u hanghenion yn cael eu diwallu.
Meini Prawf Dymunol
1. Diploma mewn Rhagnodi Therapiwtig (Rhagnodi Annibynnol)
2. Tystiolaeth o gydweithio â'r sector optometreg.
3. Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol ymarfer clinigol a/neu’r gymuned Addysg Uwch.
4. Tystiolaeth o allu cyfranogi mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, a’u datblygu, a’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol.
5. Sgiliau Cymraeg