Internal Applicants Only - Building Support Team Leader bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Arweinydd y Tîm Cymorth Adeiladau
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol mewn prifddinas brydferth a ffyniannus. Yn ddiweddar rydym wedi cwblhau ein gwaith uwchraddio mwyaf sylweddol ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol, ac rydyn ni’n parhau i ddatblygu a gwella ein campws, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau.
Mae gan Arweinydd y Tîm Cymorth Adeiladau rôl bwysig yn y gwaith o gynnig gwell Gwasanaeth Cymorth Adeiladau, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, ar gyfer parth diffiniedig o adeiladau'r Brifysgol.
Gan adrodd i'r Rheolwr Cymorth Adeiladau, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn brwdfrydig a chanddynt sgiliau rhyngbersonol rhagorol a phrofiad o oruchwylio tîm a dirprwyo gwaith er mwyn darparu gwasanaethau gweithredol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, yn llwyddiannus, i ystod eang o gwsmeriaid.
Mae’n angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd fod â phrofiad o ymgymryd â dyletswyddau sy'n ymwneud â Chyfleusterau/Cymorth gweithredol o ran Adeiladau (er enghraifft, dyletswyddau a restrir yn y swydd-ddisgrifiad) ac mae angen iddynt hefyd fod yn chwilio am her newydd gyffrous o ran bwrw ymlaen ag agenda feiddgar y brifysgol.
Mae hon yn swydd amser llawn a phenagored.
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4)
PWYSIG: Mae Manyleb yr Unigolyn wedi’i rhannu’n 2 adran: hanfodol a dymunol. Dangoswch yn glir sut rydych yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Lle bo modd, dylech roi enghreifftiau o sut, pryd a lle rydych wedi defnyddio’r profiad, y wybodaeth, y sgiliau penodol a’r gallu sydd gennych ac sydd eu hangen ar gyfer y swydd benodol hon.
Gofalwch eich bod yn cyfleu hyn yn llawn drwy ddatblygu datganiad i gefnogi eich cais, gan restru’r HOLL FEINI PRAWF a rhoi sylwadau wrth bob un sy’n nodi sut y gwnaethoch eu bodloni.
Rhaid cwblhau’r datganiad cyn dechrau gwneud eich cais ar-lein oherwydd bydd yn rhaid i chi ei lanlwytho. Wrth lanlwytho'r datganiad ategol mae angen i deitl y ddogfen ddarllen "datganiad ategol" a dylai hefyd nodi’r cyfeirnod 20918BR
Dyddiad cau: Dydd Llun, 20 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym yn credu y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a’r byd. Er mwyn helpu ein haelodau o’r staff i gynnal cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu i rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
- Cynorthwyo'r Rheolwr Cymorth Adeiladau drwy oruchwylio gweithrediad y Tîm Cymorth Adeiladau o ddydd i ddydd gan gynnwys dyrannu tasgau gwaith, cynhyrchu amserlenni gwaith, monitro cyflenwi dros wyliau / trefniadau gweithio, sicrhau digon o gyflenwi hyblyg er mwyn cynnig gwasanaethau di-dor i gyflawni gofynion busnes sy’n newidiol.
- Bod yn rhan o’r gwaith sy’n ymwneud â recriwtio a chyfnodau prawf, gwerthuso blynyddol a gofynion datblygu staff, gan roi hyfforddiant a chefnogaeth i aelodau'r tîm lle bo angen.
- Dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Cymorth Adeiladau.
- Cydweithio â phobl eraill i argymell ffyrdd o fireinio prosesau a gweithdrefnau cyfredol.
- Ymdrin ag ystod o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn modd proffesiynol, gan ddeall eu gofynion ac addasu’r ymatebion yn unol â hynny.
- Sefydlu perthynas waith sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid â chysylltiadau allweddol i wella lefelau gwasanaeth yn barhaus, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu hynod effeithiol gydag Ysgolion / Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol yn ôl yr angen.
- Cydlynu a/neu gwblhau ystod o dasgau arferol i fodloni gofynion gweithredol a gofynion o ran gwasanaeth i gwsmeriaid.
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran
- Casglu a dadansoddi data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol â gwybodaeth gywir, gan nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol mewn unrhyw ddata a gyflwynir.
- Cyfrannu at lwyddiant y tîm ac arwain eraill drwy esiampl.
- Bod ag agwedd hyblyg tuag at batrymau ac oriau gweithio er mwyn bodloni gofynion busnes sy’n newidiol e.e. bod ar gael ar gyfer digwyddiadau y tu allan i oriau arferol.
Dyletswyddau Penodol
- Gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Cymorth Adeiladu ac Arweinwyr Tîm Cymorth Adeiladu eraill, i roi cymorth traws-barthol a chyflenwi yn ôl yr angen, i sicrhau bod y tim ehangach yn cynnig gwasanaeth cyson, di-dor sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf bob amser.
- Arwain teithiau o gwmpas yr adeiladau.
- Adolygu trefniadau cadw ystafelloedd drwy Resource Booker, cynllunio a threfnu gosod ystafelloedd yn ôl yr angen.
- Trefnu a hwyluso’r gwaith o baratoi / trefnu digwyddiadau a hwyluso hyn e.e. gosod ystafelloedd, gosod offer ac ailosod yn dilyn digwyddiadau.
- Cydlynu derbyn post a nwyddau, eu didoli a’u dosbarthu.
- Cydlynu agor a chloi adeiladau yn unol â’r gweithdrefnau sydd wedi'u dogfennu.
- Cefnogi'r Rheolwr Cyfleusterau i gydlynu rheoli allweddi / cardiau mynediad a chydlynu rheolaeth leol o ran rheoli mynediad, gan gysylltu â’r sawl sydd ynghlwm â’r adeiladau a gwasanaethau diogelwch i sicrhau bod adeiladau wedi'u diogelu'n effeithiol.
- Sicrhau bod gwirio / archwilio adeiladau yn digwydd yn rheolaidd yn fewnol ac yn allanol (i gynnwys archwiliadau sy’n golygu cerdded o gwmpas y mannau dan sylw a barnu sut ddiwyg sydd arnynt, gwiriadau ystafell ymolchi ac ati), rhoi gwybod i eraill am ganfyddiadau/materion, gweithredu ar unwaith lle bo angen (e.e. lle mae'r canfyddiadau o natur iechyd a diogelwch sylweddol).
- Adrodd ynghylch gwaith cynnal a chadw, logio hyn a’i fonitro a chysylltu â chydweithwyr yn Adran Ystadau Gweithrediadau a / neu Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW) ar gyfer materion cynnal a chadw adeiladau / cadw tŷ gan gynnwys:
- Gwaith cynnal a chadw ymatebol,
- Gwaith cynnal a chadw ataliol wedi’i gynllunio,
- Glanhau,
- Rheoli Gwastraff.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
- Cydlynu, goruchwylio a / neu ymgymryd â thasgau trin â llaw gan geisio cymorth gan y tîm Trin â Llaw canolog yn ôl yr angen, e.e.:
- Gosod / ailosod ystafelloedd seminar / addysgu / cyfarfod,
- Cael gwared ar ddodrefn, offer, gwastraff/ailgylchu
- Derbyn a dosbarthu danfoniadau.
- Ymateb i larymau panig, lladron, eraill (nid tân) yn unol â chyfarwyddiadau.
- Hysbysu Gwasanaethau Diogelwch y Brifysgol am ddigwyddiadau diogelwch a chysylltu ynghylch unrhyw gamau dilynol.
- Cysylltu â'r tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio ynghylch rheoli parcio ac unrhyw faterion sy’n codi.
- Cefnogi'r Rheolwr Cymorth Adeiladau i ddatblygu a chynnal lefelau gwasanaeth.
- Hwyluso meithrin cyfarfodydd grŵp defnyddwyr, cymryd cofnodion a chyfrannu at eitemau ar yr agenda yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo’r Gwasanaethau Derbynfa Adeiladau yn ôl yr angen, a chyflenwi ar eu cyfer yn ôl yr angen hefyd.
- Cyfrannu at adolygu’r gwaith rheoli adeiladau’n weithredol a’r ddogfennaeth, prosesau a gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd, yn rheolaidd.
- Ymgymryd â dyletswyddau wardeiniaid tân a chefnogi Gwasanaethau Diogelwch o ran gwacáu safleoedd / driliau sydd wedi’u cynllunio o flaen llaw.
- Cydlynu profion pwynt galw larwm tân wythnosol.
- Cefnogi'r Rheolwr Cymorth Adeiladau i gyflawni amcanion y tîm.
- Cydlynu cefnogaeth y tîm mewn digwyddiadau prifysgol (e.e. ymrestru, graddio, diwrnodau agored) yn ôl yr angen.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Gweinyddu cymorth cyntaf (darperir hyfforddiant).
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob dyletswydd
- Cadw at bolisïau’r Brifysgol mewn perthynas ag Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd sydd heb eu crybwyll uchod ond sy’n cyd-fynd â'r swydd
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar adegau, bydd angen gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol (gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau) i gyflawni gofynion gwasanaethau / gweithredol a chynorthwyo â’r rhain. Bydd gofyn ichi weithio oriau hyblyg yn y swydd hon.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- NVQ Lefel 2/cymwysterau TGAU (graddau A-C) neu gymwysterau cyfatebol
- Profiad o roi cymorth gweithredol ym maes adeiladau, goruchwylio tîm bach a dyrannu tasgau gwaith.
- Y gallu i ddefnyddio pecynnau TG cyffredin (e.e. MS Office)
- Y gallu i sefydlu systemau, prosesau a gweithdrefnau safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol.
- Gallu cyfleu gwybodaeth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl
- Profiad o oruchwylio gwaith pobl eraill er mwyn canolbwyntio ymdrechion y tîm ac ysgogi unigolion.
- Tystiolaeth o’r gallu i archwilio anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon.
- Tystiolaeth o allu datrys problemau drwy gymryd y cam gyntaf a bod yn greadigol; ac adnabod a chynnig atebion ymarferol.
- Tystiolaeth o allu gweithio heb oruchwyliaeth i derfynau amser, cynllunio, pennu a monitro blaenoriaethau ar gyfer y tîm.
- Profiad o weithio yn y maes Addysg Uwch
- Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar