Administrative Assistant (Staff Immigration and Global Mobility) bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Junior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Adnoddau Dynol – Mewnfudo Staff a Symudedd Byd-eang
Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Gweinyddol i ymuno â thîm Mewnfudo Staff a Symudedd Byd-eang yn yr Adran Gweithrediadau Adnoddau Dynol ganolog.
Hoffem glywed gennych os:
• Oes gennych brofiad neu ymwybyddiaeth o brosesau fisa, mewnfudo, hawl i weithio neu symudedd byd-eang/gweithio dramor
• Gallwch gyfathrebu'n effeithiol a chwrtais gydag amrywiaeth eang o bobl.
• Gallwch sefydlu a chynnal gweithdrefnau safonau a defnyddio eich menter pan fo angen.
Yn y rôl hon, byddwch yn:
• Darparu cymorth personol i staff newydd a staff presennol ar fewnfudo staff, llwybrau fisa, prosesau recriwtio, hawl i weithio a symudedd byd-eang/gweithio dramor.
• Gweithio ochr yn ochr â thîm o weithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol i ddarparu gwasanaethau cymorth rhagorol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy alluogi'r Brifysgol i recriwtio talent fyd-eang.
• Cynnal prosesau trafodiadol a gweinyddol yn ymwneud â fisas a mewnfudo, gan gynnwys cynnal cofnodion a pharatoi gohebiaeth.
Am sgwrs gyfrinachol ac anffurfiol am y rôl, cysylltwch â David Hobbs ar [email protected] neu Rhian Perridge ar [email protected].
Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog, gyda manteision mawr (gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol a chynllun pensiwn lleol) a chyfleoedd ar gyfer dilyniant. Rydym yn gefnogwr Cyflog Byw balch.
Mae'r rôl hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol, sy'n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch hefyd ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn, ble bynnag y mae'r rôl a'r angen busnes yn caniatáu, gan gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Rydym am gyflogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned beth bynnag fo'u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Rydym yn chwilio'n benodol am geisiadau gan ymgeiswyr sy'n dod o gefndiroedd sy'n cael eu tangynrychioli yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae hon yn swydd amser llawn a phenagored.
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 8 Hydref 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 24 Hydref 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Rhoi cefnogaeth gynhwysfawr a phroffesiynol i Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau AD, gan roi darparu gwybodaeth, cymorth a chyfarwyddyd ar fudo staff, recriwtio a symudedd byd-eang/gwaith dramor.
Byddwch yn darparu cymorth personol i staff newydd a presennol ac i reolwyr recriwtio a rheolwyr llinell, gan gysylltu â sefydliadau allanol fel y Swyddfa Gartref fel y bo angen.
Mae gweithio cyfunol yn bosibl wrth wneud y swydd hon. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch ddewis treulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gynnig y fath hyblygrwydd, pan fydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn ichi sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
A ninnau’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff – rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog, gyda manteision a chyfleoedd gwych i symud ymlaen yn eich gyrfa.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Prif Ddyletswyddau
- Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau mewnfudo staff, recriwito, a symudedd byd-eang/gweithio dramor i gwsmeriaid mewnol ac allanol (staff, myfyrwyr neu’r cyhoedd), gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth
- Gweithio gydag eraill i wneud argymhellion i wella ein ffyrdd o weithio.
- Creu perthynas gynhyrchiol gydag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a chysylltiadau allanol) i helpu i wella lefel y gwasanaeth y mae'r tîm yn ei roi i'w gwsmeriaid.
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo'r tîm a'r adran i gyflawni eu hamcanion.
- Casglu a dadansoddi data (e.e. rheoliadau llwybr fisa, data dalwyr fisa) fel y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus, gan nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a darparu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer rheoli.
- Cyfarwyddo ac arwain cydweithwyr ar draws y Brifysgol yn meysydd canlynol yn ôl y gofyn: mewnfudo staff, recriwtio a symudedd byd-eang/gwaith dramor, gan gynnig cyfarwyddyd ar: lwybrau fisa; ATAS (Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd); Tystysgrifau Sponsoriaeth; Hawl i Weithio; prosesau recriwtio/hysbysebu; a chyfeiriadau ceisiadau symudedd byd-eang/gwaith dramor.
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
- Cyflawni dyletswyddau eraill sydd heb eu cynnwys uchod, ond a fydd yn cyd-fynd â’r rôl.
- Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiadau'r Gwasanaethau Proffesiynol neu werthoedd lleol cyfatebol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Gallu cyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno, ac yn effeithiol i roi cyngor ac arweiniad manwl ar mewnfudo staff, rekrutio a symudedd byd-eang/gweithio dramor.
- Tystiolaeth o safon dda o rifedd a llythrennedd TG.
- Profiad o weithio mewn rôl weinyddol neu swyddfa a gallu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol.
- Gwybodaeth arbenigol am mewnfudo staff, rekrutio a symudedd byd-eang/gweithio dramor.
- Gallu cyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth mewn modd effeithiol a phroffesiynol i ystod o gwsmeriaid amrywiol eu hamgyffred
- Gallu cynghori rhanddeiliaid allweddol yn eich maes gwaith a dylanwadu arnynt.
- Gallu ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu eich gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cynnig gwasanaeth o safon.
- Gallu cymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, nodi a chynnig atebion ymarferol.
- Gallu gweithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, cynllunio, pennu a monitro eich blaenoriaethau chi a’r tîm.
- Profiad o weithio mewn rôl neu gyd-destun tebyg, e.e. Addysg Uwch.
- Gallu siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.