Internal Applicants Only - Taith Administration Officer bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Swyddog Gweinyd Taith
Mae Taith yn darparu rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol ledled Cymru drwy ddyfarnu grantiau i sefydliadau ledled Cymru o bob sector addysg. Mae Taith yn rhaglen broffil uchel sy'n wynebu'r cyhoedd.
Diben y rôl hon yw darparu cefnogaeth ysgrifenyddol, swyddfa a gweinyddol i Raglen Taith. Bydd y gwaith yn gymysgedd o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa gyda disgwyl o leiaf ddau ddiwrnod yn y swyddfa. Mae Taith wedi'i leoli yng Nghampws Cathays, Prifysgol Caerdydd.
Swydd amser llawn am gyfnod penodol tan 30 Medi 2027 yw hon.
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 3)
Byddem yn falch o ystyried ceisiadau mewnol neu allanol o ran secondiad a gallwn roi cyngor ar sut y gall hyn ddigwydd.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 17 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
- Darparu cefnogaeth ysgrifenyddol (creu dyddiaduron cyfarfodydd, cydlynu agendâu, anfon papurau, cymryd cofnodion a thasgau cysylltiedig eraill) i Raglen Taith. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf (ond nid yn gyfan gwbl) Bwrdd y cwmni, y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd, Bwrdd Cynghori Taith, y Pwyllgorau Ariannu, Grwpiau Rhanddeiliaid y Sector a chyfarfodydd ffurfiol gyda Llywodraeth Cymru.
- Datblygu a chynnal amserlen cyfarfodydd.
- Cefnogi rheolaeth y cyfeiriadur corfforaethol, gan sicrhau bod polisïau'n cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd, a datblygu polisïau newydd yn ôl yr angen.
- Darparu cefnogaeth gweinyddol yn ymwneud â materion cysylltiedig ag Adnoddau Dynol (AD), megis recriwtio, rheoli perfformiad, sefydlu a rheoli cyfnodau prawf, a dysgu a datblygu. Bod yn brif gyswllt gyda thîm AD Prifysgol Caerdydd ar gyfer yr holl hyfforddiant, ymholiadau a gweithgareddau sy’n ymwneud ag AD.
- Arwain a helpu aelodau’r tîm i ymdrin â materion sy’n ymwneud â lles, gan gynnwys uwchgyfeirio materion yn ôl yr angen i feysydd cymorth arbenigol
- Goruchwylio blychau post Swyddfa Taith a chefnogi Ymholiadau Taith, gan ymdrin ag ymholiadau a gohebiaeth yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnynt, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Darparu cefnogaeth weinyddol ariannol gan gynnwys codi archebion prynu a chysylltu â chyflenwyr allanol.
- Cefnogi gydag elfennau gweinyddol o alwad ariannu'r rhaglen gan gynnwys gwiriadau cymhwysedd.
- Defnyddio meddalwedd penodol sy'n ymwneud â thasgau dyddiol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; Directors Desk, Kenexa, Core, Oracle EBS a Jotform (darperir hyfforddiant ar gyfer yr holl feddalwedd).
- Cefnogi rheolaeth o ofod y swyddfa gan gynnwys monitro capasiti ac offer a chysylltu â rheolwyr ystadau/cyfleusterau i sicrhau bod y swyddfa’n cael ei chynnal a’i chadw.
- Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y wefan gan gynnwys uwchlwytho cynnwys i'r system rheoli cynnwys (darperir hyfforddiant).
- Cynnal gweithdrefnau gweithredu safonol y tîm i sicrhau y gellir cwblhau prosesau yn ystod absenoldeb aelodau tîm.
- Cydweithio â phobl eraill i wneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig
- Meithrin perthynas waith â chysylltiadau allweddol i helpu i wella'r gwasanaeth; datblygu cysylltiadau cyfathrebu addas mewnol ac allanol fel yn berthnasol
- Os bydd angen, rheoli gwaith dydd i ddydd ar gyfer unrhyw staff gweinyddol asiantaeth.
- Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei gymhwyso wrth gyflawni pob dyletswydd
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
- CCyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi’u cynnwys uchod, ond a fydd yn gyson â’r rôl ac a drafodwyd yn flaenorol ac y cytunwyd arnynt gyda’r Rheolwr Llinell/Uwch Dîm Arwain
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- NVQ Lefel 3/Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol
- Gwybodaeth arbenigol o systemau a phrosesau gweinyddol priodol, gan gynnwys profiad o ddarparu cegnogaeth ysgrifenyddol.
- Profiad o weithio mewn rôl weinyddol neu swyddfa a gallu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol.
- Tystiolaeth o safon dda o rifedd a llythrennedd TG.
- Gallu cyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth mewn modd effeithiol a phroffesiynol i ystod o gwsmeriaid amrywiol eu hamgyffred Profiad o reoli gwaith pobl eraill
- Gallu cynghori rhanddeiliaid allweddol yn eich maes gwaith a dylanwadu arnynt.
- Tystiolaeth o allu ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu eich gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cynnig gwasanaeth o safon.
- Gallu cymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, nodi a chynnig atebion ymarferol.
- Gallu gweithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, cynllunio, pennu a monitro eich blaenoriaethau chi a’r tîm, gan gynnwys ymateb i newidiadau yn y llwyth gwaith a blaenoriaethau.
- Profiad o oruchwylio gwaith eraill.
- Profiad o weithio yn y sectorau Addysg Uwch/Bellach/Galwedigaethol/Oedolion/Trydydd Sector/Ysgolion a Ieuenctid.
- Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar