Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Senior Admissions Officer bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid

33.951,00 £  -  36.636,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Derbyn Cynradd


Rydym am benodi Uwch-swyddog Derbyn Myfyrwyr i ymuno â'r Tîm Derbyn Myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. 

Yn y swydd hon, byddwch:
 
  • Yn bennaf gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr holl weithgareddau/systemau sy'n ymwneud â Derbyn Myfyrwyr yn cael eu gweinyddu’n effeithiol. 
  • Cydgysylltu ag Uwch-swyddogion Cymorth Proffesiynol eraill i wneud yn siŵr bod yr holl brosesau ymrestru cyn mynediad yn cael eu cwblhau yn unol â gofynion y rhaglen.
  • Cydweithio'n agos â'r Cyfarwyddwr Academaidd Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr (DoRA) i wneud yn siŵr bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o oruchwylio tîm a bydd yn meddu ar wybodaeth arbenigol o systemau/prosesau recriwtio a derbyn myfyrwyr sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gweinyddu myfyrwyr.

Gallwn gynnig y cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.

Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol sy’n golygu ei bod yn bosibl y byddwch, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, yn treulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny, gan gynorthwyo’r cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.

Cysylltwch â Helen Tilston ([email protected]) i gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y swydd.

Mae’r swydd amser llawn hon ar gael hyd at 31 Gorffennaf 2026, a byddwch yn gweithio 35 awr yr wythnos. 

Croesewir ceisiadau i gael secondiad – os ydych yn aelod o staff Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb yn y swydd hon ar sail secondiad, bydd yn rhaid i chi geisio caniatâd gan eich rheolwr llinell cyn gwneud cais.

Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)

Dyddiad cau: Dydd Iau, 16 Hydref 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

DIBEN Y SWYDD
Arwain a rheoli'r tîm Derbyn Myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
  • Yn bennaf gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr holl weithgareddau/systemau sy'n ymwneud â Derbyn Myfyrwyr yn cael eu gweinyddu’n effeithiol.
  • Arwain tîm o staff cymorth, i gyflawni eu rolau’n effeithiol; cymryd cyfrifoldeb dros ymsefydlu, dyrannu llwyth gwaith, arfarnu, adolygu perfformiad a nodi anghenion hyfforddi a datblygu.
  • Bod yn swyddog uwchgyfeirio ar gyfer unrhyw faterion a godir gan y Swyddog Cymorth Derbyn Myfyrwyr neu'r Cynorthwywyr Derbyn Myfyrwyr sy'n cynghori ar achosion anodd, cynnig argymhellion a chamau gweithredu i staff academaidd neu'r Rheolwr Addysg a Myfyrwyr/Dirprwy Reolwr yr Ysgol.
  • Gweithio o fewn dyddiadau cau tynn gan sicrhau bod yr holl gofnodion i'w cyflwyno i wasanaethau canolog a sefydliadau eraill yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlen angenrheidiol a chysylltu â thiwtoriaid derbyn myfyrwyr i sicrhau bod targedau a rheoliadau derbyn myfyrwyr yn cael eu bodloni.
  • Yn bennaf gyfrifol am brosesu achosion derbyn cymhleth ac anarferol yn effeithiol, gan gynnwys APEL/RPL, Erasmus ac ati, gan sicrhau bod digon o gefnogaeth i’r ymgeiswyr hyn yn ystod y broses.
  • Cydgysylltu ag Uwch-swyddogion Cymorth Proffesiynol eraill i wneud yn siŵr bod yr holl brosesau ymrestru cyn mynediad yn cael eu cwblhau yn unol â gofynion y rhaglen.
  • Arwain ar gynllunio a rheoli diwrnodau cyfweld/asesu, gan gydgysylltu’n agos â staff academaidd perthnasol i bennu eu hanghenion ar gyfer y digwyddiadau a gwneud yn siŵr bod adnoddau priodol yn eu lle.
  • Goruchwylio’r gwaith o reoli gwiriadau cyn-derbyn perthnasol h.y. Cofnodion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, codi pryderon gyda'r Rheolwr Addysg a Myfyrwyr/Dirprwy Reolwr yr Ysgol a throsglwyddo gwybodaeth drylwyr a chlir i'r Swyddog Cefnogi Achosion Myfyrwyr ar gyfer materion sydd angen sylw pellach.
  • Chwarae rhan amlwg mewn prosiectau o fewn yr Ysgol, y Coleg neu’r Brifysgol Ehangach mewn cysylltiad â phrosesau Derbyn Myfyrwyr yn ôl yr angen, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwella prosesau a gwneud argymhellion i'r Rheolwr Addysg a Myfyrwyr/Dirprwy Reolwr yr Ysgol fel y bo'n briodol.
  • Monitro proses a chynnydd pob cais israddedig ac ôl-raddedig a addysgir gan gynnwys darparu data ystadegol perthnasol i'w gyflwyno i Grwpiau neu Bwyllgorau priodol.
  • Bod yn Ysgrifennydd a rhoi cymorth i unrhyw un o bwyllgorau sefydlog yr Ysgol yn unol â’r hyn a allai fod yn berthnasol i’r rôl a chyfarwyddyd y Rheolwr Addysg a Myfyrwyr/Dirprwy Reolwr yr Ysgol.
Dyletswyddau Cyffredinol (safonol)
  • Sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal wrth ymgymryd â dyletswyddau.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoliadol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, polisïau ariannol yn ogystal â pholisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys uchod, ond a fydd yn cyd-fynd â’r rôl.
  • Cymryd gofal rhesymol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun, gan gynnwys iechyd a diogelwch pobl eraill y gall yr hyn y byddwch yn ei wneud neu’n methu â’i wneud yn y gwaith effeithio arnynt, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, cyfarwyddebau'r CE a pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol ar iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, yn ogystal â chydweithio â'r Brifysgol, sef y cyflogwr, i gyflawni unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol sydd ganddi
  • Dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddarparu gwasanaeth rhagorol ar gyfer cwsmeriaid, dim ots a ydynt yn gydweithwyr, yn fyfyrwyr neu’n rhanddeiliaid allanol.

Uchafswm y Cyflog

36,636

Gradd

Gradd 5

Isafswm y Cyflog

33,951

Categori Swyddi

Gweinyddol / Clerigol

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

NODYN PWYSIG: Yn eich datganiad ategol, mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol (a dymunol, lle bo hynny’n berthnasol) isod. Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio pob maen prawf yn is-bennawd ac yn rhoi tystiolaeth ysgrifenedig o'ch sgiliau perthnasol o dan bob un. Cyn lanlwytho'r atodiad hwn, gofalwch eich bod yn cynnwys ****BR yn enw’r ffeil.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. NVQ Lefel 3/Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o oruchwylio tîm
  2. Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau recriwtio a derbyn myfyrwyr neu weithgareddau cysylltiedig sy’n ymwneud â gweinyddu myfyrwyr
  3. Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
  1. Y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl.
  2. Profiad o reoli gwaith pobl eraill.
  3. Profiad o ddelio â materion sy’n ymwneud â pherfformiad a lles
  4. Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau eang drwy fod yn barod i ddefnyddio crebwyll a bod yn greadigol; ac adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl.
  2. Tystiolaeth o’r gallu i gynllunio gwaith tîm, gan ymateb i newidiadau o ran llwyth gwaith a blaenoriaeth
Meini Prawf Dymunol
  1. Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith.
  2. Profiad o weithio ym maes addysg uwch
  3. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Jetzt bewerben

Weitere Jobs