Platzhalter Bild

Lecturer - Doctorate in Educational Psychology bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite

48.727,00 £  -  58.210,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Darlithydd - Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysg (Cyfnod Mamolaeth)
Yr Ysgol Seicoleg


Mae'r Ysgol Seicoleg yn dymuno penodi Seicolegydd Addysg brwdfrydig ar gyfle gyrfa gynnar i ddarparu addysgu proffesiynol i seicolegwyr addysg dan hyfforddiant a chyfrannu at bob agwedd ar gyflwyno'r Rhaglen DEdPSy.

Bydd ymgeiswyr:
  • yn seicolegwyr addysg cwbl gymwys
  • ag o leiaf dair blynedd o brofiad o weithio fel seicolegydd addysg
  • yn gymwys ar gyfer y Sail Raddedig ar gyfer Aelodaeth Siartredig (GBC) Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
  • wedi cofrestru'n  Ymarferwyr Seicoleg gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
  • ar hyn o bryd yn cael eu cyflogi fel seicolegwyr addysg ac yn ymarfer mewn awdurdod lleol

Byddem yn croesawu'n arbennig geisiadau gan seicolegwyr sy'n gweithio yng Nghymru neu sydd â phrofiad o weithio yng nghyd-destun Cymru.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm cryf a chefnogol; i ymgymryd â gwaith ysgogol gyda hyfforddeion hynod frwdfrydig; ac i chwarae rhan yn datblygu seicolegwyr addysg, addysg a llesiant plant a phobl ifanc yng Nghymru.
 
Mae'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd yn awyddus i barhau i ymgorffori'r rhaglen seicoleg addysg yn amgylchedd addysgu ac ymchwil yr Ysgol, gan sicrhau bod tîm y rhaglen yn parhau i ddylanwadu'n gadarnhaol ar y galwadau newidiol am hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ymhlith seicolegwyr addysg yng Nghymru.
     
Ar y Rhaglen DEdPSy mae'r addysg i hyfforddeion yn cwmpasu asesu; dysgu; anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl; dulliau ymchwil, rôl y seicolegydd addysg, a gweithio gyda sefydliadau, systemau a grwpiau. Bydd yr unigolyn a benodir yn gyfrifol am addysgu hyfforddeion yn un neu fwy o'r meysydd hyn yn y DEdPSy a gallai gynnwys addysgu yn yr Ysgol Seicoleg yn ehangach, yn ogystal â chyfrannu at addysgu agweddau eraill ar y rhaglen, trefnu a chymryd rhan mewn digwyddiadau cwricwlwm amrywiol, megis cynadleddau bach, a chyflawni dyletswyddau tiwtor proffesiynol, er enghraifft, goruchwylio hyfforddeion ac asesu eu gwaith.
 
Bydd yr unigolion a benodir hefyd yn ymgymryd â rôl arholwr mewnol ac allanol ar y rhaglen.
 
Mae hon yn swydd ran-amser 0.4 CALl (14 awr yr wythnos), tymor penodol tan 30 Mehefin 2026, dros gyfnod mamolaeth. Mae’r swydd ar gael ar unwaith.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol i Gyd-gyfarwyddwyr y Rhaglen, Hayley Jeans: [email protected] neu Dale Bartle: [email protected].
 
Telir cyflog yn unol â graddfa gyflog Soulbury, gyda disgwyliad y bydd y penodiad rhwng pwyntiau Soulbury Graddfa B 1-7, £48,727 - £58,210 y flwyddyn, pro-rata. 

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 1 Hydref 2025

Dyddiad cau: Dydd Mercher, 22 Hydref 2025


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu awyrgylch cynhwysol ar gyfer gweithio. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Swyddogaeth

Ymgymryd â llwyth addysgu llawn, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso
modiwlau/rhaglenni ar y rhaglen doethuriaeth mewn seicoleg addysg (DEdPSy), yn rhan o ddarpariaeth ôl-gymhwyster yr Ysgol.  Goruchwylio myfyrwyr a chyflawni dyletswyddau gweinyddol yn y maes gwaith yn ôl yr angen. Gweithio at gyflawni rhagoriaeth mewn addysgu ac ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Addysgu
  • Cyfrannu'n annibynnol at ddatblygu modiwlau a'r cwricwlwm ac arwain modiwlau ar lefel ôl-raddedig, gan ysbrydoli myfyrwyr.
  • Goruchwylio gwaith seicolegwyr addysg dan hyfforddiant ar y rhaglen DEdPSy
  • Darparu goruchwyliaeth broffesiynol i seicolegwyr addysg dan hyfforddiant tra byddant yn y brifysgol ac ar leoliadau gwaith maes
  • Rhoi gofal bugeiliol drwy fod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin ymddiriedaeth

Ysgolheictod
  • Cyfrannu at ysgolheictod yn y maes gwaith drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill er mwyn rhannu canlyniadau ysgolheictod unigol.
  • Cymryd rhan mewn gweithgarwch ysgolheigaidd drwy ysgrifennu erthyglau mewn cyfnodolion a/neu allbwn sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes gwaith
  • Cyfrannu at ysgolheictod drwy waith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt.
  • Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod gan gynnwys gwaith sy’n gysylltiedig ag arholiadau (gosod a marcio papurau a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr), gweinyddu a chymryd rhan mewn pwyllgorau.

Arall
  • Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn codi proffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol gwerthfawr a mynd ati i chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a chyfoethogi ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ar draws y Brifysgol a thu hwnt
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

58,210

Gradd

Gradd 7

Isafswm y Cyflog

48,727

Categori Swyddi

Academaidd- Addysgu ac Ysgolheictod

Llwybr Gyrfa

Addysgu ac Ysgolheictod

Manyleb Unigolyn

Manyleb yr Unigolyn

NODYN PWYSIG: Yn eich datganiad ategol, mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol (a dymunol lle bo hynny’n berthnasol) isod. Rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny drwy ddefnyddio’r meini prawf yn is-benawdau, gan roi tystiolaeth ysgrifenedig o'ch sgiliau perthnasol o dan bob un. Cyn lanlwytho'r atodiad hwn, gofalwch eich bod yn cynnwys ****BR yn enw’r ffeil.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Cymhwyster proffesiynol ôl-raddedig ar lefel Meistr neu DEdPSy
  2. O leiaf ddwy flynedd o ymarfer fel seicolegydd addysg cymwysedig, cofrestredig gydag HCPC mewn awdurdod lleol yn y DU

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad o addysgu a goruchwylio ym mhroffesiwn seicoleg addysg
  2. Profiad a dealltwriaeth o ymchwil ar lefel ôl-raddedig
  3. Y gallu i gynllunio, cyflwyno a datblygu modiwlau’n barhaus ar draws rhaglenni addysgu’r Ysgol.

Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm.
  1. Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill, gan ddefnyddio sgiliau lefel uchel ac amrywiaeth o gyfryngau
  2. Gallu cynnig cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a bod yn diwtor personol iddynt.
  3. Y gallu i arwain modiwlau a chydlynu gydag eraill i ddiwallu anghenion myfyrwyr a bodloni eu disgwyliadau.

Arall
  1. Gallu diamheuol i ddangos creadigrwydd, bod yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith.

Meini Prawf Dymunol
  1. Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth am gyd-destun addysg Cymru a phrofiad o ymarfer yng Nghymru
  3. Y gallu i weithio yn Gymraeg.

 
Jetzt bewerben

Weitere Jobs