Internal Applicants - Research Associate - Wales Productivity Forum bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cydymaith Ymchwil ar gyfer y Fforwm Cynhyrchiant Cymru
Ysgol Busnes Caerdydd
Mae'r Sefydliad Cynhyrchiant yn dwyn ynghyd arbenigwyr o ystod o ddisgyblaethau a chefndiroedd, gan weithio'n uniongyrchol gyda llunwyr polisïau a busnesau i ddeall yn well, mesur, a gwneud gwelliannau i gynhyrchiant ledled y DU, gyda’r bwriad i wella safonau byw a lles.
Mae Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn bwriadu recriwtio cydymaith ymchwil am gyfnod penodol i gefnogi gwaith y fforwm drwy gynnal a lledaenu gwaith ymchwil ar Her Cynhyrchiant Cymru. Bydd y rôl yn cefnogi cynhyrchu a lledaenu tystiolaeth ar gynhyrchiant a bydd yn cynnwys adolygiadau llenyddiaeth, dadansoddi data, ysgrifennu adroddiadau a lledaenu gwybodaeth, gan gynnwys cefnogi cyfarfodydd y fforwm, fel y bo'n briodol. Nod y fforwm yw hysbysu llunwyr polisïau a busnesau ynghylch y wybodaeth berthnasol o waith y Sefydliad. Felly, mae parodrwydd i ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol a'r tîm ymchwil canolog yn y Sefydliad Cynhyrchiant yn un o ofynion allweddol y rôl.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y fforwm ar gael yn: https://www.productivity.ac.uk/regions-nations/wales-regional-forum/ neu gysylltu Professor Melanie Jones [email protected]
Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos), am gyfnod penodol tan 31 Awst 2026.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 10 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad Swydd
Cynnal gwaith ymchwil ar her cynhyrchiant Cymru i hysbysu a chefnogi gwaith y Fforwm Cynhyrchiant Cymru. Cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Sefydliad Cynhyrchiant gan gynnal a chyhoeddi gwaith ymchwil o safon sy’n cael effaith.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Ymchwil
• Cynnal gwaith ymchwil ar Her Cynhyrchiant Cymru a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Sefydliad Cynhyrchiant a'r Brifysgol drwy gynhyrchu canlyniadau y gellir eu mesur gan gynnwys gwneud ceisiadau am arian, cyhoeddi mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol, a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
• Datblygu amcanion a chynigion ymchwil at ddibenion ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys cynigion am gyllid ymchwil
• Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau ynddynt yn ôl yr angen
• Ymgymryd â thasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r Fforwm Cynhyrchiant Cymru, gan gynnwys cynllunio a threfnu cyfarfodydd y fforwm a rhoi’r gweithdrefnau angenrheidiol ar waith er mwyn sicrhau adroddiadau cywir a phrydlon.
• Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel sy’n briodol
• Adolygu a chywain y llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes
• Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil y Sefydliad a’r Ysgol.
• Datblygu a chreu rhwydweithiau yn y Brifysgol a’r tu allan iddi, dylanwadu ar benderfyniadau, trin a thrafod gofynion ymchwil o ran y dyfodol a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil
Arall
• Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil Fforwm Cymru, meithrin cynghreiriau strategol gwerthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at y gwaith o wella proffil rhanbarthol a chenedlaethol y Sefydliad Cynhyrchiant.
• Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol mewn ffordd briodol a fydd yn gwella perfformiad.
• Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth y Sefydliad Cynhyrchiant ac mewn gweithgareddau i hyrwyddo'r Sefydliad a'i waith ar draws y Brifysgol a thu hwnt.
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Nodyn pwysig: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio manyleb y person fel arf allweddol ar gyfer rhestru byr. Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol yn ogystal â'r rhai dymunol, lle bo hynny'n berthnasol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei darparu yn cyfateb i'r meini prawf wedi'u rhifo a amlinellir uchod (eg 19628BR) . Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gennych o dan bob elfen
Ysgol Busnes Caerdydd
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ysgol fusnes a rheoli flaenllaw yn y DU, yn cynnal achrediadau AACSB ac AMBA ac yn y 1af safle 1af am ei Hamgylchedd Ymchwil a'i 2il ar Bŵer Ymchwil (REF2021). Mae gan yr Ysgol bwrpas Gwerth Cyhoeddus ac mae'n canolbwyntio ar gyd-greu addysg a gwybodaeth o ansawdd uchel, rhyngddisgyblaethol sy'n darparu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae gweithgareddau'r Ysgol yn gogwyddo tuag at bum Her Fawr: Gwaith gweddus, economïau teg a chynaliadwy, sefydliadau yn y dyfodol, llywodraethu da, ac arloesedd cyfrifol.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
1. Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD (neu bron â’i chwblhau/cyflwyno) mewn Economeg neu faes pwnc cysylltiedig neu brofiad diwydiannol perthnasol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Arbenigedd a phortffolio diamheuol o ymchwil a/neu brofiad perthnasol ym myd diwydiant yn y meysydd ymchwil canlynol:
ii. Ysgogwyr cynhyrchiant
4. Y gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion cenedlaethol / rhyngwladol a chynadleddau cenedlaethol / rhyngwladol a / neu allbynnau ymchwil eraill
5. Gwybodaeth a deall cyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i gyrff cyllido
Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
6. Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
7. Y gallu i oruchwylio gwaith pobl eraill i lywio ymdrechion y tîm ac ysgogi unigolion
Arall
8. Gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol a gweithio yn rhan o dîm yn y gwaith
9. Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos
Meini Prawf Dymunol
10. Tystiolaeth o gydweithio â byd diwydiant a/neu lunwyr polisi.
11. Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch.
12. Tystiolaeth o allu cymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil yr Ysgol a’r Sefydliad.