Internal Applicants Only - PA to Head of School/Executive Assistant bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Adleoli Mewnol yn Unig - Cynorthwydd Personol Pennaeth yr Ysgol/Cynorthwydd Gwithredol
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn chwilio am Gynorthwyydd Personol i Bennaeth yr Ysgol a Chynorthwyydd Gweithredol. Yn rhan o’r swydd, byddwch yn rhoi cymorth gweinyddol proffesiynol a chynhwysfawr i Bennaeth yr Ysgol, gan gynnwys timau rheoli gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yr Ysgol. Byddwch yn cynnig gwasanaeth cynorthwyydd personol hynod broffesiynol ac effeithiol i Bennaeth yr Ysgol.
Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos) sydd ar gael ar unwaith ac am dymor penodol tan 31 Gorffennaf 2026.
Cyflog: £28,031 - £31,236 y flwyddyn (Gradd 4).
Fel arfer, bydd pobl a benodir ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.
Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â - Lucy Hammond, Rheolwr yr Ysgol ([email protected])
Dyddiad cau: Friday, 10 Hydref 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu awyrgylch cynhwysol ar gyfer gweithio. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Rydym ni'n arbennig yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngweithlu'r Brifysgol, fel y rheini sy'n uniaethu'n LHDT+ BAME neu bobl ag anableddau. Wrth helpu ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn ni’n ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg, hefyd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Cynnig gwasanaeth cynorthwyydd personol proffesiynol a hynod effeithiol i Bennaeth yr Ysgol.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Prif Ddyletswyddau
• Darparu cyngor ac arweiniad manwl ar reoli blaenoriaethau sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth, rheolaeth a chefnogaeth AD i brosesau a gweithdrefnau'r Ysgol i gwsmeriaid mewnol ac allanol (staff, myfyrwyr neu aelodau'r cyhoedd), gan ddefnyddio barn a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
• Gweithio gydag eraill i wneud argymhellion ar gyfer gwella ein ffyrdd o weithio.
• Meithrin perthynas gynhyrchiol ag unigolion allweddol (Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, cydweithwyr yn y Brifysgol a phwyntiau cyswllt allanol) i helpu i wella’r gwasanaeth y mae'r tîm yn ei ddarparu ar gyfer ei gwsmeriaid.
• Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo'r tîm i gyflawni ei amcanion.
• Casglu a dadansoddi data fel y gellir gwneud penderfyniadau cytbwys, gan nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a llunio adroddiadau a darparu argymhellion i’r tîm rheoli.
• Cyfarwyddo ac arwain cydweithwyr ar draws y Brifysgol ynghylch busnes Pennaeth yr Ysgol a thimau rheoli gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yr Ysgol, yn ôl yr angen.
• Rhoi cefnogaeth hynod effeithlon a rheoli dyddiadur Pennaeth yr Ysgol.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
• Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
• Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
• Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd. Felly, byddwn yn defnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial.
1. Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm.
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
3. Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell. Efallai mai trefniant anffurfiol fydd hyn neu’n brentisiaeth sy'n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ Gweinyddu Busnes.
4. Cynllun mentora staff.
5. Cymorth i ddysgu Cymraeg neu loywi eich sgiliau iaith.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW-RHIF BR-TEITL Y SWYDD] a'i atodi i’ch cais yn y system recriwtio, sydd ar gael yma.
Dyma'r meini prawf a gaiff eu defnyddio hefyd i asesu’r ymgeiswyr ar y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).
Meini Prawf Hanfodol
1. Y gallu i gyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno ac yn effeithiol i roi cyngor ac arweiniad manwl ar reoli blaenoriaethau sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth yr Ysgol.
2. Sgiliau rhifedd a llythrennedd TG da.
3. Profiad o weithio mewn swydd weinyddol fel cynorthwyydd personol lle mae cyfrifoldebau wedi cynnwys cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd a rheoli dyddiaduron, a'r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wneud gwelliannau i’r rhain fel sy’n briodol.
4. Gwybodaeth arbenigol am bolisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol.
5. Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid, y gall eu dealltwriaeth o’r mater amrywio.
6. Y gallu i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol yn eich maes gwaith.
7. Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.
8. Y gallu i gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan ddod o hyd i atebion ymarferol a’u cynnig, gan gymhwyso egwyddorion cyfrinachedd bob amser.
9. Gallu dadansoddi prosesau a gweithdrefnau, a chynghori ar welliannau.
10. Tystiolaeth o allu gweithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, cynllunio, pennu a monitro blaenoriaethau.
Meini Prawf Dymunol
1. Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd tebyg, e.e. addysg uwch.
2. Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i’w dysgu.
3. Profiad o ddefnyddio meddalwedd systemau (e.e. Business Objects) ac MS Excel i gasglu data rheoli a’i gyflwyno.