- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Rydyn ni eisiau penodi Trydanwr cymwys i ymuno â'r tîm Sefydliad Llafur Uniongyrchol (DLO) yn yr adran Ystadau. Byddwch chi’n gweithio mewn gweithle prysur lle na fydd dau ddiwrnod yr un fath, gan helpu i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw rhagorol yn uniongyrchol i'n cwsmeriaid.
Hoffem glywed gennych os ydych chi’n:
- Cymhwyster cydnabyddedig yn dilyn cwblhau prentisiaeth ym maes gwasanaethau trydanol, cymhwyster NVQ Lefel 3, cymhwyster City & Guilds neu gymhwyster cyfatebol, ac wedi gwneud cwrs ar yr 18fed Argraffiad o Reoliadau Gwifro’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg
- JIB AM2
- Profiad o weithio ym maes cynnal a chadw ymatebol.
- Gallu gweithio yn rhan o dîm ac yn annibynnol.
- Ar gael i gymryd rhan mewn rota "ar alwad" gorfodol y tu allan i oriau gwaith, 1 wythnos mewn 5
- Gallu cyfathrebu a rhoi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
Swydd amser llawn, 35 awr yr wythnos, a phenagored yw hon. Yr oriau gwaith arferol yw 8am tan 4pm, gydag awr i ginio.
Cyflog cychwynnol: £33,348.52 y flwyddyn yn codi i £34,290.40 ar 1 Awst ar ôl blwyddyn o wasanaeth llawn.
Mae'r cyflog uchod yn cynnwys lwfans o £3,389.52 y flwyddyn, mewn rhandaliadau misol cyfartal, i dalu am y canlynol:
o Bydd gofyn i chi weithio 1 wythnos ym mhob 5 ar y rota ar alwad: -
o Bydd yn rhaid i chi weithio awr ychwanegol bob dydd rhwng 4pm a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener,
o Byddwch wrth law ac ar alwad ar benwythnosau rhwng 8am ddydd Sadwrn a 8am ddydd Llun. Byddwch hefyd yn cael eich talu am unrhyw waith ychwanegol a wneir yn ystod eich cyfnod ar alwad yn unol â Pholisi Taliadau Uwch Gradd 1-4 y Brifysgol.
Ymhlith y manteision y mae:-
• Wythnos waith 35 awr rhwng 8am a 4pm.
• 32 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc.
Cynllun pensiwn â chyfraniadau cyflogwr hael.
• Tâl ychwanegol posibl wrth ymuno â rota 'ar alwad' y tîm cynnal a chadw a thâl goramser posibl (yn dibynnu ar anghenion busnes).
• Hyfforddiant sy’n bwrpasol i gefndir eich crefft.
• Cerbyd cwmni i deithio rhwng safleoedd bob dydd ac i deithio rhwng y gwaith a'r cartref pan fyddwch chi 'ar alwad'.
• Gwisg cwmni/cyfarpar diogelu personol (PPE).
• Tâl salwch.
• Mae ein cynllun Beicio i’r Gwaith yn galluogi gweithwyr i brydlesu beiciau ac offer diogelwch cysylltiedig gwerth hyd at £3,000 drwy gynllun Aberthu Cyflog.
• Y cynllun Benthyciadau Teithio ar gyfer Tocynnau Tymor Blynyddol sy’n eich galluogi i wneud cais am fenthyciad di-log gan y Brifysgol, a fydd yn prynu tocyn tymor blynyddol ar eich rhan Bydd y swm hwn yn ad-daladwy dros gyfnod o 10 mis
• Cyfraddau is ar aelodaeth chwaraeon
• Y gallu i fanteisio ar fwy na 90 o ostyngiadau a bargeinion i’r staff
• Gofal plant am bris gostyngol
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Yr hyn y gallwn ei gynnig - Swyddi - Prifysgol Caerdydd.
Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig ar sail gweithio ar y safle, sy'n golygu y byddwch chi’n treulio'ch holl amser yn gweithio ar y campws. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gynnig hyblygrwydd, lle bynnag y bydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae angen trwydded yrru ddilys gan ei bod yn amod cyflogaeth bod yr holl bersonél yn gallu defnyddio cerbydau fflyd y brifysgol i gyrraedd holl safleoedd y Brifysgol.
Cysylltwch â Chris James ([email protected]) i gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y rôl.
PWYSIG: Mae Manyleb yr Unigolyn wedi’i rhannu’n 2 adran: hanfodol a dymunol. Dangoswch yn glir sut ydych yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Lle bo modd, dylech roi enghreifftiau o sut, pryd a ble rydych wedi defnyddio eich profiad, eich gwybodaeth, eich sgiliau penodol a’ch galluoedd yn unol â gofynion y swydd benodol hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu hyn yn llawn drwy ddatblygu datganiad i gefnogi eich cais, gan restru’r HOLL FEINI PRAWF a rhoi sylwadau wrth bob un sy’n nodi sut y gwnaethoch eu bodloni.
Rhaid cwblhau’r datganiad cyn dechrau gwneud eich cais ar-lein oherwydd bydd yn rhaid i chi ei uwchlwytho. Pan fyddwch yn uwchlwytho’r datganiad ategol, mae angen enwi’r ddogfen yn “datganiad ategol” a dylai’r teitl hefyd gynnwys cyfeirnod y swydd: 20260BR
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 7 Gorffennaf 2025
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynorthwyo a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn cefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Mae Trydanwyr yn chwarae rhan hanfodol mewn Sefydliad Llafur Uniongyrchol (DLO) brwdfrydig ac arloesol, gan wneud gwaith cynnal a chadw ymatebol, gwaith cynnal a chadw ataliol wedi'i gynllunio, gwaith darganfod namau a chymorth y tu allan i oriau gwaith ar gyfer yr holl systemau a gweithrediadau trydanol ar yr Ystâd.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif ddyletswyddau
- Addasu/trwsio gwasanaethau ac offer trydanol y Brifysgol, gan gynnwys gwneud gwaith cynnal a chadw ymatebol, cynlluniedig ac ataliol, archwilio systemau a gwneud diagnosis o broblemau yn ôl yr angen, yn unol â Rheoliadau Gwifro’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a Rheoliadau Trydan yn y Gweithle 1989
- Gwneud profion trydanol ar larymau tân, goleuadau argyfwng ac unrhyw systemau foltedd isel eraill
- Gweithredu’n berson cymwys sy’n gallu ymdrin ag ynysu a dad-ynysu trydanol.
- Byddwch yn rhan o rota "ar alwad" gorfodol y tu allan i oriau gwaith, 1 wythnos mewn 5
- Bod y person cyntaf i ganfod namau a darparu diweddariadau clir ar waith adfer ar gyfer gosodiadau gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i: -
- offer larwm dân,
- goleuadau argyfwng,
- gwifrau yn y system rheoli adeiladau (BeMS),
- rheolyddion boeler,
- moduron a rheolyddion modur,
- dyfeisiau cyflymder amrywiol,
- gwifrau yn y system awyru,
- cyflenwad generaduron
- unrhyw offer foltedd isel arall neu ychwanegol.
- Gallu olrhain namau ar baneli rheoli ac offer cysylltiedig, gan weithio gyda Pheirianwyr Gwasanaethu Adeiladau i gywiro namau o’r fath.
- Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch priodol a pholisïau a gweithdrefnau. Ymgymryd ag asesiadau risg (deinamig) penodol i dasgau a datganiadau dull, cyn gwneud gwaith cynnal a chadw a gwaith addasu, gan roi gwybod am unrhyw amodau gwaith a allai fod yn anniogel.
- Sicrhau bod yr holl waith papur sydd ei angen yn cael ei gwblhau’n gywir ac mewn pryd â llaw neu’n electronig, a hynny’n unol â therfynau amser (Cytundebau Lefel Gwasanaeth).
- Mynd ar gyrsiau datblygu a hyfforddi, fel y nodir a thrwy gytundeb, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am arfer gorau yn y diwydiant a rheoliadau statudol.
- Ar ran y Brifysgol, bod yn berson cymwys i wneud yr holl waith a ddiffinnir yng ngweithdrefnau Systemau Gwaith Diogel ac sy’n gysylltiedig â nhw gan gynnwys ond heb fod wedi’i gyfyngu i ynysu a di-ynysu systemau trydanol a larymau tân.
- Meithrin perthynas waith â chwsmeriaid allweddol er mwyn helpu i wella’r gwasanaeth, gan gynnwys datblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Adrannau’r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.
- Helpu i reoli lefelau stoc deunydd hanfodol a materol. Cynnal a chadw offer, cyfarpar a cherbydau, a bod yn gyfrifol am eu cadw'n ddiogel.
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau.
- Dilyn polisïau’r brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Cyflawni dyletswyddau amlddisgyblaethol eraill yn ôl yr angen sy’n adlewyrchu lefel y swydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn i chi fod ar gael i fynd i asesiadau Goruchwylio Iechyd blynyddol.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Prentisiaeth Fframwaith Llawn mewn Peirianneg Drydanol/Electronig. neu Gosodiadau Trydanol., NVQ Lefel 3 - Peirianneg Drydanol ac Electronig., Tystysgrif lefel 3 City and Guilds yn y gofynion ar gyfer gosodiadau trydanol BS7671 – 18fed Argraffiad o Reoliadau Gwifrau IET. Prentisiaeth JIB (AM2).
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cynnal a chadw ymatebol, gan gynnwys profiad sylweddol a pherthnasol yn dilyn cwblhau prentisiaeth.
- Dealltwriaeth dda o Iechyd a Diogelwch Cyffredinol yn y gweithle sy’n benodol i swydd, gan gynnwys asesiadau risg a datganiad dull.
- Y gallu i weithio'n dda mewn tîm ac yn annibynnol i gyflawni nodau cyffredinol y tîm, gan gynnwys y gallu i flaenoriaethu tasgau
- Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau drwy gymryd y cam cyntaf i ymchwilio i broblemau, eu diagnosio, a’u huwchgyfeirio i’r bobl briodol.
- Sgiliau rhyngbersonol da a'r gallu i gyfathrebu'n briodol â chwsmeriaid ac adrannau eraill.
- Trwydded yrru ddilys, gan mai un o’r amodau cyflogaeth yw bod yr holl bersonél yn gallu defnyddio cerbydau fflyd y Brifysgol i gyrraedd holl safleoedd y Brifysgol.
- Hyddysg ac yn brofiadol wrth weithio ar wahanol fathau o system synhwyro a rhybuddio am dân
- Profiad o weithio ar systemau a rheolyddion y Rhyngwyneb Goleuadau Cyfeiriadwy Digidol
- Meddu ar gymhwyster City & Guilds, sef Initial and Periodic Electrical Inspection and Testing (2391) neu EAL.
- Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar