Platzhalter Bild

Lecturer in Politics and International Relations bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Onsite

51.753,00 £  -  56.535,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Darlithwyr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (Addysgu ac Ymchwil)
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

 
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn awyddus i benodi tri ymgeisydd neilltuol i ymuno ag adran Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o fri byd-eang.

Mae'r Adran Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhan ddeinamig a chynyddol o sefydliad rhyngddisgyblaethol Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Rydym yn gymuned amryfath ac amrywiol yn ddeallusol, gyda chryfderau hirsefydlog a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi'u sefydlu mewn theori gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth Cymru a datganoli; hanes gwleidyddiaeth Prydain; a gwleidyddiaeth Ewrop a’r DU a pholisi cyhoeddus. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r adran wedi buddsoddi'n helaeth i ymgryfhau ymhellach ym maes cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang. Bellach, mae ganddi broffil ymchwil cryf mewn meysydd sy’n cynnwys hanes y rhyfel oer; gwleidyddiaeth niwclear; theori ryngwladol gritigol; trefedigaethedd ac ôl-drefedigaethedd; astudiaethau rhywedd; gwleidyddiaeth amgylcheddol; astudiaethau milwrol ac astudiaethau deallusrwydd; a chyfraith ryngwladol. Mae ymchwil ac addysgu ar draws yr adran yn manteisio ar amrywiaeth o ddulliau gweithredu deallusol a methodolegol. Ymhellach, mae bod yn rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i arloesi ar draws ffiniau disgyblaethol ym meysydd addysgu ac ymchwil.

Mae is-ddisgyblaethau ar draws Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cymryd rhan weithredol mewn pum cysylltiad ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: Gwrthdaro, Diogelwch a Chymdeithas; y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Technoleg; Cyfiawnder Cymdeithasol a Dyfodol Amgen; Cenedlaethau'r Dyfodol a Chynaliadwyedd; a Llywodraethu Byd-eang: Cymru, Ewrop a thu hwnt. Mae'r meysydd hyn yn datblygu amgylchedd ymchwil deinamig trwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys datblygu grwpiau darllen a chyhoeddiadau ar y cyd, mentora, sesiynau cymorth gyda gwaith ar y gweill, datblygu ceisiadau am arian ar y cyd, a gweithdai. Disgwylir i ymgeiswyr ymhelaethu ar arbenigedd yn y meysydd eang hyn a llunio proffil yr Adran ymhellach.
 
 Rydym yn ceisio penodi tri ymgeisydd rhagorol ar lefel Darlithydd (Gradd 7) yn y meysydd canlynol:
  • Astudiaethau Polisi Tramor/Rhyfel/Diogelwch nad ydynt yn orllewinol (yn enwedig nad ydynt yn yr Unol Daleithiau) gan gynnwys Cysylltiadau Rhyngwladol a hanes y Rhyfel Oer, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain 
  • Theori wleidyddol, gan gynnwys hanes meddwl yn wleidyddol, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn 
  • Hanes a theori trefedigaethedd a'i etifeddiaeth mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
Ym mhob achos, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr y mae eu harbenigedd yn estyn ac yn ategu’r hyn sydd eisoes yn yr adran.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Adran a'i gwaith, cysylltwch â'r Athro Peter Sutch yn [email protected]
Gwefan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics

Mae'r swyddi hyn yn amser llawn ac yn barhaol, i ddechrau yn semester cyntaf neu ail semester blwyddyn academaidd 2025-2026. 

Cyflog:  £51,753 - £56,535 y flwyddyn (Gradd 7)
Mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog.

Dyddiad cau: 7 Medi 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran.  Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau’n arbennig gan y rhai sy’n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngweithlu'r Brifysgol, megis y rhai sy’n uniaethu fel LHDT+, du, Asiaidd neu o gefndir ethnig leiafrifol neu’r rhai ag anabledd. Wrth helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swydd neu weithio’n hyblyg. 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma:  Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd

Disgrifiad Swydd

Cyflawni addysgu o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar ymchwil ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Cyfrannu at gofnod ymchwil yr Adran a’r Ysgol drwy ymrwymo i gynnal ymchwil sy'n arwain at gyhoeddi gwaith o safon uchel mewn cyfnodolion ac yn y wasg academaidd. Anelu at ragoriaeth mewn ymchwil ac wrth addysgu ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Ymchwil
•    Gwneud gwaith ymchwil gwreiddiol ac arloesol o fewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mewn meysydd sy'n gysylltiedig â diwylliant ymchwil ac anghenion addysgu'r adran 
•    Cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol a gydnabyddir yn rhyngwladol yr Ysgol a'r Brifysgol drwy gyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol a’r wasg academaidd, cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol a chynnig am gyllid.
•    Mynd ati i recriwtio a chyd-oruchwylio / goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
•    Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys cynnig am arian ymchwil. Datblygu rhwydweithiau ymchwil drwy gyflwyno’n rheolaidd mewn seminarau/cynadleddau cenedlaethol/rhyngwladol.
•    Cyfrannu at ddiwylliant a strategaeth ymchwil yr Ysgol yn fwy cyffredinol drwy gyfrannu at un neu fwy o grwpiau ymchwil yr Ysgol a manteisio ar waith rhyngddisgyblaethol ar draws ffiniau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, y Gyfraith, a'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.
•    Gallu dangos eich bod wedi cyfrannu at o leiaf un cysylltiad ymchwil.

Addysgu
•    Cynllunio a chyflwyno addysgu ar gyfer rhaglenni gradd israddedig ac ôl-raddedig a chyfrannu at ddatblygu modiwlau.
•    Cyfrannu'n annibynnol at ddatblygiad y modiwl a'r cwricwlwm, a datblygu ac arwain modiwlau presennol a newydd ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, ysbrydoli myfyrwyr.
•    Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod, gan gynnwys gwaith sy’n gysylltiedig ag asesu (gosod a marcio’r asesiadau a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr), gweinyddu, cymryd rhan mewn gwaith pwyllgor, a rhoi gofal bugeiliol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
•    Goruchwylio gwaith myfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir, cyd-oruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a gweithredu fel aelod o’r panel adolygu cynnydd PGR yn ôl y gofyn.
•    Bod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth bugeiliol i fyfyrwyr.

Arall
•    Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau strategol gwerthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar ystod o weithgareddau. bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol
•    Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich perfformiad yn Ddarlithydd
•    Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau’r Ysgol er mwyn hyrwyddo’r Ysgol a’i gwaith i’r Brifysgol ehangach a’r byd y tu allan
•    Unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n gyson â'r rôl.
 

Uchafswm y Cyflog

56,535

Gradd

Gradd 7

Isafswm y Cyflog

51,753

Categori Swyddi

Academaidd- Addysgu ac Ymchwil

Llwybr Gyrfa

Addysgu ac Ymchwil

Manyleb Unigolyn

Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL Feini Prawf Hanfodol, yn ogystal â'r rhai Dymunol, lle bo'n berthnasol. Fodd bynnag, nid yw bodloni'r holl Feini Prawf Hanfodol yn gwarantu y cewch gyfweliad, oherwydd gallai fod ymgeiswyr eraill sydd wedi dangos eu bod yn bodloni rhai o'r meini prawf dymunol neu bob un ohonynt, neu eu bod yn bodloni'r meini prawf i raddau helaethach a/ neu fwy perthnasol.
Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag arno – xxxxBR_supporting_statement.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
1.    Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn pwnc cysylltiedig â Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol.
2.    Tystysgrif Ôl-raddedig Dysgu ac Addysgu Prifysgol neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
3. Arbenigedd a phortffolio diamheuol o ymchwil mewn un o’r meysydd canlynol: 
-    Astudiaethau Polisi Tramor/Rhyfel/Diogelwch nad ydynt yn orllewinol (yn enwedig nad ydynt yn yr Unol Daleithiau) gan gynnwys Cysylltiadau Rhyngwladol a hanes y Rhyfel Oer, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain 
-    Theori wleidyddol, gan gynnwys hanes meddwl yn wleidyddol, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn 
-    Hanes a theori trefedigaethedd a'i etifeddiaeth mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
4. Profiad sylweddol o addysgu o safon i israddedigion/ôl-raddedigion.
5.  Enw da cynyddol yn genedlaethol yn y maes academaidd
6. Hanes sylweddol diamheuol o gyhoeddi mewn cyfnodolion cenedlaethol a/neu allbynnau ymchwil eraill.
7. Cofnod diamheuol o gyfrannu at geisiadau llwyddiannus am gyllid ymchwil cystadleuol, neu eu harwain.
8. Gallu cyfrannu at gyflwyno a datblygu modiwlau’n barhaus ar draws rhaglenni addysgu’r Ysgol.

Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
9.    Gallu profedig i gyfathrebu mewn modd effeithiol a pherswadiol a rhoi cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a gweithredu’n diwtor personol iddynt.
10.    Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd a’i wneud yn effeithiol.

Meini Prawf Dymunol

1.   Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
2.   Tystiolaeth o gydweithio neu gysylltiadau â sefydliadau anacademaidd yn y sectorau preifat a chyhoeddus, neu’r trydydd sector.
3.  Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol y gymuned Addysg Uwch.
4.   Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol
 
Jetzt bewerben

Weitere Jobs