Hybrid Internal Applicants Only - Service Management Advisor - Service Desk bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig- Cynghorydd Rheoli Gwasanaeth – Desg Gwasanaeth
O fewn TG y Brifysgol, y Grŵp Gwasanaeth a Gweithrediadau sy'n gyfrifol am weithrediad dydd i ddydd y gwasanaeth TG a reolir yn ganolog. Gan weithredu o fewn fframwaith ITIL, mae'r grŵp yn darparu'r Ddesg Gwasanaethau TG, Rheoli Digwyddiadau a Phroblemau, Rheoli Newid, Ffurfweddu a Rhyddhau, Cyflenwi Gwasanaethau a Gweithrediadau'r Ganolfan Ddata.
Fel rhan o'r Ddesg Gwasanaethau TG, byddwch yn darparu wyneb hynod o broffesiynol a chyfeillgar yn canolbwyntio ar y cwsmer, ac yn fan cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau ffôn cwsmeriaid ac ymweliadau personol; yn derbyn ac ymateb i geisiadau am gymorth a darparu ymchwiliad ac ateb cyntaf lle bo'n bosibl ar gyfer pob galwad yn unol â chytundebau Lefel Gweithrediadol, targedau perfformiad ac o fewn cyfyngiadau cyfrifoldeb diffiniedig. Byddwch yn darparu cefnogaeth i'r gwasanaethau a gynigir gan TG y Brifysgol yn y pwyntiau mynediad i staff a myfyrwyr o fewn swyddogaethau Corfforaethol, Gweinyddol, Ymchwil Academaidd a Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol.
Mae hon yn swydd amser llawn a phenagored.
Cyflog: £27,644 - £30,805 y flwyddyn (Gradd 4)
Dyddiad Cau: 3 Medi 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
• At ymlyniad, cyfrannu at ddiagnosis a dewisiadau ar gyfer datrys digwyddiadau meddalwedd a chaledwedd cymhleth, gan gadw at y gweithdrefnau a ddiffinir, gan ddatrys digwyddiadau wrth y pwynt cyswllt cyntaf lle bo'n bosib.
• Dilyn, cyfleu a, lle bo'n angen, egluro gweithdrefnau a phrosesau ysgrifenedig ar gyfer gwasanaethau TG a ofynnir yn aml.
• Cynnal ystod o dasgau drefnedig a chadw cofnodion priodol, gan gynnwys ymateb i ymholiadau cyffredinol am unrhyw un o'r gwasanaethau a gynigir gan Gyfrifiaduron y Brifysgol.
• Nodi, logio a chategoreiddio pob cais am wasanaeth, a chau cofnodion pan fyddant wedi eu datrys yn unol â pholisïau a gweithdrefnau diffiniedig.
• Adnabod cyfleoedd ar gyfer gwella drwy gyflawni eich rôl, gan gynhyrchu cynigion ar gyfer ystyriaeth.
• Dilyn prosesau ysgrifenedig ac o dan ymdrech, sicrhau bod tocynnau gwasanaeth yn datblygu'n amserol a'u diweddaru'n rheolaidd.
• Darparu gwybodaeth rheolaidd ac amserol i'r rheolwyr, gan gydnabod a dehongli arwyddion, i'w defnyddio wrth Reoli Perfformiad Gwasanaeth a rheoli tocynnau gwasanaeth yn rhagweithiol.
• Cynnal tasgau yn ôl eu blaenoriaeth, gan roi gwybod i ddefnyddwyr o'r cynnydd ac olrhain gweithgareddau datrys i gyflawni lefelau gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
• Ymateb i ymholiadau neu geisiadau am wasanaeth gan ddefnyddwyr, a thrin ymholiadau neu geisiadau o gymhlethdod canolig yn effeithiol, gan gydnabod pryd i esgyn gyda dosbarthiad priodol o wybodaeth ar gyfer gweithredu parhaus tuag at ddatrys.
• Ddeall ac archwilio anghenion y cwsmer, gan addasu'r ddarpariaeth gwasanaeth yn unol â hynny.
• Cyfleu gwybodaeth yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y lefel briodol.
• Creu a chynnal dogfennaeth gefnogi, gan sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau ar gyfer gwasanaethau a gefnogir ar gael ac mewn fformat priodol ar gyfer y rhai sy'n darparu cymorth.
• Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm, cytuno ar amcanion, mentora ac ysgogi, ac adeiladu perthynas â aelodau o Gyfrifiaduron y Brifysgol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu yn y pwynt cyswllt gofynnol yn unol â'r anghenion busnes.
• Cyfranogi mewn unrhyw brosiectau sy'n addas ar gyfer y radd a / neu'r sgiliau perthnasol.
• Bod â lefel wybodaeth / sgiliau briodol yn y technolegau presennol a ddefnyddir, neu fod yn barod i ddatblygu lefel wybodaeth / sgiliau briodol mewn unrhyw wasanaeth newydd a gyflwynir gan Gyfrifiaduron y Brifysgol.
• Cyflawni rhai dyletswyddau sy'n gysylltiedig â swydd uwch er mwyn datblygu, neu gyflawni rhai dyletswyddau sy'n gysylltiedig â swydd is i ddibenion gweithredol.
• Cyflawni dyletswyddau eraill weithiau nad ydynt wedi eu cynnwys uchod, ond a fydd yn cyd-fynd â'r rôl.
Disgwyliadau Safonol
• Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, polisïau a gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel y bo'n briodol.
• Cymryd gofal rhesymol am iechyd a diogelwch eich hun a phersonau eraill a allai gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd neu esgeulustodau yn y gwaith yn unol â Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau EC a Pholisïau a Gweithdrefnau Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd y Brifysgol, ac i gydweithio â'r Brifysgol ar unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol a osodir arni fel cyflogwr.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Profiad
1. Profiad o gefnogi a datrys problemau gyda chaledwedd TG cyffredin, meddalwedd ymarferol, ac systemau weithredu mewn amgylchedd TG sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
2. Dealltwriaeth o brosesau a gweithdrefnau Gweithredu Gwasanaethau ITIL (Rheoli Digwyddiadau, Rheoli Problem, Llenwi Cais).
3. Tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu da, sgiliau rhyngbersonol, ac y gallu i ddehongli a chyfleu gwybodaeth yn y ffordd fwyaf priodol.
4. Profiad o ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.
5. Y gallu i weithio fel rhan o dîm neu ar eich ymdrech eich hun, cytuno ar amcanion gan gynnwys y gallu i flaenoriaethu tasgau a gweithio at derfynau amser.
6. Y gallu i weithredu'n rhagweithiol wrth ymdrin â cheisiadau am gymorth, gan aros yn dawel ac yn gweithio'n effeithiol o dan bwysau.
7. Tystiolaeth o gymhwysedd drwy'r broses o ennill ac ymgeisio am sgiliau newydd yn rhagweithiol, ac ewyllys i gymryd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
8. Tystiolaeth o ddatblygu, cynnal a chadw at ddeunyddiau ac ymgeisio am brosesau ysgrifenedig.
9.Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifennedig ac ar lafar
Meini prawf dymunol
1. Profiad o gasglu gwybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau am wasanaethau ac digwyddiadau.
2. Cymhwyster sylfaenol yn ITIL, neu debyg.
3. Profiad o weithio mewn Addysg Uwch.