Platzhalter Bild

Hybrid Project Officer – Finance and Data bei Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid

33.482,00 £  -  36.130,00 £

Jetzt bewerben

Hysbyseb

Rhaglen Genedlaethol Partneriaethau Iechyd Meddwl Myfyrwyr (NSMHPP) - Swyddog Prosiectau - Cyllid a Data

Dyma flwyddyn gyntaf datblygu a chyflwyno Rhaglen Genedlaethol Partneriaethau Iechyd Meddwl Myfyrwyr (NSMHPP). Ffocws y rhaglen yw cefnogi a hwyluso cydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru a'r GIG i wella dealltwriaeth a mynediad at gymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr a dysgwyr ôl-16.
 
Yn sgil hyn, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Rhaglen.  Rôl y Swyddog Prosiectau - Cyllid a Data fydd cefnogi rheoli cyllid a chefnogi prosiectau tîm y rhaglen, gan gynnwys ffocws penodol ar ffrwd waith data'r rhaglen.  
 
Gweithio’n gyfunol fydd y swydd hon yn ogystal ag yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, Plas y Parc, a gweithio o bell.  Bydd gofyn ichi ymweld â safleoedd partner yng Nghymru ond bydd rhybudd yn cael ei roi.
 
Mae hon yn swydd amser llawn, 35 awr yr wythnos am gyfnod penodol tan fis Gorffennaf 2026, a cheir y posibilrwydd o’i hymestyn os canfyddir cyllid.
Patrwm sifft safonol, o ddydd Llun i ddydd Gwener

Cyflog: £33,482 - £36,130 y flwyddyn (Gradd 5)

Os hoffech drafod y swydd neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â
[email protected] Mike Brown, Rheolwr Prosiectau.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 12 Awst 2025

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 9 Medi 2025


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Diben y Swydd

Bod yn aelod allweddol o Raglen Genedlaethol Partneriaethau Iechyd Meddwl Myfyrwyr (NSMHPP), drwy gefnogi prosiectau ariannol a gweinyddol y tîm a rhanddeiliaid allweddol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen.  Bydd yn ofynnol i ddeiliad y rôl gefnogi data'r rhaglen yn rhan o'r gwelliannau mewn perthynas â chasglu data apwyntiadau iechyd meddwl myfyrwyr ar y lefel genedlaethol.

Prif Ddyletswyddau
  • Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau ariannol a gweinyddu i’r rhaglen, gan ddefnyddio eich crebwyll a’ch creadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol pan fo’n briodol, a sicrhau bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.
  • Sicrhau bod cyllid y rhaglen yn cael ei gwblhau yn unol â rheoliadau ariannol y Brifysgol.
  • Ymchwilio i faterion penodol ynghylch data a chyllid y rhaglen a’u dadansoddi, drafftio adroddiadau argymhellion, gyda chefnogaeth aelodau tîm y rhaglen ac arbenigedd arall yn ôl yr angen.
  • Sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chefnogi o ran ei phrosiectau neu ei gweinyddiaeth, gan fynd ati i newid y ffordd y gwneir hyn yn unol â’r gofynion.
  • Cydweithio a chydlynu â swyddogion eraill er mwyn gwneud argymhellion i wella neu ddatblygu’r prosesau a'r gweithdrefnau sydd eisoes ar waith.
  • Sefydlu perthnasoedd gwaith ag enwau cyswllt allweddol a’u cynnal, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas ag Ysgolion, Colegau, y GIG a chyrff allanol yn ôl y gofyn.
  • Creu gweithgorau penodol sy’n cynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r rhaglen i gyflawni amcanion y rhaglen
  • Prosesu archebion prynu, ceisiadau am anfonebau a thalu am weithgareddau'r rhaglen.  Cadw llygad ar wariant a’i gofnodi ar daenlenni'r rhaglen.
  • Goruchwylio a chydlynu staff penodol yn achlysurol er mwyn cyflawni amcanion allweddol.
  • Datblygu a darparu hyfforddiant yn y rhwydwaith yn ôl yr angen.
  • Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys cefnogi a chwblhau prosesau gweinyddu caffael a recriwtio
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol.
  • Sicrhau bod staff yn derbyn gwasanaeth, cefnogaeth a gwybodaeth gywir ac amserol o safon sy'n cael y flaenoriaeth fel y bo’n briodol, gan ddibynnu ar anghenion y person neu'r is-adran.
  • Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob un o’ch dyletswyddau.
  • Glynu wrth bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.

Uchafswm y Cyflog

36,130

Gradd

Gradd 5

Isafswm y Cyflog

33,482

Categori Swyddi

Busnes/Rheolaeth Strategol, Technoleg Gwybodaeth, Technegol, Gweinyddol / Clerigol

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym yn dymuno cyflogi pobl sydd ag ystod eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu bod yn rhan o dîm ac a fydd yn cynnig gwasanaeth gwych i dîm y Rhaglen a’r rhanddeiliaid allweddol. Nid oes gofyn ichi fod wedi gweithio i brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’n bosibl y bydd y swydd hon yn gyfle ichi ychwanegu at eich profiad o weithio mewn rôl neu weithle gweinyddol blaenorol, gan ymddiddori’n arbennig mewn tasgau cyllid a dangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i fod yn llwyddiannus yn y rôl. Dylech fod yn frwd dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.

Bydd eich cais yn cael ei asesu’n unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r meini prawf a’u gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob un ohonynt, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar ei pherthnasedd i'r swydd.

Dyma'r meini prawf a gaiff eu defnyddio hefyd i asesu’r ymgeiswyr ar y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).

Sut byddwn yn eich cefnogi i gyflawni’r swydd hon

Rydym eisiau eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial.

1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm.
2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
3. Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell.
4. Cynllun mentora staff.
5. Cymorth i ddysgu’r Gymraeg neu loywi eich sgiliau iaith.
 

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Nodyn pwysig:

Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.

Fel rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais. 
Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo.
Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen.
Wrth atodi’r datganiad i ategu eich cais i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 20435BR.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Gradd/NVQ Lefel 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o weithio mewn rôl sy'n cefnogi rheolaeth ariannol neu ddadansoddi data
  2. Y gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol o faes dadansoddi busnes i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol 
  3. Y gallu i sefydlu a chynnal systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol.
  4. Yn fedrus wrth ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin (e.e. MS Office), yn enwedig taenlenni Excel hyd safon uchel.
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
  1. Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
  2. Tystiolaeth o'r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny i roi gwasanaeth o safon
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau sylweddol drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, ac adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl.
  2. Tystiolaeth o wybodaeth amlwg am bolisïau a gweithdrefnau ym maes cyllid, dadansoddi data a/neu reoli prosiectau
  3. Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, gan gynllunio a gosod blaenoriaethau i’ch gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, gan fonitro’r cynnydd.
Meini Prawf Dymunol
  1. Profiad o weithio mewn swydd neu weithle tebyg, e.e., Addysg Uwch neu Bellach, a Rheoli Prosiectau.
  2. Profiad diamheuol o weithio gyda systemau cyllid fel Oracle a Business Objects.
  3. Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu’r parodrwydd i ddysgu’r iaith.
Jetzt bewerben

Weitere Jobs