Hybrid Taught Programmes Administrator bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Junior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Yr Ysgol Mathemateg
Mae'r Ysgol Mathemateg yn awyddus i recriwtio unigolyn rhagweithiol, trefnus a brwdfrydig i ymuno â thîm gweinyddu myfyrwyr yr Ysgol. Byddwch yn darparu gwasanaeth gweinyddu ar gyfer yr Ysgol, gan wneud amrywiaeth o dasgau arferol a’u cwblhau i fodloni gofynion gweithredol a gwasanaethu cwsmeriaid. Byddwch hefyd yn darparu cymorth ac arweiniad ar weinyddiaeth myfyrwyr, ac yn sicrhau bod tîm gweinyddu'r Ysgol yn cael ei gefnogi, a bod dyletswyddau allweddol yn cael eu cyflawni.
Os oes gennych sgiliau trefnu cryf, ac os ydych yn gallu sicrhau lefel uchel o gywirdeb wrth weithio’n gyflym, yn derbyn cyfrifoldeb am eich gwaith eich hun ac yn mwynhau cyfrannu at amgylchedd gwaith cadarnhaol, rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.
Mae tîm gweinyddu myfyrwyr yr Ysgol yn goruchwylio agweddau amrywiol ar reoli gwasanaethau myfyrwyr gan gynnwys darparu cymorth arbenigol ar gofnodion myfyrwyr, byrddau arholi, rheoliadau academaidd, amgylchiadau esgusodol, apeliadau, camymddwyn academaidd, cwynion ac amserlenni. Mae'r tîm yn rhoi cefnogaeth flaengar ar gyfer ystod eang o weithgareddau drwy gydol taith y myfyriwr, sy’n amrywio o dderbyniadau i raddio.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio’n rhan o dîm, a fydd yn cydweithio ag eraill i roi gwasanaeth gwych i’r staff a’r myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i Brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i chi ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â’ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gallai’r swydd hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd weinyddol yn flaenorol ac yn gyfle i ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch potensial i fod yn llwyddiannus yn y swydd. Dylech fod yn frwdfrydig dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.
Mae hon yn rôl sy'n wynebu myfyrwyr ar y campws, gyda chyfle cyfyngedig i weithio o bell.
Mae'r swydd yn llawn amser, ar gael ar unwaith a'n gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026.
Cyflog: £24,900 - £25,733 y flwyddyn (Gradd 3).
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 26 Awst 2025
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Disgrifiad Swydd
Darparu gwasanaeth gweinyddu ar gyfer yr Ysgol, gan wneud amrywiaeth o dasgau arferol a’u cwblhau i fodloni gofynion gweithredol a gwasanaethu cwsmeriaid. Darparu cymorth ac arweiniad ar weinyddiaeth myfyrwyr, sicrhau bod tîm Gweinyddol Myfyrwyr yr Ysgol Mathemateg yn cael ei gefnogi, a dyletswyddau allweddol yn cael eu cyflawni.
Rôl sy'n wynebu myfyrwyr ar y campws yw hon gyda chyfle cyfyngedig i weithio o bell.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
- Gweithio'n hyblyg ar draws tîm gweinyddol yr Ysgol, gan gyfrannu at gyflawni amcanion y tîm, cefnogi eraill a gwneud gwaith cyflenwi i gydweithwyr yn ôl yr angen.
- Cymryd cyfrifoldeb am gefnogi meysydd penodol o raglenni astudio (gan gynnwys Amgylchiadau Esgusodol, Camymddwyn Academaidd, meysydd eraill o Waith Achos Myfyrwyr) gydag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol drwy gydol taith y myfyrwyr a chylch bywyd y rhaglen a addysgir.
- Yn rhan o dîm Swyddfa'r Ysgol, darparu gwasanaeth cymorth gwybodus a phroffesiynol i'r holl staff, myfyrwyr, ymgeiswyr, ymwelwyr a chyrff allanol.
- Ymdrin ag ystod o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol (staff a myfyrwyr) ac allanol (aelodau'r cyhoedd) mewn ffordd broffesiynol, gan ddarganfod eu hanghenion ac addasu'r ymatebion safonol yn unol â hynny.
- Gweithio gyda phobl eraill i wneud argymhellion i ddatblygu a gwella prosesau a gweithdrefnau presennol y Brifysgol.
- Creu perthnasoedd gwaith da â chysylltiadau allweddol i helpu i wella’r gwasanaeth.
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddu i gefnogi'r tîm a'r adran.
- Casglu ac adolygu data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol gan gynnwys cronfeydd data a thaenlenni, gan sicrhau bod y wybodaeth yn gywir, a thynnu sylw eich rheolwr llinell at dueddiadau a phatrymau sylfaenol.
- Mynd ati i gyfrannu at lwyddiant y tîm a bod o gymorth gyda’r gwaith o oruchwylio’r tîm a'i reoli.
- Darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon, o safon uchel, i fyfyrwyr, gan gadw mewn cysylltiad â staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol fel y bo'n briodol, ac ymdrin ag amrywiaeth eang o ymholiadau.
- Ymateb yn brydlon, yn broffesiynol ac yn gywir i geisiadau am wybodaeth a chymorth gan fyfyrwyr, academyddion, Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol a sefydliadau allanol, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth am y maes gwaith i ganfod anghenion a chynnig datrysiad priodol i faterion.
- Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi rhaglenni a addysgir yn yr Ysgol, gan gynnwys amgylchiadau esgusodol, achosion o gamymddwyn academaidd, apeliadau academaidd, ymrestru, prosesu gwaith cwrs ac arholiadau, gwasanaethu byrddau arholi a chyfarfodydd eraill, a chynnal gwybodaeth am raglenni a modiwlau a chofnodion myfyrwyr.
- Defnyddio System Cofnodion Myfyrwyr y Brifysgol a'r feddalwedd adrodd Business Objects i gynnal a diweddaru cofnodion myfyrwyr, a chofnodi a phrosesu marciau asesiadau ac arholiadau i'r lefelau uchaf o gywirdeb.
- Cyfrannu at welliant a datblygiad parhaus y gwasanaeth, prosesau a gweithdrefnau'r Ysgol, gan sicrhau bod cynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr yn parhau’n nod craidd, drwy gydweithio ag aelodau'r tîm a rhanddeiliaid.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar ei pherthnasedd i'r rôl.
Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW-RHIF BR-TEITL SWYDD] a'i rhoi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio.
Nodwch mai dyma'r meini prawf hefyd y bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hasesu yn eu herbyn mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
- Ymarfer cyfrifoldeb personol, heb fawr ddim goruchwyliaeth.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch a materion ariannol, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol, fel sy’n briodol.
- Cymryd gofal rhesymol dros eich iechyd a'ch diogelwch eich hunain a phobl eraill y gall eich gweithredoedd neu eich esgeulustra yn y gwaith effeithio arnynt yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau'r Gymuned Ewropeaidd a Pholisïau a Gweithdrefnau Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd y Brifysgol, yn ogystal â chydweithio â'r Brifysgol ar unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol a osodir arni fel y cyflogwr.
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
- Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiad y Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol.
Meini Prawf Hanfodol
- Y gallu i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol, gan gynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno.
- Profiad o weithio mewn awyrgylch gweinyddol neu mewn swyddfa.
- Profiad o ddefnyddio pecynnau TG a ddefnyddir yn aml yn y swyddfa (e.e. MS Office, e-bost, ac ati).
- Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau gweinyddu safonol a’u cynnal, gan gynnwys defnyddio systemau'r Brifysgol i goladu a chofnodi data ar-lein ac mewn copi caled. (Bydd hyfforddiant yn cael ei roi lle bo angen.)
- Y gallu i gyfathrebu ag ystod eang o bobl yn effeithiol ac yn gwrtais gan gynnal safonau proffesiynol a chan addasu eich iaith a’ch arddull cyfathrebu gan ddibynnu ar yr unigolyn rydych yn siarad â hwy.
- Y gallu i weithio’n dda gyda'ch tîm, gan wybod sut i roi cyngor, arweiniad ac adborth (i gyd-weithwyr a'r cyhoedd) fel y bo'n briodol.
- Y gallu i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaeth, gan ddatrys problemau cwsmeriaid pan fo hynny'n briodol, neu’n gallu uwch-gyfeirio lle bo angen.
- Y gallu i gynllunio a threfnu eich llwyth gwaith yn unol ag amserlenni a bennir gan eich Rheolwr Llinell.
- Gallu cymryd y cam cyntaf i ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, dod o hyd i'r ateb gorau a'i gynnig.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ym maes addysg uwch.
- Gallu siarad/deall Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r swydd hon
Rydym am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial:
- Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm.
- Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
- Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich Rheolwr Llinell. Gallai hyn fod yn anffurfiol neu gallai fod yn brentisiaeth sy'n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ ym maes Gweinyddu Busnes.
- Cynllun mentora staff.
- Cymorth i ddysgu Cymraeg neu ddiweddaru eich sgiliau iaith.