Hybrid Internal -Technology Transfer Officer (Biomedical & Life Sciences) bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Professional
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Trosglwyddo Technoleg (Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd)
Diben swydd Swyddog Trosglwyddo Technoleg (Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd) yw rhoi cymorth ar gyfer gwaith trosglwyddo technoleg yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, yn bennaf yn yr Ysgolion Meddygaeth, Deintyddiaeth, Biowyddorau, Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Gwyddorau Gofal Iechyd ac Optometreg a Gwyddorau'r Golwg. Bydd y swydd yn cefnogi gweithgareddau trosglwyddo technoleg ysgolion sydd eisoes yn cynhyrchu llawer o incwm trwy ymchwil allanol ar gyfer y Brifysgol. Wrth ymgymryd â’r swydd bydd gofyn hefyd am ddatblygu'r potensial sylweddol sy'n bodoli i gynhyrchu incwm o ymelwa'n fasnachol ar hawliau eiddo deallusol trwy greu cwmnïau deillio a thrwyddedu. Swydd yn y tîm Masnacheiddio Ymchwil yn yr Adran Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd (RIS) yw hon, a bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda staff eraill sy'n gyfrifol am nodi, gwerthuso a manteisio ar gyfleoedd masnachol sy'n deillio o bortffolio ymchwil y Brifysgol.
Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn benagored.
Mae'r rôl hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol, sy'n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch hefyd ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn, ble bynnag y mae'r rôl a'r angen busnes yn caniatáu, gan gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Cyflog: £40,497 - £45,413 per annum (Grade 6)
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 8 Awst 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
• Adolygu cyfleoedd masnachol sy'n deillio o brosiectau ymchwil a chynorthwyo bwrdd Ymgynghorwyr Coleg Prifysgol Caerdydd Cyfyngedig (UC3), i werthuso eiddo deallusol o'r fath.
• Rheoli portffolio presennol o brosiectau trosglwyddo technoleg er mwyn cynyddu incwm i’r Brifysgol o drwyddedu, aseiniadau, gweithgareddau cwmnïau deillio sy’n hanu o waith ymchwil a datblygu sy’n gysylltiedig â masnacheiddio hawliau eiddo deallusol y Brifysgol, a rheoli gweithrediadau’r tîm sy’n gwasanaethu Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, dirprwyo gwaith, monitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen.
• Meithrin a sefydlu rhwydweithiau lefel uchel a pherthnasoedd gyda’r rheini sy’n gysylltiadau allweddol o ran cronfeydd trosi a/neu brawf cysyniad (gan gynnwys Cyfrifon Cyflymu Effaith Gyson UKRI y Brifysgol a Chyllid Seilwaith Ymchwil Cymru) er mwyn paratoi ceisiadau am arian o'r fath.
• Rhyngweithio mewn modd rhagweithiol rhwng y Brifysgol, buddsoddwyr allanol a phartneriaid strategol allweddol (ee SETsquared, InnovateUK, Banc Datblygu Cymru) er mwyn cyflawni amcanion a thargedau'r fenter.
• Cynorthwyo gyda’r gwaith o baratoi achosion busnes cadarn ar gyfer gweithrediadau deillio posibl er mwyn sicrhau cymeradwyaeth fewnol a sicrhau cyllid ar gyfer y gweithgareddau hyn, gan gyflwyno cynigion i arianwyr allanol a buddsoddwyr lle bo’n briodol.
• Ymgymryd â, lle bo’n briodol, rolau cyfarwyddwr anweithredol ar gwmnïau deillio’r Brifysgol a chynorthwyo cwmnïau o’r fath i gyflawni eu cynlluniau busnes a’u hamcanion allweddol ac adrodd i’r Brifysgol a bwrdd UC3 Ltd.
• Rhoi cyngor, arweiniad a chymorth proffesiynol i staff sy’n ymwneud â phrosiectau deillio i lunio cynlluniau cadarn er mwyn manteisio ar gyfleoedd busnes.
• Datblygu, dyfeisio, rheoli a chyflwyno hyfforddiant ac ysgogi’r gwaith o drosglwyddo technoleg a gweithgareddau effaith yn y Brifysgol gan gynnal seminarau, gweithdai a chyrsiau.
• Chwarae rhan actif wrth gefnogi arferion gorau ar gyfer rheoli a throsi eiddo deallusol ym Mhrifysgol Caerdydd o ran sicrhau effaith.
• Cyfrannu at welliant parhaus gwasanaethau a systemau ansawdd yr Adran.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
• Dilyn polisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth
• Cyflawni o bryd i’w gilydd ddyletswyddau eraill sydd heb eu crybwyll uchod ond a fydd yn cyd-fynd â gofynion y swydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Roedd ein hymchwil sy'n arwain y byd yn y 5ed safle am ansawdd ymhlith prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 ac rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol i'n 30,000 o fyfyrwyr. Gyda chyllideb flynyddol o dros £500 miliwn a thua 6,000 o staff, mae Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell o'r 24 prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw yn y DU. Mae gan y Brifysgol 24 o ysgolion academaidd wedi'u grwpio'n dri choleg: Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Uchelgais y Brifysgol yw graddio'n gyson ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd. Mae Caerdydd hefyd yn datblygu ei System Arloesi drwy raglen fuddsoddi â ffocws mewn pobl a seilwaith. Mae cyllid ymchwil a sicrhawyd o ffynonellau cystadleuol, allanol yn fwy na £100 miliwn y flwyddyn ac mae'r Brifysgol yn anelu at dyfu hyn ymhellach trwy ennill grantiau o ystod eang o ffynonellau cenedlaethol a byd-eang.
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cefnogi cymuned ymchwil y Brifysgol i gychwyn a chyflwyno gweithgareddau ymchwil ac arloesi. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, Vanessa Cuthill, rydym yn darparu gwasanaethau trwy dros 100 o staff arbenigol wedi'u trefnu mewn pum tîm arbenigol: Y Swyddfa Grantiau Ymchwil; Uniondeb Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg; Datblygu Ymchwil; Masnacheiddio Ymchwil ac Effaith; Strategaeth Ymchwil a Gweithrediadau ac Ymgysylltu a Phartneriaethau Busnes. Mae'r Adran yn gweithio'n agos gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o bob rhan o'r sefydliad.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd gyntaf mewn biowyddoniaeth neu ddisgyblaeth gysylltiedig (e.e. biocemeg)
- Profiad o waith ymchwil a datblygu ôl-raddedig mewn amgylchedd academaidd neu fusnes, neu dystiolaeth o brofiad mewn rôl gweinyddu ymchwil.
- Gwybodaeth eang am i) ymchwil a thechnoleg y gwyddorau biofeddygol a ii) prif noddwyr ymchwil a thechnoleg yn y DU.
- Y gallu i gysylltu ag ystod eang o unigolion a busnesau yn y sector gwyddorau biofeddygol a lefel uchel o hyblygrwydd a pharodrwydd i weithio mewn tîm.
- Y gallu i ddangos gwybodaeth gadarn am hawliau eiddo deallusol.
- Profiad o gymhwyso gwyddoniaeth yn fasnachol, gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth a'r Agenda Effaith.
- Gallu cyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu profedig i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor.
- Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau sylweddol drwy ddefnyddio menter a chreadigrwydd, gan adnabod a chynnig atebion ymarferol ac arloesol.
- Profiad o drefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith heriol a sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol profedig.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ym maes addysg uwch
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.