Hybrid Organisational and Staff Development Officer chez Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Junior
- Bureau à Cardiff
Hysbyseb
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle datblygu rhagorol i ddatblygwr staff sefydledig sy'n dymuno ehangu ei brofiad o ddatblygu staff a sefydliad a rheoli prosiectau ym mhrifysgol fwyaf Cymru. Fel cyflogwr mawr, gyda mwy na 7,000 o staff - rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Gallwn gynnig y cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog, gyda manteision a chyfleoedd gwych i ddatblygu.
Wedi'i leoli yn y tîm Datblygu Sefydliadol a Staff (OSD), bydd y rôl newydd hon yn datblygu fframwaith o gefnogaeth i staff sy'n symud i strwythur Hwb newydd, gan arwain ar ystod eang o ymyriadau dysgu a datblygu gan gynnwys hyfforddiant a datblygu sgiliau, newid diwylliant, cefnogi sefydlu ffyrdd newydd o weithio a chreu a chyflwyno Cymunedau Ymarfer. Bydd y rôl yn cynnwys dylunio a chyflwyno ystod o hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar wasanaeth cwsmeriaid, cydweithio, a gwelliant parhaus, yn ogystal ag ymyriadau adeiladu tîm a chefnogaeth newid busnes. Yn ogystal, byddant yn gyfle i gyfrannu at swyddogaeth OSD ehangach, gan ddarparu cefnogaeth lle bo angen i sicrhau bod mentrau datblygu staff o ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno'n effeithiol ar draws y Brifysgol, arwain prosiectau bach yn y maes hwn a darparu cyngor ac arweiniad i wahanol gymunedau staff.
Byddwch yn:
- gweithiwr proffesiynol datblygu creadigol, brwdfrydig a phrofiadol, gyda phrofiad o gyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel a diddordeb cryf mewn dysgu a datblygu sefydliadol.
- Cyfathrebwr a dylanwadwr hyderus, gyda sgiliau cyfathrebu, cynllunio a threfnu rhagorol
Rôl tymor penodol yw hon tan 31 Gorffennaf 2026.
Cyflog £40,497 - £45,413 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Merhcer, 6 Awst 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 22 Awst 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
- Datblygu fframwaith i gefnogi arweinwyr Gwasanaethau’r Hybiau yn y gwaith parhaus o ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant i staff sy'n symud i strwythur yr Hybiau.
- Arwain y gwaith o gynllunio a chydlynu Rhaglen Hyfforddi a Datblygu sy’n ymwneud â symud i strwythur Hybiau, datrys materion gweithredol yn annibynnol a chynghori partneriaid mewnol ac allanol ar ddulliau o ddatblygu a chyflawni, gan sicrhau aliniad â nodau strategol.
- Cynllunio, datblygu, cyflwyno ac adolygu gweithdai cynhwysol, deunyddiau hyfforddi ac adnoddau ar gyfer y Rhaglen Ddatblygu, gan ganolbwyntio ar feysydd sy’n cynnwys gwasanaethau i gwsmeriaid, cydweithio, adeiladu timau a gwelliant parhaus. Gwneir hyn gan fanteisio ar arbenigedd mewnol ac allanol yn ôl yr angen, a sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan greiddiol o’r gwaith.
- Datblygu a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cymunedau ymarfer.
- Hwyluso gweithgareddau adeiladu tîm, setiau dysgu gweithredol a hyfforddi a mentora staff yn y maes i gefnogi’r broses o newid.
- Datblygu a chyflwyno hyfforddiant i sicrhau bod staff yn deall y prosesau a'r systemau newydd sy'n cael eu datblygu, a hynny gan weithio gydag arweinwyr timau yn y maes
- Defnyddio dulliau sy'n cael eu gyrru gan ddata i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni datblygu gan arwain at welliannau ansawdd parhaus.
- Cefnogi amrywiaeth o fentrau datblygu sefydliadol strategol ychwanegol sy'n cyd-fynd ag agenda drawsnewid y Brifysgol i wella diwylliant, gwella perfformiad sefydliadol, ac adeiladu galluoedd.
- Gweithio gydag eraill yn DSS i gyfrannu at raglenni gwaith cysylltiedig i gefnogi datblygiad sefydliadol a staff, gan gynnwys: datblygu a chyflwyno gweithgareddau datblygu staff, yn ôl yr angen; cyfrannu syniadau ac adborth i wella effeithiolrwydd rhaglenni a gwasanaethau datblygu staff sydd ar gael; a monitro cynlluniau gweithredu canolog a dadansoddi data arolwg staff, gan feincnodi yn erbyn ffynonellau mewnol/allanol a chyflwyno argymhellion.
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith cryf gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol, ymgynghorwyr allanol, a rhanddeiliaid eraill.
- Sicrhau dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau.
- Dilyn polisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth
- Chwarae rhan amlwg yng ngweithgareddau ehangach yr Adran Adnoddau Dynol, gan rannu gwaith pobl eraill a chyfrannu at lwyddiant cyffredinol yr Adran, gwaith rheoli’r Brifysgol a chyflawni Strategaeth y Brifysgol.
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo'r adran, gan gynnwys cyfathrebu, y we, a chysylltiadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad personol a phroffesiynol i gynnal a gwella gwybodaeth a sgiliau sy'n berthnasol i'r rôl.
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod ond sy'n gyson â'r rôl a'r radd, mewn ymateb i anghenion adrannol neu sefydliadol newidiol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd/NVQ Lefel 4, neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol.
- Profiad o ddatblygu staff, gan gynnwys datblygu a chyflwyno hyfforddiant a rheoli, cynllunio a chyflawni rhaglenni gweithgaredd yn y maes hwn.
- Tystiolaeth o'r gallu i ymgymryd â phrosiectau datblygu sefydliadol a staff penodol/ymyriadau dysgu pwrpasol a chydlynu timau prosiect byrdymor.
- Tystiolaeth o’r gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl yn effeithiol, yn gywir ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl ar ffurf cyflwyniadau ac yn ysgrifenedig.
- Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny i sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei gynnig, gyda thystiolaeth o’r gallu i dalu sylw i fanylion.
- Gallu diamheuol i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau cryf ac effeithiol er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor.
- Sgiliau gwaith tîm rhagorol a chymhelliant i weithio mewn cyd-destun datblygiad proffesiynol parhaus.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
- Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol.
- Tystiolaeth o’r gallu i ddefnyddio, dadansoddi a chyflwyno data o nifer o ffynonellau.
Meini Prawf Dymunol
- Dealltwriaeth amlwg o hyfforddi i gefnogi’r gwaith o wella gwasanaethau, cyflawni rhagoriaeth a chefnogi newid.
- Profiad o ddefnyddio techneg broffilio Insights
- Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TG, y cyfryngau cymdeithasol ac offer ar y we.
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.