Hybrid Animal Technologist bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Junior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Gwasanaethau Biolegol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae adran Gwasanaethau Biolegol y Brifysgol yn recriwtio Technegydd Anifeiliaid i ymuno â'n tîm prysur. Ar ôl hyfforddiant priodol, byddwch yn cymryd rhan yn y rhaglenni gofal a lles sylfaenol yn achos rhywogaethau labordy a ddefnyddir at ddibenion ymchwil feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd angen rhifedd a llythrennedd sylfaenol arnoch (er enghraifft NVQ 1/TGAU lefel D - G), a gallu dangos tystiolaeth o agwedd ofalgar tuag at anifeiliaid, ynghyd â thystiolaeth o’ch gallu i ddiwallu anghenion hwsmonaeth a lles anifeiliaid.
Gallwn gynnig y cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.
Cysylltwch â [email protected] am drafodaeth anffurfiol a chyfrinachol am y rôl.
Swydd benagored, amser llawn am 2 flynedd a 35 wythnos yr wythnos yw hon ac mae ar gael cyn gynted â phosibl.
Cyflog: £23,176 – £24,344 y flwyddyn (Gradd 2)
Mae eich cyflogaeth yn amodol ar adolygiad sgrinio iechyd boddhaol sy'n dangos nad oes unrhyw alergedd blaenorol sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid. Os bydd y sgrinio iechyd yn cadarnhau bod alergedd, oherwydd goblygiadau iechyd a diogelwch, ni fydd yn bosibl cadarnhau eich apwyntiad a bydd y cynnig cyflogaeth yn cael ei dynnu'n ôl.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 6 Awst 2025
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 20 Awst 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n dymuno cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael y cydbwysedd rhwng byd y gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Rhoi cymorth technegol i gymuned ymchwil ar anifeiliaid Prifysgol Caerdydd
Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn roi’r cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Prif Ddyletswyddau
- Sicrhau hwsmonaeth a lles ystod o rywogaethau bach sy’n anifeiliaid labordy, gan gydnabod pryd i gyfeirio problem at gydweithwyr eraill.
- Gweithio mewn ffordd sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.
- Cynnal cofnodion cywir yn unol â Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.
- Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP) ar gyfer amryw o dasgau sy'n ymwneud â'r swydd.
- Cynorthwyo i gynnal a chadw cytrefi bridio (dan ddirprwyaeth) gan gynnwys cadw cofnodion cywir o berfformiad bridio, diweddaru cronfeydd data a dadansoddi data/gwybodaeth arferol yn ôl yr angen.
- Ymdrin ag ymholiadau arferol gan gwsmeriaid mewnol ac ymateb yn briodol iddynt, gan sicrhau bod gweithdrefnau/ negeseuon/galwadau/cyfarwyddiadau yn cael eu cyfeirio'n brydlon at y bobl berthnasol i’w gweithredu.
- Sicrhau bod gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag adennill costau BIOSV yn amserol ac yn cael ei chofnodi'n gywir.
- Sicrhau bod hylendid eich maes cyfrifoldeb (yr ystafelloedd dal anifeiliaid a’r ystafelloedd gweithdrefnau) yn cael ei gynnal hyd y safonau uchaf, a hynny drwy lanhau a gofalu am yr offer yn rheolaidd (e.e. arbrofi PAT).
- Cynorthwyo’r tasgau ategol megis anifeiliaid sy’n cyrraedd, nwyddau traul a gwaredu gwastraff: clinigol, tramgwyddus ac ailgylchu.
- Chwarae rhan flaenllaw yng ngwaith y tîm, gan osod esiampl a dangos ymagwedd hyblyg at gyflawni canlyniadau'r tîm
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
- Cynnal gwerthoedd ac ymddygiad y Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb i’r rhain yn lleol.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfrinachedd yn hanfodol
Parodrwydd i weithio ar benwythnosau a gwyliau banc ar sail rota
SUT Y BYDDWN YN EICH CEFNOGI I GYFLAWNI’R SWYDD HON
Rydym eisiau eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial.
- Cyfarfodydd un i un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm
- Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
- Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell. Efallai mai trefniant anffurfiol fydd hyn neu’n brentisiaeth sy'n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ Gweinyddu Busnes.
- Cynllun mentora staff
- Cefnogaeth i ddysgu’r Gymraeg neu loywi sgiliau iaith.
- Gwiriadau gwirfoddol lles (yn achos swyddi yn y gwasanaethau Diogelwch a Chyfleusterau'r Campws).
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio’n rhan o dîm ac a fydd yn cydweithio ag eraill i ddarparu gwasanaeth gwych i’r staff a’r myfyrwyr. Nid oes rhaid eich bod wedi gweithio mewn prifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol sy’n perthyn i’r swydd. Ar ôl copïo’r meini prawf a’u gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob un ohonynt, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r swydd.
Dyma'r meini prawf a gaiff eu defnyddio hefyd i asesu ymgeiswyr y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).
Meini Prawf Hanfodol
- Tystiolaeth o agwedd ofalgar tuag at anifeiliaid a’r gallu diamheuol i ddiwallu anghenion hwsmonaeth a lles yr anifeiliaid.
- Profiad o gofnodi data mewn ffurflenni templed (e.e. Excel/Word)
- Tystiolaeth o gyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Tystiolaeth o weithio'n dda’n aelod o dîm, gan roi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill o’r tîm pan fo angen.
- Tystiolaeth o ymdrin â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaethau yn brydlon, yn effeithiol ac yn gwrtais
- Ymwybyddiaeth o'r angen am gyfrinachedd llym
- Parodrwydd i weithio ar benwythnosau a gwyliau banc ar sail rota
- Tystiolaeth o’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithio'n annibynnol yn rhan o weithdrefnau/arferion penodol
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad pellach
- Profiad sy’n gysylltiedig â gwaith neu NVQ lefel 2 mewn cwrs gofal anifeiliaid.
- Profiad o ddefnyddio a chynnal a chadw offer labordy sylfaenol.
- Profiad o roi cymorth technegol.
- Dull trefnus tuag at waith ac yn hyblyg wrth ymateb i newidiadau o ran lefelau gwaith o ddydd i ddydd.
- Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu’r parodrwydd i’w dysgu.