Hybrid Internal Applicants Only - Research Support Officer bei Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Junior
- Optionales Büro in Cardiff
Hysbyseb
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Swyddog Cymorth Ymchwil
Y Gwasanaeth Ymchwil – wedi'i leoli yn yr Ysgol Meddygaeth (MEDIC)
Mae cyfle diddorol fel Swyddog Cymorth Ymchwil wedi codi yn y Gwasanaeth Ymchwil, a fydd yn gweithio’n bennaf yn yr Ysgol Meddygaeth, sydd yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd, gan roi cefnogaeth werthfawr yn y broses o wneud ceisiadau am grantiau ymchwil ac ym maes moeseg ymchwil mewn Ysgol fywiog a phrysur.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weinyddwr brwdfrydig, yn rhagweithiol ac yn hyderus wrth aml-dasgio a blaenoriaethu eu gwaith, ac hefyd yngallu gweithio'n annibynnol i sicrhau bod gwasanaeth effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu. Byddwch chi’n gyfrifol am gefnogi ymchwilwyr gyda cheisiadau am grantiau, wrth sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y brifysgol a chyllidwyr. Byddwch chi’n gweithio yn rhan o dîm bach ac yn adrodd i'r Rheolwr Ymchwil sy’n goruchwylio arweinyddiaeth a datblygiad cyffredinol y tîm, ac sy'n sicrhau bod cymorth proffesiynol rhagorol yn cael ei gynnig i'n hymchwilwyr.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Andy John drwy e-bostio [email protected].
Mae modd anfon ymholiadau anffurfiol ynghylch y broses recriwtio / ymgeisio at Adrienne Evans, Swyddog Gweithredol a Chynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr y gwasanaeth Ymchwil – [email protected]
Swydd amser llawn a phenagored (35 awr yr wythnos) yw hon ac mae modd dechrau ar unwaith.
Cyflog: £27,644 - £30,805 y flwyddyn (Gradd 4)
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 13 Awst 2025
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.
Er mwyn cefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Disgrifiad Swydd
 chithau’n aelod o’r Gwasanaeth Ymchwil, byddwch chi’n darparu gwasanaeth gweinyddol proffesiynol cynhwysfawr yn bennaf i'r Ysgol Meddygaeth, gan roi cefnogaeth, arweiniad a gweinyddiaeth ar gyfer gwneud ceisiadau am grantiau ymchwil a moeseg. Gweithio’n rhan o dîm bach, gan wneud yn siŵr bod gweithgarwch ymchwil yn cael ei gyflawni mewn modd proffesiynol, a bod anghenion ein staff a’n cyllidwyr yn cael eu diwallu.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
• Rhoi cyngor ac arweiniad manwl ar brosesau a gweithdrefnau Gweinyddu Ymchwil, yn enwedig cyflwyno ceisiadau am gyllid a gweithgareddau cysylltiedig) i gwsmeriaid mewnol, gan ddefnyddio crebwyll a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
• Cydweithio ag eraill er mwyn cyflwyno argymhellion i ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig.
• Meithrin perthynas waith gyda chysylltiadau pwysig i helpu i wella gwasanaethau, yn ogystal â datblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol gydag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.
• Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran.
• Casglu a dadansoddi i lywio’r broses o wneud penderfyniadau, gan adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a chreu adroddiadau fel y bo'n briodol, i gefnogi ystod o weithgareddau gan gynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a Systemau Gwybodaeth Rheoli Ysgolion/Prifysgolion.
• Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ym mhob rhan o’r Ysgol (a/neu'r Brifysgol fel y bo'n briodol) ynglŷn â gwybodaeth a chyfleoedd cyllid, a'r prosesau cyflwyno grantiau.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd arfer cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau.
• Dilyn polisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sydd heb eu crybwyll uchod ond a fydd yn cyd-fynd â gofynion y swydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Roedd ein hymchwil sy'n arwain y byd yn y 5ed safle am ansawdd ymhlith prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 ac rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol i'n 30,000 o fyfyrwyr. Gyda chyllideb flynyddol o dros £500 miliwn a thua 6,000 o staff, mae Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell o'r 24 prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw yn y DU. Mae gan y Brifysgol 24 o ysgolion academaidd wedi'u grwpio'n dri choleg: Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Uchelgais y Brifysgol yw graddio'n gyson ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd. Mae Caerdydd hefyd yn datblygu ei System Arloesi drwy raglen fuddsoddi â ffocws mewn pobl a seilwaith. Mae cyllid ymchwil a sicrhawyd o ffynonellau cystadleuol, allanol yn fwy na £100 miliwn y flwyddyn ac mae'r Brifysgol yn anelu at dyfu hyn ymhellach trwy ennill grantiau o ystod eang o ffynonellau cenedlaethol a byd-eang.
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cefnogi cymuned ymchwil y Brifysgol i gychwyn a chyflwyno gweithgareddau ymchwil ac arloesi. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, Vanessa Cuthill, rydym yn darparu gwasanaethau trwy dros 100 o staff arbenigol wedi'u trefnu mewn pum tîm arbenigol: Y Swyddfa Grantiau Ymchwil; Uniondeb Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg; Datblygu Ymchwil; Masnacheiddio Ymchwil ac Effaith; Strategaeth Ymchwil a Gweithrediadau ac Ymgysylltu a Phartneriaethau Busnes. Mae'r Adran yn gweithio'n agos gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol o bob rhan o'r sefydliad.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Wrth atodi'r datganiad ategol i'ch proffil cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei enwi gyda'r cyfeirnod gwag e.e. Datganiad Cefnogi ar gyfer 20441BR.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
1. NVQ Lefel 3/cymwysterau Safon Uwch, neu gymwysterau cyfatebol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Profiad sylweddol o weithio mewn swydd weinyddol.
3. Gwybodaeth arbenigol am weinyddu grantiau ymchwil a/neu gyllid.
4. Gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol, gan ddefnyddio sgiliau TG ac Excel rhagorol.
Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm.
5. Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
6. Gallu diamheuol i gynghori budd-ddalwyr allweddol a dylanwadu arnyn nhw.
7. Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
8. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau drwy ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd; nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau pan fydd ystod o ddewisiadau posibl ar gael.
9. Tystiolaeth o'r gallu i ddadansoddi prosesau a gweithdrefnau a chynghori ynghylch eu gwella.
10. Tystiolaeth o’r gallu i weithio yn ôl amserlenni heb oruchwyliaeth, gan gynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith.
Meini prawf dymunol
1. Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â'r gwaith.
2. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.
3. Profiad o ddefnyddio system Worktribe
4. Bod yn rhugl yn y Gymraeg.