Hybrid Head of Investments, Tax and Capital Accounting presso Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Vereinigtes Königreich · Hybrid
- Junior
- Ufficio in Cardiff
Hysbyseb
Mae Prifysgol Caerdydd yn recriwtio Pennaeth Buddsoddiadau, Treth a Chyfrifo Cyfalaf.
Bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn rhoi arbenigedd proffesiynol i gefnogi'r gwaith o reoli swyddogaethau’r Trysorlys, Treth, Yswiriant a Chyfrifeg Cyfalaf y Brifysgol, gan ymgysylltu'n weithredol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae hon yn rôl newydd i adran gyllid y Brifysgol, ac yn adrodd i Reolydd Ariannol y Grŵp ac yn gyfrifol am:
- Roi arbenigedd technegol ar bob agwedd ar gyfrifeg fuddsoddi a gwaddol, prosiectau cyfalaf a chynnal polisïau a rheoliadau ariannol priodol, a dadansoddi adenillion incwm a rhagolygon llif arian.
- Gwneud yn siŵr bod y Brifysgol yn llwyr ymwybodol o’r goblygiadau a ddaw o achos i TAW, a sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â’i rhwymedigaethau o ran talu ac adrodd, gan ymgysylltu â chynghorwyr allanol, pan fo’n briodol.
- Cadw golwg a rheoli llif arian gan roi dadansoddiad a sylwebaeth i uwch-reolwyr.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon.
Cyflog: £60,321 - £65,814 y flwyddyn (Gradd 8)
Mae’r swydd hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, gallwch dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo anghenion y swydd a’r busnes yn gwneud hynny’n bosibl, a hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), pro-rata ar gyfer rhan amser, cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo. Ceir llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr balch o’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 25 Gorffennaf 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 22 Awst 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Buddsoddiadau
- Rhoi arbenigedd technegol ar bob agwedd ar gyfrifeg buddsoddi, gan gynnwys Ecwiti Preifat a Phensiynau, a chynnal a diweddaru polisïau Buddsoddi a Thrysorlys y Brifysgol.
- Cysylltu â rheolwyr buddsoddi portffolio buddsoddi’r Brifysgol, monitro perfformiad buddsoddi, a chyfleu adroddiadau i Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio'r Brifysgol.
- Cadw golwg ar wasanaethau cyfrifyddu, adrodd a monitro ar gyfer cronfeydd gwaddol y Brifysgol, mewn cydweithrediad â DEVAR.
- Byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cynghori ar drethi , gan gynnwys polisïau a chanllawiau i sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio yn ei holl weithgareddau yn y DU a thramor, at ddibenion TAW, corfforaeth, cyflogaeth a threthi eraill.
- Cadw golwg ar waith treth a chyngor allanol y Brifysgol.
- Cadw golwg ar drefniadau yswiriant y Brifysgol a’u rheoli, gan sicrhau bod polisïau rheoli risg a gweithredu priodol ar waith.
- Rhoi arbenigedd technegol ar Raglen Buddsoddi Cyfalaf y Brifysgol i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn y ffordd gywir o ran cyfrifo a threth a rhoi gwariant cyfalaf a chyllid cysylltiedig ar waith.
- Monitro ac adrodd ar brosiectau rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, gan ganolbwyntio ar fudd-daliadau, llif arian, a modelu ariannol.
- Sicrhau bod cyfleoedd cyllid cyfalaf allanol yn cael eu nodi a'u defnyddio'n briodol, gan gydlynu’r gwaith o adrodd i arianwyr allanol yn ôl y gofyn.
- Arwain a chymell tîm o staff sy'n gyfrifol am drethi, trysorlys, buddsoddiadau a gwaddolion, i sicrhau bod yr allbynnau'n cael eu cyflawni i safonau disgwyliedig y cytunwyd arnynt.
- Dod ynghyd â’r uwch dîm rheoli cyllid i gydlynu materion ariannol allweddol ac adrodd arnynt i uwch reolwyr a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn ôl yr angen.
- Ysgogi’r datblygiad o brosesau effeithlon a rheolaethau cymesur sy’n seiliedig ar risg, o safbwynt gwella’n barhaus.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW - 19669BR - TEITL SWYDD] a'i rhoi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio.
Yn ogystal, nodwch mai dyma'r meini prawf yr asesir ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unol â hwy mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau) lle bo’n berthnasol.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- Cyfrifydd â chymwysterau proffesiynol, (ACA, ACCA, ACMA, CIPFA) gyda phrofiad ôl-gymhwyso sylweddol, gan gynnwys profiad o reoli gwaddolion a chyfrifyddu Ecwiti Preifat, a threth.
- Rydych yn gallu dangos sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan gynnwys cyfleu materion ariannol cymhleth i staff nad ydynt yn staff cyllid, a meithrin ymddiriedaeth uwch reolwyr drwy’r sefydliad. Agwedd frwdfrydig a hunanhyderus.
- Gallu strategol, gallu deall y cyd-destun busnes ehangach ac ychwanegu gwerth at benderfyniadau strategol. Sgiliau rhifedd, dadansoddi a chefnogi penderfyniadau cryf, gyda'r gallu i ddehongli a gwella data ariannol.
- Sgiliau cryf ym maes systemau ariannol, gan gynnwys dealltwriaeth o weithredu newid a gwelliannau i brosesau
- Profiad sylweddol o reoli tîm arbenigol ac i ennyn y gorau ohonynt.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
- Profiad diamheuol o reoli cronfeydd yn llwyddiannus, gan ddod â budd i’r sefydliad, a chan amlygu a lliniaru pob risg.
- Tystiolaeth o’r gallu i fynd i wraidd anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon
- Modelu a rheoli senarios yn y tymor hir, a’r gallu i chwilio am gyfleoedd, a chyflwyno achos dros newid cyfeiriad a gefnogir gan dystiolaeth o gyflawni llwyddiant o’r fath drwy newid yn y gorffennol?
- Tystiolaeth o allu cynllunio gwaith yr adran dros amserlenni o fwy na blwyddyn, ynghyd ag ymateb i newidiadau yn y llwyth gwaith ac yng nghyfeiriad strategol yr adran a’r Brifysgol
- Dealltwriaeth a diddordeb yn addysg uwch - ei gweithgareddau addysgu, ymchwil a menter.
- Yn gyfarwydd â meddalwedd E-Business Suite Oracle.
- Gwybodaeth am fframweithiau cyfreithiol a pholisi y mae prifysgolion yn gweithredu ynddynt.
- Medru’r Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.