Platzhalter Bild

Systems Support Developer Analyst chez Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Onsite

£40,497.00  -  £45,413.00

Postuler maintenant

Hysbyseb

Datblygwr a Dadansoddwr Cymorth Systemau Ariannol
Grŵp Atebion Technegol y Brifysgol


Prif ddyletswyddau deiliaid y rôl fydd cefnogi a datblygu Systemau Ariannol y Brifysgol (Oracle EBS ar hyn o bryd). Bydd deiliad y rôl hefyd yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth ac yn cyflawni pob agwedd ar y gwaith o ddadansoddi prosesau busnes a systemau, cynnal a chadw a datblygu meddalwedd; gan gysylltu yn ôl yr angen â thimau TG mewnol eraill a chyflenwyr allanol yn ôl y gofyn.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n rhan o dîm darparu gwasanaethau proffesiynol sy'n darparu gwasanaeth TG effeithlon ac effeithiol o ansawdd ar gyfer y staff a’r myfyrwyr yn swyddogaethau Corfforaethol, Gweinyddol, Ymchwil Academaidd a Dysgu ac Addysgu'r Brifysgol.

Bydd deiliad y swydd yn rhoi wyneb hynod broffesiynol a chyfeillgar sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y TG y Brifysgol.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:

· Pennu, dylunio, datblygu, integreiddio, profi a dogfennu systemau mawr neu gymhleth, gan ddewis y safonau, dulliau ac offer dylunio mwyaf priodol sy'n cyd-fynd â’r saernïaeth prosesau busnes a’r saernïaeth datrysiadau y cytunwyd arnynt a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n effeithiol – Byddwch yn adolygu cynlluniau systemau eraill i sicrhau bod technoleg briodol yn cael ei dewis, bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol a bod systemau a thechnolegau gwahanol yn cael eu hintegreiddio. Byddwch yn cyfrannu at bolisïau ar gyfer dewis cydrannau’r mathau o saernïaeth. Byddwch yn gwerthuso ac yn dadansoddi effaith opsiynau cynllunio mawr, gan gynnwys asesu a rheoli’r risgiau cysylltiedig. Byddwch yn sicrhau bod cynllun y system yn cydbwyso gofynion gweithredu, gofynion rheoli systemau a gofynion o ran ansawdd gwasanaethau.

· Pennu rhyngwynebau defnyddiwr/system, gan gynnwys gweithdrefnau dilysu a chywiro gwallau, rheolau prosesu, rheolaethau mynediad, rheolaethau diogelwch a rheolaethau archwilio – Byddwch yn asesu risgiau cysylltiedig ac yn pennu arferion adfer a gweithdrefnau wrth gefn. Byddwch yn helpu i droi cynlluniau rhesymegol yn gynlluniau go iawn.

· Cynnal prosesau cymorth rhaglenni a sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i ddelio â phob cais am gymorth yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt – Byddwch yn defnyddio offer a meddalwedd rheoli rhaglenni i ymchwilio i faterion, casglu ystadegau perfformiad a chreu adroddiadau.

Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos) ac yn gyfnod penodol tan 30 Medi 2026.

Cyflog: £40,497 - £45,413 y flwyddyn (Gradd 6).

Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 12 Medi 2025

Dyddiad cau: Dydd Sul, 26 Medi 2025


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Prif Swyddogaeth

Mae’r swydd yn rhan o wasanaeth TG y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n rhan o dîm cyflwyno gwasanaethau proffesiynol sy’n ymroi i gyflwyno gwasanaeth effeithlon, effeithiol, ystyriol o gwsmeriaid ac o ansawdd uchel ar gyfer holl staff a myfyrwyr y Brifysgol. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd wneud y canlynol:
  • Cyfrannu at graidd arbenigedd y sefydliad, gan fod yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal systemau technegol cymhleth.
  • Bod yn gyfrifol am fanylu a dylunio systemau mawr neu gymhleth.  Datrys problemau'n annibynnol, os yw'r problemau'n ymwneud ag amcanion penodol y swydd.
  • Cytuno ar safonau dylunio, dulliau ac offer priodol gan ymgynghori â rheolwyr uwch.
  • Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gofnodi gan ddefnyddio’r safonau, y dulliau a’r offer priodol, gan gynnwys rhagbrofi offer lle bo’n briodol.
  • Cadw’n ymwybodol o’r farchnad, asesu pecynnau meddalwedd ar sail eu gallu i fodloni gofynion penodol naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl, a rhoi gwybod i gydweithwyr a rheolwyr am eu haddasrwydd technegol.
  • Cyfathrebu â chydweithwyr lle bo’n briodol am ddadansoddiadau costau a manteision, dadansoddiadau risg a chynlluniau datblygu.
  • Cyfathrebu â chyflenwyr allanol a chyfrannu at y gwaith o asesu a dethol pecynnau meddalwedd addas i fodloni gofynion penodol, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl.
  • Cadw’n ymwybodol o ofynion gweithredu, yn enwedig o ran lefelau’r gwasanaeth, argaeledd, amserau ymateb, diogelwch ac amserau atgyweirio.
  • Rhoi cyngor ynglŷn â phob agwedd ar ddylunio a thechnoleg o fewn eich cylch gwaith.
  • Adolygu cost y technolegau wrth gyllidebau wedi’u cynllunio, cyfathrebu â chyflenwyr cyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau er mwyn uchafu adenillion buddsoddiadau.
  • Gwneud yn siŵr bod pob tasg a gweithdrefn yn cael ei gwblhau’n effeithiol ac yn effeithlon yn unol â lefelau gwasanaeth y cytunir arnynt. Cynhyrchu ystadegau i’w defnyddio i fesur Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs).
  • Derbyn, cofnodi a blaenoriaethu gofynion am gymorth yn unol â meini prawf y cytunir arnynt, ac anghenion y sefydliad, gan uwchgyfeirio ceisiadau at staff datblygu neu gyflenwyr, lle bo’n briodol.
  • Sicrhau bod problemau’n cael eu rheoli yn unol â safonau a phrosesau y cytunir arnynt, bod y tîm yn cydymffurfio â gweithdrefnau uwchgyfeirio, a bod y tîm yn ymdrin â phroblemau cymhleth a phwysig yn effeithiol.
  • Gweithio o fewn timau matrics o staff ar draws y sefydliad er mwyn cyflwyno datrysiadau technoleg arbennig i’r Brifysgol. Rhoi cyngor ac arweiniad, lle bo angen.
  • Cynllunio a chyflwyno prosiectau ar raddfa fach, ymgynghori â Rheolwyr Prosiect i’w helpu i gynllunio, blaenoriaethu a phennu cerrig milltir i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio’n briodol er mwyn cwblhau gwaith yn unol â'r amserlen.
  • Meithrin perthnasau gyda chysylltiadau allweddol i wneud yn siŵr bod amcanion y swydd yn cael eu bodloni, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol fel bo angen.
  • Creu gweithgorau penodol sy'n cynnwys cydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion adrannol.
  • Cadw at bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. 
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl. Cwblhau tasgau fyddai’n gysylltiedig â chydweithwyr iau fel arfer, er mwyn bodloni gofynion gweithredu. Ymgymryd â dyletswyddau sy’n gysylltiedig â rôl uwch at ddibenion datblygu.

Uchafswm y Cyflog

45,413

Gradd

Gradd 6

Isafswm y Cyflog

40,497

Categori Swyddi

Technoleg Gwybodaeth

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cyfrifoldebau canlynol hefyd yn berthnasol pan mae angen rheoli ac arwain staff: 
  • Rheoli perfformiad, sesiynau ymsefydlu a datblygu staff y mae deiliad y swydd yn eu rheoli. Cefnogi ac arwain aelodau'r tîm o ran materion lles, gan uwchgyfeirio fel bo angen i feysydd cefnogaeth arbenigol.  
Technolegau cyfredol:
OracleEBS,
SAP Concur,
JIRA
 

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1. Gradd/NVQ 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Sgiliau trefnu da, ynghyd â’r gallu i weithio'n hyblyg er mwyn gallu blaenoriaethu'n llwyddiannus o dan bwysau
  2. Y gallu i ddogfennu datrysiadau technegol cymhleth ar ffurf fframwaith rhesymegol a chlir y gall pobl eraill ei ddeall yn hawdd
  3. Profiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd a defnyddio setiau offer ar gyfer monitro, archwilio ac adolygu perfformiad o ran cynnig cymorth i wasanaethau.
  4. Sgiliau rheoli perthynas ardderchog a chadarn ynghyd â phrofiad o reoli gofynion rhanddeiliaid.
Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
  1. Prawf o allu i lunio datblygiadau trwy gymryd rhan weithredol o fewn timau a grwpiau.
  1. Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a threfnu ardderchog. Y gallu i gofnodi atebion technegol a chymhleth ar ffurf fframwaith rhesymegol a chlir y gall pobl eraill ei ddeall yn hawdd.
  2. Y gallu i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Dealltwriaeth a phrofiad cadarn o dechnegau dadansoddi a darparu ar gyfer rheoli problemau, gwallau a gwybodaeth.
  2. Tystiolaeth o allu cynnal a chyflawni prosiectau penodol, yn ogystal â goruchwylio timau prosiect tymor byr ac ymaddasu dan bwysau wrth flaenoriaethu gwaith.
Meini Prawf Dymunol

11.  Profiad o ddatblygu gyda Java (JDeveloper), APEX, BI Publisher neu Developer Suite 10g

12. Dealltwriaeth o UNIX/Linux OS - llywio, trin ffeiliau ac ati.

13. Profiad o gefnogi a datblygu Oracle e-Business Suite r12

14. Gwybodaeth o systemau, gweithdrefnau a phrosesau’n ymwneud â chyllid

15. Cymhwyster rheoli ITIL, neu gymhwyster tebyg

16. Gallu siarad Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu'r iaith
Postuler maintenant

Plus d'emplois