Research Assistant, CASCADE chez Cardiff University
Cardiff University · Cardiff, Royaume-Uni · Hybrid
- Junior
- Bureau à Cardiff
Hysbyseb
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Cynorthwy-ydd Ymchwil i weithio yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Canolfan Ymchwil sydd wedi'i lleoli yn yr Ysgol
Yn y rôl hon bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Cyfrannu at ymchwil ym maes gofal cymdeithasol plant a defnydd o alcohol gan rieni. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cynnal adolygiad cyflym o lenyddiaeth, paratoi a dadansoddi setiau data gweinyddol sydd wedi'u cadw o fewn Banc Data SAIL, a thasgau gweinyddol.
Mae'r swydd hon yn rhan-amser, 60% (21 oriau yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31 Gorffennaf 2027 ac mae ar gael yn syth.
Cyflog: £33,482 - £36,130 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5), gyda gynyddrannau blynyddol hyd at cyflog terfynol ar frig y raddfa. Fel arfer, mae apwyntiadau newydd yn cael eu gwneud ar ddechrau'r raddfa gyflog.
Yn gyfrifol am Athro Donald Forrester, Cyfarwyddwr canolfan CASCADE
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Donald [email protected] ffôn +44 29206 88724
Mae’r recriwtiwr yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau meintiol cryf, yr ydych chi am eu defnyddio mewn ymchwil yn y byd go iawn.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol, pro rata i weithwyr rhan amser (gan gynnwys gwyliau banc) gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 12 Medi 2025
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 10 Hydref 2025
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad Swydd
- I ymgymryd ag ymchwil, e.e. drwy adolygu llenyddiaeth, paratoi data, dadansoddi data, ysgrifennu canfyddiadau.
- Bod yn weithgar yn y tîm ymchwil drwy gyfleu a chyflwyno ymchwil mewn cyfarfodydd, mewn cyhoeddiadau ac mewn ffyrdd priodol eraill fel y bo’n briodol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfleu’n effeithiol i bartneriaid mewnol ac allanol.
- I gefnogi gweithgareddau cynnwys y cyhoedd.
- Cyfrannu at gyflwyniadau a chyhoeddiadau ymchwil a chefnogi’r rhain yn ôl y gofyn.
- Cyfrannu at geisiadau am gyllid ymchwil a chefnogi’r rhain yn ôl y gofyn.
- Dadansoddi a chyfleu syniadau, cysyniadau a data cymhleth gan ddefnyddio dulliau a phecynnau priodol.
- Sicrhau cynnyrch ymchwil a chyfrannu at ddatblygu syniadau annibynnol a gwreiddiol fel y bo'n briodol
- Datrys problemau a helpu cydweithwyr i ddatblygu’r gweithdrefnau sydd eu hangen i gyflwyno adroddiadau cywir ac amserol.
- Cefnogi gweithgareddau ymchwil a rhoi arweiniad i aelodau eraill o staff yn y tîm ymchwil
- Cynnal a diweddaru eich gwybodaeth arbenigol, gan ymchwilio i lenyddiaeth berthnasol yn y maes a’i hadolygu’n feirniadol.
- Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad.
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
- Cydymffurfio â pholisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Uchafswm y Cyflog
Gradd
Isafswm y Cyflog
Categori Swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
CASCADE yw'r ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil gwerthuso ym maes gofal cymdeithasol plant yn y DU. Mae hefyd yn ganolfan ragoriaeth flaenllaw ym maes y gwyddorau cymdeithasol ac ymchwil addysg. Dyma'r unig ganolfan o'i math yng Nghymru, sy’n hyrwyddo tystiolaeth ac yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd. Mae’n ymwneud â phob agwedd ar ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd megis gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau i blant anghenus, amddiffyn plant, plant o dan ofal a mabwysiadu. Ei nod pennaf yw gwella lles a diogelwch plant a'u teuluoedd trwy:
- Creu tystiolaeth ymchwil sylfaenol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol.
- Peri bod canlyniadau'r ymchwil hon, ac ymchwil gan eraill, ar ffurf hygyrch i blant a theuluoedd sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisïau.
- Datblygu capasiti ymchwil ar ofal cymdeithasol drwy gynnig cyfleoedd i ymchwilwyr, boed yn fyfyrwyr israddedig neu’n ymchwilwyr hŷn.
- Ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ymchwil, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a darparwyr gofal cymdeithasol yn y sector gyhoeddus, breifat a'r trydydd sector.
Mae CASCADE yn rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ysgol yn ganolfan addysgu ac ymchwil ryngddisgyblaethol. A chanddi gysylltiadau cryf â’r diwydiant a maes meddygaeth, ei nod yw arwain trafodaethau cyhoeddus a thrafodaethau ynghylch pholisïau drwy’r byd, ledled y wlad ac yn lleol, ac mae’n enwog am ei hysgolheictod arloesol ym maes y gwyddorau cymdeithasol a thu hwnt. Mae rhagor o fanylion am weithgareddau’r Ysgol ar ein tudalen hafan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/social-sciences.
Llwybr Gyrfa
Manyleb Unigolyn
- Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (ee gwyddor gymdeithasol, gwaith cymdeithasol, polisi cymdeithasol), neu brofiad cyfatebol
- Gwybodaeth a phrofiad o ddulliau a thechnegau ymchwil meintiol
- Profiad o ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol megis STATA, R, neu eraill
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i gyrff cyllido
- Y gallu diamheuol i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a chrynhoi'n briodol
- Sgiliau cyfathrebu diamheuol, gan gynnwys y gallu i gyflwyno i gynulleidfaoedd gwahanol
- Sgiliau trefnu a gwaith tîm ardderchog
- Gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwait
- Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig (gallwch fod yn agosáu at orffen eich rhaglen/cyflwyno eich gwaith terfynol), neu brofiad diwydiannol perthnasol.
- Profiad o ddefnyddio setiau data gweinyddol (e.e. Banc Data SAIL)
- Tystiolaeth o gydweithio â byd diwydiant.
- Gallu amlwg i weithio heb oruchwyliaeth agos.
- Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch.
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.
Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.
Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: 20637BR.
Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei ddatblygu os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.