Platzhalter Bild

Internal Applicants Only - Registry Operations Manager presso Cardiff University

Cardiff University · Cardiff, Regno Unito · Onsite

£51,573.00  -  £56,535.00

Candidarsi ora

Hysbyseb

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd.  Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Rheolwr Gweithrediadau'r Gofrestrfa


Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y rôl: Rheolwr Gweithrediadau'r Gofrestrfa.

Mae hon yn rôl uwch yn adran Gweithrediadau'r Gofrestrfa sydd yn rhan o’r Gwasanaethau Academaidd a Chymorth i Fyfyrwyr.  Bydd deiliad y swydd yn cefnogi gwaith Pennaeth Gweithrediadau'r Gofrestrfa gan roi arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i’r gwaith prosiect ar draws yr adran.  Byddwch yn goruchwylio diwylliant o wella gwasanaethau’n barhaus o ran timau Gweithrediadau’r Gofrestrfa ac yn cyflawni ystod o ddyletswyddau:
  • Rheoli llinell timau Cydymffurfiaeth Fisâu Myfyrwyr, Cymorth y Gofrestrfa a Hyfforddiant ac Ymgysylltu.
  • Datblygu a chynghori ar brosesau, rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau allweddol gan weithio mewn partneriaeth â Phenaethiaid timau Gweithrediadau’r Gofrestrfa, a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys Rhag Is-gangellorion, Deoniaid, staff colegau ac ysgolion a chynrychiolwyr etholedig o Undeb y Myfyrwyr (UM) i gyfrannu at amcanion strategol hirdymor Gweithrediadau’r Gofrestrfa.
  • Arwain prosiectau Gweithredol mewnol y Gofrestrfa ac adolygiadau o brosesau’r timau amlddisgyblaethol, hynny o ran timau unigol a thrwy ystod y timau, i sicrhau bod y gwasanaethau’n arddel arfer gorau.
  • Ymchwilio i faterion sy'n codi ym mhrosesau gweithredol y Gofrestrfa megis gwallau mewn systemau, ystyriaethau o ran cymhwyso'r rheoliadau'n gywir, a ddilynwyd y rheolau a'r prosesau, ac atebion ac opsiynau posibl i'w cywiro.
  • Sefydlu systemau i fonitro data adrannol ar gyfer Gweithrediadau'r Gofrestrfa, cynhyrchu dangosfyrddau ac adroddiadau y gellir eu rhannu â rhanddeiliaid.
  • Byddwch yn deall gofynion mewnol ac allanol y sector, ac yn deall sut i drosi rheolau allanol yn gamau gweithredu mewnol, gan ddatblygu'r strategaeth ar gyfer Gweithrediadau'r Gofrestrfa a chan sicrhau bod prosesau'n bodloni gofynion y Brifysgol a gofynion allanol. A chithau’n aelod o dîm Arwain Gweithrediadau’r Gofrestrfa, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am y gwaith o weithredu ein gwerthoedd a’n hymddygiad, gan gefnogi a chynghori staff a chydweithwyr.
  • Goruchwylio'r strategaeth cyfathrebu a hyfforddi ar gyfer Gweithrediadau'r Gofrestrfa gan roi hyfforddiant a chefnogi a chynghori ynghylch tudalennau’r rhyngrwyd, canllawiau hyfforddi a gofynion hyfforddi.  
  • Cyfrannu at adolygiad y Brifysgol o'i model gweithredu safonol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc) (pro-rata ar gyfer staff rhan amser), cynllun pensiwn, trefniadau gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau bob blwyddyn o ran y raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo. Byddwch yn mynd i’r afael ag ystod o heriau amrywiol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Mae hwn yn rôl gyfnod penodol llawn amser (35 awr yr wythnos) ar gael o 1 Rhagfyr 2025 sy'n darparu gorchudd ar gyfer absenoldeb mamolaeth tan Awst 2026.

Cyflog: £51,753 - £56,535 y flwyddyn (Gradd 7).

I gael rhagor o wybodaeth am gydbwysedd bywyd-gwaith, buddion ariannol, datblygiad a lles, a rhai o’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael i staff ym Mhrifysgol Caerdydd, ewch i Yr hyn y gallwn ei gynnig - Swyddi - Prifysgol Caerdydd

Dyddiad cau: Dydd Iau, 23 Hydref 2025

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd.  Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.


Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Dyletswyddau Allweddol
  • Cefnogi Pennaeth Gweithrediadau'r Gofrestrfa yn eu rôl, eu cynrychioli mewn cyfarfodydd, adolygu neu ymchwilio i achosion lle nodir materion, sefydlu systemau monitro, paratoi data a chefnogi amcanion adrannol, goruchwylio cyfathrebu adrannol â rhanddeiliaid allweddol
  • Goruchwylio cynllun hyfforddi Gweithrediadau'r Gofrestrfa gyda Phenaethiaid Timau: arwain ar sefydlu cynllun hyfforddi a datblygu blynyddol ar gyfer staff Ysgolion/Colegau gyda hyfforddiant/ canllawiau i ddefnyddwyr a chyngor ar y fewnrwyd. Nodi gofynion drwy ymgysylltu â rhwydweithiau proffesiynol ar draws yr adrannau gwasanaethau proffesiynol, ysgolion a cholegau
  • Ymgymryd â gwaith rheoli llinell i dîm Cymorth y Gofrestrfa a’r tîm Hyfforddi a Chydymffurfio a Fisâu Myfyrwyr, gan ymgymryd â phob agwedd ar waith rheoli llinell o ddydd i ddydd gan gynnwys ADP, rheoli blaenoriaethau a strategaethau tîm, rheoli perfformiad, gwyliau blynyddol a phrosesau rheoli llinell safonol
  • Cyfrannu at yr amcanion strategol hirdymor a goruchwylio prosiectau ac adolygu prosesau mewnol megis dilysu dyfarniadau, cefnogi graddio, cofrestru a digwyddiadau adrannol/prifysgol
  • Cyfrannu at gynllunio strategol a rheolaeth hirdymor yr adran, gan ddehongli strategaethau’r gyfarwyddiaeth a’u trosi’n flaenoriaethau gwaith
  • Gweithio gyda Phenaethiaid Timau i gefnogi gwaith i ddatblygu Rheoliadau, Polisïau, Gweithdrefnau a Phrosesau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn addas i'r diben
  • Casglu data gan holl dimau Gweithredol y Gofrestrfa, gyda'r bwriad o'i gwneud yn fwy gweladwy i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid, a’i bod ar gael i gyfrannu at y gwaith o gynllunio camau gweithredu, terfynau amser allweddol ac adroddiadau a dangosfyrddau’r Brifysgol.  Monitro tueddiadau a phatrymau data gan gynnwys data Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant pob maes yng Ngweithrediadau'r Gofrestrfa
  • Dirprwyo ar gyfer Pennaeth Gweithrediadau'r Gofrestrfa a dirprwyo ar gyfer penaethiaid timau a dirprwyo ar gyfer penaethiaid timau, fel y bo'n briodol, gan roi arweiniad ar Brosesau Gweithredol a'r Rheoliadau sy'n sail iddynt.  Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i ddigwyddiadau critigol gweithredol wrth reoli prosesau gweithredol
  • Rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol ar Bolisïau, Gweithdrefnau a Rheoliadau'r Brifysgol mewn perthynas â gweithgareddau gweithredol gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol, gan sicrhau bod y gynulleidfa yn deall materion a datrysiadau cymhleth a chysyniadol
  • Cefnogi Penaethiaid Timau i roi darpariaethau rhagorol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau a blaenoriaethau strategol y Brifysgol, gan gyflawni'r newid trawsnewidiol sy'n angenrheidiol er mwyn i'r Brifysgol gyflawni ei hamcanion yn y maes hwn
  • Cynrychioli'r adran yng nghyfarfodydd y Brifysgol neu AcSSS, gan ddirprwyo ar gyfer pennaeth yr adran lle bo angen.  Bydd hyn yn cynnwys pwyllgor iechyd a diogelwch AcSSS. Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol fel sy’n briodol ac a fydd yn gwella perfformiad
  • Sefydlu perthynas waith â chysylltiadau pwysig er mwyn helpu i wella gwasanaethau, a datblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.
  • Casglu data a’i ddadansoddi i lywio penderfyniadau, nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data, a llunio adroddiadau fel y bo'n briodol
Dyletswyddau Cyffredinol
  • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau
  • Dilyn polisïau’r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod, ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd

Uchafswm y Cyflog

56,535

Gradd

Gradd 7

Isafswm y Cyflog

51,753

Categori Swyddi

Rheolaethol a Gweithredol

Llwybr Gyrfa

Staff Rheoli, Proffesiynol ac Arbenigol - MPSS

Manyleb Unigolyn

YR HYN Y BYDD EI ANGEN ARNOCH ER MWYN YMGYMRYD Â’R SWYDD HON (MANYLEB Y PERSON)

Fel arfer mae sgiliau, cymwysterau neu brofiadau penodol y dylai unrhyw weithiwr feddu arnyn nhw cyn y gellir eu hystyried ar gyfer swydd.  Bydd rhai o'r rhain yn hanfodol ac ni fyddech yn gallu cyflawni'r rôl hebddynt, ond mae rhai yn ddymunol.

Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol yn ogystal â'r meini prawf dymunol, pan fo'n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol.  Dylech wneud eich gorau i ddangos yn glir sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol drwy roi enghreifftiau o sut, pryd a ble y bu ichi gyflawni’r camau angenrheidiol o’r blaen.  Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd, megis addysg, gwaith, bywyd y cartref neu'r gymuned, cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i anghenion y swydd hon.  Gofalwch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei rhoi’n cyfateb i rifau’r meini prawf a amlinellwyd isod. Caiff eich cais ei ystyried ar sail yr wybodaeth a rowch yn unol â phob elfen.

I ddechrau eich Datganiad Ategol, copïwch yr adran nesaf mewn dogfen ar wahân a’i gludo, gan ysgrifennu eich atebion a’r enghreifftiau sy’n cyfateb i bob pwynt.  Cadwch y ddogfen gyda’r teitl EICH ENW – RHIF BR – TEITL Y SWYDD a’i rhoi ynghlwm â’ch cais ar y system recriwtio.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg
  1.  Gradd/NVQ 4 neu gymwysterau proffesiynol cyfatebol neu brofiad cysylltiedig o waith cyfatebol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
  1. Profiad sylweddol o reoli adran ac ynddi un neu ragor o dimau, gan gydbwyso amryw o amcanion a blaenoriaethau, gyda gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau gweinyddol priodol.
  2. Profiad diamheuol o oruchwylio prosiectau lleol a datblygu a gweithredu prosesau a gweithdrefnau newydd.
  3. Arwain timau amlddisgyblaethol sy'n gweithio ar brosiectau a datblygu rheolau a rheoliadau.
Gwasanaethau Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
  1. Y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl.
  2. Gallu profedig i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor a rheoli amcanion tîm, gwaith rheoli llinell a delio â materion perfformiad a lles.
  3. Tystiolaeth o allu ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cynnig gwasanaeth o safon.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
  1. Profiad diamheuol o ddelio â phroblemau amrywiol a heriol, gan gynnwys ymchwilio i faterion a chreu atebion newydd lle nad oes cynsail blaenorol yn bodoli gan ddefnyddio menter a chreadigrwydd; nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol.
  2. Tystiolaeth o wybodaeth amlwg ynghylch datblygiadau allweddol o ran rheoli data a datblygu dangosfyrddau.
  3. Tystiolaeth o allu cynnal a chyflwyno prosiectau penodol yn ogystal â goruchwylio timau prosiect tymor byr.
Meini Prawf Dymunol
  1. Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol.
  2. Profiad o weithio yn y maes Addysg Uwch.
  3. Gwybodaeth/profiad o anghenion myfyrwyr rhyngwladol/Mewnfudo/Gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo’r DU).
  4. Rhuglder yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Candidarsi ora

Altri lavori